Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

PENBOYR

PENBOYR

CYFEIRNOD GRID: SN353364
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 361

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys caeau hirsgwar rheolaidd a ffermydd gwasgaredig. Fe’i lleolir yng nghantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych i’r gorllewin i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Sefydlwyd castell mwnt a beili, sef Tomen Llawddog, yn yr ardal gymeriad hon, yn union gerllaw eglwys plwyf Penboyr, sef Eglwys Sant Llawddog; ac felly mae’n bosibl eu bod yn dyddio o’r un cyfnod. Ni wyddom a gawsant eu sefydlu yn ystod y cyfnod byr pan fu Cantref Emlyn o dan reolaeth Eingl-Normanaidd, neu yn ddiweddarach yn ystod y 12fed ganrif gan y Cymry. Fodd bynnag, mae’n bosibl i’r eglwys a gysegrwyd i Sant Llawddog gael ei sefydlu yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod canoloesol, pan oedd ei gwlt yn dal i fod yn weithredol yn yr ardal. Cofnodwyd yr eglwys yn gyntaf yn 1222 pan y’i ‘dychwelwyd’ i Esgobion Tyddewi ac fe’i gwrth-hawliwyd gan y goron ar ôl hynny. Mae ei statws cynnar fel eglwys blwyf, ar y cyd â’r cysylltiad agos a fu rhyngddi a’r castell, yn awgrymu bod y ddau yn cynrychioli gwladfa Eingl-Normanaidd a sefydlwyd yn fwriadol. Felly gallant gynrychioli safle treflan a fethodd. Mae’n debyg i’r castell, nad oes ganddo unrhyw hanes cofnodedig, gael ei adael yn gynnar. Ni ddaethant erioed yn ganolbwynt i unrhyw anheddiad cnewyllol diweddarach nac unrhyw anheddiad arall.

Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Yn 1536 roedd yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol Aofn Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif.

Y patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog (ar wahân, efallai, i Benboyr) - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Mae’r dirwedd bresennol ledled yr ardal gymeriad hon yn cynnwys yn bennaf gaeau hirsgwar rheolaidd, gweddol fawr a amgaewyd yn hwyr. Mae’n debyg eu bod yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 18fed ganrif – er bod rhai o’r ffermydd unigol yn hþn yn ôl pob tebyg – ac ymddengys eu bod yn perthyn i’r un cyfnod â’r system ffyrdd bresennol sy’n dilyn echelin a ffiniau’r caeau. Mae’r mapiau hanesyddol ar raddfa fawr cyntaf o’r ardal hon yn dyddio o 1788 a dangosant dirwedd debyg iawn i’r un a welir heddiw. Fodd bynnag mae map ystad 1778 o Dþ Hen/Penlan Ganol yn lledawgrymu caelun cynharach. Yma, yn ogystal â’r system arferol o gaeau eithaf rheolaidd eu siâp a geir o hyd, dangosir lleiniau neu ‘slangs’ yn gymysg â hwy. Fodd bynnag, nid yw’n debyg eu bod yn perthyn i’r cyfnod canoloesol, ac yn ddiau nid y lleiniau maes agored ffurfiol o dir âr sy’n nodweddiadol o systemau tirddaliadaeth Eingl-Normanaidd mohonynt. Yn lle hynny, ymddengys fod y lleiniau yn cynrychioli hawliau pori a roddwyd i ffermydd cyfagos ac ymddengys fod o leiaf ran o’r ardal hon yn cynnwys tir pori agored a oedd yn eiddo i nifer o berchenogion, ac a oedd yn y broses o gael ei amgáu ar ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn arolwg degwm 1840 dangosir y dirwedd fwy neu lai fel y mae heddiw, ar wahân i’r ffaith bod rhai gwrychoedd wedi diflannu ers hynny. Er y lleolir yr ardal gymeriad hon y tu hwnt i’r brif ardal cynhyrchu brethyn yn y 19eg ganrif, mae gwehyddion wedi’u cofnodi mewn nifer o leoliadau, a redai ddiwydiant cartref yn ôl pob tebyg mewn bythynnod a gweithdai bach.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Penboyr yn ymestyn ar draws llethrau dyffryn afon Teifi sy’n graddol ddisgyn ac yn wynebu’r gogledd rhwng 120m a 260 uwchben lefel y môr. Tirwedd amaethyddol ydyw a nodweddir gan ffermydd a chaeau eithaf rheolaidd eu siâp o faint bach i ganolig. Mae’r ffermydd yn fach fel arfer ac mae eu dosbarthiad yn anarferol o ddwys. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd – ceir tresi aur mewn rhai gwrychoedd. Ar lefelau uwch yn ne’r ardal hon mae’r gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt ac mewn rhai achosion maent wedi dirywio’n rhesi anniben o lwyni sy’n cynnwys llawer o goed bach, ond yn rhan ogleddol fwy cysgodol yr ardal maent mewn gwell cyflwr. Cerrig yw’r prif ddeunydd adeiladu, yn arbennig llechi dyffryn Teifi, sydd fel arfer yn gerrig llanwdi-batrwm, ond mae cerrig nadd patrymog wedi’u defnyddio ar adeiladau o ansawdd gwell. Llechi masnachol o’r Gogledd sydd wedi’u defnyddio ar y toeau ym mhob man. Mae pob un o’r adeiladau hþn yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif . Mae’r ffermdai fel arfer yn arddull nodweddiadol y De-orllewin– sef adeiladau deulawr a chanddynt dri bae, drws ffrynt canolog a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur – ond mae ganddynt nodweddion brodorol cryf, megis ffenestri bach a drychiadau isel, yn hytrach na’u bod yn yr arddull Sioraidd fwy ‘cain’. Ceir eithriadau i hyn, megis y tþ ‘Sioraidd’ deulawr rhestredig yn dyddio o ganol y 19eg ganrif ym Mhenlanfawr ac a adeiladwyd o gerrig nadd patrymog o ddyffryn Teifi. Ailadeiladwyd rhai ffermdai fel byngalos ar ddiwedd yr 20fed ganrif, a cheir gwasgariad o fyngalos a thai eraill ar draws yr ardal sy’n dyddio o’r un cyfnod. Ceir tai gweithwyr deulawr ac unllawr yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif hefyd. Mae adeiladau fferm amaethyddol fel arfer yn fach. Mae’r enghreifftiau hþn wedi’u hadeiladu o gerrig ac mae’r rhai modern wedi’u hadeiladu o goncrid, dur ac asbestos. Nid yw rhai o’r ffermydd llai o faint yn cael eu ffermio bellach ac ni ddefnyddir eu hadeiladau allan. Eglwys plwyf Penboyr yn dyddio o’r cyfnod canoloesol, a ailadeiladwyd yn gyfan gwbl yn y 19eg ganrif, a chastell mwnt a beili Tomen Llawddog gerllaw yw’r prif safleoedd archeolegol yn yr ardal. Mae beili’r castell wedi’i ddifrodi ac mae hanner y mwnt wedi diflannu. Mae archeoleg arall a gofnodwyd wedi’i chyfyngu yn bennaf i safleoedd, gweithdai a bythynnod a oedd ynghlwm wrth y diwydiant gwlân yn y 19eg ganrif.

Mae i’r ardal dirwedd hanesyddol hon ffiniau pendant. I’r gorllewin, i’r gogledd ac i’r dwyrain fe’i diffinnir gan ddyffrynnoedd llethrog tra choediog. I’r de mae caeau mwy afreolaidd eu siâp yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif yn ffurfio ardal newid yn hytrach na ffin bendant.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, mapiau 70, 72, 76, 80, 82, 87, 89; Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, Llandysul; King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog Newydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Ludlow, N, 2000, ‘Spiritual and Temporal: Church-building in medieval and later Carmarthenshire’, Carmarthenshire Antiquary 36, 71-86; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Carmarthenshire churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Penboyr 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP PENBOYR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221