|
HWLFFORDD
CYFEIRNOD GRID: SM 974159
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 580
Cefndir Hanesyddol
Hwlffordd yw tref sirol Sir Benfro a hi oedd un o’r trefi mwyaf
yng Nghymru yn ystod yr oesoedd canol. Nid oes unrhyw dystiolaeth archeolegol
o unrhyw weithgarwch ar safle’r dref cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd
a chyn i ‘Tancred y Ffleminiad’ sefydlu’r castell yno
ym 1100-1110. Saif y dref a’r castell ar y man pontio isaf ar Afon
Cleddau Wen, yr oedd ei werth strategol ac economaidd yn ffactorau ar
gyfer dewis y safle a’i ddatblygu ar ôl hynny. Daeth y castell
yn ganolbwynt i arglwyddiaeth Eingl-Normanaidd, sef Rhos neu Hwlffordd,
a oedd yn aelod, o leiaf mewn enw, o Iarllaeth Penfro. O amgylch y castell
datblygodd anheddiad bach, a adwaenid fel y ‘Castleton’, a
gynhwysai eglwys plwyf Sant Marthin, a chodwyd wal o’i amgylch,
ond nid oes unrhyw gofnod o siarter tan 1207 pan oedd Hwlffordd eisoes
wedi datblygu’n dref sylweddol. Rhoddodd y siarter freintiau marchnad
a ffair i’r arglwydd Robert FitzTancred, ac mae tystiolaeth bod
brethyn yn cael ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod cynnar hwn, yn ogystal
â gweithgarwch masnachol ar gei’r dref. Roedd priordy Awstinaidd
wedi’i sefydlu cyn 1210, ac roedd wedi cael dwy eglwys blwyf ychwanegol,
sef eglwys y Santes Fair ac eglwys Sant Tomos. Mae’r eglwys yn Prendergast,
er nas lleolir o fewn y fwrdeistref ganoloesol, yn gynharach, ac fe’i
sefydlwyd ar ddechrau’r 12fed ganrif. Erbyn 1300, roedd y dref yn
weddol fawr, a chynhwysai dros 300 o diroedd bwrdais (yn fwy na’r
un fwrdeistref gastellog yng Ngogledd Cymru), lle marchnad ychwanegol
ger eglwys y Santes Fair ac aneddiadau yma ac o amgylch eglwys Sant Tomos.
Nid oes unrhyw dystiolaeth, fodd bynnag, bod y datblygiad erioed wedi’i
amgáu o fewn muriau tref. Dangosir pa mor bwysig yw’r dref
gan y ffaith ei bod wedi’i lleoli ym man nodol 13 o lwybrau. Dirywiodd
Hwlffordd ar ôl y Pla Du yng nghanol y 14eg ganrif a gadawyd ardaloedd
lle’r oedd aneddiadau wedi bod. Fodd bynnag, rhoddwyd siarter gorffori
iddi ym 1479, ac yn ystod yr 16eg ganrif cymerodd rôl y dref sirol
oddi wrth Benfro. Y castell a oedd wedi ‘dirywio’n llwyr’
oedd carchar y sir bellach. Fe’i hailadeiladwyd ym 1866 ond caeodd
ym 1878. Erbyn canol yr 16eg ganrif gellid disgrifio Hwlffordd fel ‘y
dref a adeiladwyd orau, y dref fwyaf sifil, a’r dref a anheddwyd
gyflymaf yn Ne Cymru’. Ataliwyd y dref rhag ehangu ymhellach gan
bla a laddodd un rhan o bump o’r boblogaeth yng nghanol yr 17eg
ganrif. Pan lanwodd yr anfon â llaid, a sefydlwyd porthladd yn Aberdaugleddau
yn y 1790au, daeth ei rôl fel porthladd i ben. Fodd bynnag, mae
ei statws fel y dref sirol ac fel canolfan farchnad leol wedi parhau,
parhad a gynorthwywyd pan ymgorfforwyd Hwlffordd yn y rhwydwaith rheilffyrdd
ym 1854. Yn ystod yr 20fed ganrif y mae Hwlffordd wedi ehangu fwyaf o
ganlyniad i sefydlu maestrefi go fawr yn Merlin’s Bridge, Albert
Town, o amgylch yr orsaf reilffordd a’r eglwys gynharach yn Prendergast.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae calon y dref yn cadw llawer o’i helfennau hanesyddol, yn arbennig
cynllun ei strydoedd, ei lleiniau o diroedd bwrdais a’i heglwysi.
Mae’r castell, a sefydlwyd ar glogwyn yn edrych dros lan orllewinol
afon Cleddau Wen, hefyd wedi goroesi. Lleolir yr anheddiad caerog gwreiddiol
neu ‘Castleton’ yn union i’r gorllewin ac i’r
gogledd o’r castell, o amgylch eglwys Sant Marthin, a’r tu
mewn i’r anheddiad ceir trefniant anffurfiol o strydoedd. Fodd bynnag,
nid yw mur y dref na’r gatiau wedi goroesi. Lleolid prif bont y
dref, nes i New Bridge gael ei hadeiladu ym 1835, 200 metr i fyny’r
afon o’r strwythur presennol. Sefydlwyd eglwys y Santes Fair o fewn
marchnadfa drionglog a rhwng y farchnadfa hon a’r ‘Castleton’
roedd dyffryn serth nant sydd bellach wedi’i sianelu a elwir yn
‘Shitters’ Brook’, sy’n rhoi rhyw syniad o’i
swyddogaeth wreiddiol. Mae patrwm hanner-grid o strydoedd yn arwain i’r
gorllewin ac i’r de o eglwys y Santes Fair. O fewn un o’r
‘gridiau’ hyn saif eglwys Sant Tomos, ond nid oes unrhyw dystiolaeth
bod Lawnt Sant Tomos yn fan agored yn wreiddiol. Saif adfeilion y priordy
ar lan orllewinol Afon Cleddau Wen yn union i’r de o’r dref,
tra bod y Ffeierdy Dominicaidd a sefydlwyd ym 1256 ar safle mwy cyfyng
rhwng y castell a’r afon wedi mynd. Mae’r gwaith ailadeiladu
a wnaed o fewn y dref yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn cynnwys adeiladau
o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a thai tref yn yr arddull
Sioraidd. Gall y rhain fod o ansawdd da a cheir 245 o adeiladau rhestredig
o fewn y dref hanesyddol. Mae’r castell ac adeiladau carchar y sir
yn dyddio o’r 19eg ganrif, a nifer o warysau a gysylltir â’r
cyn-gei, hefyd wedi goroesi. Mae’r datblygiadau a gafwyd ar ôl
hynny yn perthyn i’r cyfnod ôl-ganoloesol a rhai maestrefol
ydynt, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn hwyr. Mae Albert Town a Prendergast
yn cynnwys terasau o’r 19eg ganrif yn bennaf, a cheir ysgolion a
meysydd chwarae diweddarach yn Albert Town. Ystad o dai cyngor yw Merlin’s
Bridge a sefydlwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Rhwng yr ystad hon a’r
dref ceir man gwyrdd ar y naill ochr a’r llall i Merlin’s
Brook, gyda’r llinell reilffordd a’r A40, sef ffordd osgoi
Hwlffordd, yn rhedeg trwyddo. Mae datblygiadau eraill yn dyddio o’r
20fed ganrif yn cynnwys yr ysbyty i’r gogledd o’r dref, neuadd
y sir yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif gerllaw adfeilion y priordy,
a rhywfaint o newidiadau yn y system ffyrdd o fewn y dref hanesyddol.
Mae Hwlffordd yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig iawn ac mae’n
wahanol i’r tir ffermio cyfagos.
Ffynonellau:
Charles 1967; James 1981; Ludlow 1998; Miles 1999; Soulsby 1983;
|