|
268 MAENCLOCHOG
CYFEIRNOD GRID: SN082279
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 221.1
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr deheuol Mynydd Preseli,
o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd
gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel
Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley.
Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach
ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai
ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Roedd ardal gymeriad Maenclochog yn
eiddo i arglwyddiaeth ganol neu faenor Maenclochog, a ddelid o Farwniaeth
Cemaes gan arglwyddi Roche Llangwm yn y 13eg ganrif a'r 14eg ganrif pan
aseswyd ei fod yn werth ffi un marchog. Ond yn wahanol i'r rhan fwyaf
o'r faenor, delid yr ardal gymeriad -sy'n cynnwys yr anheddiad ym Maenclochog
ei hun - o dan dirddaliadaeth faenoraidd Eingl-Normanaidd. Braslun yn
unig sydd gennym o hanes canoloesol y faenor. Roedd wedi dod i feddiant
arglwyddi Roche Llangwm erbyn canol y 13eg ganrif, ynghyd â ffïoedd marchog
yn Eglwys Wythwr a Llanychaer, a pharhaodd eu deiliadaeth i'r 14eg ganrif.
Mewn Extent diweddarach, yn dyddio o 1594, delid maenor Maenclochog -
fel rhai eraill yng Nghemaes - ar brydles flynyddol o'r Farwniaeth ac
aseswyd ei bod yn werth 3s 8d. Sefydlasid castell erbyn 1215 pan gofnodir
yn y Croniclau iddo gael ei ddinistrio mewn cyrch gan y Cymru. Fe'i 'dinistriwyd'
eto ym 1257 tra gall cyfeiriad mewn Inquisition yn dyddio o 1376 awgrymu
ei fod yn dal i gael ei ddefnyddio. Nis profwyd eto ym mha le y safai'r
castell, ond mae'r bryncyn creigiog a'r clostir sy'n gysylltiedig ag ef
ym mhen deheuol y pentref yn bosibiliad cryf. I'r gogledd o'r safle mae
lawnt bentref fawr sy'n cynnwys yr eglwys, sy'n arwain i stryd fawr echelinol
- bellach y B4313 - sydd â thyddynod ar hyd-ddi. Mae'r rhain i gyd yn
nodweddion clasurol o anheddiad a sefydlwyd gan yr Eingl-Normaniaid yn
Sir Benfro ac mae Maenclochog yn rhan o gadwyn o'r cyfryw aneddiadau a
sefydlwyd ar hyd troedfryniau deheuol Mynydd Preseli (cf. Y Mot, Castell
Henri, Cas-haidd ac ati). Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth i Faenclochog
gyrraedd statws bwrdeistref, na'i bod yn uchelgais ganddi fod yn fwrdeistref.
Ailadeiladwyd yr eglwys yn gyfan gwbl ond fe'i sefydlwyd yn yr oesoedd
canoloesol, a gall y ffaith ei bod wedi'i chysegru i 'Mair' awgrymu ei
bod yn dyddio o'r cyfnod ar ôl y Goresgyniad. Rhoddwyd y ficerdy, a'i
gapeliaethau yn Llandeilo Llwydarth, a Llangolman, i Abaty Llandudoch
gan David de la Roche c.1320. Mae'r caeau cul, hir sy'n amgylchynnu'r
pentref yn nodweddiadol o'r modd yr amgaewyd llain-gaeau canoloesol, a
oedd wedi'u rhannu yn ôl pob tebyg yn ôl llinellau maernoraidd Eingl-Normanaidd.
Ond mae hanes diweddarach y pentref wedi bod yn un Cymreig yn bennaf,
ac yn un bugeiliol. Roedd hefyd yn un cymharol tlawd, ac ym 1670 nid aseswyd
bod gan yr un daliad fwy na dwy aelwyd. Erbyn y 19eg ganrif, roedd yn
ganolfan i borthmyn ac roedd ffair wartheg flynyddol fawr yn cael ei chynnal
ar lawnt y pentref. Dengys map o 1773 lawnt y pentref a 15 o anheddau
o'i hamgylch, tra bod gweddill y dirwedd fwy neu lai fel y mae heddiw.
Ar draws yr ardal rhedai Rheilffordd Maenclochog a agorwyd ym 1876 i wasanaethu'r
chwareli yn Rhosbwlch yn ardal gymeriad Mynydd Bach. Fe'i hymestynnwyd
yn ddiweddarach i Abergwaun, ond caeodd ym 1949.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Maenclochog ar lethrau
deheuol Mynydd Preseli rhwng 200m a 260m o uchder, llethrau â rhediad
graddol sy'n wynebu'r de. Pentref Maenclochog yw canolbwynt yr ardal hon.
Mae tir amaethyddol yn cynnwys system o gaeau cul hir; mae'n amlwg bod
hyn yn system o gaeau agored a amgaewyd. Mae'r enghreifftiau gorau o'r
lleiniau amgaeëdig i'w gweld i'r dwyrain ac i'r gogledd o'r pentref. Rhennir
y caeau gan gloddiau a chloddiau caregog ac arnynt wrychoedd. Ac eithrio'r
rhai sy'n rhedeg ar hyd ffyrdd a llwybrau, nid yw'r gwrychoedd at ei gilydd
mewn cyflwr da. Mae bylchau mewn llawer ohonynt ac mae eraill wedi tyfu'n
wyllt. Ar wahân i blanhigfa o goed coniffer a choed mewn rhai o'r gwrychoedd
sydd wedi tyfu'n wyllt, nid yw coedwigoedd yn elfen nodweddiadol o'r dirwedd
hon. Mae cymeriad pentref amaethyddol gweithiol yn perthyn i Faenclochog
o hyd ac mae'n cynnwys ffermydd, eglwys, capeli, garej, neuadd bentref,
tafarndai, gweithdai, tai a siopau. Mae'r pentref wedi'i gynllunio o amgylch
lawnt bentref hirsgwar lle y lleolir eglwys y plwyf. Lleolir tai ac adeiladau
eraill o amgylch ymyl allanol y lawnt hon. Mae'r anheddau mewn amrywiaeth
o arddulliau a defnyddiau. Mae'r enghreifftiau hynaf yn dyddio o ddechrau
i ganol y 19eg ganrif, a cheir ffermdai ar wahân, tai eraill ar wahân
a therasau. Mae'r cyfan wedi'u hadeiladu o gerrig (wedi'u rendro â sment
ac â cherrig moel) ac mae gan y mwyafrif ddau lawr a thri bae. Ceir enghreifftiau
yn yr arddull frodorol ac yn yr arddull Sioraidd bonedigaidd. Mae adeiladau
a adeiladwyd yng nghanol yr 20fed ganrif yn cynnwys tai, byngalos a bythynnod,
gan gynnwys enghraifft dda o fwthyn unllawr o haearn rhychod ac iddo fframwaith
coed. Ceir datblygiadau hirgul yn dyddio o'r 20fed ganrif ar hyd y ffyrdd
i'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r dwyrain. Mae ystad fach o dai yn perthyn
i'r 21ain ganrif ar gyrion gogleddol y pentref. Mae anheddau gwasgaredig
y tu allan i'r pentref yn cynnwys ffermydd, y codwyd eu ffermdai at ei
gilydd yn y 19eg ganrif yn yr arddull frodorol. Mae adeiladau fferm y
pentref a'r ffermydd gwasgaredig yn gymysgedd ac maent yn cynnwys: un
neu ddwy res o strwythurau a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif; ysguboriau
ac adeiladau eraill o dun rhychog yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif; a
strwythurau o ddur, concrid a briciau yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif.
Yr unig adeilad rhestredig yw Eglwys y Santes Fair, a ailadeiladwyd yn
gyfan gwbl c.1790, yn yr un lleoliad â'r eglwys flaenorol ond heb ddim
o'r adeiladwaith cynharach. Mae adeiladau eraill yn cynnwys yr Hen Gapel
yng nghanol y pentref sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif, a chapel Tabernacl,
a adeiladwyd fel capel annibynnol yng nghanol y 19eg ganrif ar ôl anghydfod
rhwng y gynulleidfa yn Hen Gapel. Mae elfennau trafnidiaeth y dirwedd
hanesyddol yn cynnwys y B4313 sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de drwy'r pentref,
isffyrdd a lonydd, a rheillffordd nas defnyddir bellach.
Mae cyfoeth o archeoleg gynhanesyddol o fewn yr ardal fach
hon, gan gynnwys cyfadail defodol o'r oes neolithig/efydd yn Eithbed,
a nifer o feddrodau siambrog a meini hirion posibl, grðp arall o ddau
faen hir a dau faen hir ar wahân arall. Mae cyd-destun y clochgerrig a
grybwyllwyd gan Fenton - sef dwy garreg y dywedir eu bod yn canu fel cloch
pan gânt eu taro - yn anhysbys ac maent wedi diflannu bellach. Mae bryngaer
o'r oes haearn a chlostir amddifynedig llai o faint. Mae'r Henebion Cristnogol
Cynnar yn Eglwys y Santes Fair yn dod o Landeilo Llwydarth, ond mae safle
ffynnon sanctaidd. Nis profwyd eto ym mha le y safai'r castell, ond mae'r
bryncyn creigiog a'r clostir sy'n gysylltiedig ag ef ym mhen deheuol y
pentref yn bosibiliad cryf.
Mae Maenclochog yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig.
Mae'n cyferbynnu ag ardal Mynydd Bach i'r dwyrain a amgaewyd trwy ddeddf
Seneddol ac â'r ardaloedd amhendant o dir mwy o faint a amgaewyd yn fwy
rheolaidd i'r de ac i'r gorllewin.
Ffynonellau: Fenton 1811; Gale 1992; Green 1924; Howells
1977; Jones 1952; King 1988; Ludlow 1998; Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
Picton Castle 1; Map a rhaniad degwm Maenclochog, 1841; Owen 1897; Ymddiriedolaeth
Archeolegol Dyfed 1997
|