Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

274 GELLIFAWR

CYFEIRNOD GRID: SN062345
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 80.2

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar lethrau gorllewinol Mynydd Preseli, a amgylchynnir fwy neu lai gan ardal gymeriad Tregynon. Mae'n gorwedd o fewn Cantref canoloesol Cemaes y daethpwyd ag ef o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Mae ardal gymeriad Gellifawr yn gorwedd yn bennaf o fewn pentrefan Cilgwyn, ym mhlwyf Nanhyfer, a fu'n un o fwrdeistrefi'r farwniaeth yn ystod y cyfnod canoloesol. Dengys Extent Cemaes, a luniwyd ym 1577, fod y mwyafrif o'r daliadau o fewn yr ardal gymeriad bresennol wedi'u sefydlu eisoes. Talai Clyn a Phentrisil - a fu'n 'ddarn o Dregynon' yn ardal gymeriad Tregynon - 3d yr un yn flynyddol i Farwniaeth Cemaes.Mae'n bosibl bod y daliadau yn dyddio o'r 16eg ganrif; mae'r patrwm o gaeau afreolaidd eu siâp yn nodweddiadol o dir a amgaewyd o dir pori garw agored yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae iddi naws rhostir o hyd tua'r dwyrain o'r ardal, er bod tystiolaeth bendant o rynnau amaethu yng Ngernos-fawr. Ymddengys fod cysylltu Gellifawr â'r 'Pencellifawr' a gofnodwyd yn yr Extent, fel y gwnaed ar fap Rees, yn gamgymeriad am Bencelli ym mhlwyf Eglwyswrw. Fodd bynnag, bu ffermdy pwysig yn sefyll yng Ngellifawr ers dechrau'r 18fed ganrif, trwy bum cenhedlaeth o'r teulu James. Dengys map degwm sefyllfa debyg i'r un sy'n bodoli heddiw.Tir pori yw'r prif ddefnydd a wneir o'r tir o hyd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Gellifawr yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach sy'n gorchuddio llawr ac ochrau dyffryn bach ar lethrau gogledd-orllewinol Mynydd Preseli. Mae llawr dyffryn y nant sy'n llifo i'r gogledd-orllewin yn gorwedd rhwng 180m a 240m o uchder. Nodweddir yr ardal hon gan gaeau bach afreolaidd eu siâp mewn clwstwr o amgylch nifer o ffermydd a leolir ar lethrau'r dyffryn. Nodweddir ffiniau caeau gan gymysgedd o gloddiau ac iddynt wyneb o gerrig a chloddiau o gerrig a phridd. Ar y cloddiau ceir gwrychoedd. Mae'r mwyafrif o'r gwrychoedd wedi tyfu'n wyllt ac mae'r rhain ynghyd â choetir prysglog yng ngwaelod y dyffryn yn rhoi golwg goediog i'r ardal. Tir pori wedi'i wella yw'r tir amaeth yn bennaf ac mae ychydig o dir âr, ond ceir tir pori mwy garw a thir mawnaidd ar waelod y dyffryn. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Mae'r fwyaf yn eu plith, sef Gellifawr, yn dþ sylweddol yn dyddio o ganol y 19eg ganrif. Mae yn yr arddull Sioraidd boneddigaidd, ond mae'n cynnwys elfennau cynharach, a adeiladwyd o ddolerit lleol a nifer o dai allan mawr iawn wedi'u gosod mewn trefniant lled-ffurfiol mewn perthynas â'r tþ a adeiladwyd o'r un garreg ac ar yr un pryd â'r tþ. Addaswyd y rhain i'w defnyddio at ddibenion twristiaeth. Mae'r ffermydd eraill yn dyddio o'r 19eg ganrif. Fel arfer maent wedi'u adeiladu o gerrig ac wedi'u rendro â sment, mae ganddynt ddau lawr, a thri bae, ac maent yn y traddodiad brodorol. Mae adeiladau fferm y ffermydd llai o faint yn gymharol fach ac maent mewn amrywiaeth o arddulliau ac yn perthyn i wahanol gyfnodau, er bod gan Bentrisil gasgliad mawr iawn o strwythurau yn dyddio o'r 20fed ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig o fewn yr ardal gymeriad. Cyfyngir cysylltiadau ar gyfer trafnidiaeth yn yr ardal hon i lonydd a llwybrau troellog cul a ddefnyddir gan drigolion yr ardal.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i safleoedd aneddiadau Gellifawr a Gernos-fawr, a'r hyn a all fod yn safle maen hir o'r oes efydd.

Er bod hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ar wahân, nid yw'r ffin rhyngddi a'r ardal sy'n cyffinio â hi ar dair ochr, sef Tregynon, yn bendant iawn - ceir ardal gyfnewid yn hytrach na ffin bendant.

Ffynonellau: Charles 1992; Howells 1977; Jones 1996; Map a rhaniad degwm Nanhyfer, 1843; Rees 1932; Sambrook 1997.