![](../../shim.gif) |
DRE-FACH FELINDRE
![DRE-FACH FELINDRE](images/drefachfelindre1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN353385
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 127
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n
cynnwys dyffrynnoedd Nant Bargod a’i hisafonydd, Nant Esgair a Nant
Brân, sydd â llethrau serth ar y cyfan. Mae ei chymeriad wedi’i
lunio’n bennaf gan ddiwydiant gwlân y 19eg ganrif. Gorweddai’r
ardal o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd
Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan
ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin, i greu Arglwyddiaeth
Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan
yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl
o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy gydol y
12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd
Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i
Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu
yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Roedd yn rhan o Gantref Elfed yn
sir Gaerfyrddin yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro. Rhoddwyd
Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd
y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd
i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant
y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd
trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn
berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol afon Teifi o Bentre-cwrt
yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth
canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffioedd marchog -
a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth.
Yn wir ni fu fawr ddim anheddu yn ardal gymeriad Dre-fach Felindre cyn
diwedd y 18fed ganrif hon, er i aneddiaddau canoloesol gael eu cofnodi
yng Nghringae, sydd bellach yn fferm, ac yn Aberbargod.
Oherwydd i frethyn gael ei gynhyrchu mewn sawl lleoliad
yn y De-orllewin yn ystod y cyfnod canoloesol ac ar ddechrau’r cyfnod
modern, mae’n debygol iddo gael ei gynhyrchu hefyd yn Dre-fach Felindre,
ac efallai mai melin bannu oedd y felin yng Nghringae yn y 14eg ganrif.
Roedd capel anwes bach i blwyf Penboyr wedi’i sefydlu, ac o fewn
hyn sefydlwyd Felindre erbyn dechrau’r 18fed ganrif. Roedd Capel
y Drindod Sanctaidd, a elwid yn Gapel Bach hefyd, ‘mewn cyflwr gwael’
yn 1750 ac adeiladwyd Eglwys Sant Barnabas yn ei le yn 1862. Yr hyn nad
yw’n glir yw pam y dechreuodd Dre-fach Felindre chwarae rhan amlwg
yn y diwydiant cynhyrchu brethyn yng Nghymru yn ystod y 19eg ganrif, gan
arwain at alw’r lle yn ‘Huddersfield Cymru’. Ar ddiwedd
y 18fed ganrif, sefydlwyd pedair melin bannu ym Mhentre-cwrt, Dolwyon,
Dre-fach a Chwmpencraig; cynhaliwyd swyddogaethau eraill â llaw,
mewn cartrefi neu mewn gweithdai bach. Roedd ffatrïoedd cardio ar
waith yng Nghwmpencraig a Dolwyon erbyn yr 1820au, ac roedd gan ffatrïoedd
diweddarach beiriannau nyddu. Ynghlwm wrth y cynnydd mewn gwaith cynhyrchu
brethyn oedd twf aneddiadau. Yn 1776 dim ond ychydig o dai o’r enw
Velindre Shinkin oedd yn Felindre ond erbyn yr arolwg o’r degwm
a gynhaliwyd oddeutu 1840 roedd wedi tyfu i fod yn bentref yn cynnwys
oddeutu 20 o dai. Roedd tua 20 o dai yn Nhre-fach ac roedd tua 7 tyˆ
yn Nhrefelin. Ni chofnodir unrhyw anheddiad yn Waungilwen ar y map degwm.
Yn wir, tir comin oedd ardal Drefelin, ac mae’n debygol bod yr anheddiad
wedi cychwyn gyda sgwatwyr yn adeiladu tai anghyfreithlon. Ymddengys bod
proses debyg wedi digwydd yng Nghwmhiraeth.
Yn sgîl cyflwyno’r gwþdd peiriannol
yn y 1850au a mwy o ddibyniaeth ar bðer dðr a ffynonellau pðer
eraill yn ddiweddarach, ehangwyd y diwydiant, ac adeiladwyd melinau sylweddol
(gyda rhai ohonynt yn cyflogi 50-100 o bobl) yn Nhre-fach, Felindre, Drefelin,
Cwmpengraig, Cwmhiraeth a Phentre-cwrt erbyn degawd cyntaf yr 20fed ganrif.
Estynnwyd yr aneddiadau i gynnwys gweithwyr a phersonél arall,
a degawdau prysuraf y diwydiant o 1880 i 1910 sydd wedi llywio’r
dirwedd hanesyddol yn bennaf. Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlwyd canolfannau
poblogaeth Dre-fach a Felindre, gyda’u tai gweithwyr, tai perchenogion
melinau, siopau, eglwys a mannau addoli eraill, yn ogystal ag aneddiadau
eilaidd megis Cwmpencraig a Chwmhiraeth, gyda’u ffatrïoedd,
tai perchenogion melinau, tai gweithwyr, a chapeli mewn clystyrau ar lawr
dyffrynnoedd cul. Adlewyrchir dirywiad y diwydiant gwlân o’r
1920au yn y dirwedd hanesyddol am nad oes llawer o dai neu adeiladau eraill
yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif. Fodd bynnag, mae tai o ddiwedd yr 20fed
ganrif, yn arbennig datblygiad llinellol, wedi cysylltu rhai o’r
aneddiadau a oedd yn arfer bod ar wahân, megis cysylltu Dre-fach
a Felindre â Waungilwen.
![DRE-FACH FELINDRE](images/drefachfelindre2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae aneddiadau diwydiannol bach yn uno’r ardal
gymeriad hanesyddol hon ac iddi siâp rhyfedd. Mae canol yr ardal
tua 50m uwcben lefel y môr wrth gymer Nant Bargod, Nant Esgair a
Nant Brân lle y mae dyffrynnoedd llethrog y nentydd hyn sy’n
llifo i’r gogledd yn cyrraedd Dyffryn Teifi, ond mae hefyd yn cynnwys
aneddiadau a chaeau i fyny’r afon ar lawr dyffrynnoedd cul yn codi
hyd at 90m uwchben lefel y môr. Y grym symudol a ddarperir gan y
nentydd hyn oedd y prif reswm dros dwf y diwydiant gwlân, ac nid
yw’r ffatrïoedd na’r aneddiadau cysylltiedig wedi ehangu
yn bell o lawr y cwm. Hyd at ganol yr 20fed ganrif, roedd y pentrefi a’r
pentrefannau a oedd yn yr ardal gymeriad hon ar wahân yn ffisegol
i ryw raddau, er bod ganddynt yr un swyddogaeth a chymeriad, ond ers hynny
mae datblygiad preswyl wedi uno’r ddau brif aneddiad – Dre-fach
a Felindre – â Waungilwen. Gwelwyd datblygiad llai diweddar
ym mhentrefannau Drefelin, Cwmpengraig, Cwmhiraeth a Glyn-teg, yn y dyffrynnoedd
llethrog ac maent wedi cadw eu cymeriad unigol. Mae’r pentrefi a’r
pentrefannau yn llinellol, ar hyd llawr dyffrynnoedd neu ar hyd ffyrdd.
Nid oes canolbwynt penodol i’r aneddiadau hyn erbyn hyn, ac mae’r
clystyrau o dai o amgylch melinau unigol neu adeiladau eraill megis capeli
a oedd yn arfer bodoli wedi’u cynnwys ym mhatrwm yr anheddiad cyfan.
Dre-fach yw’r pentref mwyaf ac fe’i disgrifir
yn gyntaf am ei fod yn cynnwys y rhan fwyaf o’r elfennau y gellir
eu gweld yn y pentrefi a’r pentrefannau eraill hefyd. Anheddiad
diwydiannol o’r 19eg ganrif ydyw yn bennaf. Mae’r melinau
yma yn amrywio o adeiladau deulawr sylweddol o garreg a bric megis y Melinau
Cambriaidd integredig (sydd bellach yn rhan o Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol
Cymru) a adeiladwyd yn bennaf yn ystod degawd cyntaf yr 20fed ganrif,
i gytiau/gweithdai gwehyddu ynghlwm wrth dai neu wedi’u hymgorffori
ynddynt fel croglofftydd neu loriau uwch, megis Pantglas a Thyˆ Llwynbrain
(mae’r tai hyn a’r Melinau Cambriaidd wedi’u rhestru).
Yr adeiladau rhestredig eraill yn Nhre-fach yw capel o ddiwedd y 19eg
ganrif, melinau a thai mawr ar wahân o ddiwedd y 19eg ganrif yn
perthyn i’r dosbarthiadau canol a pherchenogion melinau, megis Greenfield,
Bargoed Villa a Neuadd Meiros. Nid yw’r rhan fwyaf o’r tai
wedi’u rhestru a thai gweithwyr o’r 19eg ganrif ydynt. Mae
sawl arddull yn amlwg, ond tai teras deulawr heb lawer o fanylion pensaernïol
a geir gan amlaf, yn cynnwys tai teras o un cyfnod ac mewn un arddull
a thai teras lluosog mewn arddull gymysg. Mae’n debyg eu bod yn
deillio o dai a ddarparwyd gan berchenogion melinau neu waith adeiladu
hapfasnachol gan dirfeddianwyr. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn y traddodiad
brodorol Sioraidd, gyda ffenestri codi cymharol fawr a ffasadau wedi’u
trefnu’n gymesur. Mae rhai manylion Gothig yn amlwg ar rai o’r
anheddau ac mae rhes o fythynnod deulawr o ganol y 18fed ganrif yng nghanol
y pentref. Carreg – a gloddiwyd yn lleol a llechi dyffryn Teifi
– yw’r prif ddeunydd adeiladu. Caiff llechi dyffryn Teifi
eu naddu a’u gosod mewn rhesi ar y tai mwy o faint, megis Greenfield,
ond defnyddir cerrig gan amlaf fel cerrig llanw ar fythynnod gweithwyr
ac adeiladau eraill. Mae’r defnydd o friciau melyn ac, i raddau
llai, briciau coch ar gyfer cilbyst a cherrig bwa drysau a ffenestri yn
rhoi cymeriad hynod i lawer o adeiladau. Mae cerrig bwa lluniedig yn bresennol
hefyd. Mae rendrad sment a distempro lliw yn gyffredin hefyd, yn arbennig
ar adeiladau yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif. Efallai fod rhai
o’r rhain wedi’u gwneud o frics, er nad yw’r defnydd
o frics ar gyfer yr adeilad cyfan yn gyffredin cyn dechrau’r 20fed
ganrif. Mae llechi wedi’u naddu’n fasnachol o’r Gogledd
ym mhobman. Parhaodd gwaith datblygu drwy gydol yr 20fed ganrif, gydag
enghreifftiau o dai maestrefol o 1930 i 1950 ar gyrion y pentref ac yn
llenwi lleoedd gwag yn y pentref ei hun. Mae’r gwaith o adeiladu
tai yn parhau heddiw, ac mae byngalos a thai yn dyddio o’r 20fed
ganrif bellach yn cysylltu pentref Dre-fach â Felindre.
Mae Felindre yn rhannu llawer o nodweddion â Dre-fach.
Mae ganddo felinau gwlân rhestredig, tai teras gweithwyr a thai
dosbarth canol mwy o faint neu dai perchenogion melinau. Saif eglwys Sain
Barnabas, eglwys Anglicanaidd y cymunedau, yn yr arddull gothig yn dyddio
o ganol y 19eg ganrif, a’r ysgol yn dyddio o’r 19eg ganrif,
yma. Addaswyd ysgubor i greu capel cynnar yn Felindre, sef Capel Pen-rhiw,
yn 1777. Roedd yn enghraifft o’r math ‘cyntefig’ o bensaernïaeth
capeli ac fe’i symudwyd i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ar
ddiwedd yr 20fed ganrif. Efallai i Dyˆ Felindre gyferbyn â’r
eglwys gael ei sefydlu yn y 18fed ganrif, ac os yw hynny’n wir,
mae’n hþn nag adeiladau eraill yn yr ardal, er ei fod yn edrych
fel tþ deulawr wedi’i adeiladu o gerrig llanw yn dyddio o’r
19eg ganrif o’r tu allan. Yn debyg i Dre-fach, mae datblygiad llinellol
yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn cysylltu’r pentref â’r
pentrefi sydd nesaf ato.
Mae rhan hynaf Waungilwen yn cynnwys terasau o dai gweithwyr
a thai gweithwyr ar wahân yn yr arddull frodorol yn dyddio o’r
19eg ganrif, gan gynnwys rhai bythynnod unllawr. Mae gan Drefelin felin
restredig wedi’i hadeiladu o garreg, ar safle melin hyˆ n,
a theras o dai gweithwyr yn dyddio o’r 19eg ganrif yn rhedeg ar
hyd llawr y cwm. Ymhellach i fyny’r cwm, yng Nglyn-teg, mae capel
yn dyddio o’r 19eg ganrif, fferm a theras byr o fythynnod gweithwyr
unllawr yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mewn lle bach iawn ar lawr y
dyffryn cul yng Nghwmpengraig mae capel, melin wlân a thyˆ
gweithiwr, y mae pob yn ohonynt yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae Cwmhiraeth
yr un mor gyfyng. Yma ceir clwstwr llac o dai gweithwyr deulawr yn dyddio
o’r 19eg ganrif – tai ar wahân, tai pâr a thai
teras – bythynnod unllawr a thyddynnod a melin drillawr anghyfannedd.
Llechi dyffryn Teifi yw’r prif ddeunydd adeiladu. Mae nifer fach
o fyngalos a thai modern hefyd. Y tu mewn i gaeau llawr y dyffryn neu
gerllaw, rhwng y pentrefi a’r pentrefannau, ceir melinau, bythynnod,
tai gweithwyr, tai perchenogion melinau anghysbell eraill, y mae bron
pob un ohonynt yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Er bod y rhan fwyaf
o’r rhain yn edrych fel cartrefi, mae gan lawer o’r anheddau
hyn gytiau gwehyddu neu weithdai ynghlwm wrthynt, er bod y mwyafrif ohonynt
mewn cyflwr adfeiliedig erbyn hyn.
O’r 115 o safleoedd archeolegol a gofnodwyd yn
yr ardal hon, adeiladau a strwythurau fel y’u disgrifiwyd uchod
yw’r mwyafrif llethol ohonynt, ac mae eraill yn gysylltiedig â’r
diwydiant gwlân, megis ffrydiau melinau a phyllau. Nid oes fawr
ddim archeoleg a gofnodwyd sy’n gynharach na’r 19eg ganrif,
ac nid yw’r safleoedd archeolegol a geir – sef tair ffynnon
gysegredig – yn nodweddiadol iawn o’r ardal.
Mae’r grwpiau tynn o adeiladau a godwyd o gerrig
lleol mewn arddull bensaernïol debyg, fwy neu lai, o fewn cyfnod
byr iawn o 1870 hyd 1910 yn darparu cymeriad tirwedd hanesyddol cryf i
Dre-fach Felindre. Felly, mae’n ardal dirwedd hanesyddol hynod iawn,
ac mae’n gwrthgyferbynnu â choetir a thir ffermio ardaloedd
cyfagos. Fodd bynnag, mae llawer o nodweddion pensaernïol yr adeiladau
diwydiannol – sef y defnydd a wnaed o lechi dyffryn Teifi, arddull
yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif –i’w gweld yn adeiladau
amaethyddol y gymdogaeth.
Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad
Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, map 76; Bowen, E
G, 1939, ‘Economic and Social Life’, yn J E Lloyd, A History
of Carmarthenshire Volume II, From the Act of Union (1536) to 1900, 265-406,
Caerdydd; Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol
neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir
gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain;
Jack, R I, 1981, ‘Fulling Mills in Wales and the March before 1547’,
Archaeologia Cambrensis 130, 70-125; Jenkins, J G, 1998 ‘Rural Industries
in Cardiganshire’ yn G H Jenkins ac I G Jones, Cardiganshire County
History Volume 3: Cardiganshire in Modern Times, 135-59, Caerdydd; Jones
, D E, 1899, Hanes Plwyfi Llangeler a Phen-boyr, Llandysul; Hilling, J
B, 1975, The Historic Architecture of Wales, Caerdydd; Lewis, S, 1833,
A Topographical Dictionary of Wales 1 & 2, Llundain; map degwm plwyf
Llangeler 1839; Llawysgrifau Amgueddfa Genedlaethol Cymru Cyfrol 84 (PE965)
Cynllun Cau Tiroedd yn Llangeler, Penboyr a Chilrhedyn 1866; Lloyd, J
E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Ludlow, N,
Wilson, H a Page, N, 2001, ‘Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
n Mills, Drefach Felindre’,
adroddiad cleient nas cyhoeddwyd gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
; map degwm plwyf
Penboyr 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border
in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales,
Llundain.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |