|
RHOSCROWDDER
CYFEIRNOD GRID: SM 901014
ARDAL MEWN HECTARAU: 2017
Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad fawr hon yn gorwedd ar ochr ddeheuol dyfrffordd
Aberdaugleddau. Mae’n gorwedd o fewn plwyfi Angle, Hundleton, Pwllcrochan
a Rhoscrowdder. Nodweddir y dirwedd gan nifer fawr o elfennau cynhanesyddol.
Yn draddodiadol, ystyrir bod ffordd bresennol y B4320 yn dilyn llinell
llwybr cynhanesyddol, o’r enw ‘The Ridgeway’, sy’n
rhedeg ar hyd y prif ymyl o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws
de Sir Benfro. Mae swm yr archeoleg gynhanesyddol sy’n goroesi o
fewn yr amgylchedd uniongyrchol yn rhoi coel ar y traddodiad bod hwn yn
llwybr hynafol. Gerllaw’r ardal hon, mae llaciau twyni Kilpaison
Burrows yn gorchuddio cymhlyg enwog o feddrodau cylch o’r oes efydd,
a siambr gladdu neolithig, ‘Devil’s Quoit’. Mae grwpiau
ychwanegol o feddrodau amlwg yn gorwedd ychydig i’r de o Fferm Wallaston,
ac yn Dry Burrows ger Hundleton, tra bod beddrod Corston Beacon yn dal
yn dirnod amlwg. Mae’r ffiniau caeau syth o’r gogledd i’r
de sy’n nodweddu llawer o dde Sir Benfro yn gyfechelinol â’r
Ridgeway o’r dwyrain i’r gorllewin ac mae’n bosibl eu
bod o darddiad cynhanesyddol. Mae’r Ridgeway yn parhau i fod yn
nodwedd amlwg yn y dirwedd ac ymddengys ei fod wedi ffurfio ffin rhwng
cymydau canoloesol cynnar Maenorbyr – yr oedd yr ardal hon yn gorwedd
o fewn iddi – a Choedrath, ill dau yng Nghantref Penfro. Gorweddai
canolfan eglwysig yn Rhoscrowdder ei hun, a oedd yn safle i ‘Bishop
house’, un o sylfeini lled-golegol Tyddewi. Roedd llawer o’r
ardal yn gorwedd o fewn Maenor Castell Martin o ddiwedd yr oesoedd canol
a oedd yn faenor demên Arglwyddiaeth Penfro, ac yn ffi gwarchod
castell. Ymddengys y bu’r cysylltiad rhwng Rhoscrowdder a Phwllcrochan
a’r faenor yn fwy llac ac erbyn y cyfnod canoloesol diweddarach,
sefydlwyd ty i’r uchelwyr ar wahân ym mhlwyf Rhoscrowdder
yn Eastington. Crëwyd plwyf Hundleton o ran o blwyf Monkton yn y
1840au a gorweddai o fewn bwrdeistref libart Penfro. Daliwyd Angle, a
oedd yn cynnwys 2 ffi marchog, yn un o arglwyddiaethau canol Penfro. Dechreuodd
llawer o’r ffermydd yn yr ardal fel treflannau a grybwyllwyd mewn
cofnodion o’r 13eg ganrif i’r 15fed ganrif. Cynrychiolodd
Orielton a Kilpaison un ffi marchog a ddaliwyd gan Benfro gan Richard
Wyryot ym 1353, cynrychiolodd Moreston ½ ffi marchog a ddaliwyd
gan Benfro, Rhoscrowdder, a daliwyd eglwys y plwyf a’r tir llan
gan Benfro hefyd, ac roedd Corston, Castell-nedd ac Wallaston hefyd yn
aelodau o Faenor Castell Martin o’r 13eg ganrif ymlaen. Roedd eglwys
y plwyf Pwllcrochan ym meddiant Benedictiaid Priordy Monkton, Penfro.
Fodd bynnag, nid oes llawer o dystiolaeth o ffermio caeau agored o fewn
yr ardal, ond daliwyd lleiniau ar y cyd o hyd o fewn caeau Fferm Trenewydd
ym 1824, a dengys y rhain ar fap o’r flwyddyn honno. Ymddengys y
bu melinau gwynt yn un o nodweddion amlwg y dirwedd ac ymddengys fod o
leiaf tair wedi’u meddiannu yn ystod y cyfnod canoloesol neu ar
ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Daliwyd maenor Castell Martin
gan Ieirll Herbert o Benfro o 1551 tan 1598 pan y’i gwerthwyd i
Arglwyddi Stackpole. Ym 1968, caffaelodd Alexander Campbell y faenor drwy
briodas. Roedd Campbell yn berchen yn uniongyrchol ar lawer o’r
ffermydd a’r tai pwysig fel Bangeston – a oedd o bosibl yn
safle maenor ganoloesol a ffos o’i hamgylch. Daeth Rhoscrowdder
a Phwllcrochan yn ddaliad a oedd ar wahân i ystad Castell Martin,
‘Rosecrowther and Pulcrogan Estate’ sy’n cynnwys y rhan
fwyaf o ran ganolog yr ardal hon. Ym 1824, gwerthwyd yr ystad i Syr John
Owen o Orielton, ystad a oedd yn cynnwys rhan fwyaf dwyreiniol yr ardal
hon, a chaffaelwyd llawer ohoni gan The Mirehouses of Angle yn y pen draw.
Mae’r system bresennol o gaeau mawr, afreolaidd ac aneddiadau gwasgaredig,
yn amlwg erbyn 1787, pan y’i dangosir ar fap ystad ar gyfer y flwyddyn
honno, yn yr un modd â phentrefi Rhoscrowdder a phentrefan Pwllcrochan.
Gadawyd y ddau anheddiad hyn o ganlyniad i adeiladu purfa olew a gorsaf
bwer yn yr ardaloedd cyfagos yn y 1960au. Mae chwareli calchfaen yn yr
ardal hon hefyd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Rhoscrowdder yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol sy’n ymestyn
ar hyd llethrau deheuol dyfrffordd Aberdaugleddau o Hundleton yn y dwyrain
i’r gorllewin o Benrhyn Castell Martin. Er ei bod yn cynnwys llaid,
cors a chreigiau ar hyd blaendraeth y ddyfrffordd, mae’r rhan fwyaf
o’r ardal hon yn cynnwys tirwedd amaethyddol yn gorwedd ar fryniau
tonnog mwyn sy’n codi i 60m i 70m uwchben lefel y môr. Heblaw
am bentrefan Rhoscrowdder a’i glwstwr llac o aneddiadau sydd bellach
yn wag, a’r clwstwr blaenorol o aneddiadau ym Mhwllcrochan, nid
oes unrhyw bentrefi, ac mae’r patrwm o aneddiadau yn cynnwys ffermydd
gwasgaredig ac aneddiadau eraill. Gadawyd Rhoscrowdder a Phwllcrochan
yn ystod y broses o adeiladu purfa olew Texaco a Gorsaf Bwer Penfro, neu
ar ôl eu hadeiladu. Mae nifer fawr o adeiladau rhestredig yn yr
ardal, ac adeiladau fferm yw’r rhan fwyaf ohonynt. Mae’r ffermydd
yn dueddol o fod yn fawr. Carreg yw’r prif ddeunydd adeiladu, gyda
thai fel arfer wedi’u rendro â sment a’r adeiladau allan
wedi’u gadael yn foel, a llechi yw’r deunydd ar gyfer y toeau.
Ar y cyfan, mae’r ffermdai yn dyddio o’r 19eg ganrif, ond
ceir amrywiaeth mawr yn yr ardal hon, gyda mwy o enghreifftiau yn yr arddull
Sioraidd gain nag yn y traddodiad brodorol. Er bod y traddodiad brodorol
yn amlwg yn rhai o’r enghreifftiau llai, fel y ty o’r 17eg
ganrif neu’r 18fed ganrif yn Hilton gyda’i simnai enfawr,
ac adfeilion Ty Bangeston o’r 18fed ganrif. Ymhlith yr enghreifftiau
hyn eraill mae’r ty caerog o ddiwedd yr oesoedd canol yn Eastington
gyda’i dy cyfagos o’r 18fed ganrif, a hen blasty o’r
16eg neu’r 17eg ganrif yn Henllan a ddefnyddir fel ysgubor erbyn
hyn. Nid yw tai modern yn un o hanfodion cryf y dirwedd, ond mae anheddau
unllawr newydd wedi’u hadeiladu yn agos i’r ffermydd i’w
gweld. Mae gan y rhan fwyaf o’r ffermydd amrywiaeth sylweddol o
adeiladau allan o’r 19eg ganrif, a leolir yn aml mewn trefniant
ffurfiol o amgylch buarth, a chasgliadau mawr o adeiladau amaethyddol
modern o ddur, concrid ac asbestos. Cynhwysir dwy eglwys ganoloesol â
thwr sylweddol i’r ddwy yn yr ardal hon, sef Sant Decumanus yn Rhoscrowdder
a Santes Fair ym Mhwllcrochan. Mae’r defnydd tir yn gymysgedd o
dir pori wedi’i wella a thir âr. Ychydig iawn o borfa arw
neu dir ffermio a dan-ddefnyddir sydd yn yr ardal, ac eithrio pocedi o
gors ger yr arfordir. Mae coetir collddail yn gyffredin ar ochrau mwy
serth y dyffryn ac ar y llethrau arfordirol – yn wir, mae lleoliad
y llethrau arfordirol yn amlwg iawn – ond ar draws y ffermdir sydd
ar lai o lethr nid yw’n un o brif hanfodion y dirwedd. Mae’r
caeau yn fawr. Gwrychoedd ar gloddiau yw’r math mwyaf cyffredin
o ffin, ond tuag at ran orllewinol yr ardal mae waliau morter yn hanfod
bach ond arwyddocaol. Yn gyffredinol, caiff y gwrychoedd eu cynnal a’u
cadw yn dda. Mae pyst giât silindrig o gerrig a morter yn un o nodweddion
y dirwedd, yn arbennig tuag at ben gorllewinol yr ardal. Ni cheir llawer
o hanfodion nad ydynt yn amaethyddol yn y dirwedd, ond roedd yn cynnwys
cronfeydd dwr bach, safleoedd tanciau storio olew sydd wedi’u datgymalu
a mastiau telathrebu. Mae llai o safleoedd archeolegol o fewn yr ardal
hon, ond nid ydynt yn hanfodion amlwg yn y dirwedd ac felly nid ydynt
yn hanfodion pwysig o’r dirwedd hanesyddol. Serch hynny, maent yn
cynnwys: sawl tomen gladdu o’r oes efydd, meini hirion o’r
oes efydd, hen fythynnod a safleoedd tai ym Mhwllcrochan, odynnau calch
a chwareli, ac adeiladau amddiffynnol o’r 20fed ganrif.
Mae’r diffiniad o’r ardal hon i’r gogledd lle mae’n
ffinio â’r ddyfrffordd neu burfa olew a gorsaf bwer yn dda
iawn. I’r dwyrain a’r gorllewin mae’r diffiniad yn llai
clir, ac i’r de lle nad yw’r ardal gymeriad wedi’i llinelloli
hyd yma mae’r diffiniad o’r ffiniau yn wael, heb ffin ymyl
caled ond parth eang o newid yn lle hynny.
Ffynonellau: Map degwm plwyf Angle 1842; Map degwm Plwyf Hundleton 1842;
Jones 1987; Kissock 1993; Lockley 1977; Ludlow 1993; Ludlow 1998; Nash
1986; LlGC CYFROL 1; NMR Llyfr Mapiau Cawdor, 1787; Owen 1918; PRO D/EE/7/338;
PRO D/LLC/674; PRO D/ANGLE/5; PRO D/ANGLE/92; PRO HDX/198/2; PRO D/BUSH/6142
& 144; Map degwm Plwyf Pwllcrochan 1840; Ramsey 1999; Map degwm Plwyf
Rhoscrowdder; Walker 1950.
|