|
275 CILGWYN
CYFEIRNOD GRID: SN080370
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 630.1
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar ochr ogleddol Mynydd Preseli,
o fewn Cantref canoloesol Cemaes y daethpwyd ag ef o dan reolaeth Eingl-Normanaidd
gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel
Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley.
Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach
ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai
ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Mae'r ardal gymeriad hon yn gorwedd
yn bennaf o fewn pentrefan Cilgwyn, ym mhlwyf Nanhyfer, a fu'n un o fwrdeistrefi'r
farwniaeth yn ystod y cyfnod canoloesol. Ardal o goetir ydoedd yn bennaf
yn ystod y cyfnod canoloesol ac mae coed trwchus yn dal i'w gorchuddio
heddiw. Mae'n debyg bod y patrwm presennol o gaeau bach afreolaidd eu
siâp yn ymwneud â phroses o amgáu coetir fesul tipyn ar ddiwedd y cyfnod
canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae natur wasgaredig aneddiadau
yn yr ardal hon yn deillio o'r systemau Cymreig o dirddalidaeth y delid
tir o danynt. Heddiw, mae'r coetir sydd wedi goroesi ym Mhentre Ifan yn
cynrychioli'r hyn sy'n weddill o Goed Cilruth a fu'n fwy o faint ar un
adeg ac a fu dan awdurdod coedwig y Farwniaeth ers y 12fed ganrif pan
ddywedwyd ei fod yn ymestyn i'r gorllewin i Drewern ac a ddisgrifiwyd
fel 'rhyfeddod. i weld y cyfryw bren teg' ym 1603. Roedd coedwigoedd Wenallt
a Brithdir i'r gogledd yn 'goedwigoedd llai pwysig' yn yr 16eg ganrif.
Roedd y gwaith o glirio'r coetir hwn a'i amgáu wedi dechrau erbyn y 13eg
ganrif pan oedd Eglwys y Santes Fair Cilgwyn yn gapel anwes i Nanhyfer.
Cofnodwyd anheddiad yn Nolrannog c.1280, tra cyfeiriwyd at Fachongle mewn
dogfen o 1343, ynghyd â Phentre Ifan a ailadeiladwyd ar ei safle presennol
ar ddiwedd y 15fed ganrif ar gyfer Syr James ab Owen fel gwobr am ei wasanaeth
i Harri Tudur. Yn ôl traddodiad torrwyd daliadau a sefydlwyd yn ddiweddarach
allan o goetir. Mae Extent Cemaes o 1577 yn rhestru llawer o'r ffermydd
a'r daliadau presennol o fewn yr ardal gymeriad hon ac yn agos ati. Roedd
yn rhaid i 'blasty' Trewern dalu 6d o rent i'r Farwniaeth, aseswyd Dolrannog
a chafwyd bod yn rhaid i Thomas Lloid dalu rhent o 6d, tra oedd yn rhaid
i'r teulu Warren dalu 3s 4d am y 5 daliad a ffurfiai Fachongle, y cynrychiolir
3 ohonynt gan Fachongle-uchaf, -ganol ac -isaf. Efallai y cynrychiolir
anheddu diweddarach gan Gilgwyn a Chilgwyn Mawr sydd yn ôl pob tebyg yn
ffermydd yn dyddio o'r 17eg ganrif - roedd yr olaf hefyd yn un o ddaliadau
Warren erbyn 1734. Ar ben hynny mae'n bosibl bod rhai o'r caeau afreolaidd
eu siâp i'r de, ar gwr Mynydd Preseli, yr ymddengys eu bod yn assarts
i mewn i goetir, mewn gwirionedd yn perthyn i gyfnod diweddarach hefyd,
a'u bod yn cynrychioli anheddu gan sgatwyr yn y 18fed ganrif ac ar ddechrau'r
19eg ganrif ar dir a fu gynt yn dir comin, y mae darn ohono sydd wedi
goroesi yn ymestyn i'r ardal hon fel ardal gymeriad Carnedd Meibion. Mae'r
enw 'Constantinople' yng nghanol yr ardal hefyd yn perthyn i gyfnod diweddarach.
Er mwyn darparu ar gyfer y boblogaeth a oedd yn tyfu, adeiladwyd ystafell
ysgol yn rhan o Eglwys y Santes Fair Cilgwyn, a sefydlwyd Capel Caersalem
ym 1820. Roedd y patrwm presennol yn ei le yn llawn erbyn arolwg degwm
1843. Ers canol y 19eg ganrif gadawyd rhai ffermydd ac aildyfwyd coetir
dros eu caeau. Bu rhywfaint o gloddio i'r de, a rheolir llawer o'r coetir
sydd ar ôl gan Forest Enterprise neu Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Arweiniodd y gwaith rheoli'r coetir at adeiladu rheilffordd ysgafn ym
Mhentre Ifan ar ddechrau'r 20fed ganrif. Mae'r sefyllfa bresennol yn un
dra gwledig, ond mae rhywfaint o ddiboblogi wedi bod - mae gan Gaersalem
gynulleidfa fawr o hyd ond caeodd Eglwys y Santes Fair Cilgwyn yn ddiweddar.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cilgwyn yn gorwedd ar draws
dyffrynnoedd y rhan uchaf o Afon Gwaun ac Afon Clydach. Yn y fan hon mae
ochrau'r dyffrynnodd yn serth, sy'n creu tirwedd donnog yn codi o 20m
lle y mae ar ei isaf hyd at dros 250m o uchder. Rhennir y dirwedd yn gaeau
bach afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau hyn gan nifer o fathau o ffiniau,
yn amrywio o gloddiau ac iddynt wynebau o gerrig, welydd o gerrig sych
i gloddiau. Cerrig yw'r ffactor cyffredin yn y ffiniau hyn, ac, mewn llawer
o achosion ceir cerrig sylfaen monolithig. Ceir gwrychoedd ar y mwyafrif
o'r ffiniau, ond mae'r rhain fel arfer wedi'u hesgeuluso ac maent wedi
tyfu'n wyllt iawn ac mae coed bach yn egino allan ohonynt. Nodweddir yr
ardal hon gan goetir collddail. Mae'r coedwigoedd mwy sylweddol yn Nhþ
Canol a Phentre Ifan wedi ymestyn dros gyn-gaeau. Mae'r coetir ar ochrau
serth y dyffrynnoedd yn fwy hynafol. At ei gilydd, mae'r coetir helaeth
a'r coed ar y cloddiau sydd wedi tyfu'n wyllt yn rhoi golwg dra choediog
i Gilgwyn. Tir pori yw'r tir amaeth i gyd bron. Tir pori wedi'i wella
a geir yn bennaf ar warrau llai coediog y dyffrynnoedd, ond ar ochrau
a lloriau'r dyffrynnoedd mae tir mwy garw, heb ei wella yn fwy cyffredin.
Mae ychydig o'r tir mwy diffaith yn troi'n brysgwydd unwaith eto. Nodweddir
y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig. At ei gilydd mae'r
aneddiadau yn yr arddull brodorol ac yn dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir adeiladau
ag un llawr, llawr a hanner a dau lawr. Maent wedi'u hadeiladau o gerrig
(wedi'u rendro a cherrig moel), ac iddynt doeau llechi a thri bae. Mae'r
tai allan lle y maent yn bresennol hefyd yn eithaf bach. Fel arfer mae
un rhes wedi'i hadeiladu o gerrig yn dyddio o'r 19eg ganrif, weithiau
ynghyd â strwythur o haearn rhychog o ganol yr 20fed ganrif a/neu adeiladau
bach o ddur, asbestos a choncrid o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae nifer
fawr o ffermydd a bythynnod anghyfannedd, yn arbennig ar hyd dyffryn Clydach.
Lleolir Eglwys y Santes Fair Cilgwyn ar ochr dyffryn a orchuddir â thrwch
o goed a lleolir adeilad urddasol Capel Caersalem, a thanc bedyddio allanol,
ar dir gwastad, mwy agored. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yn yr
ardal. Yr unig elfennau yn y dirwedd hon sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth
yw lonydd a llwybrau troellog cul sydd â chloddiau o bob tu iddynt.
Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys siambr gladdu neolithig
enwog Pentre Ifan sy'n gofrestredig, man darganfod neolithig, a'r hyn
a all fod yn feddrod siambrog/cyfadail o feini hir. Mae hefyd crug crwn
o'r oes efydd, a charnedd glirio o ddyddiad anhysbys. O'r oes haearn mae
bryngaer gofrestredig, bryngaer arall a safle anheddiad. Mae safleoedd
aneddiadau canoloesol a'r hyn a all fod yn system gaeau ganoloesol, a
safleoedd melinau ôl-ganoloesol a chwarel. Yng nghoetir Pentre Ifan, ceir
nodweddion yn gysylltiedig â'r gwaith o reoli'r coetir megis cloddiau
terfyn, cloddfeydd clai, bythynnod, pyllau llifio a rheilffordd ysgafn
yn dyddio o ddechrau'r 20fd ganrif.
Mae'r coetir sy'n elfen mor fawr o'r dirwedd a'r caeau
bach afreolaidd eu siâp yn rhoi cymeriad tirwedd hanesyddol nodedig i
Gilgwyn. Mae'n gwrthgyferbynnu'n gryf â'r ardaloedd o gaeau mwy o faint
heb fawr ddim coetri sy'n cyffinio â hi ar bron bob ochr ac â rhostir
agored Carnedd Meibion-Owen i'r de-ddwyrain.
Ffynonellau: Charles 1992; Howells 1977; Jones 1996; Lewis
1972; Map a rhaniad degwm Nanhyfer, 1843; Nash 1989; Rees 1932; Trethowan
1998; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997 .
|