|
WEST WILLIAMSON A THRENEWYDD CAERIW
CYFEIRNOD GRID: SN 040050
ARDAL MEWN HECTARAU: 486
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy’n gorwedd rhwng afonydd Caeriw a Cresswell, dwy
fornant ar lan uchaf Cleddau Ddu. Mae’n gorwedd yn gyfan gwbl o
fewn plwyf Caeriw, a oedd yn graidd i Farwniaeth ganoloesol Caeriw. Daliwyd
West Williamston, fel Maenor Sagiston a Williamston Harvill, gan Syr John
de Carew ym 1362 pan oedd yn un ffi marchog; mae’n amlwg bod y ddwy
faenor wedi uno. Daeth cyfnod y daliad fel maenor i ben ym 1600, pan nododd
George Owen ei barc cysylltiedig. Roedd gan y Drenewydd Caeriw a West
Williamston systemau caeau agored canoloesol ar un adeg. Dengys mapiau
ystadau o ddiwedd y 18fed ganrif fod dau bentrefan cnewyllol West Williamston
a Threnewydd Caeriw yn parhau i gael eu hamgylchynu gan y caeau agored
anamgaeëdig, er ei bod yn amlwg bod ychydig o leiniau yn gaeëdig,
a bod ychydig o gaeau mawr yn gorwedd ar gyrion y caeau agored, yn arbennig
ar hyd Afon Caeriw. Yn amlwg ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg
ganrif cafodd y caeau agored canoloesol eu hamgáu fesul tipyn,
felly erbyn 1839, dengys arolwg y degwm yn ystod y flwyddyn honno ychydig
o leiniau anamgaeëdig. Ni wasgarwyd yr anheddiad i ffwrdd o’r
pentref yn sgîl amgáu’r caeau agored, fel y digwyddodd
mewn lleoliadau eraill yn ne Sir Benfro. Ers arolwg y degwm, mae’r
dirwedd amaethyddol a phatrwm yr anheddiad wedi aros yn hynod sefydlog.
Mae’r ardal gymeriad hon yn meddu ar lain galchfaen, ac mae nodwedd
ddiffiniol arall o’r dirwedd yn gysylltiedig â’r fasnach
galch. Datblygwyd y chwareli ger afonydd Caeriw a Cresswell ar ddiwedd
y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Er mwyn hwyluso’r
broses o lwytho, newidiwyd y ddwy fornant lanwol yn gamlesi a thorrwyd
nifer o sianeli drwy’r traethellau cors er mwyn i gychod camlesi
allu defnyddio’r llanw er mwyn cyrraedd y dociau. Lleolwyd odynnau
calch ger y dociau ar gyfer prosesu calch ar y safle. Lleolir mwy o chwareli
ymhellach i mewn i’r tir.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol West Williamston a Threnewydd Caeriw
yn gorwedd ar ddarn o dir rhwng Afon Cresswell ac Afon Caeriw ar lannau
llanw uchaf Cleddau Ddu. Mae’r tir yma ychydig yn donnog, gan gyrraedd
uchder mwyaf o tua 40m, ac mae’n uno â chors a llaid helaeth
ar hyd yr afonydd. Mae’n ardal amaethyddol ac yn cynnwys dau brif
anheddiad, sef pentrefannau West Williamston a Threnewydd Caeriw, ond
dim ond ychydig o ffermydd a bythynnod gwasgaredig. Mae’r defnydd
tir amaethyddol bron yn dir pori wedi’i wella yn gyfan gwbl gydag
ychydig o dir âr. Mae system o lain-gaeau, y caeau agored caeëdig
a oedd yn gwasanaethu’r ddau bentrefan gynt, yn gorwedd ar draws
y rhan fwyaf o’r ardal hon. Mae’r rhain ymhlith rhai o’r
llain-gaeau sydd wedi goroesi a’u cadw orau o amgylch dyfrffordd
Aberdaugleddau. Gwrychoedd ar gloddiau yw’r rhan fwyaf o’r
ffiniau. Ategir coed mawr, nodedig mewn rhai gwrychoedd ar ochrau lonydd,
ond caiff y rhan fwyaf ohonynt naill ai eu cynnal a’u cadw’n
dda neu maent yn mynd yn wyllt. Nodir ychydig o enghreifftiau o goed sydd
wedi mynd rhwng y cwn a’r brain. Mathau eraill o ffiniau sy’n
llai cyffredin yw waliau morter a waliau carreg sych, mae’r olaf
yn aml wedi dymchwel. Roedd calchfaen ar gyfer y waliau hyn ar gael o
chwareli yn yr ardal hon. Mae’r defnydd o galchfaen fel deunydd
adeiladu yn rhoi nodwedd bensaernïol arbennig i’r ardal hon
a bwysleisir gan arddull gydlynol yr adeiladau. Mae’r rhan fwyaf
o’r tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif, ac maent yn y traddodiad
Sioraidd, er bod gan rai ohonynt linach frodorol, ac mae o leiaf un ohonynt
yn arddull ‘fila’ Fictoraidd. Mae bythynnod unllawr brodorol
gweithwyr hefyd i’w gweld yn yr un modd ag ychydig o dai o ddiwedd
yr 20fed ganrif yn West Williamston. Lleolir ffermdy lled-adfeiliedig
o ddiwedd y 18fed ganrif yn Nhrenewydd Caeriw. Mae’r ddau bentrefan
yn cadw eu swyddogaeth amaethyddol. Mae gan y rhan fwyaf o’r ffermydd
amrywiaeth helaeth o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o garreg,
a thra bod y rhan fwyaf o’r rhain yn parhau i gael eu defnyddio,
mae rhai ohonynt wedi’u troi’n dai, ac eraill ddim yn cael
eu defnyddio neu’n adfeiliedig. Mae rhes ddeulawr gain o ddiwedd
y 18fed ganrif yn gorwedd ym mhentref Trenewydd Caeriw. Mae adeiladau
amaethyddol modern hefyd i’w gweld. Ar wahân i glystyrau bach
o goed collddail ar hyd ochrau’r afonydd ac mewn ychydig o geudodau
wedi’u cysgodi, ni chaiff yr ardal ei nodweddu’n gryf gan
goetir. Mae olion y diwydiant cloddio calchfaen yn helaeth ar hyd glannau’r
afonydd, a rennir gan gamlesi cychod. Mae chwarel fawr o’r 20fed
ganrif i’w gweld yn yr ardal hon. Er bod nifer o safleoedd archeolegol,
mae bron pob un ohonynt yn gysylltiedig â’r diwydiant cloddio
calchfaen, a’r eithriadau yw dau feddrod crwn o’r oes efydd
a bryngaer fach o’r oes haearn. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig
yno.
Yn amlwg, caiff yr ardal hon ei diffinio’n dda i’r gogledd,
y gorllewin a’r de gan lannau uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau. I’r
gogledd ddwyrain, mae hanfod diwydiannol cryf, ond nid oes ffin galed
a phendant rhyngddo a’r ardal hon. I’r dwyrain, nid yw’r
ardal wedi’i diffinio hyd yn hyn, ond mae’n amlwg bod y nodweddion
cyffredinol yma yn debyg i rai West Williamston a Threnewydd Caeriw, er
nad yw’r elfen o lain-gaeau yn bodoli.
Ffynonellau: Map degwm Plwyf Caeriw 1839; Hall et al. 2000; PRO D/BUSH/6/26
A 27; PRO D/EE/7/338; PRO D/ALLEN/5/105 7 107; Owen 1897
|