|
THEMÂU TIRWEDD HANESYDDOL PEN CAER – TREFDRAETH A CHARNINGLI
– MAENORBYR – CWNINGAR YSTAGBWLL RHANBARTHAU GWEINYDDOL HANESYDDOL
Roedd gweinyddiaeth gorllewin Cymru cyn cyfnod yr Eingl-Normaniaid
yn seiliedig ar freniniaethau bach neu wledydd, a sefydlwyd cyn yr 8fed
ganrif OC. Gorwedda ardaloedd y gofrestr o fewn gwlad Dyfed a ddaeth yn
rhan o deyrnas fwy y Deheubarth ar ddechrau 11eg ganrif. O fewn pob gwlad
roedd unedau gweinyddol llai neu ystadau a elwid yn faenorau, ac mae tystiolaeth
o’u bodolaeth ers y 9fed ganrif. Roedd y rhain yn cynnwys nifer
o drefi. Erbyn yr 11eg ganrif roedd dwy haen weinyddol ychwanegol wedi
cael eu cyflwyno – y cantref, sef 100 o drefi. Is-rannwyd pob un
ohonynt yn nifer o gymydau, y trefnwyd y trefi yn grwpiau ynddynt. Daeth
saith cantref Dyfed – Pebidiog, Cemaes, Emlyn, Rhos, Daugleddau,
Gwarthaf a Phenfro – ynghyd yn uniad a fu’n uchel ei fri yn
hanesyddol ac yn chwedlonol. Mae’n debygol nad oedd systemau ffurfiol
o ddeiliadaeth a gweinyddiaeth frodorol wedi’u sefydlu yn Nyfed
cyn y goncwest Eingl-Normaniaid. Fodd bynnag, bodolai canolfannau â
statws, rhai seciwlar ac eglwysig. Yn y grwˆ p olaf ceir llawer o
ddogfennaeth ynglyn â saith ‘ty esgob’ Dyfed.
Dechreuodd yr Eingl-Normaniaid anheddu yn sir Benfro
yn 1093 gyda goresgyniad Dyfed o dan Roger de Montgomery, Iarll Normanaidd
Amwythig, ac ar ôl iddo sefydlu castell ym Mhenfro. O’r ganolfan
hon, roedd ei fab, Arnulf wedi goresgyn y rhan fwyaf o Gantref Penfro
(yn rhan ddeheuol y sir bresennol, gan gynnwys Ardaloedd Maenorbyˆ
r ac Ystagbwll y gofrestr), Cantref Rhos (i’r gorllewin o Aberdaugleddau)
a Chantref Daugleddau (yng nghanol y sir bresennol), a ad-drefnwyd yn
sir o dan Harri’r Cyntaf - a fu’n Freiniarll ar ieirll Penfro
yn ddiweddarach. Yn ogystal â’r ymgyrch hon, yn 1100 goresgynnwyd
Cantref Cemaes (y gorwedda Ardal Trefdraeth a Charningli y gofrestr ynddo)
o dan Norman o’r enw Martin o Tours a’i had-drefnodd yn arglwyddiaeth
Mers.
Efallai i’r ymweliad â Thyddewi gan y Brenin
Normanaidd William y Cyntaf yn 1081 arwain at ychydig o ad-drefnu ar Gantref
Pebidiog - a ddaliwyd ar y cyfan gan yr esgobion. Mae’n cynnwys
Ardal Pen Caer: Garn Fawr a Strwmbwl y Gofrestr - ar hyd llinellau Eingl-Normanaidd.
Fodd bynnag, mae’n fwy tebygol i’r weinyddiaeth faenorol lac
hon gael ei chyflwyno ar ôl 1115 o dan Bernard, Esgob Normanaidd
cyntaf Tyddewi.
Yng ngogledd y sir parhaodd y rhanbarthau tiriogaethol
cyn y goncwest Eingl-Normanaidd yn ddigyfnewid ar y cyfan wedi’r
goncwest. Rhannai arglwyddiaeth Cemais ac arglwyddiaeth Pebidiog yr un
ffiniau â’u ‘rhiant-gantrefi’, ac â chantrefi
Cemais a Phebidiog yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Yn y rhan fwyaf o
achosion, ymddengys bod systemau deiliadaeth Cymreig wedi goroesi, a pharhaodd
llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd yn oed tan ddechrau’r
20fed ganrif. Cafodd y systemau hyn effaith ddofn ar y dirwedd. Parhaodd
Pebidiog, yn enwedig, i fod yn rhydd o fod yn ddeiliadaeth faenorol ffurfiol
ar y cyfan ac fe’i daliwyd drwy ddefod Gymreig lle y delid tir drwy
gydberchenogaeth. Yn wir, dim ond yn ddiweddar roedd cyfran wedi cael
ei ddiddymu ym Mhebidiog pan ysgrifennodd Owen yn oddeutu 1600. Mae’r
ddeiliadaeth hon wedi arwain at brif batrwm anheddu’r ardal, sef
dwysedd uchel o bentrefi bach. Yng Nghemaes, arweiniodd y ddeiliadaeth
Gymreig at batrwm anheddu mwy gwasgaredig, heb greu aneddiadau cnewyllol
sylweddol ar y cyfan. Fodd bynnag, gweithredai bwrdeistref Trefdraeth
system faenorol o leiaf rhannol Eingl-Normanaidd.
Yn yr un modd yn ne’r sir parhaodd y rhanbarthau
tiriogaethol cyn y goncwest Eingl-Normanaidd yn ddigyfnewid ar y cyfan
wedi’r goncwest. Roedd ffiniau arglwyddiaeth Penfro fwy neu lai
yn dilyn ffiniau Cantref Penfro. Mae peth ansicrwydd p’un a roddodd
Maenor Maenorbyˆ r yr enw ar y cwmwd Cymreig Maenor Pyr neu a ddeilliodd
ei henw o’r cwmwd hwnnw. Dadleuwyd nad yw’r elfen ‘maenor’
yn deillio o’r gair Eingl-Normanaidd ‘manor’ ond o’r
elfen ‘maenol’ a fodolai cyn y Goncwest ac sy’n gysylltiedig
â’r enw personol ‘Pyr’ sydd hefyd yn cael ei gofio
yn ‘Ynys Pyr’. Fodd bynnag, ymhob ffordd arall cafodd yr ardal
ei seisnigeiddio. Sefydlodd Harri’r Cyntaf nifer fawr o bobl o dde-orllewin
Lloegr a Fflandrys, yn yr ardal ac ad-drefnwyd y weinyddiaeth frodorol
yn llwyr. Er yr ymddengys i Harri’r Cyntaf geisio sefydlu gweinyddiaeth
a oedd yn seiliedig ar fodelau sifil Seisnig, arweiniodd yr arglwyddiaeth
mers balatin at system faenorol ffiwdal yn seiliedig ar arglwyddiaethau
demên a ffioedd marchogion. Mae hyn wedi arwain at y prif batrwm
anheddu yn yr ardal, sef aneddiadau cnewyllol - pentrefi, pentrefannau
a ffermydd mawr - yn seiliedig ar dreflannau maenorol. Goroesodd elfennau
o’r system ymhell wedi’r Ddeddf Uno. Fodd bynnag, yn ystod
y cyfnod ôl-ganoloesol rhannwyd Penfro yn ddau gantref, Castell
Martin ac Arberth.
SAFLEOEDD ANGLADDOL A DEFODOL
CYNHANESYDDOL, AC ANEDDIADAU
Mae nifer fawr o safleoedd angladdol a defodol cynhanesyddol pwysig ym
mhedair ardal hyn y gofrestr, megis carnedd Norchard Beacon ar ‘the
Ridgeway’ ger Maenorbyˆ r a beddrod siambr Carreg Coetan yn
Nhrefdraeth. Fodd bynnag, gorwedda’r mwyafrif ohonynt ar dir ffermio
ac nid oes modd gwerthfawrogi’n llawn eu lleoliad gwreiddiol, na’r
effaith yr oedd y bobl a’u hadeiladwyd wedi’i chael ar y dirwedd.
Yn ffodus mae dau amgylchedd lle mae mwy o wybodaeth ar gael. Ar yr ucheldir,
megis Comin Carningli, mae twmpath claddu Carn Briw yn gysylltiedig â
chofebau angladdol a defodol eraill ac o bosibl â systemau caeau
ac aneddiadau cydamserol. Mae dadansoddiadau amgylcheddol o safleoedd
tebyg ar draws Cymru wedi dangos bod y coetiroedd wedi dechrau cael eu
clirio o’r ardaloedd ucheldir yn yr Oes Efydd fel arfer, ar adeg
pan oedd twmpathau claddu yn cael eu hadeiladu. Dangosodd ymchwil i’r
aneddiadau a oedd yn gysylltiedig â’r twmpathau claddu uwchdirol
gael eu gadael yn wag ar ddiwedd yr ail fileniwm CC, er bod y ffaith bod
yna fryngaer enfawr o’r Oes Haearn a chaer lai o faint yn dangos
bod pobl wedi parhau i fyw yn yr ardal ucheldir hon ar ôl yr Oes
Efydd. Cwningarau, neu ardaloedd o dywod arfordirol chwyth, yw’r
ail fath o amgylchedd lle y ceir tystiolaeth o’r oes gynhanesyddol
mewn cyflwr da. Yng Nghwningar Ystagbwll, sef un o’r amgylcheddau
a astudiwyd fwyaf yn y De-orllewin, cafodd dilyniant cynhanesyddol cymhleth
ei gadw o dan y tywod chwyth a’r tu mewn i’r tywod hwnnw a
ddechreuodd gronni yn yr Oes Efydd, a datgelodd gwaith cloddio dirwedd
wedi’i hanheddu a’i ffermio’n ddwys sy’n deillio
o’r trydydd mileniwm CC.
Gorwedda dwy o’r tair prif fryngaer o’r Oes
Haearn yn y De-orllewin yn ardaloedd hyn y gofrestr: Garn Fawr yn nhirwedd
Pen Caer a Charningli yn nhirwedd Trefdraeth a Charningli. Mae’r
drydedd, Y Foel Drigarn, yn Nhirwedd Gofrestredig Preseli, sy’n
cyd-ffinio â Threfdraeth a Charningli. Mae pob un o’r tair
yn elfennau amlwg yn y dirwedd, am eu bod yn gofebau anferth wedi’u
lleoli ar fryniau nodedig. Maent yn anghyffredin o ran bryngaerau’r
De-orllewin yn y ffaith bod ganddynt ragfuriau o garreg lanw yn hytrach
na’r amddiffynfeydd pridd arferol, ac mae lleoliad Garn Fawr a Charningli
mewn ardaloedd o waun agored wedi cyfrannu at oroesiad systemau caeau
cydamserol ac aneddiadau ategol megis cylchoedd cytiau - sef y math o
dystiolaeth nad yw wedi goroesi ar dir ffermio is. Ar draws Comin Carningli
a’r ucheldir cyfagos mae cyfoeth o dystiolaeth o anheddu, y mae
peth ohoni yn dyddio o’r cyfnod cyn ac ar ôl i’r fryngaer
gael ei hadeiladu. Mae cloddiau o garreg lanw sy’n ymestyn o ragfuriau
Garn Fawr yn dangos bod caeau yn gysylltiedig â’r fryngaer,
a’u bod yn rhai mawr, gan fod yr hen ffiniau creiriol yn rhedeg
i lawr o’r tir uwch ac yn parhau yn y system caeau fodern. Yn 1973
cyhoeddodd Hogg gynlluniau a thestun disgrifiadol o Garn Fawr a Charningli
(Hogg 1973). Mae Garn Fawr yn anghyffredin yn y ffaith bod un o’r
cynlluniau cynharaf o unrhyw fryngaer ym Mhrydain wedi ei wneud ohono
gan Edward Lhuyd yn oddeutu 1700. Mae bryngaerau eraill, megis Carn Ffoi
ar Gomin Carningli, a Gwersyll Ynys Sgomer a’r Old Castle Head ar
yr arfordir ger Maenorbyˆ r yn dangos bod poblogaeth fawr yn byw
yno yn ystod yr Oes Haearn, ond mae’r safleoedd hyn yn ynysig bellach,
wedi’u gwahanu oddi wrth eu tirwedd gyfoes gan arferion a datblygiadau
ffermio mwy diweddar.
Credir yn gynyddol fod system llain-gaeau Maenorbyˆ r yn tarddu o’r
cyfnod cynhanesyddol, a’i bod yn gyfechelin â llwybr cynnar
o’r enw’r Ridgeway. Trafodir hyn yn fanylach isod.
TREF GANOLOESOL TREFDRAETH
Mae Trefdraeth, sef yr unig dref sy’n dyddio o’r
oesoedd canol ym mhedair ardal y gofrestr, yn enghraifft glasurol o dref
wedi’i chynllunio. Fe’i sefydlwyd gan yr arglwydd Eingl-Normanaidd
William Fitzmartin. Y prif reswm dros sefydlu tref oedd yr angen i wneud
yr elw mwyaf posibl, ond yn erbyn cefndir o ryfela a chyrchu di-baid bron
roedd y mewnlifiad o ymsefydlwyr o Loegr i Drefdraeth yn creu poblogaeth
i Fitzmartin a fyddai’n barod i amddiffyn y tiroedd yr oedd newydd
eu cipio oddi wrth y Cymry a ddifeddiannwyd. Sylweddolodd y boblogaeth
frodorol yn fuan fanteision bywyd trefol, ac mewn arolwg o 1434 mae llawer
o enwau’r trigolion yn dangos eu bod o dras Gymreig. Roedd y dref
wedi’i chynllunio ar batrwm grid gyda lleiniau bwrdais wedi’u
gosod ar hyd strydoedd (roedd llain bwrdais yn ddarn hirgul o dir). Rhoddwyd
bwrgais i bob bwrdeisiwr er mwyn iddo adeiladu tyˆ arno. Roedd ganddo
hawliau i ffermio yn y systemau caeau agored hefyd, yn ogystal â
breiniau eraill. Nid yw’r system caeau agored ar waith mwyach ac
mae’r dystiolaeth ohoni wedi cael ei dileu i raddau helaeth, ond
mae cynllun y dref a sefydlwyd dros 800 o flynyddoedd yn ôl wedi
goroesi. Mae patrwm y strydoedd fel yr oedd pan sefydlwyd y dref, ac mae’r
tai, er iddynt ddyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf, yn gorwedd ar
y ffryntiad stryd o fewn yr hen leiniau bwrdais canoloesol.
PENTREFI CANOLOESOL A DIWEDDARACH
Ceir gwrthgyferbyniad mawr rhwng pedair ardal y gofrestr
o ran eu patrwm anheddu a morffoleg eu haneddiadau. Roedd ardal gofrestredig
Pen Caer: Garn Fawr a Phen Strwmbwl yn rhan o Arglwyddiaeth ganoloesol
Pebidiog lle mae systemau deiliadaeth Cymreig wedi goroesi tan y cyfnod
modern cynnar. Cynhaliwyd arolwg manwl o Bebidiog yn 1326, Llyfr Du Tyddewi,
a’i gwnaeth yn glir er bod rhai agweddau ar system faenorol Eingl-Normanaidd,
a’r derminoleg, wedi cael eu cyflwyno, eu bod wedi’u himpio
ar y system a fodolai cyn hynny ac mai go wan oedd eu gwreiddiau. Ym mro
ffrwythlon Pebidiog - Penmaendewi - a oedd yn un o ranbarthau mwyaf poblog
sir Benfro yn y 16eg ganrif, arweiniodd y math hwn o ddeiliadaeth at ddwysedd
uchel o aneddiadau cnewyllol neu bentrefannau. Mewn gwrthgyferbyniad â
hynny, yn ardal Pen Caer: Garn Fawr a Phen Strwmbwl a oedd yn llai ffrwythlon
(maenor ganoloesol Villa Grandi), arweiniodd deiliadaeth Gymreig dros
gyfnod maith at batrwm anheddu gwasgaredig iawn o ffermdai llai, gydag
ychydig iawn o aneddiadau cnewyllol gwirioneddol. Ymddengys bod ffermdai
mawr Pen Caer o Gastell, Tre-fisheg a Thresinwen, a enwyd yn yr arolwg,
yn drefgorddau llac yn hytrach na vills, ac nid ydynt yn aneddiadau cnewyllol
heddiw. Yng Nghiliau Fawr, ac mewn ffermydd eraill y tu allan i ardal
y gofrestr, disgrifir y tir yn benodol fel tir a ddelir o dan Gyfraith
Hywel. Anheddiad cnewyllol bach o amgylch eglwys y plwyf yw Llanwnda bellach
ond ni chyfeirir at unrhyw anheddiad yn y cofnodion canoloesol; dichon
mai yn y cyfnod ôl-ganoloesol y tyfodd yn bennaf.
Gwelir patrwm anheddu tebyg o ffermdai gwasgaredig yng
Nghemaes (ardal Trefdraeth a Charningli), er i lawer o’r dirwedd
hon aros heb ei amgáu tan y cyfnod ôl-ganoloesol, am mai
rhostir a thir gwastraff ydoedd yn bennaf. Ychydig iawn o aneddiadau cnewyllol
a gafwyd. Fodd bynnag, roedd bwrdeistref Eingl-Normanaidd Trefdraeth yn
sefydliad Eingl-Normanaidd trefedigaethol gyda bwrdeisiau ffurfiol, marchnad
a ffair. Ffermydd demên Arglwyddi Cemaes oedd rhai o’r ffermdai
mwy yn yr ardal, e.e. Rhigian a Pharc-y-marriage; roedd eraill, ee Holmhouse,
yn ffermdai statws uchel a sefydlwyd ar ymylon caeau agored y fwrdeistref.
Fodd bynnag, fel ym Mhen Caer, nid oes pentrefi canoloesol gwirioneddol
yn yr ardal hon.
I’r gwrthgyferbyniad llwyr y mae ardaloedd Maenorbyˆ
r a Chwningar Ystagbwll y gofrestr, yn Arglwyddiaeth Penfro, a oedd wedi’i
seisnigeiddio, a nodweddir gan bentrefi cnewyllol bach. Ceir ffermydd
gwasgaredig, fel ag a geir yn y rhan fwyaf o Gymru, ond y pentrefi sy’n
gwahaniaethu patrwm anheddu’r rhan hon o sir Benfro oddi wrth ardaloedd
eraill y De-orllewin. Mae cydberthynas gref rhwng y math o anheddiad cnewyllol
ar ffurf pentref, sydd yn aml wedi tyfu o amgylch eglwys, a’r ardal
yn y De-orllewin y gwyddys bod anheddu Eingl-Normanaidd yno yn y 12fed
a’r 13eg ganrif, yn ôl tystiolaeth o enwau lleoedd, iaith
a dangosyddion diwylliannol eraill heddiw, Mae’n debygol iawn felly
i’r pentrefi gael eu sefydlu yn y cyfnod hwn ar yr un pryd â’r
brif elfen arall o dirwedd amaethyddol iseldiroedd Lloegr, sefy systemau
caeau agored. Disgrifir caeau agored isod, ond mae’n werth pwysleisio
yma y gyfatebiaeth gref rhwng pentrefi cnewyllol a’r dystiolaeth
o gaeau agored. Mae dogfennaeth hanesyddol yn aml yn amwys wrth gyfeirio
at y math o batrwm anheddu, ac nid tan ganol i ddiwedd y 18fed ganrif
yn sgîl mapio ystadau ar raddfa fawr a’r arolwg o fapiau degwm
yn oddeutu 1840, y gellir nodi morffoleg pentrefi yn bendant. Wedyn roedd
pentrefi Ystagbwll, Bosherton, Maenorbyˆ r a Jameston yn dreflannau
maenorol Eingl-Normanaidd - cymunedau amaethyddol cnewyllol bach. Mae
Ystagbwll a Maenorbyˆ r yn anghyffredin am eu bod gryn bellter o
eglwys y plwyf, sydd o bosibl yn y naill achos a’r llall yn tarddu
o gyfnod cyn y Goncwest. Cofnodwyd bod capel yn Jameston yn y 16eg ganrif,
ond mae’n bosibl ei fod yn sefydliad diweddar, tra bod Manorbier
Newton, sydd bellach yn fferm, yn anheddiad mwy ond heb eglwys na chapel.
Mae ffair a gofnodwyd yn Jameston, a ffair o bosibl yn Ystagbwll, yn awgrymu
gweithgarwch marsandïol. Fodd bynnag, ac eithrio Jameston ac Ystagbwll
o bosibl, nid ymddengys bod yr un pentref o fewn dwy ardal y gofrestr
yn drefedigaethol. Yn ychwanegol at y treflannau ffurfiol cafwyd ffermdai
mawr megis Norchard, Tarr, Carswell a Whitewell yr ymddengys eu bod yn
ffermydd preifat o gyfnod cynnar, o bosibl mor gynnar â’r
13eg ganrif (ond maent yn fwy tebygol o ddyddio o’r cyfnod canoloesol
diweddar). Fe’u daliwyd drwy rydd-ddaliad, neu’n annibynnol
ar Faenor Maenorbyˆ r, a gorweddant yn rhan ddwyreiniol y faenor
yn bennaf. Deil pentrefi i gael dylanwad cryf ar batrwm anheddu’r
ardal, ac mae rhai wedi ehangu ar ddiwedd y 19eg ganrif a’r 20fed
ganrif. Er enghraifft, mae Lydstep fwy neu lai yn dyddio o’r cyfnod
ôl-ganoloesol, a’r 19eg ganrif yn benodol, tra bod Maenorbyˆ
r wedi ehangu ar ôl i ystadau tai gael eu hadeiladu ar ei chyrion.
Mewn cyferbyniad â hynny, dilëwyd dros hanner pentref Ystagbwll
i greu parc yn y 18fed ganrif. Fodd bynnag, ar y cyfan, nid yw’r
pentrefi o fewn dwy ardal hyn y gofrestr wedi newid braidd ddim, ac mae
eu morffoleg a’u swyddogaethau gwreiddiol i’w gweld o hyd.
Nid oes fawr dystiolaeth o bentrefi newydd eraill yn cael eu sefydlu cyn
diwedd y 18fed ganrif mewn unrhyw un o bedair ardal y gofrestr.
ANEDDIADAU LLEDFEDDIANNOL Y
DDEUNAWFED GANRIF A’R BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Oherwydd y twf cyflym yn y boblogaeth wledig yn ystod
y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif, ychydig iawn o dir
oedd heb gael ei ffermio, ac felly ychydig iawn o gyfle a gafwyd i sefydlu
bythynnod neu dyddynnod (tai unnos) ar dir segur. Gorfu i bobl fyw ar
dir mwy ymylol megis Comin Carningli ac mewn ardaloedd bach o dir comin,
rhostir a thir garw ym Mhen Caer. Crewyd tirwedd nodweddiadol iawn gan
aneddiadau newydd ar lethrau Comin Carningli, uwchlaw Trefdraeth. Er nad
oes llawer o ddogfennaeth ynglyˆ n â’r aneddiadau hyn,
maent yn nodweddiadol o aneddiadau sgwatwyr o ddiwedd y 18fed ganrif a
dechrau’r 19eg ganrif - patrwm anheddu ar ffurf clystyrau, tai a
bythynnod bach, caeau ar siâp afreolaidd ar dir gwael. Fodd bynnag,
mae iddynt rai elfennau anghyffredin. Yn gyntaf mae’r rhan fwyaf
o aneddiadau sgwatwyr yn y De-orllewin mewn lleoliadau anghysbell, yn
aml ar dir uchel. Yn ail, er bod yr anheddau ar lethrau Carningli yn weddol
fach, maent yn rhagori ar y tai a geid yn y rhan fwyaf o aneddiadau sgwatwyr,
sy’n dai o safon wael, ac ymddengys iddynt gael eu hadeiladu, neu’n
fwy tebygol, eu hailadeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif. Yn drydydd, yn
y De-orllewin roedd llawer, ac mewn rhai achosion, y cyfan o’r anheddau
yn aneddiadau sgwatwyr wedi’u gadael yn wag yn ystod ail hanner
y 19eg ganrif ac yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif wrth i’r
boblogaeth yng Nghymru wledig ostwng: nid yw hyn yn wir am Garningli.
Ymddengys bod sawl rheswm dros hyn. Y rheswm allweddol yw ei bod yn agos
i Drefdraeth. Mae tir comin Carningli yn anghyffredin am ei fod yn rhedeg
tuag i lawr i dir isel bron ar gyrion Trefdraeth. O ganlyniad, nid oedd
aneddiadau sgwatwyr yno byth yn anghysbell, a gallai anheddwyr gael gwaith
ychwanegol yn y dref yn hytrach na chraffu byw ar amaethu a gwaith diwydiannol/crefft
tymhorol. Felly ni fu’r gostyngiad yn y boblogaeth yn effeithio
ar yr aneddiadau hyn, i’r gwrthwyneb mewn gwirionedd, fel y tystiwyd
gan y tai o ansawdd cymharol dda yn yr ardal hon o ddiwedd y 19eg ganrif
yn bennaf. O ganol yr 20fed ganrif mae llawer o’r hen anheddau sgwatwyr
hyn wedi dod yn eiddo dymunol fel cartrefi gwyliau neu ail gartrefi.
DATBLYGIAD YN Y BEDWAREDD GANRIF
AR BYMTHEG A’R UGEINFED GANRIF
Ar wahân i Drefdraeth ac Wdig mae pob un o bedair
ardal hyn y gofrestr yn rhai gwledig yn y bôn, a chan fod y boblogaeth
wledig yn y De-orllewin wedi gostwng o ganol y 19eg ganrif ni fu fawr
o ddatblygiad yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif o ganlyniad. Un
eithriad yw Dinas Cross a Bryn-henllan lle yr adeiladwyd tai yn gyntaf
yng nghanol y 19eg ganrif. Mae wedi lledu’n llinellol ar hyd y brif
ffordd ac wedyn ar hyd isffyrdd, ac mae wedi parhau i ddatblygu yn yr
un modd hyd heddiw.
Wdig yw’r unig ddatblygiad mawr o’r 19eg
ganrif a’r 20fed ganrif o fewn unrhyw un o bedair ardal y gofrestr.
Cyn degawd cyntaf yr 20fed ganrif, pan agorwyd y rheilffordd ac adeiladwyd
cyfleusterau porthladd newydd, roedd yr anheddiad a’r porthladd
yn Wdig yn fach. Bu datblygiad cyflym o ddechrau’r 20fed ganrif,
gyda thai yn ymestyn ar hyd llawr y dyffryn ac i fyny llethrau serth y
dyffryn. Erbyn hyn mae Wdig bron yn un anheddiad yn ymestyn i Abergwaun.
EGLWYSI A CHAPELI CANOLOESOL
Ychydig o eglwysi a chapeli canoloesol a geir yn ardaloedd
bach hyn yn bennaf o’r gofrestr. Fodd bynnag, dichon fod nifer o’r
rhai a geir yn dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol. Mae eglwys
plwyf Llanwnda yn eglwys ganoloesol ddiweddar fach ac iddi eiliau ond
ymddengys ei bod yn sefyll ar safle canoloesol cynnar pwysig. Nid oes
iddi hanes wedi’i gofnodi cyn y Goncwest Eingl-Normanaidd ond datgelwyd
saith Cofeb Gristnogol Gynnar o’r 7fed ganrif hyd at 11eg ganrif
o fewn adeilad yr eglwys yn ystod gwaith adnewyddu yn y 19eg ganrif, gan
awgrymu statws cynnar posibl fel mynachlog. Mae wedi’i chysegru
i sant ‘Celtaidd’, sef Gwyndaf Sant. Saif ar yr arfordir ar
bentir, ac mae’n nodwedd unigryw iawn yn y dirwedd. Mae ei mynwent
betryalog yn gnewyllyn i system o ffiniau anffurfiol ac mae’n tarddu
o ddyddiad cynnar o bosibl, gan fod tystiolaeth bod y fynwent gylchog
yn dechrau troi’n fynwent betryalog yn ystod y cyfnod diweddarach
cyn y goncwest. Dichon fod yr eglwys gynnar yn gorwedd o fewn ystad eglwysig
gynnar wedi’i phennu gan system o gaeau ar siâp afreolaidd,
a dichon mai carreg derfyn yw un o’r Cofebau Cristnogol Cynnar (ym
Mhont Eglwys fel y’i gelwir). Ymestynodd yr ystad honedig gan fynd
mor fawr â phlwyf mawr Llanwnda, a ddaeth i gynnwys y rhan fwyaf
o benrhyn Pen Caer/Pen Strwmbwl. Ymddengys bod yr ardal gyfan, a fu’n
rhan o arglwyddiaeth esgobol Pebidiog, yn ganolfan eglwysig bwysig yng
Nghymru cyn y Goncwest. Roedd plwyf Llanwnda yn brebend pwysig yn Nhyddewi
yn ystod y cyfnod wedi’r Goncwest, perthynas a oedd o bosibl wedi
goroesi o berthynas gynharach. Cofnodwyd bod mynwent gist islaw Fferm
Llanwnwr yn y 19eg ganrif, a cheir safle Cofeb Gristnogol Gynnar. Dichon
mai safleoedd eglwysig cynnar oedd capel arfordirol Llandegan/Capel Degan
sydd wedi’i golli, yn ogystal ag Ynys Meicel.
Cafodd eglwys blwyf ganoloesol St Brynach, Dinas, yng
Nghwm-yr-eglwys, ei dinistrio i raddau helaeth drwy erydu arfordirol yng
nghanol y 19eg ganrif ac heddiw mae’n adfail anghyflawn. Fodd bynnag,
mae’r talcen gorllewinol wedi goroesi, ynghyd â’i chwt
clychau, a gellir ei gweld o’r tir a’r môr. Datgelwyd
mynwent gist hefyd o dan yr eglwys pan wnaed gwaith atgyfnerthu ac amddiffyn
rhag y môr yn ystod y 1980au. Fodd bynnag, dichon fod hon yn fynwent
a sefydlwyd wedi’r Goncwest, neu o leiaf o ddiwedd y cyfnod canoloesol
cynnar, gan fod mynwent gist arall wedi’i chofnodi ym Mryn-henllan
gerllaw, y mae ei henw yn awgrymu iddi ragflaenu St Brynach o bosibl.
Mae eglwys plwyf Bosherton a Maenorbyˆ r yn gorwedd
o fewn Arglwyddiaeth Penfro, ardal a gafodd ei seisnigeiddio o ddyddiad
cynnar ac a barhaodd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid. Mae’n bosibl
bod y fynwent gylchog yn Bosherton, a estynnwyd yn ddiweddarach yn arwydd
pwysig ei bod yn dyddio o gyfnod cyn y Goncwest. Mae’r eglwys bresennol
yn adeilad bach, cromennog ar ffurf croes, wedi’i wneud o garreg
galch lanw, gyda thwˆ r gorllewinol a thramwyfeydd cam rhwng y transeptau
a’r côr - sef morffoleg a gwead sy’n nodweddu eglwysi
de sir Benfro. Mae Maenorbyˆ r yn llai nodweddiadol am ei bod yn
adeilad mawr a chanddi ddwy eil a thwˆ r gogleddol o fewn mynwent
betryalog. Ymddengys mai dim ond un capel gorffwys oedd yn y plwyf ffrwythlon
hwn a fu gynt yn boblog - yn Jameston, lle roedd o bosibl yn sefydliad
hwyr - ac mae’n amlwg i eglwys y plwyf gael ei hadeiladu i wasanaethu
poblogaeth fawr. Mae ei thwˆ r yn dirnod gweladwy iawn sy’n
weladwy o Fae Maenorbyˆ r. Ceir tystiolaeth amgylchiadol i Gastell
Maenorbyˆ r gael ei sefydlu ar safle annedd gynharach, neu lys uchelwr
ac mae’r pellter rhyngddo a’r eglwys, y mae dyffryn yn ei
wahanu oddi wrthi, yn wahanol iawn i’r berthynas agos rhwng yr eglwys
a’r castell a welir mewn aneddiadau Eingl-Normanaidd trefedigaethol.
Yna mae’n bosibl bod i’r eglwys hefyd darddiad canoloesol
cynnar. Mae morffoleg y pentref a’r ffaith iddi gael ei chysegru
i Teilo, hefyd yn awgrymu bod eglwys y plwyf yn Ystagbwll Elidor - sy’n
gorwedd ychydig y tu hwnt i ardal nodwedd Llys Ystagbwll - hefyd yn tarddu
o gyfnod cyn y goncwest.
Mewn gwirionedd yr unig eglwys sy’n amlwg yn eglwys
newydd a sefydlwyd wedi’r goncwest ym mhedair ardal y gofrestr yw
eglwys Trefdraeth. Fe’i sefydlwyd cyn i’r dref gael ei sefydlu
ar ddiwedd y 12fed ganrif. Mae’n ‘eglwys fwrdeistrefol’
fawr groesffurf, a gafodd ei hadnewyddu ddwywaith (yn helaeth) yn y 19eg
ganrif ond sydd wedi cadw twˆ r gorllewinol tal a chain sy’n
dyddio o’r 15fed neu’r 16eg ganrif. Mae’n weladwy iawn
o’r tir a’r môr. O fewn plwyf Trefdraeth ac ardal y
gofrestr gorweddai gynt ddau gapel i bererinion ar y llwybr i Eglwys Nyfer,
sef canolfan cwlt Brynach. Ymddengys i’r cwlt hwn, er iddo ddeillio
o’r cyfnod cyn y goncwest, fod ar ei anterth yn ystod y 15fed ganrif
a’r 16eg ganrif. Nid yw’r capeli yn bodoli mwyach, ac nid
yw union leoliad Capel Curig yn hysbys. Safai Capel Dewi wrth ymyl ffordd
bresennol yr A487, gan ddangos tarddiadau cynnar y llwybr. Ni fyddai’r
naill gapel na’r llall yn ganolbwynt naturiol i anheddiad.
Nid oes unrhyw ddaliadau nac ystadau mynachlogaidd o’r
cyfnod wedi’r Goncwest o fewn y pedair ardal. Roedd Eglwys Maenorbyˆ
r yn eiddo i briody Benedictaidd yn Monkton, sir Benfro.
CESTYLL CANOLOESOL
Gorweddai’r castell carreg mawr ym Maenorbyˆ
r ym mhen Maenor Maenorbyˆ r, sef arglwyddiaeth neu farwniaeth fên
Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, a ddaliwyd gan wasanaeth 5 marchog.
Sefydlwyd y faenor a’r castell gan yr arglwyddi Normanaidd o’r
enw de Barri, a gafodd Faenorbyˆ r - o bosibl yn wobr am wasanaeth
i’r goron - erbyn dechrau’r 12fed ganrif; roedd Odo de Barri
yn stiward Castell Penfro, i Harri’r Cyntaf, yn 1118. Fel llawer
o’r cestyll cynnar yn y De-orllewin, dewiswyd lleoliad ar yr arfordir
er mwyn cael cyflenwadau dros y môr yn hawdd. Mae’n gastell
a chanddo ddau fur, yn sefyll ym mhen cefnen hir isel. Mae ganddo neuadd
fawr a thwˆ r a adeiladwyd ganol neu ddiwedd y 12fed ganrif. Mae’n
bosibl mae hon yw’r enghraifft gynharaf o adeilad carreg seciwlar
yn sir Benfro. Mae adfeilion helaeth wedi goroesi, fel y gwnaeth elfennau
o’r dirwedd faenorol y mae’n gorwedd ynddi gan gynnwys pyllau
pysgod lleidiog a safle colomendy. Ymddengys bod enw’r castell a’r
faenor yn tarddu o gwmwd Maenor Pyr a fodolai eisoes, sy’n awgrymu
o bosibl fod canolfan weinyddol eisoes ar safle’r castell, ac yn
llys y cwmwd cyn y 12fed ganrif. Yn wir, awgryma topograffi’r safle
mai caer bentir o’r oes haearn a fu’n sefyll ar y safle yn
wreiddiol. Roedd y castell wedi dechrau dadfeilio erbyn dechrau’r
17eg ganrif ond cafodd ei gryfhau unwaith eto yn ystod y Rhyfel Sifil
pan gipiwyd ef, heb wrthwynebiad, gan y Senedd. Ar ôl cyfnod o raddol
ddadfeilio cafodd ei adnewyddu’n rhannol ddiwedd y 19eg ganrif.
Olion cloddwaith tomen a beili yw Castell Poeth, ger
Llanwnda, ac efallai mai Castell Wladus yw hwn, sef enw trefgordd maenor
Villa Grandi yn yr Extent of Cemaes 1326. Fel arall nid oes iddo ddim
hanes cofnodedig. Efallai mai castell Cymreig ydyw, neu gastell a sefydlwyd
gan Esgobion Tyddewi sy’n gorwedd o fewn Arglwyddiaeth Pebidiog,
neu’n fwyaf tebygol gallai fod yn gastell dros dro a sefydlwyd yn
ystod y cyfnod o ansicrwydd ar ddechrau’r 12fed ganrif, pan oedd
tiroedd yr esgob ei hun o dan fygythiad o du arglwyddi seciwlar cyfagos.
Mae’n bosibl bod castell cloddwaith arall o darddiad yr un mor ansicr
wedi sefyll yn y drefgordd gyfagos yng Nghastell.
Yr unig safle pendant arall lle y bu castell yn y pedair
ardal yw Trefdraeth, lle y newidiwyd safle. Canolbwynt Barwniaeth Cemaes,
fel y’i sefydlwyd gan arglwyddi Fitzmartin, oedd castell yn Nyfer
a gipiwyd gan y Cymry yn 1191. Ar ôl ail-gipio’r farwniaeth
yn 1197 sefydlodd y teulu Fitzmartin fwrdeistref yn Nhrefdraeth a gafodd
ei chodi o amgylch cloddwaith gylchog fach ym mhen gogleddol y dref bresennol,
ger y lan. Ni chafodd ei gryfhau erioed yn adeilad carreg. Fe’i
cipiwyd gan y Cymry yn 1204, 1215 ac eto yn 1257. Mae’n debygol
mai wedi hynny y symudwyd y castell i’w safle presennol, ar fryncyn
naturiol ym mhen deheuol y dref. Roedd y castell newydd hefyd yn cynnwys
un caeadle. Adeiladwyd muriau carreg, tyrrau a phorthdy ar ddiwedd y 13eg
ganrif neu ddechrau’r 14eg ganrif. Roedd wedi dadfeilio erbyn y
cyfnod canoloesol diweddar, ond fe’i hadnewyddwyd yn rhannol yn
y 19eg ganrif, ac mae olion helaeth wedi goroesi.
Dichon fod Llys Ystagbwll wedi cael ei adeiladu ar safle
annedd amddiffynedig neu gastell. Ymddengys yr enw ‘Ystagbwll’
mewn rhestr o 19 o ‘gestyll hynafol’ yn sir Benfro, a luniwyd
gan George Owen yn 1599. Mae’r rhestr yn cynnwys sawl castell nad
oedd yn cael ei ddefnyddio erbyn hynny, megis Castell Pill a Chastell
Martin, y bu’r naill a’r llall ond yn safleoedd cloddwaith,
ac mae’n debygol iddynt gael eu gadael erbyn 1599. Fodd bynnag,
mae’r rhestr hefyd yn cynnwys Dale, lle y cyfeiria at y plasty amddiffynedig
presennol neu gloddwaith cynharach. Mae llawer yn dibynnu ar ddiffiniad
Owen o ‘castell hynafol’. Awgryma, o leiaf, fod preswylfa
o bwys ar y faenor yn 1599, o bosibl ar safle’r plasty presennol.
Nid oes unrhyw dystiolaeth faes ar gyfer unrhyw safle arall, ond mae’n
bosibl iddi gael ei dinistrio pan gynlluniwyd y parc.
CAEAU AGORED A’U HAMGÁU
Dengys tystiolaeth cartograffeg fod y caeau agored (neu
lain-gaeau) o amgylch Trefdraeth yn dal i fodoli yn 1758, er yr ymddengys
fod y confensiwn blynyddol o rannu lleiniau rhwng bwrdeiswyr wedi dirwyn
i ben a bod lleiniau naill ai ym meddiant unigolion cyfoethog neu o dan
eu rheolaeth. O’r sefyllfa hon, mater syml i’r unigolion hyn
oedd cyfuno eu lleiniau yn gaeau mawr fel y gwelwn heddiw. Roedd y broses
hon o amgáu wedi’i chwblhau erbyn yr arolwg degwm yn 1844.
Mae’n debygol i brosesau tebyg fod ar waith o fewn yr hen gaeau
agored ym Mryn-henllan, er nad oes dim tystiolaeth map i gefnogi hyn.
Yn Bosherton mae’n debygol iawn i ystad Llys Ystagbwll fod yn allweddol
o ran amgáu’r caeau agored a chreu’r system a welwn
heddiw, ond unwaith eto, nid oes tystiolaeth i gefnogi hyn nac o’r
cyfnod y digwyddodd. Ar draws Pen Caer creodd deiliadaeth Gymreig dirwedd
o leiniau byrion mewn caeau agored, yn wahanol i’r systemau wedi’u
seisnigeiddio a gafwyd yn Nhrefdraeth a Bosherton. Fodd bynnag, yr unig
dystiolaeth bendant am hyn yw ddau fap ystad o ddechrau’r 19eg ganrif
o eiddo ym meddiant Esgob Tyddewi. Roedd y ddau eiddo yn cynnwys lleiniau
gwasgaredig heb eu hamgáu a gafodd eu hamgáu yn gaeau ar
siâp rheolaidd erbyn canol y 19eg ganrif. Y broblem gyda’r
dystiolaeth hon yw bod y tir ym meddiant yr esgob o bosibl wedi dod o
dan system ddeiliadol wahanol i’r hyn a geid mewn mannau eraill,
neu system ddeiliadol hynafol a oedd yn dal i weithredu ar dir yr esgob
ar ôl i gaeau agored mewn mannau eraill gael eu hamgáu.
LLAIN-GAEAU MAENORBYR
Mae rhan orllewinol ardal gymeriad Maenorbyˆ r yn
cynnwys bloc ar wahân o lain-gaeau hirgul, sydd wedi’u hamgáu
bellach. Mae nifer o awduron wedi ceisio diffinio a dyddio’r system
caeau (Austin 1988, Kissock, 1993, Roberts 1987). Awgrymodd Roberts mai
Eingl-Normanaidd ydyw, ac yn wir mae llawer o’r caeau yn dangos
olion ffurf ddolennog sy’n nodweddiadol o aredig canoloesol. Fodd
bynnag, fel y nododd awduron eraill megis Austin a Kissock, nid yw’r
system yn nodweddiadol o’r cyfnod canoloesol ac ymddengys ei bod
yn gorwedd o dan aneddiadau diweddarach megis Manorbier Newton a Jameston.
Mae’n fwy tebygol ei bod yn tarddu o’r cyfnod cynhanesyddol,
o’r oes efydd yn fwy na thebyg. Mae’n gyfechelin â llwybr
cynhanesyddol - “The Ridgeway” sydd bellach yn ffin i ymyl
ogleddol y system ac mae nifer o grugiau crwn o’r oes efydd ar hyd-ddi.
Mae’n grair o bosibl o system caeau gynhanesyddol helaethach sydd
wedi cael eu cuddio neu eu colli mewn mannau eraill, ond sydd i’w
gweld ymhellach i’r gorllewin yn ardal Castell Martin, ac yn wir,
gall gyfrif am y caeau hirgul yn Bosherton (ardal Cwningar Ystagbwll y
gofrestr). Mae’n ddiddorol nodi o’r tri math o ddeiliadaeth
a fodolai o fewn Maenor fodern Maenorbyˆ r, dim ond un - ‘deiliadaeth
hwsmonaeth’ a gofnodir o fewn y llain-gaeau, sy’n awgrymu
ei bod yn olion o ddeiliadaeth gymunedol gynharach. Mae’r ffiniau
dolennog presennol o bosibl o ganlyniad i’r ailddefnydd o’r
caeau yn y cyfnod canoloesol a’r broses o’u hamgáu
yn ddiweddarach
FFINIAU CAEAU
Ar draws y De-orllewin clawdd o bridd a gwrychen arno
yw’r math mwyaf cyffredin o ffin cae o bell ffordd, ac mewn rhai
tirweddau, mae’n beth anghyffredin gweld unrhyw beth arall. Ym mhedair
ardal y gofrestr a ddisgrifir yma, fodd bynnag, mae mwy o amrywiaeth:
Clawdd o bridd a cherrig a gwrychyn arno yw’r math
mwyaf cyffredin a gellir ei weld ym mhob un o bedair ardal y gofrestr.
Gallant fod yn anferth, yn enwedig ar hyd ffyrdd a lonydd, hyd at 3m o
uchder, ond yn gyffredinol maent rhwng un a dau fetr o uchder. Mae sawl
amrywiaeth ar y math hwn, ond gan fod llystyfiant trwchus yn aml yn tyfu
ar y cloddiau nid yw’n bosibl fel arfer gwahaniaethu rhyngddynt.
Ymddengys mai cloddiau pridd syml yw’r is-fath mwyaf cyffredin.
Mae gan rai wyneb carreg, wedi’i osod yn llorweddol neu ar batrwm
pen saeth, ac mae eraill yn cynnwys haenau o bridd a cherrig bob yn ail
- ond lle mae craidd y clawdd yn weladwy ymddengys bod yr is-fath olaf
hwn yn anghyffredin iawn. Anghyffredin yw cloddiau wedi’u codi o
gerrig llanw ac yn aml nid yw’n amlwg p’un a ydynt wedi’u
hadeiladu yn y ffordd hon ynteu waliau sych ydynt sydd wedi dymchwel.
Nid yw’n anghyffredin gweld dau neu fwy o’r is-fathau hyn
mewn un ffin. Er enghraifft o amgylch clwyd neu lle mae lonydd yn arwain
at fuarth mae’n arferol bod wyneb cerrig gan glawdd pridd i’w
ddiogelu rhag gwartheg yn rhwbio eu hunain yn eu herbyn. Fel rheol mae
gwrychoedd wedi’u cynnal yn well ac yn fwy trwchus ar dir ffermio
is cysgodol ac maent yn mynd yn fwyfwy tenau, isel ac anniben wrth godi
i dir uwch a/neu wrth iddynt gael eu hamlygu i’r prif wyntoedd gorllewinol.
Waliau sych sydd fwyaf cyffredin ar ymylon Comin Carningli
ac yn agos i’r tir uchel o amgylch Garn Fawr, er nad oes llawer
o enghreifftiau ger Maenorbyˆ r. Yn aml maent mewn cyflwr gwael ac
mae rhai enghreifftiau wedi dymchwel.
Yn Ystagbwll mae waliau morter yn fwyaf cyffredin, er
bod enghreifftiau ym Maenorbyˆ r. Dim ond yn ardal Calchfaen Carbonifferaidd
de sir Benfro y gellir eu gweld gan eu bod wedi’i hadeiladu o’r
calchfaen lleol ac wedi’u clymu â morter calch. Ym Maenorbyˆ
r maent fel arfer i’w gweld wrth ymyl ffyrdd neu lonydd, maent yn
weddol isel ac maent yn aml wedi’u cuddio gan wrychoedd sydd wedi
tyfu wrth eu hymyl. Yn Ystagbwll maent yn aml yn gysylltiedig â
Llys Ystagbwll ac maent yn gallu bod yn sylweddol iawn, dros 2 fetr o
uchder. Yn Ystagbwll ar ben rhai waliau mae darnau o galchfaen a elwir
yn lleol yn babbaloobies. Defnyddir calchfaen wedi’i naddu mewn
pyst clwydi a cheir nodweddion tebyg yn Ystagbwll a Lydstep.
Mae ffensys gwifren hefyd yn rhan o lawer o’r ffiniau
hanesyddol a ddisgrifir uchod, ond mae’n anghyffredin dod o hyd
i ffensys gwifren yn unig, ac eithrio o bosibl ar ymylon Comin Carningli.
Mae sawl ffactor yn pennu’r math o ffin sy’n
cael ei hadeiladu gan gynnwys: y defnyddiau sydd ar gael, pa mor agored
i’r tywydd ydyw, pa mor sefydlog y mae angen iddi fod, traddodiad
a’r cyfnod adeiladu. Yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif
pan oedd aneddiadau yn cael eu sefydlu ar rostir ar lethrau Comin Carningli
uwchlaw Trefdraeth, adeiladwyd waliau sych am fod cerrig ar gael yn hawdd
o’r tir a oedd newydd ei glirio. Ond ar yr un pryd ychydig gannoedd
o fetrau i’r gogledd adeiladwyd cloddiau pridd a gwrychoedd arnynt
pan grëwyd caeau o siâp rheolaidd o hen gaeau agored Trefdraeth,
oherwydd yma roedd canrifoedd os nad miloedd o ganrifoedd o amaethu a
chlirio caeau wedi cael gwared ar yr holl gerrig ar yr wyneb. Ym Maenobyˆ
r cloddiau pridd a cherrig a gwrychoedd yn tyfu arnynt yw’r math
traddodiadol o ffin, ond lle mae angen mwy o ddiogelwch y naill ochr a’r
llall i ffyrdd a lonydd, neu lle na all gwrychoedd ffynnu, megis mewn
lleoliadau sy’n agored i’r gwynt wrth ymyl clogwyni, defnyddir
waliau morter. Heb os, estheteg fu cymaint o ddylanwad ar y dewis o waliau
cerrig morter uchel â’r angen i bennu terfyn ar ystad Llys
Ystagbwll yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.
YSTADAU ÔL-GANOLOESOL
Mae Llys Ystagbwll, sef yr unig ystad ôl-ganoloesol fawr o bwys
o fewn pedair ardal y gofrestr, wedi cael effaith ddofn ar y dirwedd hanesyddol
yn ne-orllewin sir Benfro. Mae’r tir parc a’r gerddi a grëwyd
yn y 18fed ganrif o amgylch y plasty sydd wedi ei ddymchwel bellach yn
elfen amlwg a etifeddwyd o’r ystad. Ymhlith y dylanwadau mwyaf cynnil
mae’r defnydd cyffredin o waliau cerrig morter yn hytrach na chloddiau
a’r ffermdai, adeiladau fferm a bythynnod o safon uchel a adeiladwyd.
Yn llai amlwg y mae dylanwad yr ystad ar agweddau eraill ar y dirwedd
hanesyddol. Er enghraifft, mae’n debygol iawn mai’r ystad
a fu’n gyfrifol am ad-drefnu’r caeau agored o amgylch Bosherton
i greu’r system o gaeau o siâp rheolaidd a welwn heddiw.
COMIN A MYNYDD
Roedd y tir comin heb ei amgáu yn y De-orllewin
ar ddwy ffurf wahanol -
i) Tir comin ffurfiol yr oedd rhyddfreinwyr yn dal hawliau
pori arno fel rhan o’u rhwymedigaethau a’u breiniau maenorol,
neu
ii) ardaloedd o dir llai ffrwythlon, gwlyb yn aml, a roddwyd o’r
neilltu fel gwastraff anffurfiol.
Ceir tir ymylol heb ei amgáu mewn tair o bedair
ardal y gofrestr. Ceir sawl ardal o fewn ardal Pen Caer: Garn Fawr a Phen
Strwmbwl y gofrestr, yr ymddengys bod rhai ohonynt yn dir comin ffurfiol,
gan gynnwys Gwaun Ciliau, Waun Morfa, comin Garn Nelu a chomin Pawennwch.
Efallai mai gwastraff anffurfiol yw ardaloedd eraill, sydd wedi cael eu
gadael i fynd yn borfa eto yn y cyfnod ôl-Rufeinig neu gyfnodau
hanesyddol cynnar. Mae’r rhain yn cynnwys ardal helaeth o dir heb
ei amgáu yn Ogof-y-drwg, sy’n gorwedd dros system caeau sydd
heb ei dyddio ond sydd o bosibl yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol, ac ardal
fach ym Mhen Crincoed. Mae llethrau uwch y gefnen o’r dwyrain i’r
gorllewin ar draws y penrhyn, Garn Fawr a Garnwnda, yn foel ac yn greigiog
iawn, ac mae’n bosibl na chawsant eu hamgáu tan y galw mawr
am dir yn y cyfnod ôl-ganoloesol diweddarach. Yma, mae enwau ffermydd
megis ‘North Pole’ a Llys-y-frân yn dyst i natur ddiffaith
y pridd. Mae’n bosibl bod yr ardal hon yn gomin ffurfiol - dengys
map ystad o 1837 fod eiddo anghysbell yn berchen ar llain-gae cul yn yr
ardal, sy’n awgrymu mai tir comin ydoedd a gafodd ei rannu wedyn
ymhlith yr eiddo cyfagos. Cofnodwyd yr eiddo anghysbell dan sylw ei hun
yn yr 17eg ganrif.
Roedd Mynydd Carningli, sef ucheldir heb ei amgáu
sy’n codi yn union i’r de o Drefdraeth yn nodwedd amlwg yn
yr ardal hon o’r gofrestr ac mae’n parhau i fod. Er bod tystiolaeth
o amaethu cynhanesyddol wedi goroesi ar lethrau Mynydd Carningli, yn hanesyddol
rhostir agored oedd y tir erioed, yr oedd y defnydd ohoni wedi’i
ffurfioli yn un o siarteri Arglwydd Cemaes, Nicholas Fitzmartin, ar ddiwedd
y 13eg ganrif, lle y rhoddwyd yr hawl i bori ar ‘dir comin yr arglwydd’
i rydd-ddeiliaid Cemaes. Pennir hyd a lled y comin, a libart y fwrdeistref,
yn y siarter. Roedd Comin Carningli yn dal i gael ei gofnodi’n dir
heb ei amgáu yr oedd gan fwrdeiswyr y fwrdeistref yr hawl i bori
cyffredin arno ar gyfer ‘all manner of cattle’ yn yr Extent
of Cemaes sy’n dyddio o ddiwedd yr 16eg ganrif. Ymddengys nad oedd
y llethrau is ar yr ochr ogleddol, sy’n cyd-ffinio â Threfdraeth,
wedi’i hamgáu tan ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r
19eg ganrif. Mae Comin Carningli i’r gorllewin yn cyd-ffinio â
rhostir Mynydd Melyn, sef tir cymysg y cofnodwyd yn yr Extent ei fod yn
ffi un marchog, wedi’i ddal gan Farwniaeth Cemaes.
Ymddengys nad oedd unrhyw dir pori cyffredin ym Maenor
Maenorbyˆ r. Fodd bynnag, cofnodir bod yno dir ymylol heb ei amgáu
mewn arolwg o ddechrau’r 17eg ganrif. Roedd hwn yn hen ddemên
barwnol y gadawyd iddo fynd yn ‘dir dirywiedig’ nes cael ei
brydlesu yn y cyfnod modern cynnar drwy fath o ddeiliadaeth o’r
enw ‘censory hold’ pan oedd yn aml yn cael ei alw yn ‘waun’.
Ymddengys na chafodd ei amgáu tan ganol neu ddiwedd y 17eg ganrif.
TWYNI TYWOD/CWNINGAR
Mae tywod chwyth yn Ystagbwll, ac mewn ardaloedd eraill
yn ne-orllewin sir Benfro y tu allan i bedair ardal y gofrestr megis Twyni
Linney a Thwyni Brownslade, wedi creu tirwedd hanesyddol fach, ond hynod
anghyffredin. Dechreuodd tywod gronni yn ystod y cyfnod cynhanesyddol
dros aneddiadau a chaeau a sefydlwyd ar y priddoedd cyfoethog a oedd yn
gorwedd dros farianbridd a chalchfaen carbonifferaidd, gan eu cuddio yn
y pen draw a gwneud yr ardal yn anaddas ar gyfer amaethyddiaeth. Yn y
cyfnod canoloesol defnyddiwyd yr ardal fel cwningar, a heddiw caiff ei
rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen arni.
ADEILADAU
Pensaerniaeth ddomestig yn y cyfnod canoloesol diweddar
– modern cynnar
Ac eithrio Maenorbyˆ r, nid yw’r pedair ardal
yn cynnwys llawer o adeiladau a godwyd cyn y 18fed ganrif. Ar y llaw arall,
mae Maenorbyˆ r, gyda’i chyfoeth a’i ffrwythlondeb canoloesol/ôl-ganoloesol
cynnar, system deiliadaeth a chyflenwad hwylus o galchfaen, yn unigryw
yn y De-orllewin am nifer ac ansawdd ei hadeiladau o’r cyfnod canoloesol
diweddar/ôl-ganoloesol cynnar.
Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn adeiladau domestig,
a safant ym mhen dwyreiniol Maenor Maenorbyˆ r a Phenalun, lle yr
ymddengys bod y faenor yn dal y tir fel rhydd-ddaliad o gyfnod cynnar.
Erbyn y cyfnod canoloesol diweddar roedd yr ardal wedi mynd yn glwstwr
o ffermydd preifat, mawr, lle nad arferid amaethyddiaeth gymunedol. Er
enghraifft, dywedwyd bod y rhydd-ddaliad cynnar pwysig yn Norchard yn
gyfwerth â hanner ffi marchog ynddo’i hun, ac fe’i cofnodwyd
o bosibl yn y 13eg ganrif. Mae’r tyˆ yn dal i gynnwys elfennau
canoloesol gan gynnwys pen gorllewinol a phen dwyreiniol y prif adeiladau,
sy’n ffurfio bwa dros y llawr daear. Ymddengys mai dau ben neuadd
ydynt sydd wedi goroesi, o bosibl o’r 15fed ganrif. Mae gan y naill
a’r llall, ar lefel y llawr cyntaf, simnai ystlysol yn ymestyn allan
ar gorbelau, yn amlwg yn gymesur â’i gilydd. Yn yr un modd,
aseswyd y rhydd-ddaliadau pwysig yn Tarr a Carswell yn 1326 fel un rhan
o ddeg o ffi marchog yr un, a ddaliwyd yn uniongyrchol gan Ieirll Penfro,
ac mae gan bob un dyˆ deulawr cromennog bach sydd o bosibl yn cyfateb
â thyrrau ‘pele’ a welir mewn rhannau eraill o dde sir
Benfro. Credir yn gyffredinol eu bod yn dyddio o’r 15fed ganrif
neu’r 16eg ganrif ac mae’n bosibl mai amddiffynfeydd gwirioneddol
oeddent - rhag môr-ladron - yn hytrach na rhywbeth am sioe unig.
Ymddengys bod Whitewell sydd bellach yn adfeiliedig hefyd wedi bod yn
rhydd-ddeiliadaeth breifat o’r cyfnod canoloesol diweddar ymlaen,
a cheir olion o leiaf dri adeilad canoloesol a muriau cysylltiedig, o
bosibl yn dyddio o’r 14eg neu’r 15fed ganrif. Mae’r
prif adeilad yn un mawr ac iddo ddeulawr yn fwy na thebyg, y mae adain
gromennog wedi cael ei hychwanegu ato. Mae adeilad(au) bach i’r
dwyrain, gan gynnwys talcen, a thalcen adeilad mawr i’r gorllewin,
y mae’r rhan fwyaf ohono wedi’i golli o dan estyniadau diweddar
i dyˆ cyfoes gerllaw.
Awgrymir bod o leiaf un o’r adeiladau yn adeilad
gweinyddol. Cofnodir yn y 16eg ganrif fod rhydd-ddeiliaid maenor Maenorbyˆ
r a Phenalun oll yn gorfod gwneud dyledogaeth i’r llys ‘Langstone’
bob pythefnos. Dadleuwyd bod hwn yn fan cyfarfod awyr agored, mewn cae
lledgylchog o amgylch maen hir o’r oes efydd ar y ffin rhwng plwyf
Maenorbyˆ r a phlwyf Phenalun, ychydig i’r gogledd o’r
adeilad canoloesol diweddar o’r enw ‘Llys’ Lydstep.
Dadleuwyd hefyd i’r Llys gymryd lle’r cae fel tyˆ llys.
Mae’n neuadd-dy calchfaen petryalog sy’n cynnwys llawr cyntaf
dros llawr daear cromennog. Preswylfa oedd ei brif swyddogaeth yn ddi-os,
ond efallai fod iddo rôl weinyddol faenorol hefyd. Saif mewn lleoliad
amlwg yn y pentref, yn agos i ffordd yr A4139, ac mae’n cael ei
atgyfnerthu ar hyn o bryd. Mae’n debyg bod adeilad carreg canoloesol
diweddar yn y pentref, o’r enw ‘Llys yr Arfau’.
Pensaernïaeth ddomestig y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg
Heblaw am y tai a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif a thai diweddarach, mae’r
rhan fwyaf o bensaerniaeth ddomestig pedair ardal y gofrestr a ddisgrifir
yma (Pen Caer: Garn Fawr a Phen Strwmbwl – Trefdraeth a Charningli
– Maenorbyˆ r – Cwningar Ystagbwll) yn dyddio o’r
18fed ganrif neu’r 19eg ganrif, gyda’r rhan fwyaf ohonynt
wedi’u hadeiladu yng nghanol neu ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ar wahân
i Lys Ystagbwll nid oes unrhyw dai mawr, a gellir dosbarthu’r rhan
fwyaf o’r anheddau yn fythynnod/anheddau amaethyddol bach, yn ffermdai/ffermdai
bonedd, ac yn dai trefol/tai pentref.
Bythynnod/anheddau amaethyddol bach: Mae’r rhain
yn fwyaf niferus yng ngogledd sir Benfro, lle mae’r niferoedd mwyaf
ohonynt i’w gweld ar ymylon tir comin neu fynydd-dir heb ei amgáu.
Maent i’w gweld hefyd yn ne sir Benfro, er nad ydynt mor gyffredin
yno. Mae bythynnod unllawr yn dyst i hen ffordd o fyw cymuned ffermio
arfordir y Gorllewin, bywyd a oedd yn galed ac yn aml yn llwm. Mae llawer
yn deillio o’r arfer o sgwatio neu feddiannu a chodi tyˆ ar
dir comin ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif yn
ystod cyfnod pan oedd y boblogaeth yn tyfu’n gyflym, ond anheddau
fferm bach yn sefyll mewn daliadau tlawd yw rhai ohonynt. Gwelir y math
hwn o annedd fel arfer mewn tirweddau ymylol - ar ymyl comin, neu ar ffiniau
rhostir - ac maent yn aml yn gysylltiedig â chaeau o siâp
afreolaidd ar dir anffrwythlon gydag ychydig iawn o goed, megis y rhai
sydd i’w gweld ar y llethrau uwchlaw Trefdraeth. Ceir rhai enghreifftiau
da iawn o fythynnod unllawr, wedi’u hadeiladu o gerrig (wedi’u
paentio neu wedi’u rendro), a tho llechi arnynt - yn aml wedi’u
growtio neu â haen o forter - yn ardal Pen Caer: Garn Fawr a Phen
Strwmbwl, gan gynnwys un a ddefnyddiwyd gan yr arlunydd John Piper. Fodd
bynnag mae’r anheddau cymharol fach hyn, sy’n fwy niferus
ar lethrau Comin Carningli uwchlaw Trefdraeth, lle mae dosbarthiad dwys
o’r bythynnod ynghyd â chaeau bach o siâp afreolaidd
yn awgrymu’n gryf iddynt gael eu hadeiladu ar dir comin ar ddiwedd
y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Fodd bynnag mae’r
anheddau yma yn fwy o faint - weithiau â deulawr - ac nid oes ganddynt
fwy o fanylion pensaernïol nag sy’n arferol mewn aneddiadau
sgwatwyr. Ymddengys i lawer ohonynt gael eu hailadeiladu ar ddiwedd y
19eg ganrif. Dichon fod y deiliaid yn gallu ychwanegu at eu hincwm amaethyddol
gyda chyflogaeth yn Nhrefdraeth, a thrwy hynny ei gwneud yn bosibl iddynt
adeiladu tai o ansawdd gwell. Mae’r bythynnod a’r anheddau
amaethyddol bach hyn wedi dod yn boblogaidd fel ail gartrefi, cartrefi
gwyliau neu gartrefi ymddeol; o ganlyniad mae’r tai allan bach sy’n
gysylltiedig â hwy yn aml wedi cael eu haddasu at ddefnyddiau nad
ydynt yn ymwneud ag amaethyddiaeth.
Ffermdai/ffermydd bonedd bach: Mae’r rhan fwyaf
o ffermdai yn weddol fach o ran maint, maent yn dyddio o ganol neu ddiwedd
y 19eg ganrif, ac nid oes ganddynt ryw lawer o fanylion pensaernïol.
Ceir amrediad o fathau o adeiladau o adeiladau cwbl werinol - tai a chanddynt
ffenestri bach wedi’u lleoli’n afreolaidd, a diwyg anghymesur
sy’n cyfeirio’n ôl at gyfnod cynharach o rannu cyntedd/parlwr,
ystafelloedd isel ac wedi’u hadeiladu o gerrig llanw - i dai Sioraidd
ac iddynt gynllun a diwyg gymesur, ffenestri ac ystafelloedd uchel, defnyddiau
adeiladu o ansawdd da a llawer o fanylion pensaernïol mewnol ac allanol.
Fodd bynnag mae’r ffermdy arferol yn dilyn y traddodiad cynhenid
Sioraidd: hynny yw mae ganddynt wyneb ffrynt cymesur gyda drws ffrynt
yn y canol, a ffenestr bob ochr i’r drws, tair ffenestr ar y llawr
cyntaf a’r un bwlch rhyngddynt, a simneiau talcen o’r un maint.
Mae’n debygol mai adeiladwr lleol a’u hadeiladwyd. Yr hyn
sydd ei eisiau yw’r ceinder sy’n gysylltiedig ag uchder a
manylion pensaernïol megis casys drysau, pyrth a bondo llydan. O
fewn y pedair ardal a ddisgrifir yma mae tai sydd o radd uwch yn gymdeithasol/economaidd
na’r uchod yn fwy anghyffredin ac mae eu dyddiad yn tueddu i fod
ychydig yn gynharach - diwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg
ganrif - gyda rhai enghreifftiau sy’n sicr yn dilyn y traddodiad
cynhenid megis Trehywl, Pen Caer, gyda’i drychiadau llechi a tho
ac arno haen sment. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o ffermdai o’r
cyfnod a’r dosbarth hwn yn sicr yn y traddodiad Sioraidd, megis
Trefaser Isaf, Pen Caer a Ffermdy West Moor, Maenorbyˆ r. Fel arfer
mae’r ffermdai hyn i’w cael ar dir mwy ffrwythlon na bythynnod/ffermdai
bach ac maent yn gysylltiedig â chaeau rheolaidd, clystyrau o goetir
collddail a lonydd a ffyrdd syth. Y fferm fwyaf crand yn y pedair ardal
dan sylw yma yw Fferm Ystad Ystagbwll. Yn yr enghraifft hon mae’r
fferm a’i hadeiladau nid yn unig wedi’u gwahanu oddi wrth
y prif dyˆ , Llys Ystagbwll, yn ôl y ffasiwn statws uchel arferol,
ond mae adeiladau’r fferm wedi’u lleoli ychydig ar wahân
i’r Fferm Sioraidd sylweddol.
Tyˆ trefol/tyˆ pentref: Mae Trefdraeth, sef
y brif dref hanesyddol yn y pedair ardal hanesyddol, yn cynnwys nifer
eithriadol o adeiladau domestig o’r 19eg ganrif sydd mewn cyflwr
da. Safant mewn bwrdeisiau a gynlluniwyd ar ddiwedd y 12fed ganrif neu’r
13eg ganrif. Mae’r lleiniau wedi dylanwadu ar faint y tai a’u
lleoliad yn union yn erbyn ffryntiad y stryd. Mae hyn a’r defnydd
cyffredinol o graig ddolerit leol wedi creu nodwedd bensaernïol glir.
O fewn cyfyngiadau o ran maint, lleoliad a defnydd adeiladu, mae amrediad
o fathau o adeiladau domestig wedi datblygu gan gynnwys bythynnod unllawr,
tai deulawr yn y traddodiad cynhenid, a thai mwy sylweddol yn yr arddull
Sioraidd. Unwyd y tai hyn yn derasau, ac nid peth anghyffredin yw gweld
bwthyn unllawr, tyˆ o ddiwedd y 19eg ganrif gyda manylion neo-gothig,
tyˆ Sioraidd a thyˆ deulawr brodorol yn yr un teras. Ceir rhai
enghreifftiau o derasau byr wedi’u hadeiladu yr un pryd yn y dref
ac ar y cyrion megis ar y ffordd i Barrog.
Gellir gweld traddodiad pensaernïol sy’n debyg
i draddodiad Trefdraeth ychydig gilomedrau i’r gorllewin ym mhentref
Dinas Cross/Bryn Henllan. Yma er bod yr anheddiad yn llawer llai ac nad
yw bwrdeisiau canoloesol yn cyfyngu arno ceir amrywiaeth tebyg o dai o’r
19eg ganrif, gyda rhai terasau fel sydd yn Nhrefdraeth.
Mae Wdig, sef yr anheddiad mwyaf ym mhedair ardal y gofrestr, yn cynnwys
tai sy’n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif yn bennaf. Mae’r safle
cyfyngedig wedi helpu i greu cynllun anhrefnus ac ymddengys fel petai’r
tai yn disgyn blith draphlith i lawr ochr serth y dyffryn. Mae bythynnod
a thai hyˆ n cynharach sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, yn
agos i’r gyffordd ar droed ochr y dyffryn. Mae tai diweddarach o’r
19eg ganrif, rhai gyda manylion neo-gothig megis pyrth ac ymylon bondo
yn ymestyn ar hyd gwaelod y dyffryn ac i fyny ochr y dyffryn mewn terasau
hirion, tai pâr neu dai sengl.
Adeiladau fferm traddodiadol
Mae’r adeiladau fferm traddodiadol yn y pedair ardal a ddisgrifir
yma bron i gyd yn dyddio o’r 19eg ganrif. Maent wedi’u hadeiladu
o garreg leol, maent bob amser yn foel, heb rendro sment, ac mae arnynt
do llechi (fel arfer llechi masnachol wedi’u torri â pheiriant,
ond mae enghreifftiau prin o lechi/carreg leol wedi goroesi). Gwelir ysguboriau,
stablau, beudai, cytiau ceirt a stordai ar y rhan fwyaf o ffermydd, gan
awgrymu economi amaethyddol gymysg yn y 19eg ganrif, ond wrth gwrs ar
y ffermydd mwyaf ceir yr amrywiaeth mwyaf o adeiladau a’r adeiladau
mwyaf.
Ceir enghreifftiau o bob grwˆ p ffermio economaidd-gymdeithasol.
Mae Llys Ystagbwll ar frig y pyramid economaidd-gymdeithasol yn y De-orllewin.
Nid yn unig mae Fferm y Plas wedi’i gwahanu oddi wrth y plasty,
ond hefyd mae’r adeiladau fferm eu hunain ychydig o bellter o’r
ffermdy ac maent wedi’u trefnu’n ffurfiol o amgylch cyrtiau,
ac maent o ansawdd hynod uchel (calchfaen nadd patrymog), yn wir o ansawdd
gwell na’r rhan fwyaf o ffermdai yn sir Benfro. Ffermdai ac adeiladau
fferm Sioraidd wedi’u trefnu’n ffurfiol o amgylch cyrtiau
yw nodwedd bensaernïol gref Ystad Ystagbwll, ac maent yn dystiolaeth
o fuddsoddiad mawr yn yr economi amaethyddol ar ddiwedd y 18fed ganrif
ac yn ystod y 19eg ganrif. Nid oes unrhyw ystadau mawr ym mhedair ardal
y gofrestr, ond ceir rhai enghreifftiau da o’r hyn y gellid ei alw
yn dai mân foneddigion neu’n dai boneddigion gydag amrywiaeth
da o adeiladau allan ym Maenorbyˆ r a Phen Caer: Garn Fawr a Phen
Strwmbwl. Yn yr enghreifftiau hyn saif yr adeiladau fferm niferus a helaeth
ychydig ar wahân i’r tyˆ , ac maent wedi’u trefnu’n
ffurfiol o amgylch cwrt. Fodd bynnag, cyfuniad cymharol fach o adeiladau
amaethyddol sydd yn y rhan fwyaf o ffermydd gan amlaf, fel arfer dwy neu
dair rhes, weithiau dim ond un wedi’i threfnu’n anffurfiol
o amgylch cwrt yn agos i’r tyˆ . Ym mhen isaf y raddfa ffermio
economaidd-gymdeithasol mae tyddynnod/bythynnod sydd ond ag un rhes o
adeiladau fferm, ac mae’r rhain yn amlwg yn gysylltiedig â’r
annedd. Gellir gweld enghreifftiau da o’r math hwn o fferm ym Mhen
Strwmbwl ac ar y bryn rhwng Trefdraeth a Chomin Carningli.
Ar bob fferm weithredol mae nifer o adeiladau fferm yn
dyddio o’r 20fed ganrif. Fodd bynnag, nid yw ysguboriau haearn gwrymiog
crwn o ganol y 20fed ganrif yn nodwedd gyffredin iawn o’r dirwedd
fel y maent yn rhannau o ogledd sir Benfro, ac ar wahân i ambell
enghraifft nodedig ni welir ar y cyfan y cyfuniadau mawr iawn o adeiladau
fferm o goncrit, dur ac asbestos sy’n gyffredin i rai ardaloedd,
megis ardal Tyddewi.
O ganlyniad i bwysau allanol ac arferion ffermio sy’n
newid mae llawer o ffermwyr a thirfeddianwyr wedi addasu eu hadeiladau
fferm hyˆ n at ddefnyddiau eraill. Nid yw hyd yn oed y cyfadeiladau
mwyaf yn rhydd rhag y broses hon. Mae adeiladau Fferm Plas Ystagbwll wedi
cael eu troi yn swyddfeydd ac yn ganolfan breswyl. Ym Maenorbyˆ r
ac Ystagbwll mae adeiladau ffermydd ystad a ffermydd mân foneddigion
yn ogystal â ffermydd llai wedi cael eu haddasu ar y cyfan at ddefnydd
preswyl, naill ai anheddau unigol neu lety gwyliau, er mwyn darparu ar
gyfer y niferoedd mawr o ymwelwyr sy’n dod i dde sir Benfro. Mae
rhai adeiladau fferm yn ardal Trefdraeth wedi cael eu haddasu yn yr un
modd, ond yma ar fythynnod a thyddynnod y bu’r prif bwysau. Gan
nad yw llawer o’r rhain yn ddaliadau amaethyddol ymarferol mwyach,
mae’r adeiladau fferm wedi cael eu troi’n garejys, yn weithdai
ac mewn rhai achosion yn anheddau. Nid yw adeiladau fferm Pen Caer: Garn
Fawr a Phen Strwmbwl wedi bod o dan gymaint o bwysau â’r ardaloedd
eraill ac, er bod enghreifftiau o droi adeiladau yn llety gwyliau, mae’r
rhan fwyaf yn dal i weithredu yn y modd traddodiadol.
Mae bron pob un o’r deg enghraifft o adeiladau
allan rhestredig ar ffermydd ym mhedair ardal y gofrestr yn gorwedd ym
mhenrhyn Pen Caer/Pen Strwmbwl. Yma mae’r rhestru yn gogwyddo tuag
at adeiladau fferm o ansawdd gwell megis y rhai yn Nhrefaser, Trehywel
a Threnewydd, ond mae adeiladau llai megis y rhai yn Mhontiago ac yn agos
i bentref Harmony wedi’u cynnwys ar y rhestr. Y tu allan i benrhyn
Pen Caer/Pen Strwmbwl ychydig iawn o adeiladau fferm sydd wedi’u
rhestru, ac enghreifftiau cynnar (diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r
19eg ganrif) a sylweddol yw’r rhain sydd wedi’u rhestru, fel
yn Norchard ger Maenorbyˆ r, a Phenfeidr ger Trefdraeth. Mae hyn
siwˆ r o fod yn adlewyrchiad o’r defnydd parhaus o adeiladau
fferm mewn amaethyddiaeth ym Mhen Caer/Pen Strwmbwl yn ogystal â
gogwydd personol yn y rhestr. Yn sicr mae adeiladau fferm yn nhirwedd
Trefdraeth/Carningli, tir Maenorbyˆ r a thir Cwningar Ystagbwll sy’n
gyfwerth â rhai a geir ym Mhen Caer/Pen Strwmbwl.
Defnyddiau waliau
Cerrig a gloddiwyd yn lleol yw’r defnydd adeiladu traddodiadol yn
nwy ardal y gofrestr yng ngogledd sir Benfro (Pen Caer: Garn Fawr a Phen
Strwmbwl, a Threfdraeth a Charningli) a dwy ardal y gofrestr yn ne sir
Benfro (Maenorbyˆ r a Chwningar Ystagbwll). Mae’r defnydd o
gerrig lleol yn Nhrefdraeth a Bryn-henllan a’r cyrion yn un o’r
rhai mwyaf unigryw yn y De-orllewin. Mae dolerit, y garreg leol, yn amrywio
o liw mêl cynnes i lwydlas tywyll, ac, ar ei ffurf wedi’i
chwarela, gall fod ar siâp briciau sgwâr neu hirsgwar. Mewn
gwaith maen o ansawdd gwell, mae’r ‘briciau’ dolerit
wedi’u gosod yn fras mewn patrwm gan ystyried y defnydd cyferbyniol
a chyflenwol o gerrig lliw gwahanol. Mewn rhai enghreifftiau mae rhesi
o lechi dyffryn Teifi, neu slabiau Dolerit, yn rhoi bandiau llorweddol
cryf yn ffasâd adeilad. Mae’n amlwg mai’r bwriad oedd
y dylai’r gwaith maen hwn o ansawdd gwell fod yn agored a heb ei
rendro â sment. Mae llawer o dai yn Nhrefdraeth a’r ardal
o’i chwmpas wedi’u rendro â sment, er bod tuedd yn ystod
y blynyddoedd diwethaf i’w dynnu i ffwrdd a dangos y gwaith maen.
Mae’r gwaith maen hwn sydd newydd gael ei ddatgelu o ansawdd gwaeth
na’r ‘briciau’ patrymog yn gyffredinol, gan gynnwys
cerrig rwbel dolerit heb eu gosod mewn patrwm. O edrych yn fanwl ar y
gwaith maen hwn yn aml gellir gweld ei fod wedi cael ei wyngalchu cyn
iddo gael ei rendro â sment, ond nid yw’n glir ai o’r
cychwyn cyntaf y gwnaed hynny ac na fu’r gwaith maen erioed yn agored
i’r awyr, neu ai mewn ymateb i ddwˆ r yn treiddio drwy’r
cerrig noeth y gwnaed hynny. Mae bron pob darn o waith maen ar dai allan
fferm heb ei rendro, er nad yw’r gwaith maen o’r ansawdd gorau.
Gwneid defnydd helaeth o galchfaen carbonifferaidd, sy’n gorwedd
o dan ardal Maenorbyˆ r ac Ystagbwll, yn y gorffennol fel defnydd
adeiladu ac at ddibenion eraill megis gwneud calch. Yn draddodiadol dyna
brif ddefnydd adeiladu’r ddwy ardal, ac mae ei ddefnydd mewn adeiladau,
ffiniau eiddo a waliau caeau yn rhoi cysondeb i’r dirwedd hanesyddol.
Yn y tai a’r ffermdai llai o faint, defnyddir rwbel calchfaen heb
eu gosod mewn haenau fel arfer. Mae hyn naill ai wedi’i adael yn
gerrig noeth neu wedi’i rendro â sment. Yn yr adeiladau o
ansawdd gwell, a’r elfennau o’r dirwedd a adeiladwyd gan ystadau
megis pyst clwyd, defnyddir calchfaen wedi’i gloddio a’i naddu.
Mae rhai o’r porthordai yn Lydstep wedi’u hadeiladu yn y modd
hwnnw, ond yn Ystagbwll mae yn ei anterth lle y defnyddiwyd blociau llifedig
o galchfaen mewn llawer o adeiladau’r ystad, gan gynnwys Fferm y
Plasty a’r stablau. Fel gyda’r parth adeiladu dolerit mae
adeiladau allan ffermydd o gerrig noeth. Y tu allan i’r parthau
lle mae cerrig o ansawdd da ar gael yn hawdd, megis ym Mhen Caer, carreg
yw’r prif ddefnydd adeiladu o hyd, ond mae’r gwaith maen wedi’i
rendro â sment fel arfer er mwyn ei ddiogelu rhag y tywydd. Ceir
eithriadau - yn y ffermdai o ansawdd gwell, wedi’u hadeiladu mewn
arddull Sioraidd defnyddir carreg o ansawdd da, wedi’u mewnforio’n
fwy na thebyg o chwareli ychydig gilomedrau i ffwrdd. Unwaith eto, mae
cerrig adeiladau allan ffermydd wedi’u gadael yn noeth.
Mae’r defnydd o lechi crog ar ddrychiadau sy’n
agored i’r tywydd yn elfen gyffredin o adeiladau brodorol ar hyd
arfordir gorllewinol Prydain. Gwelir enghreifftiau ym mhob un o bedair
ardal y gofrestr a ddisgrifir yma. Roedd llechi lleol wedi’u defnyddio
ym mhob un o’r enghreifftiau a nodwyd yn 2002. Ystyr ‘lleol’
yn y cyd-destun hwn yw llechi anfasnachol wedi’u torri â llaw,
er nad yw’r ffynhonnell ‘leol’ ar gyfer y llechi a ddefnyddiwyd
yn ne sir Benfro yn hysbys. Mae llawer o chwareli llechi yng ngogledd
sir Benfro, gyda sawl un ar yr arfordir ger Trefdraeth. Mae’r defnydd
o lechi lleol yn awgrymu i’r drychiadau o lechi crog gael eu codi
dros ganrif yn ôl fwy na thebyg. Gan yr ymddengys nad oes fawr ddim
enghreifftiau o adnewyddu drychiadau llechi crog os o gwbl, mae’n
debygol y bydd y traddodiad adeiladu hwn yn darfod.
Defnyddiau toi
Ar wahân i’r ychydig enghreifftiau a nodir isod, llechi yw’r
defnydd toi yn gyffredinol. Mae bron pob adeilad bellach â tho o
lechi masnachol wedi’u torri â pheiriant o Ogledd Cymru neu’r
tu hwnt, er bod chwareli yn weithredol tan ddiwedd y 19eg ganrif yng ngogledd
sir Benfro, gan gynnwys rhai ar yr arfordir ger Trefdraeth. Yn gyffredin
i rannau eraill o arfordir sir Benfro mae’r defnydd o haen growt
neu sment dros lechi to yn nodweddiadol o’r adeiladau yn y pedair
ardal a ddisgrifir yma, ond yn enwedig y rhai mewn lleoliadau sy’n
agored i’r tywydd ym Mhen Caer a Maenorbyˆ r. Yn draddodiadol
byddai llechi yn cael eu gosod mewn pwti calch i’w hatal rhag codi
yn ystod gwyntoedd mawr. Dros amser, wrth iddo ddirywio, byddai rhagor
o growt calch yn cael ei ychwanegu at wyneb y to. Yn y pen draw byddai
mwy o growt calch na llechi ar wyneb y to. Yn ystod yr 20fed ganrif byddai
haen o sment yn aml yn cael ei hychwnaegu at y to, gan greu wyneb llyfn
heb fawr ddim arwydd o’r llechi oddi tanodd. Mewn rhai achosion,
er mwyn helpu i’r sment lynu, cafodd darnau o wifren bigog eu hestyn
i lawr y to, tua 1m oddi wrth ei gilydd, a’u gorchuddio â
sment, gan greu’r asennau nodweddiadol. Ceir dadl ar hyn o bryd
p’un a ddylai to newydd anelu at edrych yn debyg i ymddangosiad
terfynol yr hen do - gyda haen lawn o sment ac asennau - neu a ddylid
defnyddio cyn lleied o growt â phosibl fel y gall haen lawn o sment
ddatblygu ar y to dros sawl degawd, os nad canrif.
TWRISTIAETH A’R DIWYDIANT
HAMDDEN
Mae pob un o bedair ardal hyn y gofrestr yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol
Arfordir Sir Benfro, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd drwy bob
un ohonynt. Felly caiff ymwelwyr a thwristiaid eu denu i’r ardal.
Fodd bynnag, bach yw effaith y diwydiant twristiaeth ar y dirwedd hanesyddol
yn gyffredinol gan nad oes unrhyw atyniadau mawr i ymwelwyr. Mae cyfleusterau
wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer twristiaid, er enghraifft,
meysydd parcio mewn rhai o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd, megis
traeth Maenorbyˆ r, Pen Strwmbwl, Pyllau Alawon Bosherton a childraeth
Pwll Gwaelod, ond cymharol fach yw’r rhain, ac ychydig o welliannau
eraill megis lledu ffordd a wnaed ar y cyd â hwy. Ar yr adeiladau
hanesyddol y mae’r diwydiant twristiaid wedi cael effaith fawr.
Er enghraifft, mae’r rhes fawr o adeiladau fferm ar Fferm Plas Ystagbwll
wedi cael eu troi’n swyddfeydd ac yn ganolfan breswyl, a cheir llawer
o enghreifftiau o hen adeiladau fferm yn cael eu haddasu at ddefnydd preswyl.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae cymeriad yr adeiladau fferm wedi cael
eu cadw, ond mewn rhai enghreifftiau collwyd tarddiad amaethyddol yr adeiladau.
Mae’r ailddefnydd o’r adeiladau hyn o leiaf wedi’u diogelu,
hyd yn oed os nad yw rhai o’r addasiadau yn gydwedd iawn. Yn yr
ardaloedd llai poblogaidd i dwristiaid yn y De-orllewin, mae adeiladau
fferm gwag, adfeiliedig a wnaed o gerrig yn nodwedd o’r dirwedd.
|