Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

269 MYNYDD BACH

CYFEIRNOD GRID: SN095290
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 787.6

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr deheuol Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Roedd ardal gymeriad Mynydd Bach yn eiddo i arglwyddiaeth ganol neu faenor Maenclochog, a ddelid o Farwniaeth Cemaes gan arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif pan aseswyd ei fod yn werth ffi un marchog. Ym 1594, delid Maenclochog - fel maenorau eraill yng Nghemaes- ar brydles flynyddol o'r Farwniaeth ac mewn Extent aseswyd ei bod yn werth 3s 8d. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y Farwniaeth, o fewn Mynydd Preseli, parhaodd yr ardal hon i gael ei dal o dan systemau Cymreig o dirddaliadaeth. Mae'r ardal gymeriad wedi'i hamgáu erbyn hyn ond yn ystod y cyfnod canoloesol, mae'n debyg bod yr ardal gyfan yn rhostir pori agored. Ym 1301, rhoddodd David de la Roche i fynachod Abaty Hendy-gwyn-ar-Daf yr hawl i bori ceffylau 'ar Breseli a'r lleoedd diffaith oddi amgylch am saith mlynedd, am un geiniog ac ar ôl hynny 2 swllt'. Atgynhyrchir cofnod Charles Hassall, ym 1794, o'r 'tir diffaith helaeth' a fodolai o hyd ym Maenclochog yn Hanes y Sir. Gallai rhywfaint o'r tir hwn fod wedi ymestyn dros ardal Mynydd Bach a arhosodd yn dir heb ei hamgáu tan 1815 pan fu'n destun dyfarniad Amgáu gan y Senedd, y mae'r system bresennol o gaeau mawr â ffiniau syth yn noweddiadol ohono. Ar wahân i Fwlch-y-pant, a gofnodwyd ym 1503, ac Eithbed-fach o'r 17eg ganrif, sydd yn ôl pob tebyg yn cynrychioli hafodau, mae'r patrwm anheddu presennol o ffermydd a bythynnod, a'r mwyafrif o'r ffyrdd a'r llwybrau, yn dyddio o 1815 neu'n fuan ar ôl hynny. Ar draws pen gorllewinol yr ardal hon rhedai Rheilffordd Maenclochog , a agorwyd ym 1876, i wasanaethau'r chwareli yn Rhosbwlch, ond a gaewyd ym 1949.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynydd Bach yn cynnwys llain lydan o dir ffermio amgaeëdig sy'n ffinio â llethrau deheuol Mynydd Preseli. Mae'r tir yn wynebu'r de ac yn graddol ddisgyn ac mae'n gorwedd rhwng 200m a 340m o uchder. Mae'r caeau'n rheolaidd eu siâp. Maent fwy neu lai yn sgwâr ac o faint bach i ganolig. Rhennir y caeau gan gloddiau neu gloddiau o bridd a cherrig. Ceir gwrychoedd ar ben y cloddiau hyn. Ac eithrio yn ymyl lonydd a llwybrau nid yw'r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da ac mae'r mwyafrif naill ei wedi diflannu neu'r cyfan sydd ar ôl yw rhesi di-drefn o lwyni ac eithin prysglog. Defnyddir ffensys gwifrau ar y cloddiau rhwng y caeau i ddal gwartheg.. Cymysgedd o dir pori wedi'i wella a thir pori heb ei wella yw'r tir amaeth ynghyd a thir pori mwy garw a thir brwynog mewn pantiau gwlyb. Ar lefelau uwch gadawyd caeau a rhai ffermydd ac maent yn troi'n rhostir unwaith eto. Ceir rhywfaint o goetir prysglog mewn rhai o'r pantiau, a lleolir pedair planhigfa o goed coniffer o faint bach i ganolig yn dyddio o'r 20fed ganrif yn yr ardal. Ac eithrio'r planhigfeydd a'r coetir prysglog, cyfyngir coed i glystyrau bach sy'n darparu cysgod o amgylch ffermydd. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig. Mae'r anheddau at ei gilydd yn dyddio o'r 19eg ganrif. Mae gan yr anheddau hyn a adeiladwyd o gerrig (wedi'i rendro a/neu â cherrig moel) yn y traddodiad brodorol un, un a hanner neu ddau lawr, tri bae a thoeau llechi. Ceir mathau eraill o anheddau, megis bwthyn unllawr o haearn rhychog yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif, a thai o goncrid a briciau wedi'u rendro yn perthyn i'r 20fed ganrif. Fel arfer mae'r tai diweddarach hyn wedi disodli ffermdai cynharach a godwyd yn y 19eg ganrif. Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig yn yr ardal. Ar wahân i'r rheilffordd nas defnyddir bellach a'r B4313 sy'n croesi rhan orllewinol yr ardal hon, cyfyngir y cysylltiadau ar gyfer trafnidiaeth i lonydd a llwybrau. Fel arfer mae'r rhain yn syth a chanddynt lain o 5m - 6m rhwng ymyl y ffordd a'r clawdd. Mae hyn yn cyferbynnu â lonydd troellog cul yr ardaloedd oddi amgylch.

Mae dwysedd yr archeoleg gynhanesyddol a gofnodwyd yn eithaf uchel o fewn ardal Mynydd Bach gan gynnwys cylch cerrig posibl o'r oes neolithig, maen hir cofrestredig ac amlosgiad neu grug, dau faen hir posibl a'r hyn a all fod yn bâr o gerrig, yr hyn a all fod yn rhes o gerrig, crug crwn posibl a thomen losgedig bosibl, i gyd yn dyddio o'r oes efydd. Mae safleoedd eraill yn cynnwys clostir posibl o ddyddiad anhysbys, chwarel Mynydd Goety, y rheilffordd a gwersyll milwrol o'r ail ryfel byd gerllaw Rhosbwlch.

Mae Mynydd Bach yn gorwedd rhwng rhostir agored Mynydd Preseli, y mae rhannau ohono wedi'u plannu â choed, a thir ffermio is Maenclochog a Rhosfach lle y mae'r aneddiadau'n fwy hynafol, sydd i'r de.

Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro MF 207; Charles 1992; Davies 1982; Gale 1992; Howells 1977; Hunter 1852; Map a rhaniad degwm Llandeilo Llwydarth, 1841; Map a rhaniad degwm Llandisilio, 1840; Map a rhaniad degwm Llangolman, 1841; Map a rhaniad degwm Maenclochog, 1841; Rees 1932; Richards 1998; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997