Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

RHYDDGOED

RHYDDGOED

CYFEIRNOD GRID: SN326390
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 221

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys poced o gaeau eithaf rheolaidd eu siâp o faint canolig i fawr i’r de-orllewin o Gastellnewydd Emlyn. Fe’i lleolir o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin, i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Yn 1536 roedd yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin yn 1536. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol afon Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.

Yn wir, ymddengys fod yr ardal hon yn cynnwys tir agored yn bennaf cyn i’r patrwm presennol o gaeau eithaf rheolaidd eu siâp o faint mawr i ganolig gael ei sefydlu ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif. Dengys mapiau ystad dyddiedig 1778 fod rhannau o’r ardal hon yn cynnwys tir agored, lle y ceir lleiniau y nodir eu bod yn eiddo i wahanol berchenogion. Mae’n annhebygol bod y lleiniau hyn yn perthyn i’r cyfnod canoloesol, ac yn ddiau nid y lleiniau maes agored ffurfiol o dir âr sy’n nodweddiadol o systemau tirddaliadaeth Eingl-Normanaidd mohonynt. Yn lle hynny, ymddengys fod y lleiniau yn cynrychioli hawliau pori a roddwyd i ffermydd cyfagos ac ymddengys fod o leiaf ran o’r ardal hon yn cynnwys tir pori agored a oedd yn eiddo i nifer o berchenogion, ac a amgaewyd ar ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn i’r map degwm gael ei lunio yn 1840 roedd pob un o’r lleiniau hyn wedi diflannu ac roedd y patrwm caeau a welir heddiw yn ei le.

RHYDDGOED

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Rhyddgoed yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol amaethyddol fach a leolir ar lethrau sy’n wynebu’r gogledd - gogledd-ddwyrain ac sy’n amrywio o ran uchder o 60m i 180m uwchben lefel y môr. Fe’i nodweddir gan gaeau eithaf rheolaidd eu siâp o faint mawr i ganolig. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir. Rhennir y caeau gan wrychoedd ar gloddiau. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da. Ar wahân i goed gwrychoedd, lleiniau cysgodi gerllaw ffermydd, a llwyni mwy o faint yn yr ychydig o wrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt, tirwedd ddi-goed ydyw. Mae’r ffermydd gwasgaredig yn fach. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu o gerrig, sydd wedi’u rendro â sment ar yr anheddau. Mae’r ffermdai yn arddull dde-orllewinol nodweddiadol y cyfnod: sef adeiladau deulawr a chanddynt dri bae, drws ffrynt canolog a ffenestri eithaf mawr wedi’u trefnu’n gymesur – arddull sy’n deillio yn fwy o’r traddodiad Sioraidd ‘cain’ na’r traddodiad brodorol. Ailadeiladwyd un o’r tai ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae adeiladau allan fferm yn dyddio o’r 19eg ganrif hefyd yn eithaf bach ac maent yn ffurfio un neu ddwy res. Mae gan y mwyafrif o’r ffermydd resi bach o adeiladau allan modern. Mae darnau syth hir o’r B4333 yn croesi’r ardal hon. Ar wahân i fwthyn adfeiliedig, nid oes unrhyw safleoedd archeolegol a gofnodwyd.

Prif nodweddion diffiniol yr ardal hon yw’r caeau sy’n fwy o faint ac yn fwy rheolaidd eu siâp na chaeau’r ardaloedd sy’n ffinio â hi. Fodd bynnag, nid yw’n ardal hawdd ei diffinio, ac mae’r ardaloedd sy’n ffinio â hi yn rhannu llawer o’i helfennau tirwedd hanesyddol.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, Llandysul; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Map degwm plwyf Penboyr 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP RHYDDGOED

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221