PURFA OLEW GULF
CYFEIRNOD GRID: SM 933052
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 199
Cefndir Hanesyddol
Ar wahân i lain gul iawn o dir yn cynnwys clogwyni glan môr
a phen clogwyn, gorchuddir yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gyfan
hon gan burfa olew ac ystad ddiwydiannol fach. Cyn adeiladu’r burfa
olew tirwedd amaethyddol ydoedd, a leolid bron yn gyfan gwbl o fewn plwyf
Llanstadwell. Ymestynnai dros faenor ganoloesol Waterston, a oedd yn un
o arglwyddiaethau canol Arglwyddiaeth Hwlffordd. Ar fap degwm 1849 dangosir
tirwedd dra hynod o lain-gaeau amgaeëdig wedi’u hamgylchynu
gan bentref Waterston, gan gynnwys yr ardal i’r de o’r pentref
lle y saif y burfa heddiw. Mae’n amlwg mai’r llain-gaeau hyn
oedd olion caeau agored maenor a threfgordd Waterston. Dengys mapiau diweddarach
y llain-gaeau, ond ar ddiwedd y 19eg ganrif ac yn ystod yr 20fed ganrif
roedd rhai wedi’u cyfuno i ffurfio clostiroedd mwy sgwâr,
mwy o faint. Mewn mannau eraill cynhwysai’r dirwedd a fodolai cyn
i’r burfa gael ei hadeiladu gaeau rheolaidd a gysylltir â
Newton Farm – a elwir yn Ddemên Newton ar y map degwm. Nid
yw’r caeau hyn na’r fferm hon i’w gweld bellach. Dechreuwyd
adeiladu purfa Gulf ym 1966, a dadlwythodd y tancer cyntaf olew crai ym
1968.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys purfa olew yn dyddio
o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae’n cynnwys yr holl weithfeydd, gan
gynnwys glanfeydd ar gyfer dadlwytho olew crai a phrif reilffordd. Hefyd
yn yr ardal hon ceir ystad ddiwydiannol fach. Darn byr o glogwyn glan
môr a phen clogwyn rhwng y burfa a’r môr yw’r
unig elfen o’r dirwedd nas adeiladwyd arni.
Mae hon yn ardal benodol iawn ac iddi ffiniau clir. Mae’n dra gwahanol
i’r ffermydd a’r pentrefi cyfagos.
Ffynonellau: Map Degwm Plwyf Llanstadwell, 1849; McKay 1993; Map Arolwg
Ordnans 6 modfedd i 1 filltir Arg. 1af XXXIII, XXXIX 1874; Richards 1969
|