Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

216 RHANDIRMWYN

CYFEIRNOD GRID: SN 776421
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 804.90

Cefndir Hanesyddol
Ardal a leolir yn nhroedfryniau y Mynyddoedd Cambria ar y naill ochr a'r llall i flaenddyfroedd Afon Tywi, a ffurfiai'r ffin rhwng Cantref Bychan i'r dwyrain a Chantref Mawr i'r gorllewin. Goresgynwyd Cantref Bychan gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.) ac yn fuan ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Arhosodd Cantref Mawr yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284. Cadwodd y ddau gantref arferion deiliadol brodorol tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gawsant eu huno o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin. Lleolid llawer o'r ardal i'r dwyrain o Afon Tywi o fewn Maenor Nant-y-bai, a roddwyd fel maenor i Sistersiaid Ystrad Fflur, yn ôl pob tebyg gan Gruffydd ap Rhys tua 1200. Mae'n bosibl bod y cnewyllyn wedi'i leoli ym Mron-y-cwrt o fewn Ardal 216 (Williams 1990, 58). Maenor ucheldirol ydoedd, a redid yn ôl pob tebyg gan ffermwyr-denantiaid yr ymwnâi eu gwaith yn bennaf â phori anifeiliaid ar borfeydd mynydd, er bod y felin bresennol yn wreiddiol yn felin þd ganoloesol sy'n dangos y câi pocedi o dir âr lle'r oedd y pridd yn dda eu ffermio (Sambrook and Page 1995, 18). Mae'r elfen rhandir yn yr enw Rhandirmwyn yn awgrymu bod y tenantiaid yn dal eu tir trwy etifeddiaeth, a bod ganddynt yr hawl dragwyddol i'w daliadau (Rees, 1924, 200). Parhaodd y faenor ar ôl y Diddymiad fel ystad Ystrad-ffin. Dengys arolwg o 1629 (Archifdy Sir Gaerfyrddin, Hawlysgrifau Lort 17/678) ei bod yn cynnwys y mwyafrif o'r ffermydd oddi amgylch a bod y patrwm anheddu presennol eisoes yn ei le fwy neu lai; mae'n bosibl bod y system bresennol o gaeau afreolaidd canolig eu maint hefyd wedi'i sefydlu. Delid Pwll-priddog, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol, ar wahân i'r plasty a'r faenor gan y teulu Morgan (Jones 1987, 168). Nodweddir yr ardal yn bennaf gan hen weithfeydd plwm. Mae'n bosibl mai'r Sistersiaid a ddechreuodd gloddio am blwm (Williams 1990, 58), neu'r Rhufeiniaid hyd yn oed (James 1982, 34); yn ddiau yr oeddid yn cloddio plwm yn yr ardal hon erbyn diwedd y 13eg ganrif, gyda'r goron yn cymryd yr 'unfed droedfedd ar ddeg' o'r mwyn fel treth (Rees 1968). Byddai hyn yn awgrymu efallai bod cymuned fwyngloddiol, y mae ei maint yn anhysbys, yn bodoli yng nghyffiniau Rhandirmwyn a Nant-y-bai. Mae'n bosibl bod Rhandirmwyn yn gymharol fawr erbyn y 18fed ganrif - yn eithriadol o fawr efallai yn ôl safonau lleol - am fod y mwyngloddiau'n cyflogi 400 o weithwyr ym 1791 (Sambrook and Page 1995, 23), ac mae'r anheddiad cnewyllol presennol yn cynnwys terasau o dai a godwyd i'r gweithwyr, ac eglwys newydd Sant Barabas o ganol y 19eg ganrif. Mae'r enw lle 'Nant-y-glo' yn nodi bod glo yn bresennol yn yr ardal a gweithredai chwarel yn rhan ddeheuol yr ardal. Fodd bynnag nodweddwyd diwedd y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif yn bennaf gan ddatblygiadau gwasgaredig o fythynnod ac anheddau. Codwyd gwaith trin carthion i'r de o Randirmwyn.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir ardal gymeriad Rhandirmwyn yn rhan uchaf dyffryn Tywi lle y mae llethrau'r dyffryn yn ymagor i greu ardal fawr ar siâp powlen. Mae llawr y dyffryn rhwng 100 m a 120 m, ac mae llethrau'r dyffryn o fewn yr ardal hon yn codi i dros 180 m. Ardal gymhleth ydyw am ei bod yn cynnwys caeau afreolaidd bach, ffermydd gwasgaredig, coetir a phlanhigfeydd o goed coniffer, mwyngloddiau plwm a'u cymunedau cysylltiedig, a thai a bythynnod o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. At ei gilydd defnyddir y tir ar gyfer porfa wedi'i gwella o fewn y system o gaeau afreolaidd bach, ond ceir pocedi mawr o dir garw a brwynog, yn enwedig tua llawr y dyffryn. Cloddiau â gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio ffiniau'r caeau. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gwael ac mae llai na 50% ohonynt yn gallu cadw da byw i mewn. Mae'r mwyafrif wedi tyfu'n wyllt neu wedi'u hesgeuluso. Yn ogystal â'r gwrychoedd ceir ffensys gwifrau. Mae gan lawer o'r gwrychoedd goed nodweddiadol, ac mae'r coed hyn ynghyd â'r nifer fawr o brysglwyni collddail a phlanhigfeydd coniffer bach yn rhoi golwg goediog i'r dirwedd. Mae'r patrwm anheddu hynafol yn yr ardal hon yn un o ffermydd gwasgaredig. Mae'r ffermydd hyn wedi'u hadeiladu o gerrig a chanddynt doeau llechi, ac yn gyffredinol maent yn dyddio o'r 19eg ganrif. Mae gan y mwyafrif ddau lawr a thri bae ac maent yn dueddol o fod yn y traddodiad brodorol, er y ceir enghreifftiau mewn dull Sioraidd mwy boneddigaidd. Ceir tai allan o gerrig ar y mwyafrif o ffermydd, ac adeiladau amaethyddol mawr hefyd. At ei gilydd lleolir olion y diwydiant cloddio am blwm y tu allan i'r ardal hon, ond lleolir cymuned Rhandirmwyn a dyfodd i'w wasanaethu yma. Mae'n cynnwys anheddau gwasgaredig o gerrig a chapeli yn dyddio o'r 19eg ganrif. Ceir tai unigol a bythynnod, yn ogystal â therasau a thai deulawr ac unllawr. Lleolir bythynnod o gerrig a godwyd i'r gweithwyr yn y 19eg ganrif, a thai o friciau a godwyd i'r gweithwyr yn yr 20fed ganrif mewn lleoliadau unig wrth ochr ffyrdd i ffwrdd o'r brif gymuned. Mae tai diweddar yn cynnwys anheddau unigol.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud yn bennaf â nodweddion ac adeiladau yn gysylltiedig â'r diwydiant cloddio am blwm, ond mae'n cynnwys maen hir o'r Oes Efydd a chrug crwn, a dau grug posibl, bryngaer o'r Oes Haearn a ffynnon a safleoedd capeli posibl o'r Oesoedd Canol. Ceir nifer o adeiladau nodweddiadol ond ychydig ohonynt sydd wedi'u rhestru.

Mae melin Nant-y-bai yn rhestredig Gradd II, a'r tu mewn iddi ceir olwyn dros y rhod o bren a haearn bwrw ac odyn sychu þd. Ailadeiladwyd Dugoedydd a Phwll-priddog. Dylid nodi'r eglwys, y tai i'r gweithwyr, y swyddfa bost a'r dafarn yn Rhandirmwyn. Mae nifer o gapeli anghydffurfiol.

Ardal hynod ydyw. Mae iddi ffiniau pendant - sef y planhigfeydd coniffer i'r gogledd-ddwyrain ac i'r gorllewin, a thir lled-amgaeëdig uchel i'r dwyrain ac i'r de. I'r gogledd ac i'r de-orllewin nid yw'r ffin mor bendant a cheir ardal gyfnewid yn hytrach na ffin bendant.