![](../../shim.gif) |
DYFFRYN BARGOD A DYFFRYN ESGAIR
![DYFFRYN BARGOD A DYFFRYN ESGAIR](images/dyffrynbargoedanddyffrynesg.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN348367
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 171
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n
cynnwys dyffrynnoedd llethrog Nant Bargod a’i hisafon, Nant Esgair.
Mae’n cynnwys llethrau tra choediog yn bennaf. Gorweddai’r
ardal o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd
Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan
ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin i greu Arglwyddiaeth
Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan
yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl
o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy’r
12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd
Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i
Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu
yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Roedd yn rhan o Gantref Elfed yn
sir Gaerfyrddin yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro. Rhoddwyd
Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd
y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd
i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant
y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd
trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn
berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol afon Teifi o Bentre-cwrt
yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth
canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog
- a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.
Yn wir ni chafwyd fawr ddim anheddu yn yr ardal hon, er bod y darluniad
cartograffig cyntaf ar raddfa fawr o’r ardal hon - sef mapiau ystâd
1778 - yn dangos llawer llai o goetir nag sydd yno heddiw, gyda mwy o
gaeau ar lethrau serth y dyffryn. Erbyn yr arolwg degwm a wnaed tua 1840,
dangosir mwy o goetir, ond mae’n dal i fod yn llai helaeth nag ydyw
heddiw. Ers hynny, mae coetir naill ai wedi aildyfu dros hen gaeau neu
wedi’i blannu. Ers yr Ail Ryfel Byd, plannwyd coetir conifferaidd
naill ai mewn pocedi bach rhwng coed collddail, neu yn fwy helaeth ar
y llethrau uwch tuag at ran ddeheuol yr ardal hon.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol goediog
hon yn ymestyn ar draws llethrau serth y nentydd sy’n llifo i’r
gogledd, sef Nant Bargod a Dyffryn Esgair. Mae’r llethrau is yn
y pen gogleddol tua 50m uwchben lefel y môr. Yn y pen deheuol, mae
llethrau yn codi i dros 200m uwchben lefel y môr lle y maent ar
eu huchaf. Ar wahân i ychydig o gaeau o brysgwydd a thir pori garw,
mae’r cyfan yn llawn coed. Ceir cymysgedd o goetir collddail a choed
coniffer. Coetir collddail a geir gan amlaf ym mhen gogleddol isaf yr
ardal gymeriad ar y llethrau uwchben pentrefi a phentrefannau Dre-fach,
Felindre, Cwmpengraig a Drefelin, ac mae coed coniffer yn fwy cyffredin
ar y tir uwch i’r de. Mae rhywfaint o’r coetir collddail yn
hynafol, efallai fod rhywfaint wedi aildyfu’n gymharol ddiweddar
ac efallai fod rhywfaint wedi’i blannu.
Nid oes unrhyw adeiladau sy’n sefyll yn yr ardal
hon, ond cofnodir sawl bwthyn adfeiliedig sy’n gysylltiedig â
diwydiant gwlân Dre-fach Felindre ar y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol
Rhanbarthol, yn ogystal â sawl ffrwd melin a arferai gyflenwi’r
melinau gwlân â dðr. Prin yw’r safleoedd archeolegol
eraill, ond maent yn cynnwys bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn,
a nifer o hen chwareli yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ôl pob
tebyg.
Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol ar wahân.
Mae’n dra gwahanol i’r ardaloedd cymeriad amaethyddol a’r
ardaloedd diwydiannol/anheddu sy’n ffinio â hi.
Ffynonellau: Cadw - Archifdy Caerfyrddin c/v 5885
Ystad Castellnewydd Emlyn - Eiddo John Vaughan 1778; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
; Craster, O E, 1957,
Cilgerran Castle, Llundain; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary
of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire,
Cyfrol I, Caerdydd; map degwm plwyf Llangeler 1839; map degwm plwyf Penboyr
1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth
century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |