![](../../shim.gif) |
LLANGELER
![LLANGELER](images/llangeler1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN379376
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1069
Cefndir Hanesyddol
Ardal eithaf mawr o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin
sy’n cynnwys ffermydd gwasgaredig, caeau a chlystyrau gwasgaredig
o goetir. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn
Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd
tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin, i greu
Arglwyddiaeth Gilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych
- nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd
yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy
gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd
Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i
Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu
yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Yn y diwedd daeth yn rhan o Gantref
Elfed yn sir Gaerfyrddin yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro.
Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol,
ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i
rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd
ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo
yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn
dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol Aofn Teifi o
Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y
patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau
na ffïoedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu
gwasgaredig yn y rhanbarth.
Ymddengys bod rhan ddeheuol yr ardal hon yn rhan o goedwig
ganoloesol Garth Gywddyll a ymestynnai i ffwrdd i’r de-ddwyrain,
ac a oedd yn ôl pob tebyg yn dir agored nas ffermid. Fodd bynnag,
perthynai rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal gymeriad hon, i’r dwyrain
o Bentre-cwrt, i gyfundrefn dirddaliadol a deiliadol wahanol, am ei bod
yn rhan ar un adeg o Faenor Forion. Sefydlwyd y faenor hon yn ystod ail
hanner y12fed ganrif, pan roddwyd y tir i Abaty Sistersaidd Hendy-gwyn
ar Daf gan feibion yr aglwydd Cymreig lleol Maredudd Cilrhedyn. Ymddengys
bod craidd y faenor yn Court Farm, lle y lleolid granar hefyd, ac a oedd
yn ôl pob tebyg yn encilfa haf i’r abad. Lleolid dwy felin,
melin þd a melin bannu (y gellir dilyn rhan o’i ffrwd) ar
afon Siedi yn Geulan Felen, sy’n dangos bod yr abaty yn arloeswr
cynnar yn y diwydiant brethyn a fyddai mor flaenllaw yn ddiweddarach mewn
rhannau eraill o’r Ardal Gofrestr hon. Lleolid capel y faenor ychydig
y tu allan i’r ardal gymeriad hon ar yr un safle ag adeilad presennol
Eglwys y Santes Fair, sy’n gapel anwes i blwyf Llangeler. Mae’r
Garreg Decabarbalom sy’n dyddio o ddechrau’r cyfnod canoloesol,
a ddarganfuwyd gerllaw’r capel, yn awgrymu i’r capel gael
ei sefydlu’n gynnar. Mae’n gysylltiedig â mwnt, sef
Pencastell, y mae’n bosibl ei fod yn graidd maenor gynharach. Fel
arall, ychydig a wyddom am y defnydd a wneid o’r tir o fewn y faenor,
am mai Maenor Forion oedd un o’r nifer fach iawn o faenorau Cymreig
na fu’n destun Achos gan y Trysorlys (Ecwiti) ar ôl Diddymu’r
Mynachlogydd, y daw llawer o’n gwybodaeth am y modd y rheolid maenorau
ohonynt. Adeg Diddymu’r Mynachlogydd delid llawer o ystadau Hendy-gwyn
ar Daf o dan wahanol brydlesau, systemau tirddaliadaeth, rhenti a rhwymedigaethau
yn perthyn i gyfraith Cymru. Yn gyffredinol, talai eiddo’r abaty
yn sir Gaerfyrddin renti ar ffurf arian, a chyfraniadau o gaws, capylltiaid
a cheirch, tra cyfrannai’r eiddo a oedd ganddo yng Ngheredigion
wlân, defaid a ðyn. Fodd bynnag, mae ymhell o fod yn glir a
oedd y trefniadau hyn yn parhau trefniadau hirsefydlog yn tarddu o gyfnod
cynharach. Serch hynny mae’r ffaith bod amrywiaeth o renti wedi
goroesi, a delid mewn arian, mewn nwyddau a thrwy wasanaeth, yn awgrymu
eu bod yn cyfateb i rwymedigaethau bilaen cynharach, ac awgrymwyd felly
y gweithiai Hendy-gwyn ar Daf ei faenorau yn ôl arferion brodorol
o’r cychwyn cyntaf, a bod y defnydd a wneid o’r tir a phatrymau
anheddu yn debyg yn ôl pob tebyg y tu mewn i’r faenor a’r
tu allan iddi. Daeth y faenor yn dir y goron pan ddiddymwyd y Mynachlogydd
yn 1536. Fe’i gwerthwyd yn ystod teyrnasiad Siarl I i John Lewis
o Lysnewydd a Thomas Price o Rydypennau ac wedyn trosglwyddwyd cyfran
Thomas Price o’r faenor i D L Jones o Dderlwyn. Ar wahân i
ddarnau bach o’r eiddo a werthwyd, arhosodd y rhan fwyaf o’r
gyn-faenor yn nwylo’r teuluoedd hyn tan 1900 o leiaf, gan ffurfio
craidd dwy ystad fawr.
Mae’r dirwedd bresennol ledled yr ardal gymeriad
hon yn cynnwys caeau hirsgwar o faint canolig i fawr a amgaewyd yn hwyr.
Mae’n debyg eu bod yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif - er bod rhai
o’r ffermydd unigol yn hþn yn ôl pob tebyg - ac ymddengys
eu bod yn perthyn i’r un cyfnod â’r system ffyrdd bresennol
sy’n dilyn echelin a ffiniau’r caeau. Adeiladwyd ffordd bresennol
yr A484, sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de drwy’r
ardal, o’r newydd fel ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif. Dengys
y map cynhwysfawr cyntaf sy’n cwmpasu’r ardal, sef map degwm
1839, dirwedd nad yw’n annhebyg i’r un a welir heddiw. Ceir
ychydig o fân wahaniaethau, megis rhandiroedd bach o lain-gaeau
gerllaw Saron a rhai pocedi bach o dir agored. Mae’r ddau yn cynnwys
caeau rheolaidd eu siâp bellach. Ceir yr unig glystyrau anheddu
ar y map degwm yn Llangeler, sy’n cynnwys tua phedair annedd, a
Phentre-cwrt sy’n cynnwys tua 20 tþ. Mae’n bosibl i
Bentre-cwrt gael ei sefydlu yn y cyfnod ôl-ganoloesol a’r
anheddiad cnewyllol yn Llangeler hefyd, er iddo ddatblygu o amgylch eglwys
ganoloesol a oedd hefyd yn eiddo i Abaty Hendy-gwyn ar Daf, y cadarnhawyd
ei bod wedi’i rhoi i’r Abaty gan y Brenin John 1199-1216.
Safai nifer o eglwysi ar safle Llangeler - a elwid yn Ferthyr Celer hefyd
- ac arferai ‘capel-y-bedd’ (sef capel bedd sant neu gapel
bedd sylfaenydd) sefyll i’r de o’r eglwys. Lleolid capel ffynnon
150m i’r gogledd-ddwyrain o’r fynwent. Mae’n bosibl
i’r fynwent a’r capel ffynnon sefyll mewn clostir allanol
mawr iawn a gynrychiolir gan ffiniau caeau. Ystyrir bod yr elfen ‘merthyr’
yn dynodi tarddiad canoloesol cynnar.
![LLANGELER](images/llangeler2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Llangeler
ar lethr donnog dyffryn afon Teifi sy’n wynebu’r gogledd.
Mae ei chwr gogleddol yn ffinio â’r gorlifdir tua 50m uwchben
lefel y môr ac o’r fan honno mae’n codi i dros 200m
uwchben lefel y môr yn nherfyn deheuol yr ardal. Ardal gymeriad
dirwedd hanesyddol amaethyddol ydyw sy’n cynnwys ffermydd gwasgaredig,
caeau a chlystyrau gwasgaredig o goetir. Tir pori wedi’i wella yw’r
defnydd a wneir o’r tir bron yn gyfan gwbl. At ei gilydd mae’r
gwrychoedd sydd wedi’u gosod ar gloddiau pridd neu gloddiau o bridd
a cherrig ac sy’n rhannu’r caeau gweddol fawr, afreolaidd
eu siâp, mewn cyflwr da, ond mae rhai wedi tyfu’n wyllt, a
cheir coed mawr yn tyfu mewn llawer ohonynt. Mae’r gwrychoedd hyn
yn rhoi golwg goediog i’r dirwedd mewn rhai rhannau o’r ardal
hon, yn arbennig lle y’u ceir ynghyd â choetir collddail ar
rai o’r llethrau is, serth. Mae’r ffyrdd a’r lonydd
yn gul ac yn droellog a cheir cloddiau mawr o bobtu iddynt, ac eithrio’r
ddwy briffordd sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de, sef yr
A484 a’r A486. Cerrig yw’r prif ddeunydd adeiladu, a’r
unig un bron, mewn adeiladau hþn. Ar y cyfan mae llechi dyffryn
Teifi yn fwy cyffredin gerllaw afon Teifi -wedi’u gosod fel cerrig
llanw heb fod yn batrymog, ond ceir rhai enghreifftiau lle y naddwyd y
cerrig a’u gosod mewn haenau - yn rhan ogleddol yr ardal hon. Mewn
mannau eraill cerrig o ffynonellau lleol a geir yn bennaf. Mae llawer
o’r tai wedi’u rendro â sment ac wedi’u distempro
â lliw, ond lle y mae’r distempar lliw hwn i’w weld
ar dai ac adeiladau amaethyddol heb eu rendro mae’n amlwg ei fod
wedi’i baentio dros gerrig. Llechi masnachol o’r Gogledd yw’r
deunydd toi cyffredin. Prin yw’r adeiladau a adeiladwyd cyn y 19eg
ganrif. Mae’r mwyafrif o’r ffermdai yn dyddio o’r cyfnod
rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, ac maent yn arddull nodweddiadol y
De-orllewin - sef adeiladau deulawr a chanddynt dri bae, drws ffrynt canolog
a phum ffenestr wedi’u trefnu’n gymesur - arddull sy’n
deillio’n fwy o’r traddodiad Sioraidd cain na’r traddodiad
brodorol. Ceir tai yn yr arddull frodorol, megis yr enghraifft restredig
yn Henfryn sydd â dau lawr a thri bae, ond nid ydynt yn gyffredin.
Mae tai sylweddol, cynharach sy’n perthyn yn bendant i’r Cyfnod
a’r arddull Sioraidd, megis yr enghreifftiau rhestredig yn Nhanyralltddu,
Shadog a Phenyrallt a Rhydybennau nad yw’n rhestredig, hefyd yn
gymharol brin. Tþ bonedd yw Penyrallt a chanddo fferm plas sy’n
cynnwys nifer o adeiladau allan rhestredig yn dyddio o’r 19eg ganrif,
a adeiladwyd o gerrig moel, ar wahân i ambell enghraifft ddiweddarach
a adeiladwyd o frics, ac fel rheol maent yn ffurfio un neu ddwy res, sydd
wedi’u gosod yn anffurfiol o amgylch y buarth. Ceir enghreifftiau
o adeiladau sydd wedi’u gosod yn fwy ffurfiol o amgylch buarth,
sy’n dynodi ffermydd ystad efallai. Mae Penyrallt â’i
fferm plas ar wahân yn perthyn i lefel gymdeithasol uwch na’r
ffermydd eraill. Darperir ar gyfer y mwyafrif o swyddogaethau gan adeiladau
allan y fferm sy’n dynodi economi gymysg yn seiliedig ar ffermio
tir âr/cadw anifeiliaid yn y 19eg ganrif. Mae gan ffermydd gweithredol
adeiladau allan modern o ddur a choncrid, ond nid ydynt ar raddfa fawr.
Mae rhai ysguboriau pengrwn a adeiladwyd o haearn rhychog yng nghanol
yr 20fed ganrif wedi goroesi ar rai ffermydd. Pentrefan Llangeler, sydd
wedi’i ganoli ar yr eglwys ganoloesol, yw’r unig grðp
nodedig o adeiladau amaethyddol, a cheir ffermdai ac adeiladau yn dyddio
o’r 19eg ganrif a nifer o fythynnod gweithwyr unllawr yn dyddio
o’r 19eg ganrif. Mae Pentre-cwrt, yr unig glwstwr arall o aneddiadau,
yn hen anheddiad diwydiannol a sefydlwyd ar y diwydiant gwlân. Mae
nifer o adeiladau melin sylweddol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif wedi
goroesi gerllaw’r pentref, yn Llwynderw, Alltcafan a Henfryn. Mae’r
pentref yn cynnwys clwstwr llac o dai gweithwyr deulawr sy’n sefyll
mewn terasau, mewn parau ac ar wahân a bythynnod unllawr yn dyddio
o ddiwedd y 19eg ganrif, a cheir tai a byngalos yn dyddio o ddiwedd yr
20fed ganrif yn ymestyn ar hyd y ffyrdd dynesu. Ceir tai gweithwyr deulawr
gwasgaredig yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, sydd yn aml mewn terasau
byr, mewn nifer o leoliadau gerllaw Pentre-cwrt ac ar hyd y llethrau is
gerllaw afon Teifi, megis Bwlchmelyn a Hannerfordd.
Ceir dros 45 o safleoedd archeolegol a gofnodwyd yn yr
ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon. Mae’r mwyafrif yn cynnwys
adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif ac adeiladau diweddarach, ond
mae safleoedd eraill megis y fryngaer yn Henfryn sy’n dyddio o’r
Oes Haearn, y nodweddion maenor a’r cyfadail yn cynnwys nifer o
eglwysi yn Llangeler yn darparu dyfnder amser ar gyfer y dirwedd. Fodd
bynnag, nid yw’r un o’r safleoedd cynharach hyn yn nodweddiadol
iawn o’r ardal bellach.
Nid yw Llangeler yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol
hawdd ei diffinio. I’r gorllewin mae llethrau wedi’u gorchuddio
â choetir ac aneddiadau diwydiannol yn darparu cyferbyniad da a
ffin bendant, a gorlifdir afon Teifi i’r gogledd hefyd, ond mewn
mannau eraill mae’r ardal hon yn rhannu llawer o nodweddion yr ardaloedd
sy’n ffinio â hi ac felly ceir ardal newid lydan rhyngddynt
yn hytrach na ffin bendant.
Ffynonellau: Calendr o Roliau Patent, Elizabeth Cyfrol
2, 1560-1563, Llundain 1948; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol
a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle,
Llundain; Jack, R I, 1981, ‘Fulling Mills in Wales and the March
before 1547’, Archaeologia Cambrensis 130, 70-125; Jones, A, 1937,
‘The Estates of the Welsh Abbeys at the Dissolution’, Archaeologia
Cambrensis 92, 269-286; Jones, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr,
Llandysul; Jones, E G, 1939, Exchequer Proceedings (Equity) concerning
Wales, Caerdydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1
a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol
I, Caerdydd; Ludlow, N, 2002 ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical
Sites Project, Stage 1: Carmarthenshire’, adroddiad nas cyhoeddwyd
gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
; Ludlow, N D, i’w gyhoeddi, ‘Whitland
Abbey’, Archaeologia Cambrensis; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyfrol
17 llyfr mapiau 1796; map degwm plwyf Llangeler 1839; Rees, W, 1932, ‘Map
of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951,
An Historical Atlas of Wales, Llundain; Richard, A J, 1935, ‘Castles,
Boroughs and Religious Houses’, yn J E Lloyd, A History of Carmarthenshire
Volume I, 269-371, Caerdydd; Williams, D H, 1990, Atlas of Cistercian
Lands in Wales, Caerdydd
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |