Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

195 PARC DINEFWR

CYFEIRNOD GRID: SN 617225
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 229.20

Cefndir Hanesyddol
Cymerwyd y nodiadau cefndirol hyn o'r astudiaeth a wnaed gan yr Athro Ralph Griffiths yn ddiweddar (1991) o gastell a bwrdeistref Dinefwr, ac o Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle 1999) {PREIFAT}. Y gred ers amser maith yw mai Dinefwr oedd sedd tywysogion Cymreig Deheubarth. Dangosodd Griffiths, fodd bynnag, nad oedd hynny'n wir a'i bod yn debyg na fodolai unrhyw beth o bwys ar y safle nes i Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys) godi castell yn fuan ar ôl 1163. Mae'n bosibl i'r Arglwydd Rhys adeiladu castell o waith maen, am fod cyfeiriad o 1213 yn awgrymu waliau o gerrig. Yr adeg honno roedd mab ieuengaf yr Arglwydd Rhys, sef Rhys Gryg, dan warchae yn ei gastell gan ddau o wyrion yr Arglwydd Rhys. Mae'n debyg i'r gorthwr crwn yn y castell gael ei adeiladu gan Rhys Gryg rhwng 1220 a 1233. Arhosodd y castell yn nwylo'r teulu hyd deyrnasiad Edward I. Gwnaed gwaith atgyweirio helaeth ar y castell ac ychwanegwyd ato ar raddfa fawr gan Goron Lloegr yn y 1280au. Yn ystod blynyddoedd olaf y castell dan reolaeth y Cymry datblygodd anheddiad bach - sef 'Trefscoleygyon' neu 'bentrefan y clercod' - y tu allan i'r castell. Erbyn 1294 roedd gan dref Dinefwr 26 o diroedd bwrdais, marchnad wythnosol a ffair flynyddol. Ar ddiwedd y 13eg ganrif datblygodd Dinefwr yn ddwy-dref. Cynhwysai hyn 'hen' dref ar y bryn gydag 11 o fwrdeisiaid Cymreig, a thref 'newydd' - a gâi ei galw'n 'Newton' yn fuan ar ôl hynny - gyda 35 o fwrdeisiaid o dras Seisnig yn bennaf. Lleolid Newton cryn bellter i ffwrdd ar safle'r plasty diweddarach, Tþ Newton. Ym 1310 rhoddwyd castell, trefi a demên Dinefwr i Edmund Hakelut ac yn ddiweddarach i'w fab. Daliodd y teulu Hakelut ei safle, ar wahân i doriad byr, tan 1360. Gwnaed gwaith atgyweirio ar y castell o dan y teulu Hakelut. Dengys arolwg o 1360 fod Newton yn anheddiad llwyddiannus a chanddi 46 o fwrdeisiaid. Rhoddwyd siarter i'r trefi ym 1363, ond ymddengys fod hyn wedi nodi uchafbwynt o ran ffyniant y trefi. Bu'r castell a'r trefi dan warchae ym 1403 yn ystod gwrthryfel Glyndðr. Yn dilyn y gwrthryfel rhoddwyd y trefi a'r castell i Hugh Standish. Nid oedd gan y teulu Standish fawr ddim diddordeb yn ne Cymru, a dechreuodd y castell a'r trefi ddirywio. Ym 1433 gwahanwyd y cyfrifoldeb am y trefi a'r castell, a rhoddwyd y trefi a'r demên i John Perrot. Priododd ei gyfnither Gruffydd ap Nicholas, a dyna sut y dechreuodd y cysylltiad hir â'r teulu Gruffydd. Erbyn i ðyr Gruffydd ap Nicholas, sef Rhys ap Gruffydd, gael ei atentio o frad ym 1531 roedd ei deulu wedi adeiladu plasty ymysg adfeilion hen dref 'Newton', er bod 'Newton' wedi'i nodi o hyd ar y map a dynnodd Saxton o Sir Gaerfyrddin ym 1578. Roedd oes y trefi a'r castell wedi dod i ben. Fodd bynnag, parhaodd y teulu Rice (Rhys) i fyw ym Mhlasty Newton ac fe'i hailadeiladwyd yn rhannol rhwng 1595 a 1603, ac eto tua 1660, a thua 1757-1779, ac yna yn ei ffurf bresennol ym 1856-1858 gan Richard Kyrke Penson; mae'r tþ presennol yn cadw llawer o nodweddion y tþ a fodolai ym 1660. Gwnaed parc yn y dirwedd bresennol rhwng 1590 a 1650 fwy neu lai (Milne 1999, 6). Cwblhawyd waliau'r parc tua 1774 ac amgaeent ardal dirluniedig fawr i dros 200 ha a gardd ffurfiol fach, gerddi â wal o'u hamgylch a set o strwythurau domestig. Ceir rhai olion tirweddau gwaelodol, gan gynnwys teras sy'n ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin a allai fod yn rhan o'r ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, ac olion ffyrdd a lonydd a all fod yn rhai Rhufeinig a/neu Ganoloesol. Hefyd cofnodwyd carreg felin Rufeinig a chelc arian bath gerllaw Castell Dinefwr tra darganfuwyd teilchion o amfforâu a llestri Samiaidd yng nghyffiniau Fferm Dinefwr (Crane 1994, 6). Mae rhan ganolog yr ardal yn cynnwys hen eglwys y plwyf, sef eglwys Tyfi Sant, Llandyfeisant, sy'n dyddio o'r cyfnod Canoloesol. Erbyn hyn mae'r eglwys hon yn segur ac yn cael ei defnyddio gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru; ymddengys fod y cofnod yn RCAHMW 1917, 110, fod 'teserâu Rhufeinig' o dan yr eglwys yn hollol anghywir.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Dinefwr yn cynnwys y cyfan o Barc Dinefwr, ynghyd ag ardaloedd bach y tu allan iddo a oedd yn gysylltiedig â'r ystad megis Fferm y Plas. Lleolir y parc ar dir bryniog ar ochr ogleddol dyffryn Tywi, yn union i'r dwyrain o dref Llandeilo, ac mae'n cyrraedd uchder o dros 90 m. Mae llethrau coediog yn codi'n serth o lawr y dyffryn i Gastell Dinefwr sy'n ffurfio, gyda Thþ Newton, ddau brif ffocws y parc. Mae'r castell wedi'i leoli ar dir uchel, yn edrych dros ddarnau hir o'r dyffryn. Mae'r gwaith maen sydd ar ôl yn perthyn i'r 13eg ganrif a'r 14eg ganrif yn bennaf, ac i waith atgyweirio a wnaed gan yr ystâd yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r castell wrthi'n cael ei ddiogelu gan Cadw. Mae'r gwrthgloddiau y tu allan i'r castell yn rhan o'r amddiffyniad allanol, ond mae'n debyg eu bod yn nodi safle tref fach Dinefwr hefyd. Mae Tþ Newton, sef prif gartref ystâd Dinefwr, yn darparu'r ail ffocws yn y parc. Nid oes unrhyw beth i'w weld uwchben y ddaear o'r dref ganoloesol, Newton, yr adeiladwyd y plasty gwreiddiol arni. Mae'r tþ presennol yn dyddio o ganol yr 17eg ganrif, ond adeiladwyd ffasâd newydd arno yn y 1850au yn y dull Gothig. Mae'r tþ a'r rhan fwyaf o'r parcdir yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Lleolir casgliad ysblennydd o adeiladau gwasanaethu o gerrig wedi'u trefnu o amgylch iard yn agos at Dþ Dinefwr. Mae elfennau eraill o'r gerddi a'r parc megis gardd â wal o'i hamgylch, rhewdy, colomendy a phyllau wedi goroesi. Mae'r parc o'r 18fed ganrif wedi cadw llawer o'i blanhigion. Mae coed unigol, clystyrau o goed, a chlystyrau mwy helaeth o goetir i'w gweld o hyd. Mae'r parc wedi cadw ei gymeriad agored - yn arbennig y parc ceirw ar yr ochr orllewinol - er bod ffensys gwifrau'n rhannu rhan ddwyreiniol y parc ceirw hwn yn glostiroedd o gaeau pori. Mae rhan dde-ddwyreiniol y parc - sef Parc Penlan - wedi'i dinasoli ac mae llwybrau tarmac wedi'u gosod yno. Lleolir eglwys anghysbell Llandyfeisant, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol, yn yr ardal; mae'r eglwys hon bellach yn segur. Nodir ffiniau'r caeau o amgylch y parc gan gloddiau pridd â gwrychoedd ar eu pennau. Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud yn bennaf â thirlun y parcdir a'i nodweddion, gan gynnwys cwningar, ond mae nodweddion gwaelodol yn cynnwys ffos gron bosibl o'r Oes Efydd.

Mae archeoleg Rufeinig yn cynnwys carreg felin, ffyrdd a lonydd posibl a chelc arian bath. Mae'n debyg bod nodweddion yn ymwneud ag anheddiad Canoloesol Newton yn gorwedd o dan y clostiroedd presennol.

Mae Parc Dinefwr yn cynnwys llawer o adeiladau nodweddiadol, a chyda'r ardd mae wedi'i gofnodi fel PGW (Dy) 12 (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle 1999) {PREIFAT}. Mae Castell Dinefwr sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd yn Heneb Gofrestredig ac yn adeilad rhestredig Gradd I. Mae Eglwys Tyfi Sant, Llandyfeisant, a adferwyd ar raddfa fawr yn y 19eg ganrif, yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae Tþ Dinefwr (Newton), y tþ haf, a'r rhesi yn yr iard fewnol a'r iard allanol, yn rhestredig Gradd II* tra bod y ffos glawdd, y pistyll, bwthyn y llaethdy, y colomendy, lladd-dy'r ceirw, y rhewdy, fferm y plas, yr ysgubor þd a'r rhes lle'r oedd y beudy/stablau yn rhestredig Gradd II (naw i gyd). Lleolir bandstand ym Mharc Penlan.

Mae parc Dinefwr yn ardal gymeriad hynod ac mae yna wrthgyferbyniad amlwg rhyngddo a'r tir ffermio oddi amgylch a lleoliad trefol Llandeilo.