|
227 CYNGHORDY
CYFEIRNOD GRID: SN 783395
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1322.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr sydd wedi'i lleoli rhwng Afon Brân a blaenddyfroedd Afon Tywi,
a fu unwaith yn rhan o gwmwd Hirfryn yng Nghantref Bychan a oresgynnwyd
gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri
ym 1110-16 (Rees d.d.). Fe'i trosglwyddwyd yn fuan ar ôl hynny i arglwyddi
Clifford Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag, bu cyfnodau
pan gadwodd yr ardal arferion deiliadol brodorol tan ddiwedd y cyfnod
Canoloesol pan gafodd ei hymgorffori o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin.
Mae'n bosibl bod llawer o'r ardal yn agored yn ystod y cyfnod Canoloesol
- mae'r map o Dde Cymru a wnaed gan Rees ym 1932 yn ei labelu 'Cefngelevarth
Forest' (Rees 1932) - ond mae'n bosibl bod enw pentref Cynghordy yn tarddu
o sefydliad mynachaidd (nas dyddiwyd), a/neu gapel, sef 'Capel Cynfab',
tra bod yr enw lle gerllaw, sef Maes Mynach, yn awgrymu presenoldeb daliadau
tir yn perthyn i'r cyfryw sefydliad (Sambrook and Page 1995, 18). Mae
patrwm presennol y caeau yn awgrymu i hanner deheuol yr ardal gael ei
hamgáu ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol neu ar ddechrau'r cyfnod Ôl-Ganoloesol;
mae'n bosibl bod y clostiroedd rheolaidd yn yr hanner gogleddol yn ddiweddarach
ond roedd y dirwedd bresennol wedi'i chreu erbyn dechrau'r 19eg ganrif.
Mae'n bosibl bod Neuadd Cynghordy yn dyddio o'r 16eg ganrif (Jones 1987,
53) ond mae Rees yn awgrymu bod y canolbwynt maenoraidd Canoloesol wedi'i
leoli yn 'Abergefel' i'r de (Rees 1932), ac er ei fod yn nodi bod melin
bosibl yng Nghynghordy, nid oes unrhyw dystiolaeth bod y pentref presennol
yn anheddiad cynnar gerllaw cyn-eglwys/mynachdy. Yn lle hynny ymddengys
iddi ddatblygu ar wahân gerllaw y Ffordd Rufeinig rhwng Llanymddyfri (Alabum)
a'r ceyrydd ym Meulah a Chastell Collen yng nghanolbarth Cymru (James
1982, 7) - a gynrychiolir erbyn hyn gan yr A483(T) ychydig i'r dwyrain
o Ardal 227 - a ddatblygodd yn llwybr porthmona pwysig yn y cyfnod Ôl-Ganoloesol.
Mae'n bosibl mai dyma sy'n gyfrifol am y ffaith bod capel anghydffurfiol
a thafarn yn y pentref. Yn rhedeg ar draws yr ardal mae'r rheilffordd
o Lanymddyfri i Lanwrtyd, a sefydlasid erbyn 1871 i ffurfio rhan o Linell
Canolbarth Cymru Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-Orllewin a Chyffordd
Caerfyrddin; mae'n dal yn weithredol ac mae'n rhan o linell 'Calon Cymru'.
Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith bod ganddo'r hanfodion - sef capel,
swyddfa bost ac ysgol, yn ogystal â melin a diwydiant a gynrychiolir gan
waith briciau, eglwys blwyf newydd (Llanfair-ar-y-bryn) a adeiladwyd ar
ddiwedd y 19eg ganrif, ficerdy, tafarn a gorsaf reilffordd, ni ddatblygodd
anheddiad cnewyllol yng Nghynghordy - efallai roeddent mor wasgaredig
fel nad oedd yr un canolbwynt y gallai pentref dyfu o'i amgylch (Sambrook
and Page 1995, 24) ac yn wir, y datblygiad pwysicaf a fu yng Nghynghordy
oedd adeiladu ystad o dai cyngor yn yr 20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal gymeriad fawr yw Cynghordy a leolir rhwng 80m a 250m ar lethrau
sy'n wynebu'r de-ddwyrain ar ochr orllewinol dyffryn Brân i'r gogledd
o Lanymddyfri. Yn ei hanfod ardal o gaeau bach afreolaidd, ffermydd gwasgaredig
a choetir gwasgaredig ydyw. Cloddiau â gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio'r
ffiniau i'r caeau. Mae cyflwr y gwrychoedd yn amrywio; ar lefelau uwch
maent yn adfeilio a/neu maent wedi tyfu'n wyllt, ar lefelau is, ac ar
hyd llwybrau a lonydd, maent mewn cyflwr gwell ac at ei gilydd maent yn
cael eu cynnal a'u cadw'n dda. Defnyddir ffensys gwifrau ar y cyd â'r
mwyafrif o'r gwrychoedd. Mae llawer o'r gwrychoedd yn cynnwys coed nodweddiadol.
Mae'r coed hyn ynghyd â'r nifer fawr o glystyrau o goetir collddail -
sydd at ei gilydd wedi'u cyfyngu i lethrau mwy serth - a llawer o blanhigfeydd
coniffer, yn rhoi golwg goediog i ran helaeth o'r dirwedd. Defnyddir y
tir ffermio ar gyfer porfa, sydd at ei gilydd yn borfa wedi'i gwella,
ond ceir tir mwy garw a thir brwynog mewn pantiau glwyb ac ar lefelau
uwch. Nodweddir y partwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig; Cynghordy yw'r
unig anhenddiad cyfunedig ac mae'n cynnwys clwstwr llac o dai o'r 19eg
ganrif, capeli, ysgol a stryd o dai yn dyddio o'r 20fed ganrif. Mae'r
ffermdai bron i gyd yn perthyn i ddweidd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif.
Mae'r adeiladau deulawr hyn wedi'u hadeiladu o gerrig ac iddynt dri bae,
er bod enghreifftiau mwy o faint a llai o faint i'w cael. Mae'r mwyafrif
ohonynt yn y traddodiad brodorol, ond mae yna enghreifftiau yn y dull
Sioraidd mwy 'bonheddig'. Mae tai allan y ffermydd a adeiladwyd yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg yn dueddol o fod mewn un neu ddwy res, er bod gan y
ffermydd mwy o faint fwy o adeiladau mewn trefn lled-ffurfiol gyda'r tí.
Mae gan y mwyafrif o ffermydd amrywiaeth fawr o adeiladau amaethyddol
modern. Er bod dyffryn Brân yn llwybr pwysig sy'n cysylltu Sir Gaerfyrddin
a Chanolbarth Cymru, mae'r mwyafrif o'r llwybrau go iawn, o ffordd Rufeinig
i'r ffordd fodern, yn rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol y dyffryn. Yr eithriad
i hyn yw rheilffordd Canolbarth Cymru sy'n croesi'r ardal hon, gyda gorsaf
yng Nghynghordy, gan godi o'r de i'r gogledd. Mae ei thraphont drawiadol
o gerrig, a leolir ychydig o fewn ochr ogleddol yr ardal yn nodwedd bwysig
yn y dirwedd.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac yn amrywiol,
ac mae'n cynnwys dau grug crwn posibl o'r Oes Efydd, bryngaer bosibl o'r
Oes Haearn, ffynnon gysegredig bosibl o'r Oesoedd Canol a chapel a/neu
safle mynachlog, a nifer o fannau darganfod ar wahân o'r cyfnod Neolithig,
yr Oes Efydd, y cyfnod Rhufeinig (o bosibl) a'r cyfnod Ôl-Ganoloesol.
Mae ychydig o adeiladau nodweddiadol.
Mae rhannau o Neuadd Cynghordy, sy'n rhestredig Gradd II,
yn dyddio o'r 18fed ganrif (Jones 1987, 53). Mae'r draphont sy'n cario
llinell y LNWR yn dyddio o tua 1871 ac yn rhestredig Gradd II. Ar ben
hynny mae'r swyddfa bost, gorsaf reilffordd, gwaith briciau, Eglwys Santes
Fair a ficerdy, ysgol, capeli, a melinau, sydd i gyd heb eu rhestru.
Ni ddiffiniwyd ardaloedd cymeriad i'r dwyrain ac i'r gogledd
o Gynghordy eto. I'r gorllewin mae esgair uchel yn darparu ffin weddol
dda ar gyfer yr ardal hon, ond i'r de, mae yna ardal gyfnewid yn hytrach
na ffin bendant.
|