Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

SANDY HAVEN

CYFEIRNOD GRID: SM 861090
ARDAL MEWN HECTARAU: 131

Cefndir Hanesyddol
Mae Sandy Haven yn fornant lanwol hir, fforchog, ar lan ogleddol dyfrffordd Aberdaugleddau, sy’n rhannu plwyfi Hasguard, Herbrandston a Chastell Walwyn (oll o fewn Barwniaeth ganoloesol Castell Walwyn) oddi wrth plwyf Llanismel a Robeston West, a arferent fod yn rhan o Arglwyddiaeth Haverford. Mae’r ardal gymeriad yn cynnwys twyni tywod rhynglanwol, cors a morfa heli, ynghyd â dyffrynnoedd coediog â llethrau serth, sydd wedi rheoli’r math o ddefnydd tir trwy gydol y cyfnod hanesyddol. Cyn adeiladu ffordd sy’n croesi Sandy Haven ar bwynt llanw uchel, rhedai’r brif ffordd i’r gorllewin o bentref Herbranston ar draws ceg aber a caiff ei farcio hyd heddiw gan gerrig sarn. Datblygodd pentrefan Sandy Haven o ganolfan faenoraidd ganoloesol ar y lan orllewinol ar y pwynt croesi hwn, er na thyfodd erioed yn ddim mwy nag anheddiad bach a oedd yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau morwrol. Defnyddiwyd rhagnentydd eraill Sandy Haven fel lleoedd ar gyfer mewnforio ac allforio. Dengys mapiau ddiwedd y 18fed ganrif a mapiau’r 19eg ganrif y dirwedd yn debyg i fel ag y mae heddiw gydag ochrau dyffrynnoedd coediog a llawr y dyffryn yn llanwol a chorslyd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Sandy Haven yn cynnwys y fornant llanwol a rhannau uchaf a changhennau dyffryn cul ag ochrau serth mor bell i fyny’r afon â Chastell Walwyn, pellter o ryw 5 km. Ni cheir unrhyw adeiladau preswyliedig yn yr ardal hon. Mae llethrau’r dyffryn a rhannau uchaf lloriau’r dyffryn wedi’u gorchuddio â mantell o goed collddail. Mae pen isaf y dyffryn yn llanwol. Yma, ceir ardaloedd helaeth o forfa heli, traethellau lleidiog a thywod. Ceir llawer o bwyntiau mynediad hawdd i lawr i’r porthladd o dir fferm cyfagos. Mae hen odynau calch ac ambell lanfa ar rai o’r pwyntiau hyn yn tystiolaethu i bwysigrwydd blaenorol y fasnach arforol ac allforio yn yr ardal hon. Erbyn hyn, mae llongau pleser yn defnyddio’r porthladd cysgodol fel man diogel i angori. Mae pentrefan Sandy Haven, y prif anheddiad ar hyd y lan, wedi’i neilltuo i ardal gymeriad tirwedd hanesyddol wahanol. Saif chwarel fawr, fodern segur ar ben uchaf yr ardal hon. Mae safleoedd archeolegol eraill yn ogystal ag odynau calch a cheiau yn cynnwys safleoedd melinau, trap pysgod a sawl llongddrylliad o’r 20fed ganrif.

Er bod sawl cysylltiad rhwng yr ardal hon â’r ardal gyfagos, mae hanfodion hanesyddol y dirwedd yn gwbl wahanol. Mae ardaloedd cyfagos yn cynnwys ffermydd, pentrefi a chaeau. Mae Sandy Haven yn cynnwys coetir ac aber llanwol.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Llanismel 1839; Map degwm Plwyf Robeston 1843; Map degwm Plwyf Stainton 1843; Map degwm Plwyf Castell Walwyn 1842; PRO D/RKL/1194/11 ac 20