![](../../shim.gif) |
SARON - RHOS
![SARON - RHOS](images/saronrhos1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN379367
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 82
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n
cynnwys coridor cul ar y naill ochr a’r llall i ffordd bresennol
yr A484, sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de trwy ardal gymeriad
Llangeler sydd o bobtu iddi. Cafwyd datblygiadau strimynnog ar hyd y ffordd
yn yr 20fed ganrif, rhwng y ddau anheddiad Saron a Rhos sy’n dyddio
o’r 19eg ganrif. Mae’r ardal hon yn gorwedd o fewn cantref
canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn
rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd
Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin, i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd
nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw
hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry
erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy gydol y 12fed ganrif a’r
13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant
ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys,
ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd
gan goron Lloegr yn 1283. Yn y diwedd daeth yn rhan o Gantref Elfed yn
sir Gaerfyrddin yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro. Rhoddwyd
Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd
y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd
i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant
y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd
trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn
berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol Aofn Teifi o Bentre-cwrt
yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth
canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog
- a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.
Yn wir mae’r ardal gymeriad hon yn un o’r ardaloedd mwyaf
adeiledig yn Uwch-Cych, ond mae’r datblygiadau i gyd yn rhai diweddar
iawn. Yn 1839, cofnodwyd pedwar adeilad yn Saron, gerllaw’r A484,
a adeiladwyd o’r newydd fel ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif.
Mae’r adeiladau yn cynnwys Capel Saron, a sefydlwyd yn 1792. Mae’n
amlwg bod y capel yn un o brif nodweddion yr ardal ac mae enw’r
anheddiad yn deillio ohono. Mae’r adeiladau mewn tirwedd o gaeau
a ffermydd gwasgaredig, sy’n dilyn echel y ffordd ac ymddengys i’r
tir gael ei amgáu ar ddiwedd y 18fed ganrif sy’n golygu eu
bod yn perthyn i’r un cyfnod â’r ffordd dyrpeg. Mae’r
dirwedd yn Rhos yn wahanol. Yma ym mhen uchaf yr ardal gymeriad gerllaw
rhostir agored gwelir patrwm o fythynnod gwasgaredig wedi’u gosod
mewn caeau bach, afreolaidd eu siâp. Mae’n debyg i’r
rhain gael eu sefydlu fel aneddiadau sgwatwyr neu dai unnos ar gyrion
tir comin ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ar ddechrau’r 19eg ganrif.
Datblygodd aneddiadau yn raddol trwy gydol y 19eg ganrif, ac erbyn dechrau’r
20fed ganrif sefydlwyd eglwys fach, capel annibynnol ac Ysgol sul yn Rhos,
ynghyd â rhagor o anheddau yn Rhos a Saron. Roedd yr aneddiadau
hyn yn dal i fod yn fach iawn bryd hynny. Yn ystod tri degawd olaf yr
20fed ganrif ehangodd yr aneddiadau yn gyflym ac mae hyn wedi arwain at
ddatblygiad llinellol parhaol bron o dai a byngalos ar hyd yr hen ffordd
dyrpeg/A484.
![SARON - RHOS](images/saronrhos2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad linellol ar y naill ochr a’r
llall i’r ffordd. Fe’i nodweddir yn bennaf gan dai yn dyddio
o ddiwedd yr 20fed ganrif ond ceir rhai elfennau hþn. Gorwedda ar
y naill ochr a’r llall i ffordd yr A484 ar lethrau esmwyth sy’n
wynebu’r gogledd rhwng 160m uwchben lefel y môr yn Saron ac
i fyny at 230m uwchben lefel y môr yn Rhos. Yn Rhos ceir dosbarthiad
eithaf tynn o fythynnod a thai deulawr a adeiladwyd o gerrig ar ddiwedd
y 19eg ganrif. Mae gan rai adeiladau amaethyddol bach ynghlwm wrthynt
neu’n agos atynt sy’n amlygu eu tarddiad amaethyddol. Cerrig
yw’r deunydd adeiladu traddodiadol. Mae llechi dyffryn Teifi - wedi’u
gosod fel cerrig llanw heb fod yn batrymog - yn fwy cyffredin ar lefelau
is gerllaw afon Teifi, ac mae cerrig o ffynonellau lleol yn fwy cyffredin
ar lefelau uwch tua phen deheuol yr ardal gymeriad. Lleolir dau gapel
bach yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ac Ysgol Sul yma hefyd. Mae tai
modern, yn arbennig byngalos, yn mewnlenwi llawer o’r bylchau rhwng
y tai hþn ar hyd y briffordd. Roedd Saron wedi’i ganoli’n
wreiddiol ar y briffordd lle y ceir rhai o’r adeiladau hþn
gan gynnwys terasau o fythynnod gweithwyr deulawr sydd wedi’u hadeiladu
o gerrig ac wedi’u rendro â sment a chapel sylweddol yn dyddio
o ddiwedd y 19eg ganrif. Lleolir ysgol yn dyddio o’r 20fed ganrif
yma hefyd. Fodd bynnag, erbyn hyn tai modern ar hyd y briffordd ac ar
lonydd cefn yw elfen amlycaf yr anheddiad, ac maent yn ffurfio strimyn
di-dor bron o ddatblygiadau ar yr A484 o Saron i Rhos. Er nad yw’r
ardal hon yn un amaethyddol ar y cyfan, ceir rhai elfennau tirwedd hanesyddol
amaethyddol gan gynnwys: Lleiniau, tþ yn dyddio o ddiwedd y 18fed
ganrif a chanddo adeiladau allan sydd yn yr un llinell ag ef a ffermdy
yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif; ffermdai yn dyddio o’r
cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif yn arddull nodweddiadol y De-orllewin
- sef adeiladau deulawr wedi’u hadeiladu o gerrig a chanddynt dri
bae, drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur
- a gysylltir ag un neu ddwy res o adeiladau allan wedi’u hadeiladu
o gerrig, a chaeau a rennir gan wrychoedd ar gloddiau. Nid oes unrhyw
archeoleg gofnodedig.
Diffinnir Saron – Rhos gan ddatblygiadau modern.
Mae tai modern, yn arbennig mewn clystyrau neu ddatblygiadau llinellol
yn brin yn yr ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol cyfagos.
Ffynonellau: Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol
a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle,
Llundain; Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, Llandysul;
Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd,
J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Map degwm
plwyf Llangeler 1839; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the
Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas
of Wales, Llundain
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |