Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

PURFA OLEW TEXACO A GLANFA BP

CYFEIRNOD GRID: SM 905030
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 237

Cefndir Hanesyddol
Ar wahân i Fort Popton a llain gul o glogwyn glan môr/pen clogwyn mae’r ardal gyfan hon yn cynnwys purfa olew a gorsaf pwmpio olew. Mae’n ymestyn dros ran o blwyf Rhoscrowdder, a gynrychiolai Faenor ganoloesol Popton, a rhan orllewinol plwyf Pwllcrochan. Cynhwysai hyn hanner ffi marchog a ddelid yn uniongyrchol o Arglwyddiaeth Penfro. 10 marc oedd ei gwerth blynyddol ym 1324 ar ôl iddi gael ei throsglwyddo o deulu Popton i deulu Perrot a ddaeth yn bwysig yn ne-orllewin Cymru yn ddiweddarach. Mae Eastington, a leolir i’r de o’r ardal hon, yn neuadd-dy lled-gaerog mawr a adeiladwyd gan deulu Perrot ar ddiwedd y 14eg ganrif. Daeth y faenor i feddiant y teulu Meares yn yr 17eg ganrif. Cyn i’r gweithfeydd gael eu hadeiladu ar gyfer y diwydiant olew cynhwysai’r dirwedd ffermydd a chaeau rheolaidd eu ffurf – nid oedd y dirwedd amaethyddol hon wedi newid fawr ddim ers dechrau’r 19eg ganrif – a chaer a leolid ar ben y clogwyni. Adeiladwyd y gaer hon, sef Fort Popton, ym 1859-64 i weithredu ar y cyd â Fort Hubberston a leolid gyferbyn â hi ar lan dyfrffordd Aberdaugleddau. Cynhwysai fagnelfa furgellog o 31 o ynnau a barics amddiffynedig a ddarparai lety ar gyfer 10 swyddog a 240 o ddynion. Fe’i hailgynlluniwyd ym 1900. Ym 1961, adeiladodd BP lanfa islaw’r gaer a pheirianwaith pwmpio y tu mewn i’r gaer ac yn agos ati er mwyn pwmpio olew i Landarsi, ger Abertawe. Caeodd yr orsaf bwmpio ym 1985. Erbyn hyn mae’r Cyngor Astudiaethau Maes yn defnyddio rhan o’r gaer fel canolfan ymchwil. I’r dwyrain o’r gaer adeiladodd Texaco burfa olew ym 1963. Agorodd ym 1964.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r rhan fwyaf o’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys cyfadail diwydiannol anferth purfa olew Texaco a glanfa a thanciau storio olew BP a ddigomisiynwyd, ond mae hefyd yn cynnwys Fort Popton a newidiwyd i ddarparu lle ar gyfer rhan o weithfeydd pwmpio BP, ychydig o dir ffermio, llethrau coediog serth ar yr arfordir islaw’r burfa a’r glanfeydd angori. Fe’i lleolir ar lwyfandir tonnog tua 50m uwchlaw lefel y môr ar ochr ddeheuol dyfrffordd Aberdaugleddau.

Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hynod ydyw ac mae’n gwrthgyferbynnu â’r tir ffermio cyfagos.

Ffynonellau: Map Degwm Plwyf Pwllcrochan 1840; Map Degwm Plwyf Rhoscrowdder 1838; McKay 1993; PRO D/ANGLE/5; PRO D/ANGLE/92; PRO HDX/198/2; Saunders 1964; Smith 1988