Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

HOUGHTON

CYFEIRNOD GRID: SM 978069
ARDAL MEWN HECTARAU: 122

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan ym mhlwyf eglwysig Burton, sy’n gydamserol â rhan ar wahân o Arglwyddiaeth ganoloesol Penfro, yn cynnwys patrwm o gaeau hir a chul i’r de ddwyrain o anheddiad unionlin Houghton. O’r mapiau cyntaf o Houghton ar raddfa fawr– mapiau ystad o’r 1770au a map degwm 1840, gellir gweld uned dirwedd drefnus a oedd, fodd bynnag, yn newid. Mae’r mapiau ystad yn darlunio’r bentrefan neu ‘drefgordd’ Houghton, a oedd yn anheddiad unionlin o ryw 10 anheddiad ym 1777 gyda’r system caeau agored a oedd yn ei amgylchynu, y mae ei faint yn cyfateb â’r ardal gymeriad hon. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, roedd nifer o lain-gaeau’r system caeau agored wedi’u cau yn gaeau hir a chul, proses a gwblhawyd erbyn 1840. Ymddengys i’r dirwedd caeau agored fod yn greadigaethau o ddiwedd yr Oesoedd Canol neu hyd yn oed yn gynnar yn y cyfnod ôl-ganoloesol – ni chofnodwyd yr enw ‘Houghton’ tan 1541 – ac mae’r ardal wedi’i lleoli mewn poced benodol sy’n awgrymu y gallai fod wedi’i chreu o dir comin cynharach. Mae, hefyd wedi’i leoli ym mhwynt uchaf plwyf Burton, a gallai fod tystiolaeth o’r defnydd o dir comin yn y gorffennol fod wedi’i gadw yn enw’r fferm ‘Houghton Moor’. Ar y llaw arall, gallai’r system caeau agored fod wedi’i harosod ar batrwm cynharach, ac efallai fod yr elfen ‘moor’ (rhos) wedi’i chyfyngu i’r tir corslyd ar hyd ochr yr afon fach sy’n llifo trwy’r ardal. Cofnodwyd yr enw ‘Thurston’ ym 1376 ac mae, o bosibl yn cyfeirio at Fferm Lower Thurston, ond unwaith eto, mae’n fwy tebygol ei fod yn cynrychioli Upper Thurston i’r dwyrain o’r ardal. Cofnodwyd trydydd fferm, Mead Lodge ym 1841 am y tro cyntaf. Mae’r system llain-gaeau amgaeëdig wedi goroesi, ond mewn cyflwr diraddedig.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Canolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Houghton ar bentref Houghton – anheddiad wedi’i glystyru’n rhydd ar hyd dwy ochr ffordd B – wedi’i leoli ar dir fferm tonnog tua 56m uwchlaw lefel y môr. Mae tai yn y pentref naill ai yn dyddio o’r 19eg ganrif, gan fwyaf yn ddeulawr ac yn y traddodiad brodorol, er bod llawer ohonynt wedi’u moderneiddio’n ddiweddar, neu’n dai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau. Mae sawl lodj a berthyn i dai mwy sy’n dyddio o’r 19eg ganrif i’w gweld yn yr ardal hon . Ar hyn o bryd, mae gwaith adeiladu sylweddol ar droed yn y pentref. Mae ysgol gynradd fechan yma. Mae’r dirwedd sy’n amgylchynu’r pentref yn dirwedd o gaeau bychain. Mae llain-gaeau hir i’w gweld, ond erbyn hyn, mae’r mwyafrif yn gymharol rheolaidd eu siâp ac yn ymdebygu i betryal. Cloddiau wedi’u gorchuddio â gwrychoedd yw’r ffiniau. Yn gyffredinol, mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da, ond mae rhai wedi dechrau tyfu’n wyllt ac mae coed bach yn tyfu ynddynt. Nid yw coed gwrychoedd a choetiroedd yn nodweddion diffiniol o’r ardal hon. Mae’r defnydd a wneir o’r tir ymron yn llwyr yn dir pori. Mae’r safleoedd archeolegol prin sy’n bresennol yn yr ardal hon yn cynnwys tomen wedi’i llosgi o’r oes efydd a dwy safle ffynnon gysegredig bosibl. Ni cheir unrhyw adeilad rhestredig.

Yn hanesyddol, mae Houghton yn ardal gymeriad hanesyddol wedi’i diffinio’n dda. Fodd bynnag, mae erydiad rhai o elfennau’r dirwedd yn y blynyddoedd diwethaf wedi‘i gwneud yn anos i wahaniaethu rhwng yr ardal hon â’i chymdogion, ac erbyn hyn, nid oes ffin ag ochrau caled ar unrhyw un o ochrau ardal gymeriad Houghton.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Burton 1840; Charles 1992; LlGC PICTON CASTLE CYFROL 1; PRO D/EE/7/338;