Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

HUNDLETON A MAIDEN WELLS

CYFEIRNOD GRID: SM 960004
ARDAL MEWN HECTARAU: 325

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad ar ochr dde Afon Penfro. Mae’n gorwedd o fewn plwyfi Hundleton a Monkton. Crëwyd plwyf Hundleton yn y 19eg ganrif, o ran o blwyf Penfro San Mihangel, ac mae’n gorwedd o fewn libart bwrdeistref canoloesol Penfro. Roedd yr ardal yn cynnwys demên a oedd yn gysylltiedig â Chastell a maenor Penfro, gyda threflannau Maiden Wells, a gofnodwyd ym 1336, a Hundleton, a gofnodwyd ym 1475, yn perthyn iddo. Daeth y rhan hon o’r ardal yn rhan o ystad Bush yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae plwyf Monkton yn cynrychioli daliad eglwysig craidd priordy Benedictaidd Monkton, Penfro, a ddiddymwyd ym 1535. Mae’r enw ‘Priory Moor’ yn cadw perchenogaeth a hanfodion defnydd tir bloc o dir yn y man uchaf yn yr ardal, gyda Windmill Hill i’r gogledd ohono a all gynrychioli safle un o felinau’r priordy. Caffaelwyd ystad Monkton yn ddiweddarach yn y 16eg ganrif gan Ieirll Devereux o Essex. Mae’n amlwg o fapiau’r 18fed a dechrau’r 19eg ganrif fod y system caeau bresennol o gaeau bach, rheolaidd wedi esblygu, o leiaf yn rhannol, o system caeau agored. Cofnodwyd ychydig o leiniau caeëdig ger Hundleton ym 1737 a 1807 – olion olaf caeau agored y pentref. Erbyn arolwg y degwm ym 1841, nid oedd y rhain yn bodoli bellach. Mewn mannau eraill, roedd y patrwm o gaeau bach wedi’i sefydlu’n gadarn erbyn diwedd y 18fed ganrif. Bu’r ardal yn un amaethyddol erioed, ond defnyddiwyd traethlin Afon Penfro fel man anffurfiol ar gyfer llongau. Yn ystod y 18fed ganrif, daeth yn fan glanio pwysig a ddefnyddiwyd ar gyfer allforio calchfaen o chwareli yn West Grove. Roedd Bentlass yn llwyfan glanio cynnar arall sy’n gysylltiedig â’r fferi i Bennar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn gorwedd ar lan ddeheuol Afon Penfro ar dir tonnog sy’n codi’n raddol o’r draethlin i’r de i dros 80m uwchben lefel y môr. Mae’n ardal amaethyddol yn ei hanfod ond yn cynnwys dau bentref Hundleton a Maiden Wells. Mae’r caeau yn rheolaidd ac yn fach i dde Sir Benfro, ac maent wedi’u hamgáu â gwrychoedd ar gloddiau. Mae’r gwrychoedd yn amrywio o ran cymeriad, gyda rhai sydd wedi tyfu’n wyllt a choed bach ategol, tra bod rhai eraill wedi’u cynnal a’u cadw’n dda. Mae tiroedd isel gyda gwrychoedd uchel ar bob ochr yn nodweddiadol o’r ardal. Mae’r gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt ynghyd â choetir ar ochrau serth dyffryn y Quoits Water Pill uchaf yn rhoi agwedd goediog i rannau o’r dirwedd. Tir pori wedi’i wella ac ychydig o dir âr yw’r defnydd tir amaethyddol bron yn llwyr. Mae craidd hanesyddol pentref Hundleton yn cynnwys grw^p o dai brodorol deulawr a bythynnod unllawr o’r 19eg ganrif sydd wedi’u hadeiladu o garreg, eu rendro â sment, ac sydd â thoeau llechi. Sefydlwyd eglwys y blwyf i wasanaethu’r gymuned hon yn y 1840au. Fodd bynnag, mae datblygiad o dai, ysgol ac adeiladau eraill ganol a diwedd yr 20fed ganrif wedi ymestyn y pentref yn sylweddol, ac mae iddo bellach ansawdd mwy unionlin o lawer yn ymestyn ar hyd ffordd y B4320 ac isffyrdd. Pentref unionlin o’r 19eg ganrif yw Maiden Wells. Mae’n cynnwys bythynnod unllawr ar wahân ac mewn teras o’r 19eg ganrif, wedi’u britho â thai o’r 20fed ganrif. Adeiladwyd capel Gilead, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yn y 19eg ganrif i wasanaethu’r gymuned hon. Mae’r unig grw^p arall o dai arwyddocaol i’w weld yn hen safle fferi Bentlass. Yma, ceir warws rhestredig Gradd II o’r 19eg ganrif sydd wedi’i adeiladu o garreg a sawl ty o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Mae ffermydd gwasgaredig yn cwblhau patrwm yr aneddiadau. Mae’r ffermydd yn llai na’r cyfredin ar gyfer de Sir Benfro. Yn gyffredinol, mae’r ffermydd yn y traddodiad brodorol Sioraidd, wedi’u hadeiladu o garreg gyda thoeau llechi. Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd un neu ddwy res o adeiladau allan o’r 19eg ganrif yn gysylltiedig â hwy, yn ogystal â chasgliadau o adeiladau modern o ddur, concrid ac asbestos. Mae’r safleoedd archeolegol yn gyfoethog ac yn amrywiol ac yn cynnwys argae a phwll melin sylweddol, dwy gaer o’r oes haearn, safleoedd gwaith fflint cynhanesyddol, safle ffynnon sanctaidd, safle melin wynt a dwy odyn galch a leolir ger y blaendraeth.

Ni ddiffinnir yr ardal dirwedd hanesyddol yn dda lle y mae’n ffinio ag ardaloedd amaethyddol cyfagos. Dylid ystyried y ffiniau fel parthau o newid yn hytrach na rhai ymylon caled.

Ffynonellau: Laws, 1909; Ludlow 1998; Map degwm Plwyf Monkton 1841; Nash 1986; PRO D/BUSH/6/26, 30, 142 & 144; PRO HDX/198/2; Walker, 1989