|
261 LLETHR
CYFEIRNOD GRID: SN157324
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 121.1
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach gryno yn y Sir Benfro fodern ar lethr de-ddwyreiniol
Mynydd Preseli. Gorweddai o fewn Cantref canoloesol Cemaes a ddygwyd o
dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan deulu Fitzmartin tua 1100. Cadwodd teulu
Fitzmartin ef fel Barwniaeth Cemaes tan 1326 pan y'i holynwyd gan deulu
Audley. Roedd y farwniaeth yn gydffiniol â'r Cantref Cemais diweddarach
a grëwyd yn 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a dyletswyddau ffiwdal
, rhai hyd mor ddiweddar â 1922. Fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol
y farwniaeth o fewn mynydd Preseli, parhaodd ardal Llethr i gael ei dal
o dan gyfundrefnau tenantiaeth Gymreig. Yn 1118 cyflwynodd William fitzmartin
yr ardal fel rhan o faenor Nigra Grangia i Deironiaid Abaty Llandudoch.
Roedd ei asesiad yn hanner ffi marchog yn unig yn awgrymu fod y faenor
mwy na thebyg yn dir pori gweundir heb ei hamgáu yn ystod y cyfnod canoloesol.
Ar Ddiddymiad y Mynachlogydd fe'i meddiannwyd gan John Bradshaw o Lanandras
ynghyd ag abaty Llandudoch ac wedi hynny fe'i daliwyd ar wahân i Farwniaeth
Cemaes. Mae'r ardal gymeriad hon yn dangos patrwm amgáu clir, rheolaidd
a chynrychiola fwy na thebyg, amgáu diweddar ar gyn dir pori gweundir,
a hynny o bosibl mor ddiweddar â'r 18fed a'r 19eg ganrif. Atgynhyrchir
cofnod Charles Hassall yn 1794 o 'wastraff helaeth' a barhâi ym Mynachlog-ddu
yn Hanes y Sir. Yn y 16eg ganrif hawliodd plwyfolion Monington, ar arfordir
gogleddol Sir Benfro gerllaw Llandudoch, unig berchnogaeth o'r hawliau
comin i 'certain lands called Llethr' ym mhlwyf Mynachlog-ddu. Efallai
fod hyn yn cyfeirio at ardal Llethr sy'n cynnwys 6 enw ffarm 'llethr'
-Llethrmawr, Llethr -uchaf, Llethr-ganol ayb. Mae cyfeiriad uniongyrchol
at hafota o bellter o'r fath yn anghyffredin yn ne-orllewin Cymru, ac
ymddengys ei fod yn barhad o amgylchiadau a weithredwyd gan Abaty Llandudoch.
Gall fod yr ardal wedi cael ei hamgáu pan beidiodd yr hawliau pori hynny
neu fod yr hawliau pori hynny wedi peidio pan abaewyd y tir. Roedd y broses
o amgáu wedi'i chwblhau erbyn arolwg y degwm 1846 pan oedd y ffermydd
Llethr o dan berchnogaeth gyffredin Jane Harries. Ceir hefyd rai daliadau
amaethyddol diweddarach a darddodd yn wreiddiol fel aneddiadau sgwatwyr.
Plannwyd hanner gogleddol yr ardal â choedwigaeth yng nghanol yr 20fed
ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llethr ar lethr de?ddwyrain
Mynydd Preseli rhwng 250m a 340m. Amgaewyd hi yn gaeau bach afreolaidd
gan waliau o gerrig sych, gyda chloddiau cerrig yn achlysurol. Mae'r waliau
cerrig sych bron i gyd mewn cyflwr da, ond mae rhai'n dechrau dirywio.
Gellir galw llawer enghraifft o gerrig sylfaen a chlogfeini yn feini hirion
(monolith). Mae'r cloddiai a arferai orchuddio'r gwrychoedd cerrig bellach
bron i gyd wedi dirywio i fod yn llinellau o lwyni achlysurol; ceir ffensys
gwifren ar hyd pennau'r cloddiau. Y defnydd tir amaethyddol yw tir pori
wedi'i wella, gyda dim ond ychydig o dir pori garw a dim tir âr. Ffermydd
a bythynnod gwasgaredig yw patrwm yr anheddu. Mae'r tai bron i gyd yn
19eg ganrif, yn yr arddull frodorol ac wedi eu codi yn gyffredinol o gerrig
gyda thoeau llechi, yn unllawr, un a hanner neu ddeulawr, a 3 bae, wedi'u
rendro â sment neu garreg foel. Mae'r rhan fwyaf wedi'u moderneiddio.
Mae'r tai amaethyddol yn fach gan adlewyrchu maint y daliadau. Yr arddulliau
mwyaf cyffredin yw: ystod sengl fychan wedi eu codi o gerrig o'r 19eg
ganrif; ysguboriau haearn rhwyllog ac adeiladau eraill o ganol y 20fed
ganrif; a llawer o adeiladau bach dur, concrid ac asbestos o ddiwedd yr
20fed ganrif. Nid oes adeiladau rhestredig o fewn yr ardal. Gorwedd planhigfa
goniffer o ddiwedd yr 20fed ganrif dros lethrau uchaf yr ardal gymeriad
hon . Sefydlwyd llawer o'r blanhigfa hon ar gaeau, ffermydd a bythynnod
a adawyd, ond plannwyd rhan ohoni ar weundir agored Mynydd Preseli - cynhwyswyd
hon yn yr ardal gymeriad hon. Ar wahân i'r blanhigfa goniffer yr unig
goed yw'r rhai sy'n agos at anheddau er mwyn rhoi cysgod ac ar gloddiau
ar hyd y ffyrdd. Mae lonydd a llwybrau'r ardal yn gul a throellog â chloddiau
uchel o boptu iddynt.
Cyfyngir yr archaeoleg a gofnodwyd i ddau o gernydd clirio
posibl a dwy o feini hirion posibl, i gyd yn nodweddiadol o'r Oes Efydd
.
Mae Llethr yn ardal gymeriad glir iawn. Hon yw'r unig leoliad
yn agos at Fynydd Preseli lle mae waliau cerrig sych yw'r prif fath o
ffin. I'r gogledd a'r gorllewin mae gweundir agored Mynydd Preseli yn
ffurfio ffin ymyl galed i'r ardal hon, fel ag y gwna corstir a thir pori
garw agored i'r de a'r de-ddwyrain. Dim ond i'r dwyrain wrth ardal gymeriad
Mynachlog-ddu y ceir ardal o newid yn hytrach na ffin glir bendant.
Ffynonellau: Howells 1987; Lewis 1969; Map Degwm a rhaniad
Llangolman 1846; Map Degwm a rhaniad Monachlogddu 1846; Rees 1932
|