![](../../shim.gif) |
HENLLAN
![HENLLAN](images/henllan.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN354408
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 167
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Ceredigion sy’n
cynnwys ardal adeiledig pentref Henllan a’r cylch, ar lan ogleddol
afon Teifi lle y mae’r gorlifdir yn culhau. Fe’i lleolir o
fewn cantref canoloesol Is Aeron, yng nghwmwd Gwynionydd. Daethpwyd â
Hen Geredigion, gan gynnwys Gwynionydd, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd
am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare. Mae’n debyg
mai yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd y mwyafrif o’r nifer fawr
o gestyll a geir yn yr Ardal Gofrestr hon, y mae’n bosibl i rai
ohonynt gael eu hadeiladu yn ystod ailoresgyniad y Cymry yn 1135-6. Ychydig
ohonynt sydd ag unrhyw hanes cofnodedig. Mae’n bosibl bod y cloddwaith
yn Felin Cwrrws yn gastell cynnar, ond mae’n fwy tebyg ei fod yn
dyddio o’r Oes Haearn, yn debyg i’r fryngaer amlgloddiog fawr
i’r de o Henllan ei hun. Os cafodd ei hailddefnyddio yn ystod y
cyfnod canoloesol, fe’i gadawyd yn gynnar, ac ni ddaeth erioed yn
ganolbwynt i unrhyw anheddiad cnewyllol nac unrhyw anheddiad arall. Ac
ni ddatblygodd anheddiad o amgylch eglwys plwyf Henllan, ar y gorlifdir,
ychwaith. Cofnodir yr eglwys ar ddiwedd y 12fed ganrif, ond mae bron yn
sicr ei bod yn sefyll ar safle canoloesol cynharach, ac mae ganddi fynwent
gron fawr a sefydlwyd o bosibl gan fynachod. Ailadeiladwyd yr eglwys yn
gyfan gwbl yn y 19eg ganrif. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry
trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu
yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283, pan grëwyd sir Aberteifi. Y
patrwm tirddaliadaeth Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd
marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig
yn y rhanbarth.
Sefydlwyd pentref Henllan yn ei gyfanrwydd yn y 19eg
ganrif a’r 20fed ganrif ac nid yw’n gysylltiedig ag eglwys
y plwyf, a leolir 0.5km i’r gogledd-orllewin. Lleolir y pentref
yr un mor bell oddi wrth Dþ Henllan, a gofnodir fel tþ bonedd
yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a safle melin ddðr (melin
þd). Dangosir yr ardal gymeriad yn ei ffurf bresennol ar fap degwm
plwyf Henllan dyddiedig 1844, ar wahân i’r pentref na fodolai
bryd hynny. Mae’n bosibl iddo ddatblygu ar ôl i ddwy felin
wlân gael eu sefydlu, yng Nghwerchyr yn 1840, a Threbedw yn 1885,
ond roeddynt bob amser ar ymylon y brif ganolfan cynhyrchu brethyn o amgylch
Dre-fach Felindre. Mae’n amlwg i’r rheilffordd o Gaerfyrddin
i Aberteifi a adeiladwyd trwy’r ardal - a agorwyd o dan Reilffordd
y Great Western yn 1895 - yr oedd ganddi orsaf yn Henllan, gyflymu ei
ddatblygiad, ond parhaodd i fod yn bentref cymharol fach, a gynhwysai
un stryd wedi’i chanoli ar yr orsaf reilffordd. Tua 1940, sefydlwyd
gwersyll ar gyfer carcharorion rhyfel o’r Eidal ar y ffordd sy’n
cyrraedd y pentref o’r de, ac yn y diwedd ymestynnai’r gwersyll
dros 4.5 hectar a chynhwysai resi o Gytiau Nissen, y mae’r mwyafrif
ohonynt wedi diflannu bellach. Roedd y gwersyll yn wag fwy neu lai erbyn
1944. Caeodd Melin Cwerchyr yn 1953, a Melin Trebedw yn 1958, tra caeodd
y llinell reilffordd a’r orsaf yn 1973. Fodd bynnag, ail-agorwyd
darn byr o’r llinell fel atyniad ymwelwyr, sef Rheilffordd Dyffryn
Teifi, ac erbyn hyn defnyddir safle'r gwersyll carcharorion rhyfel ar
gyfer carafanau a gwersylla, ac ystad ddiwydiannol fach.
![HENLLAN](images/henllan2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Henllan yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach
sy’n ymestyn ar draws llethr sy’n graddol ddisgyn ac yn wynebu’r
gogledd rhwng 30m a 110m uwchben lefel y môr. Ardal gymysg ydyw
sy’n cynnwys llawer o wahanol elfennau, ond yn y bôn mae’n
cynnwys pentref Henllan yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a’r tir
amaeth tra choediog o’i amgylch. Mae pentref Henllan, a phentref
llai o faint Trebedw gerllaw, yn bentrefi llinellol gwasgarog, y mae’r
ddau yn perthyn i ddiwedd y 19eg ganrif o ran eu cymeriad. Llechi dyffryn
Teifi, sydd yn aml wedi’u naddu ac yn dra phatrymog yn hytrach na
bod yn gerrig llanw dibatrwm, yw prif ddeunydd adeiladu’r 19eg ganrif,
a ddefnyddir weithiau ar y cyd ag addurniadau o frics melyn. Mae llechi
o’r Gogledd wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae tai gweithwyr
yn adeiladau deulawr sy’n sefyll mewn terasau, mewn parau ac ar
wahân a cheir bythynnod unllawr hefyd. Mae gan Henllan deras o dai
deulawr a adeiladwyd mewn un cyfnod sy’n cynnwys tai bargodol mwy
o faint yn y ddeupen. Ceir eglwys o haearn rhychog hefyd. Mae nifer o
hen adeiladau diwydiannol bach wedi’u hadeiladu o haearn rhychog,
yn arbennig y rhai sy’n gysylltiedig â’r rheilffordd,
a nifer o adeiladau allan amaethyddol hefyd. Mae rhai o’r adeiladau
gwreiddiol sy’n perthyn i’r gwersyll carcharorion rhyfel a
adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi goroesi, gan gynnwys Cytiau
Nissen a chapel haearn rhychog unigryw, sy’n rhestredig Gradd II*,
a addaswyd o floc cysgu ac a addurnwyd gan y carcharorion eu hunain. Mae’r
mwyafrif o’r adeiladau eraill wedi diflannu. Cadwyd darn o’r
rheilffordd fel llinell dwristaidd. Y tu hwnt i’r pentref, mae’r
daliadau amaethyddol yn fach, ac mae’r tai a’r adeiladau allan
yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’r ffermdai yn arddull dde-orllewinol
nodweddiadol y cyfnod: sef adeiladau deulawr a chanddynt dri bae, drws
ffrynt canolog a ffenestri wedi’u trefnu’n gymesur. Mae’r
adeiladau allan hþn wedi’u hadeiladu o gerrig ac maent yn
ffurfio un neu ddwy res. Ceir adeiladau allan o haearn rhychog yn dyddio
o ddiwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif hefyd, a rhesi bach o adeiladau
amaethyddol modern hefyd. Rhennir y caeau gweddol fawr, afreolaidd eu
siâp gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae llawer o’r gwrychoedd
wedi tyfu’n wyllt. Tir pori wedi’i wella a thir mwy garw yw’r
defnydd a wneir o’r tir. Ceir llawer o goetir collddail, y mae’n
debyg bod rhywfaint ohono wedi aildyfu dros gaeau. Ailadeiladwyd eglwys
plwyf Henllan yn gyfan gwbl yn ystod y 19eg ganrif. Lleolir dwy bont restredig,
sef Pont Henllan a Phont Felin Cwrrws, yn yr ardal hon. Ar ben hynny,
mae safleoedd archeolegol yn cynnwys dwy fryngaer yn dyddio o’r
Oes Haearn a safle melin þd.
Mae’r aneddiadau diwydiannol yn dyddio o’r
19eg ganrif a thirwedd dra choediog yn gwahaniaethu rhwng yr ardal hon
a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi.
Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau
o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
; Jenkins, J G, 1998
‘Rural Industries in Cardiganshire’ yn G H Jenkins ac I G
Jones, Cardiganshire County History Volume 3: Cardiganshire in Modern
Times, 135-59, Caerdydd; King, D J C, 1988, Castellarium Anglicanum, Efrog
Newydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain;
Ludlow, N, 1994, ‘Aberbanc – Henllan Bridge watermain scheme:
archaeological watching brief’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
; Ludlow, N, 2000 ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project:
Ceredigion Churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
;
Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project,
Stage 1: Ceredigion’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
;
Map degwm plwyf Henllan 1844; Map degwm plwyf Llandyfriog 1844; Map degwm
plwyf Llanfair Onllwyn 1844; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities
of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and
the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas
of Wales, Llundain; Rheilffordd Gwili, d.d., Guide to the Gwili Railway
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |