Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

PONT MULLOCK

CYFEIRNOD GRID: SM 812081
ARDAL MEWN HECTARAU: 88

Cefndir Hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymharol fach yn cynnwys morfa heli, traethellau lleidiog llanwol a thir isel sy’n dueddol o gael ei foddi, y naill ochr i fornant bach yng ngheg y nant. Fe’i lleolir ym mhlwyf Marloes. Roedd yr ardal yn perthyn i ½ ffi marchog a ddelid o Arglwyddiaeth Penfro gan y teulu de Vale, Arglwyddi Dale, o 1247 ymlaen o leiaf, fel Maenor Mullock a Bicton. Daliwyd rhandir o’r enw Crabhall, sy’n ymestyn i orllewin yr ardal, gan is-denant Philip Crabhole ddiwedd y 14eg ganrif ac yn y diwedd, aeth i feddiant y teulu Wogan o Boulston. Mae map ystad o ddechrau’r 19eg ganrif yn labelu’r ardal hon fel fel ‘Pickle Ridge a Cran Marsh’ ac fe’i dengys fel gro a llaid gyda lôn o’r enw ‘summer’s Boat Road’ yn rhedeg ar hyd ei hochr orllewinol. Dengys y map arglawdd ar draws ceg yr aber – ymgais gynnar i ddraenio’r ardal. Dengys mapiau hwyrach argloddiau eraill ar hyd ochrau dwyreiniol a gorllewinol y dyfrffos. Cafodd rhan o’r ardal hon ei mwyngloddio am ro o’r 1950au i’r 1980au. Mae’n bosibl mai yn y fornant hon y glaniodd Harri Tudur (Harri VII) ym 1485, ar ei ffordd i Faes Bosworth. Yn ôl y chwedl, o dan Pont Mullock, sy’n croesi’r fornant tuag at ganol yr ardal y cuddiodd Rhys ap Thomas ym 1485 i wireddu ei addewid mai dim ond drwy orymdeithio dros ei gorff ef y byddai Harri Tudur yn cael y goron.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal hon wedi’i lleoli dros lawr dyffryn mornant fach sy’n llanwol i lawr yr afon o Bont Mullock. Yma, mae cors a morfa heli’n tra-arglwyddiaethu gyda llaid a gro ar y blaendraeth. Ceir hen byllau gro wedi’u llenwi â dwr tua cheg yr aber. Ceir cors yn syth i fyny’r afon o’r bont â choetir prysgog ymhellach i fyny’r afon. Mae hen argloddiau i fyny ac i lawr yr afon o’r bont yn tystiolaethu i ymdrechion yn y gorffennol i ddraenio’r gors. Erbyn hyn, mae’r argloddiau wedi’u torri. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro ar draws ceg y fornant hon. Ar wahân i Bont Mullock sy’n bont garreg un bwa o’r 18fed ganrif neu’r 19eg ganrif sy’n rhestredig â Gradd II, a phont fodern ger ei hochr, ni cheir unrhyw adeiladwaith yn yr ardal hon. Mae archeoleg yn cynnwys adroddiadau o gladdfeydd yn agos i’r bont a safle melin.

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol wedi’i diffinio’n dda islaw Pont Mullock, gyda’r gors yn cyferbynnu’n amlwg â’r tir fferm cyfagos. Ymhellach i fyny’r afon, mae’n anodd diffinio’r ffin rhwng yr ardal hon â’r ardal gyfagos, ond mae’n parhau’n bresennol.

Ffynonellau: Jones 1996; Ludlow yn Crane sydd i’w gyhoeddi; Map Degwm Plwyf Marloes 1843; Arolwg Ordnans 6” i 1 milltir Argraffiad 1af XXXII, 1887; PRO HDX/80/66; Walker 1950