Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

224 DRYSLWYN

CYFEIRNOD GRID: SN 554203
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 8.88

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach sy'n cynnwys y bryn anghysbell y saif olion Castell Dryslwyn arno a'r dref Ganoloesol anghyfannedd, a amgaeai gyda'i gilydd 1.7 ha. Cymerir y rhan fwyaf o'r adran hon, oni nodir yn wahanol, o waith Rees a Caple, 1999 Dinefwr Castle: Dryslwyn Castle. Er ei bod yn amlwg bod safle'r castell yn un hawdd ei amddiffyn, nid oes unrhyw dystiolaeth bod pobl yn byw ar y safle yn ystod y cyfnod cynhanesyddol, er yr ymddengys fod darganfyddiadau Rhufeinig wedi'u cofnodi o gopa'r bryn. Ymddengys i bobl ddechrau byw ar y safle yn ystod y cyfnod Canoloesol pan oedd yr ardal wedi'i lleoli o fewn Cantref Mawr, a arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284. Mae'n bosibl bod llys wedi'i leoli ar y safle o dan Dywysogion Deheubarth yn ystod y 12fed ganrif, ac awgrymwyd efallai bod Dryslwyn, o dan ddeiliadaeth Gymreig, yn faerdref (Sambrook and Page 1995, 17), efallai yng Nghwm-agol gerllaw yn Ardal 191, i'r dwyrain. Mae olion presennol y gorthwr crwn a'r ward fewnol yn dyddio o ddechrau'r 13eg ganrif, a'r ward ganol o ganol y 13eg ganrif. Bu Dryslwyn yn ganolbwynt i wrthryfel y Cymry yn erbyn y broses o ad-drefnu Cantref Mawr o dan reolaeth y Saeson, a bu dan warchae'r Saeson ym 1287; yn sgîl llwyddiant y gwarchae hwnnw daeth y castell o dan reolaeth coron Lloegr. Ar ôl hynny ychwanegwyd y ward allanol, ailadeiladwyd llety'r ward fewnol yn rhannol, a gosodwyd bwrdeistref ar gopa'r bryn oddi amgylch, a oedd wedi'i hamgau o fewn waliau'r dref oedd wedi'u hadeiladu o waith maen. Erbyn diwedd y 13eg ganrif cynhwysai'r dref 43 o diroedd bwrdais a melin a ffair flynyddol, a daliai'r bwrdeisiaid eu tiroedd trwy siarter frenhinol (Soulsby 1983, 133). Ym 1360 roedd 34 o diroedd bwrdais o fewn amddiffynfeydd y castell a 14 ar Stryd y Bont (ibid.). Yn ôl pob tebyg cymerwyd lle Stryd y Bont gan y ffordd bresennol sy'n rhedeg o amgylch llethr orllewinol y bryn, gan arwain at bont a oedd, erbyn 1360 o leiaf, wedi cymryd lle rhyd yn Ardal 182. Ym 1403 cipiwyd Dryslwyn gan Owain Glyndër ac ymddengys fod y dref wedi'i dinistrio'n llwyr; dim ond y castell a nodir ar fap Saxton o Sir Gaerfyrddin a wnaed ym 1578 sy'n awgrymu nad adferodd y dref erioed. Hefyd aeth y castell yn adfail ymhen fawr o dro ond ymddengys na chafodd dychmyg yr arlunwyr Rhamantaidd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ei ddal yn llawn gan yr olion. Trosglwyddwyd olion y castell i'r Wladwriaeth (o dan Cadw bellach) ym 1980. Cloddiwyd yr olion gan archeolegwyr a'u clirio, ac erbyn hyn maent ar agor i'r cyhoedd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal gymeriad fach hon yn cynnwys Bryn Dryslwyn yn unig. Mae'r bryn yn codi'n serth o orlifdir Afon Tywi ar lefel o 20 m i uchder o dros 60 m. Mae wal Ôl-Ganoloesol â morter arni yn rhedeg o amgylch gwaelod y bryn. Defnyddir y tir ar gyfer porfa arw. Mae prif elfennau tirwedd yr ardal hon yn cynnwys y gwaith maen ac olion gwrthgloddiau'r castell a'r dref Ganoloesol. Hyd yn ddiweddar roedd olion y gwaith maen yn eithaf ansylweddol, ond mae gwaith cloddio a chadwraeth dros y ddau ddegawd diwethaf wedi datguddio llawer o gynllun adeiladu'r castell, ond cynrychiolir y rhan fwyaf o'r castell a'r dref gan wrthgloddiau o hyd. Mae'r rhain yn anferth, yn arbennig yr amgylchoedd amddiffynnol, ac ynghyd â'r olion sy'n sefyll maent yn ffurfio elfen sylweddol o'r dirwedd hanesyddol.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys yn bennaf olion gwaith maen wal y castell a'r dref, a'r gwrthgloddiau cysylltiedig, llwyfannau tai ac ati sy'n dyddio o'r cyfnod Canoloesol. Cofnodwyd man darganfod Rhufeinig hefyd. Nid oes unrhyw adeiladau eraill.

Mae ardal gymeriad Dryslwyn yn nodweddiadol iawn yn hanesyddol ac yn ddaearyddol. Mae'n gwrthgyferbynnu â'r tir ffermio amgaeëdig is sydd o'i hamgylch lle y mae pobl wedi ymsefydlu.