|
282 WAUN CLYN COCH
CYFEIRNOD GRID: SN105315
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 131.8
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar lethrau deheuol Mynydd
Preseli, a orweddai yn ystod yr oesoedd canol o fewn Cantref Cemaes. Daethpwyd
â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100.
Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan
gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd i'r Farwniaeth yr un ffiniau
â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer
o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â
1922. Perthynai'r ardal gymeriad i raddau helaeth i faenor Nigra Grangia
(Mynachlog-ddu) a roddwyd, ym 1118, i Dironiaid Abaty Llandudoch. Roedd
y faenor yn un sylweddol, a chynhwysai 5 gweddgyfair a oedd yn werth £8
15s 6d ym 1535. Fodd bynnag, mae'r ffaith mai dim ond hanner ffi marchog
oedd yr asesiad o'i gwerth yn awgrymu bod llawer o'r faenor, gan gynnwys
ardal gymeriad Waun Clyn Coch, yn rhostir pori agored yn ystod y cyfnod
canoloesol. Parhawyd i ddal yr ardal, fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol
Barwniaeth Cemaes, o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth. Ymddengys
i'r ardal hon barhau yn rhostir agored, a heb ei anheddu gan mwyaf, tan
y 19eg ganrif. Roedd yn dal i fod yn agored pan gynhaliwyd arolygon degwm
1841 a 1846, ond ymddengys i gaeau a dwy fferm gael eu sefydlu yn fuan
ar ôl hynny. Roedd y ffermydd wedi'u gadael yn wag erbyn canol yr 20fed
ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Waun Clyn Coch rhwng 280m
a 400m o uchder fwy neu lai mewn basn agored cysgodol sy'n wynebu'r de
a'r de-ddwyrain. Rhennir yr ardal yn nifer o gaeau mawr a cheir caeau
llai o faint o amgylch ffermydd anghyfannedd. Rhennir y caeau gan gloddiau
o gerrig a phridd neu gloddiau ac iddynt wynebau o gerrig. Nid oes unrhyw
wrychoedd, ond o bryd i'w gilydd, mae llwyni unig yn tystio i'r ffaith
eu bod wedi bodoli ar un adeg. Tirwedd foel ydyw, ar wahân i glystyrau
bach gerllaw fferm anghyfannedd. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a
wneir o'r tir a cheir tir gwlyb, brwynog a chorslyd mewn pantiau ac yn
agos at nentydd. Cyfyngir cyn-adeiladau i ddwy fferm anghyfannedd yn dyddio
o ganol o'r 19eg ganrif.
Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i'r hyn a all fod yn feddrod
siambrog neolithig, dwy garnedd neu ddau grug posibl a chlostir amgaeëdig
cofrestredig o'r oes haearn.
I'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r de mae'r ardal hon yn
cyffinio â rhostir agored Mynydd Preseli ac mae iddi ffiniau pendant iawn.
I'r dwyrain, mae'r ffin yn llai pendant, am fod yr ardal hon yn ymdoddi
i dir ffermio is Mynachlog-ddu lle y mae pobl wedi ymsefydlu.
Ffynonellau: Howells 1987; Lewis 1969; Map degwm a rhaniad
Llangolman, 1841; Map degwm a rhaniad Monachlogddu, 1846; Rees 1932; Ymddiriedolaeth
Archeolegol Dyfed 1997.
|