|
262 PENTRE GALAR
CYFEIRNOD GRID: SN185310
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1035
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr ar lethr dwyreiniol Mynydd Preseli yn y Sir Benfro
fodern. Mae'r ardal yn cynnwys tirwedd ddefodol neolithig/efydd o bwys
gyda nifer o gofebau gweledol iawn. Yn ystod y cyfnod hanesyddol gorweddai
yng Nghantref ganoloesol Cemaes a ddygwyd o dan reolaeth Eingl-Normanaidd
gan deulu Fitzmartin tua 1100. Cadwodd teulu Fitzmartin hi fel Barwniaeth
Cemaes hyd 1326 pan y'u holynwyd gan deulu Audley. Roedd y farwniaeth
yn gydffiniol gyda'r Cantref Cemais diweddarach a grëwyd yn 1536, ond
parhâi llawer o hawliau a dyletswyddau ffiwdal, rhai mor ddiweddar â 1922.
Fel y rhan fwyaf o ran de-ddwyreiniol y Farwniaeth o fewn Mynydd Preseli,
parhaodd ardal Pentre Galar i gael ei dal o dan gyfundrefnau tenantiaeth
Gymreig. Mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys tir o ansawdd gwael ac ymddengys
ei fod wedi parhau yn dir pori a gweundir heb ei amgáu, gyda hawliau pori
a thorri mawn cyffredin hyd 1812 pan gafodd ei amgáu drwy Ddeddf Seneddol
a sefydlwyd y patrwm ffiniau syth rheolaidd presennol. Fodd bynnag y mae
dwy elfen enw ffarm 'ganol ' a allai awgrymu anheddiad cynharach. Mae'r
enw ffarm 'Llety' fwy na thebyg yn ddiweddarach ac efallai'n tystio i
weithlu amaethyddol teithiol yn y 19eg ganrif. Nodir prif ffordd drwy'r
ardal hon ar fap Rees fel llwybr canoloesol, ond daeth yn ffordd dyrpeg
rhwng 1791 a 1809 o dan Ymddiriedolaeth Dyrpeg Hendy?gwyn. Dangosir y
llwybr presennol ar fapiau Arolwg Ordnans 1809. Ceir chwarel lechi fechan
segur ar ymyl gorllewinol yr ardal. Mae'r anheddiad o hyd yn brin ac mae'r
clwstwr o dai ym Mhentre Galar yn bennaf yn ddatblygiad o'r 20fed ganrif.
Bu plannu coedwigaeth cyfyngedig yng nghanol yr 20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pentre Galar ar ochr ddwyreiniol
Mynydd Preseli rhwng 210m a 350m. Mae'r ardal gymeriad yn gorwedd mewn
basn agored - dyffryn blaenau Afon Gafel, is-afon i Afon Taf - gyda llethr
cyffredinol yn gogwyddo i lawr o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae brigiadau
creigiog a cherrig mawr yn digwydd ar lethrau uwch ar ymyl gorllewinol
yr ardal. Gosodwyd y system caeau ar draws yr ardal gyfan yn 1812 a ffurfia
batrwm cydlynol o gaeau bach rheolaidd. Mae'r rhain yn gyffredinol ar
ffurf siapau sgwâr, er bod caeau hirsgwar hefyd i'w cael yno. Ar dir uwch
mae'r cloddiau ffin yn rhai pridd a cherrig, rhai yn cynnwys clogfeini
sylfaen a ellir ei galw'n feini hirion. Mae'r gwrychoedd a arferai orchuddio'r
cloddiau wedi diflannu bron i gyd. Ar lefelau is mae'r cloddiau yn wrychoedd
pridd gydag ambell glawdd cerrig a phridd. Yma mae'r gwrychoedd mewn gwell
cyflwr ond nid ydynt yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ag eithrio ar hyd
heolydd a llwybrau ac mae llawer yn llinellau o lwyni gwasgarog yn unig,
wedi tyfu'n wyllt ac wedi eu hesgeuluso. Ffensys gwifren sy'n rhoi ffiniau
i gadw da byw i fewn ar draws yr holl ardal. Mae'r defnydd tir bron yn
gyfangwbl yn dir pori gydag ychydig o dir âr. Mae'r rhan fwyaf o'r tir
pori wedi ei wella er bod darnau o dir pori heb ei wella yn bodoli, a
cheir tir garw brwynog a dyddodion mawn yn rhai o waelodion y cwm. Ceir
hefyd brysgwydd yng ngwaelodion y cwm. Ar wahân i blanhigfa goniffer o'r
20fed ganrif ar ochr orllewinol yr ardal hon ychydig o goed tal a geir,
ond mae'r gwrychoedd a dyfodd yn wyllt a'r coetir prysgwydd yn rhoi golwg
goediog i ddarnau sylweddol o'r ochr ddwyreiniol is. Patrwm yr anheddiad
yw un o fythynnod a thai a ffermydd gwasgarog. Mae'r tai hynaf bron i
gyd o'r 19eg ganrif yn yr arddull frodorol ac yn gyffredinol wedi eu codi
o gerrig gyda thoeon llechi, yn ddeulawr a thri bae, wedi eu rendro â
sment neu/ac o garreg foel. Mae'r rhan fwyaf wedi eu moderneiddio. Ceir
hefyd fythynnod unllawr o'r un cyfnod ac arddull. Mae'r rhan fwyaf o'r
anheddau hyn wedi eu moderneiddio. Ceir tí-unnos neu safle bwthyn o bridd
yno. Hefyd ceir tai a byngalos o'r 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau
a deunyddiau. Mae'r adeiladau amaethyddol yn gyffredinol yn fach, yn adlewyrchu
maint y daliadau. Yr arddulliau mwyaf cyffredin yw: cyfres o dai sengl
bach wedi eu codi o gerrig yn yr 19eg ganrif; ysgubor haearn rhychog ac
adeiladau eraill o ganol yr 20fed ganrif; nifer o adeiladau dur, concrid
ac asbestos o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae ysguboriau haearn rhychog du
yn nodwedd o'r daliadau amaethyddol. Ceir ffermydd mwy eu maint ac fe'u
nodweddir gan gasgliadau o adeiladau amaethyddol o ddiwedd yr 20fed ganrif.
Mae adeiladau eraill yn cynnwys pont ^l-ganoloesol. Ni cheir adeiladau
rhestredig yn yr ardal. Mae ffordd yr A478 yn croesi'r ardal hon o'r gogledd
i'r de. Mae'n glir o batrwm y caeau bod y ffordd yno cyn sefydlu'r caeau.
Mae elfennau trafnidiaeth eraill yn y dirwedd yn cynnwys lonydd llwybrau
troellog a syth. Yn y rhan fwyaf o enghreifftiau mae llain o sawl metr
rhwng ymyl y ffordd a'r clawdd ffin sydd wedi ei amgáu. Mae trosglwyddydd
teledu a leolir ar ochr ddwyreiniol yr ardal yn elfen amlwg yn y dirwedd.
Mae'r ardal yn gyfoethog mewn archaeoleg a gofnodwyd, y
cyfan bron o gyfnod cyn-hanesyddol. Mae safle ddarganfod mesolithig/neolithig
a ffatri fwyell?garreg neolithig. Fodd bynnag, nodweddion defodau y cyfnodau
neolithig/efydd sydd amlycaf, yn cynnwys meingylch bosibl, tomen gylch
bosibl a ffos grwn, sawl marc pridd a chorfflosgiad, sy'n ffurfio cyfadeilad
o amgylch y ffatri fwyeill yng nghanol yr ardal. I'r gogledd o'r crynhoad
hwn ceir un domen grwn bendant a dwy bosibl, pâr o feini a restrwyd, twmpath
llosg posibl a mannau darganfod cynhanesyddol a Rhufeinig. Cyfyngir gweithgaredd
diweddarach i chwarel ^l-ganoloesol.
Mae'r patrwm caeau rheolaidd iawn yn diffinio'r dirwedd
hanesyddol yn yr ardal gymeriad hon yn glir. Mae ardaloedd i'r gogledd,
dwyrain a'r de eto i'w diffinio ond yn y rhan hon ceir patrymau amgáu
sydd wedi'u hen sefydlu. I'r Gorllewin mae tir uchel Crugiau Dwy a led-amgaewyd
yn rhoi ymyl bendant i ardal gymeriad Pentre Galar.
Ffynonellau: David and Williams, 1995; Ymddiriedolaeth
Archeolegol Dyfed 1997; Lewis n.d.; Arolwg Ordnans, Brasluniau Tirfesurwyr,
2" i 1 filltir, Tudalen 188, 1809; Archifdy Sir Benfro D/HSPC/5/1; Rees
1932.
|