260 FOEL DYRCH
CYFEIRNOD GRID: SN 157301
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 132.1
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach gryno yn y Sir Benfro fodern yn cynnwys bryn diarffordd
Foel Dyrch, ar lethr de-ddwyreiniol Mynydd Preseli. Gorweddai o fewn Cantref
canoloesol Cemaes a ddaeth o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan deulu Fitzmartin
tua 1100. Daliodd teulu Fitzmartin hi fel Barwniaeth Cemaes hyd 1326 pan
ddilynwyd hwy gan deulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn gyd-ffiniol â'r
Cantref Cemais diweddarach a grëwyd yn 1536, ond parhaodd llawer o hawliau
a dyletswyddau ffiwdal, rhai mor ddiweddar â 1922. Fel gyda'r rhan fwyaf
o ran de-ddwyreiniol y Farwniaeth o fewn Mynydd Preseli parhaodd ardal
Foel Dyrch o dan gyfundrefnau tenantiaeth Cymreig. Yn 1118 cyflwynodd
William Fitzmartin yr ardal hon, fel rhan o faenor Nigra Grangia i Deironiaid
Abaty Llandudoch. Roedd ei hasesiad ar hanner ffi marchog yn unig yn awgrymu
bod y faenor fwy na thebyg yn bennaf yn dir pori gweundir agored yn ystod
y cyfnod canoloesol. Ar Ddiddymiad y Mynachlogydd fe'i meddiannwyd gan
John Bradshaw o Lanandras, ynghyd ag Abaty Llandudoch, ac fe'i daliwyd
ar ôl hynny ar wahân i farwniaeth Cemaes. Roedd Foel Dyrch yn rhan o weundir
agored, yn ddaliad o'r farwniaeth gyda hawliau pori a thorri mawn cyffredin,
ac mae'n parhau yn dir agored. Cafodd ei ddefnyddio at ddibenion eraill
yn y gorffennol; roedd chwarel lechi Tyrch Uchaf ar ymyl ddeheuol yr ardal
- a ddarparodd lechi i doi Neuadd y Sir Caerfyrddin - yn gweithio o ddiwedd
yr 18fed ganrif tan 1939, ac mae dau safle chwareli bach yn gorwedd ar
lethrau'r ardal. Yn ystod yr ail ryfel byd defnyddiwyd yn ôl pob tebyg
chwarel Tyrch Uchaf gan Luoedd America fel llwyfan ymarfer gynnau.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Foel Dyrch yn fryn crwn clir ar ochr dde-ddwyreiniol Mynydd Preseli
sy'n codi o'r tir amaethyddol caeëdig o'i amgylch i tua 250m i gyrraedd
uchder mwyaf o 368m. Mae'n dir agored. Y prif ddefnydd tir yw tir pori
garw-grug ac eithin. Elfen glir yn y dirwedd hanesyddol yw pyllau a thwmpathau
gwastraff Tyrch Uchaf a chwareli bach eraill. Nid oes aneddiadau wedi
goroesi. Fodd bynnag, ceir clystyrau bach o goed ar, ac, o amgylch ffermdai
a bythynnod gwag ar lethr ddwyreiniol y bryn. Ar wahân i'r rhain mae hwn
yn dirwedd ddi-goed. Ni cheir ffyrdd na llwybrau.
Cyfyngir yr archaeoleg a gofnodwyd i un maen hir posibl,
a thomen grwn bosibl ar gopa Foel Dyrch, y ddwy o'r Oes Efydd. Yn ychwanegol
at hyn ceir corlan ôl- ganoloesol, chwarel lechi Tyrch Uchaf a dwy gloddfa
arall llai, a nodweddion milwrol o'r ail ryfel byd.
Nid oes adeiladau yn dal i sefyll.
Mae Foel Dyrch yn ardal gymeriad o dirwedd hanesyddol didoledig,
gyda ffin ymyl galed i'r gogledd, gorllewin a'r de yn erbyn tir caeëdig
Mynachlog-ddu. Nid yw'r ffin i'r dwyrain wedi ei ddiffinio cystal yn erbyn
tir lled agored Crugiau Dwy.
Ffynonellau: Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed 1997; Lewis
1969; Map Degwm a rhaniad Monachlogddu 1846; Rees 1932; Richards 1998
.
|