|
191 NANTGAREDIG - DERWEN FAWR
CYFEIRNOD GRID: SN 535233
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2789.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr iawn a leolir ar ochr ogleddol dyffryn Tywi ac
sy'n ymestyn o Nantgaredig yn y gorllewin y tu hwnt i Landeilo i'r dwyrain.
Y dyffryn oedd y prif lwybr hanesyddol i Orllewin Cymru a dilynai'r ffordd
Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri y rhyngwyneb rhwng y llifwaddod a'r
ddaeareg solet ar ochr ogleddol Afon Tywi. Dilynir llwybr y ffordd Rufeinig
fwy neu lai gan ffordd fodern yr A40(T). Yn ystod y cyfnod hanesyddol
lleolid y rhan fwyaf o'r ardal o fewn hanner deheuol cymydau, ac yn ddiweddarach
gantrefi, Cetheiniog a Maenordeilo (Rees 1932). Delid y ddau gwmwd o arglwyddiaeth
Gymreig annibynnol Cantref Mawr nes i sir Gaerfyrddin gael ei sefydlu
ym 1284. Mae'n bosibl bod cymeriad cymharol gydryw y dirwedd bresennol
yn cynrychioli undod hanesyddol o ran y defnydd a wneid o'r tir. Cofnodwyd
y dull amaethu cefnen a rhych yng ngorlifdir Afon Tywi ond mae'n bosibl
bod yr ymyl ogleddol hon hefyd yn dir pori yn bennaf, ac i'r gogledd o
Lanegwad roedd ardal o dir diffaith neu dir comin o'r enw 'Fforest Killardun'
(Rees 1932). Ar ben hynny mae'n bosibl i'r tir o fewn yr ardal hon gael
ei amgáu yn gymharol ddiweddar, am fod y mwyafrif o'r caeau'n rheolaidd
ac o faint canolig. Llanegwad yw'r unig anheddiad cnewyllol cynnar o fewn
yr ardal. Mae'n bosibl ei fod yn cynrychioli eglwys ac anheddiad a sefydlwyd
cyn y Goresgyniad oedd â system reiddiol o ffiniau a oedd o bosibl yn
barhad o system mewnfaes-allfaes (Sambrook 1995, 59). Ar y safle hwn lleolid
eglwys blwyf, mwnt ac yn ddiweddarach - o dan nawdd Esgobion Tyddewi -
fwrdeistref fach, sydd bellach yn bentref. I'r gogledd yn Allt-y-ferin
ceir ail fwnt a berthynai i Arglwyddiaeth Caerfyrddin i'r dwyrain (Ardal
183), ac mae'n bosibl mai dyma oedd safle'r 'Dinweilir' a gymerwyd gan
y Cymry ac a ailfeddiannwyd ym 1159 (Jones 1952, 61). Fe'i cysylltid â
chyn-gapel. Rhennir gweddill yr ardal rhwng plwyfi Llangathen a Llandeilo
Fawr. Yng nghymer afon Cothi ac afon Tywi lleolid craidd Maenor Brunus,
y cyfeiriwyd ati yn Siarteri Llandaf o'r 12fed ganrif ond sy'n hþn na'r
Goresgyniad yn ôl pob tebyg (Richards 1974, 119), ac roedd capel yn Llandeilo
Rwnws ar lannau Afon Tywi ac un arall gerllaw Pontargothi. Roedd y lleoliad
hwn mor bwysig fel y'i henwyd (fel 'Ystrad Brwnws') fel safle brwydr rhwng
y Cymry a'r Normaniaid ym 1116 (ibid.); o ganlyniad i'r defnydd a wneid
ohono fel llwybr darparodd Dyffryn Tywi'r safle ar gyfer brwydr arall,
gerllaw Derwen Fawr, ym 1257 (Rees 1932). Rhoddwyd Maenor Brwnws i'r Premonstratensiaid
yn Nhalyllychau. Nid yw'r dyddiad yn hysbys ond mae'n debyg i hyn ddigwydd
ar ddiwedd y 12 fed ganrif (ibid.). Cynrychiolid y faenor wedi'r diddymiad
gan blastai Wythfawr ac Ystradwrallt, a sefydlasid erbyn y 1540au (Jones
1987, 199); mae'n bosibl bod yr ail wedi cadw'r elfen 'Ystrad' o Ystrad
Brwnws. Lleolid Penllwynau hefyd o fewn ystad Llandeilo Rwnws a phlasty
ydoedd yn ddiweddarach (Jones 1987, 150). Tþ o ddiwedd yr Oesoedd Canol
yw Cilsaen gerllaw Llangathen a ddaeth yn rhan o ystad Gelli Aur yn yr
17eg ganrif (Jones 1987, 32) ond mae'n perthyn i gyfnod cynharach, am
ei fod yn gysylltiedig â thywysogion diwethaf Deheubarth ac am y cyfeirir
ato fel 'maenor' mewn dogfennaeth o ddechrau'r cyfnod Ôl-Ganoloesol. Mae
Cwrt-henri yn dyddio o'r 16eg ganrif ac mae'n gysylltiedig ag ardal fach
o barcdir o'r 19eg ganrif ac eglwys de novo o'r 19eg ganrif (Lloyd 1991,
37-46), tra bod ail ardal o barcdir yn Allt-y-ferin yn cyfoesi â'r tþ
a adeiladwyd ym 1869 (Jones 1987, 6). Hefyd dylanwadwyd ar y patrwm anheddu
o ganlyniad i sefydlu cysylltiadau modern. Dilynai ffordd dyrpeg, a sefydlwyd
ym 1763-71 (Lewis, 1971, 43), linell y ffordd Rufeinig fwy neu lai. Fodd
bynnag adeiladwyd y llwybrau syth trwy Bontargothi a Derwen Fawr o dan
Thomas Telford yn y 1820au (Archifdy Sir Gaer, Mapiau Cawdor 172) ac yn
ddiweddarach datblygodd y ddau bentref hyn, a Felindre. Croesai prif linell
reilffordd Gorllewin Cymru y cyn LNWR, a agorwyd, fel 'Llinell Dyffryn
Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1858, yr ardal (Gabb,
1977, 76). Mae anheddiad presennol Nantgaredig yn hollol fodern a datblygodd
o amgylch yr orsaf reilffordd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal gymeriad fawr iawn ar ochr ogleddol Dyffryn Tywi ac sy'n cynnwys
rhan o waelod dyffryn Cothi. Mae'n codi o orlifdir Afon Tywi ar 20 m OD
mewn cyfres o fryniau llyfngrwn isel sy'n codi i dros 120 m lle y maent
ar eu huchaf. Mae'r ardal gyfan wedi'i hamgáu gan gaeau gweddol fawr o
borfa, gyda'r rhan fwyaf o'r borfa honno'n borfa wedi'i gwella - ychydig
iawn o dir garw neu dir brwynog sydd. Mae'r caeau wedi'u rhannu gan gloddiau
pridd â gwrychoedd ar eu pennau. At ei gilydd mae'r gwrychoedd yn cael
eu cynnal a'u cadw'n dda ac maent mewn cyflwr da. Ceir coed nodweddiadol
yn tyfu mewn llawer o'r gwrychoedd hyn. Mae llawer o glystyrau bach o
goetir collddail, yn arbennig ar lethrau serth dyffrynnoedd lle y gall
fod yn hynafol, a cheir planhigfeydd coniffer ar lethrau serth iawn dyffryn
Cothi. Nodweddir y prif batrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Mae ffermydd
hþn sydd wedi goroesi, megis Llethr Cadfan, yn dangos bod y patrwm anheddu'n
ymestyn yn bell yn ôl mewn amser - rhywbeth na ellir ei weld yn hawdd
yn yr adeiladau eraill sydd wedi goroesi. Wedi'i arosod ar y patrwm hynafol
hwn o ffermydd gwasgaredig mae patrwm anheddu mwy diweddar o aneddiadau
cnewyllol. Mae pentref Llanegwad yn mynd yn ôl i'r Oesoedd Canol ond mae'r
adeiladau sydd wedi goroesi yn dangos iddo ddatblygu yn y 18fed ganrif
a'r 19eg ganrif, ac iddo ehangu'n gyflym yn yr 20fed ganrif. Mae Felindre'n
glwstwr rhydd o anheddau o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ond erbyn hyn
mae pentrefi cnewyllol, clystyrol a llinellol megis Nantgaredig, Pontargothi
a Derwen Fawr, er bod ganddynt graidd bach o adeiladau o'r 19eg ganrif,
yn ddatblygiadau sy'n perthyn yn y bôn i ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae
i'r ardal, fel llawer o Ddyffryn Tywi, naws parcdir a cheir ardaloedd
bach o barciau a grëwyd yn y 19eg ganrif o amgylch Tþ Allt-y-ferin a Chwrt-henri.
Roedd y bryniau isel a hawdd eu cyrraedd i'r gogledd o'r gorlifdir wedi'i
gwneud yn bosibl i ddatblygu llwybr pwysig o'r dwyrain i'r gorllewin ar
hyd dyffryn Tywi, o'r cyfnod Rhufeinig i'r cyfnod modern, a gynrychiolir
gan ffordd bresennol yr A40(T). Mae'r aneddiadau modern a ddisgrifiwyd
uchod, ar wahân i Nantgaredig a ddatblygodd o amgylch gorsaf reilffordd,
yn dueddol o fod wedi'u lleoli ar hyd y ffordd hon.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd mewn ardal dirwedd mor fawr
yn cynnwys amrediad o safleoedd o bob cyfnod. Mae'r mwyafrif o'r nodweddion
archeolegol yn ymwneud â defnyddio'r tir at ddibenion amaethyddol ond
ceir hefyd ddau gastell â mwnt, yr ychwanegwyd un ohonynt, sef Allt-y-ferin,
ar gaer bentir fewnol o'r Oes Haearn, meini hirion o'r Oes Efydd a heneb
ar ffurf hengor yn Nantgaredig.
Ailadeiladwyd eglwys plwyf Llanegwad yn y 1840au ac fel
yr eglwys yng Nghwrt-henri sy'n dyddio o'r 19eg ganrif nid yw'n rhestredig.
Mae ffermdy Llethr Cadfan sy'n rhestredig Gradd II a'i ysgubor restredig
Gradd II* yn perthyn i'r 17eg ganrif, ac mae Tí Llwynhelig a'r bloc stablau
sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif hefyd yn rhestredig Gradd II. Ar
wahân i hynny mae adeiladau nodweddiadol yn gymharol brin yn yr ardal
ond mae Cwrt-henri sy'n perthyn i'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yn bennaf,
sy'n rhestredig Gradd II*, yn cadw craidd cynharach ac mae gan fferm y
plas adeiladau o waith maen o ansawdd da. Mae'r ffermydd at ei gilydd
yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, maent wedi'u hadeiladau o
gerrig ac iddynt doeau llechi. Mae i'r mwyafrif ohonynt ddau lawr a thri
bae, yn y dull Sioraidd, ond mae enghreifftiau mwy o faint yn bodoli.
Yn gysylltiedig â'r ffermdai mwy o faint mae casgliadau o adeiladau fferm,
ac mae'r rhain yn aml wedi'u trefnu'n lled ffurfiol sy'n adlewyrchu statws
uwch y daliadau. Ceir ffermdai yn y traddodiad brodorol, ond mae llai
o'r rhain nag sydd o ffermdai yn y dull boneddigaidd. Mae yna dueddiad
i ffermdai llai o faint a'r rhai yn y traddodiad brodorol fod â chasgliad
mwy cyfyngedig o adeiladau sy'n llai o faint, yn aml wedi'u cywasgu'n
un rhes.
Nid yw ffiniau'r ardal hon yn bendant am fod y mwyafrif
o'r ardaloedd cyfagos yn rhannu elfennau tirwedd hanesyddol tebyg. Lleolir
rhan o'r ffin i'r de yn erbyn gorlifdir afon Tywi, Parc Dinefwr a thref
Llandeilo; mae'r rhain yn nodi'r ffin yn weddol glir. Mewn mannau eraill
i'r de, ac i'r gorllewin ac i'r dwyrain nid oes unrhyw ffin bendant rhwng
yr ardal hon a'i chymdogion, ond yn hytrach ceir ardal drawsnewidiol.
|