|
187 CROESYCEILIOG - CWMFFRWD
CYFEIRNOD GRID: SN 408150
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2671.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr wedi'i rhannu'n anghyfartal rhwng cyn gymydau (arglwyddiaethau'n
ddiweddarach) Cydweli i'r de ac i'r gorllewin, ac Iscennen i'r dwyrain
(Rees 1953, 174). Mae i'r dirwedd fyw hon gryn hanes am fod cwrs y B4309
bresennol yn rhannol ddilyn y Ffordd Rufeinig rhwng y gaer yng Nghasllwchwr
(Leucarum) a Chaerfyrddin (Moridunum), ac mae Abercyfor, gerllaw Cwmffrwd
tua'r gogledd o'r ardal gymeriad, yn o safleoedd mwy argyhoeddiadol ar
gyfer fila Rufeinig (James 1980, 16). Mae'n bosibl bod eglwys Ceinwr Sant,
hefyd i'r gogledd o'r ardal yn Llangynnwr, yn hþn na'r Goresgyniad ac
roedd yn eglwys blwyf Ganoloesol bwysig. Roedd Arglwyddiaeth Cydweli wedi
bod yn nwylo'r Eingl-Normaniaid ers tua 1110 ond yn wahanol i weddill
Cantref Bychan parhaodd Iscennen yn annibynnol mewn enw tan 1284 (Rees
1953, xv). Ym 1327 trosglwyddwyd Cydweli i Ddugiaeth Caerhirfryn ac yna
trosglwyddwyd Iscennen ym 1340 (ibid.). Er gwaethaf y ddeiliadaeth ddeuol
hon, ymddengys fod y tir, yn ystod y cyfnod hanesyddol, wedi'i reoli mewn
ffordd ddigon tebyg yn y ddwy ran o'r ardal, a ddelid fel Brodoraethau
yn ystod y cyfnod Canoloesol (Rees 1953, 220), ac eithrio rhan ddeheuol
yr ardal a leolid yn Llanismel yn un o froydd yr estroniaid (Rees 1953,
175-212). Mewn gwirionedd roedd llawer o'r tir uwch i'r de ac i'r dwyrain
o'r ardal hon yn gytir, sef rhan o gomins Mynydd Cyforth a Mynydd Ucha,
ac roedd y rhan fwyaf ohono wedi'i hamgáu gan nifer o unigolion preifat
- rhydd-ddeiliaid pwysig megis y teuluoedd Stepney, Morgan a Philipps
- yn ystod y 16eg ganrif ac ar ddechrau'r 17eg ganrif fel y cofnodwyd
yn eithaf manwl ym 1609 (Rees 1953, 243-9). Mae'n debyg felly fod Ardal
187, lle y ceir caeau mwy afreolaidd a llai o faint, wedi'i hamgáu yn
gynharach, efallai trwy i bobl dresmasu arni ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol.
Cynhwysai 'Ynys' Cystanog, yn Nyffryn Tywi i'r gogledd o'r ardal, 'feintiau
bach' o arglwyddiaeth Widigada 'a adwaenir yn gyffredin fel yr ynys uchaf
, ac mae'r lleiniau hyn wedi'u cymysgu yn nhiroedd y Ddugiaeth ac yn eu
plith' (Rees 1953, 235). Roedd plasty wedi'i godi yn Abercyfor erbyn yr
16eg ganrif, a bu'n gartref i'r teulu Dwnn o Gydweli, a oedd yn sylwebwyr
enwog yn eu dydd (Jones 1987, 1). Lleolir tþ cynnar arall yn Beaulieu
Fawr. Ceir y cofnod cyntaf o'r plasty yn Iscoed, yn ne'r ardal, ar ddechrau'r
17eg ganrif ac arhosodd yn nwylo'r teulu Mansel tan 1772 pan adeiladwyd
plasty newydd; gwerthwyd y ddau i'r teulu Picton ar ôl 1804 a gwnaed parciau
yn yr ardal o'u hamgylch (Jones 1987, 94-95). Ymddengys fod Towy Castle,
er gwaethaf ei enw, yn dþ newydd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, y
cyfeiriwyd ato yn gyntaf ym 1794 (Jones 1987, 182). Mae plasty arall yng
Nghystanog wedi mynd; defnyddiwyd tir o fewn ei gwrtil ar gyfer cloddio
plwm ar ddiwedd y 18fed ganrif. Nodir y B4300 ar hyd glan ddeheuol afon
Tywi ar fapiau o ddechrau'r 19eg ganrif a bu presenoldeb y ffordd hon
yn symbyliad i bentref dyfu o amgylch y capel ymneilltuol yng Nghapel
Dewi; fodd bynnag cyfeiriwyd at 'Chapel Dewi' ar ddechrau'r 17eg ganrif
(Rees 1953, 301). Lleolir pentref newydd arall o'r 19eg ganrif, gydag
eglwys gyfoes, ar y B4309 yng Nghwmffrwd i'r de o Gaerfyrddin; bu llawer
o ddatblygu yn y ddau bentref yn ystod yr 20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal dirwedd hanesyddol fawr iawn hon ar draws bryniau
tonnog isel ar ochr ddeheuol ac ochr ddwyreiniol dyffryn Tywi isaf. Mae'n
codi o lefel y môr wrth Afon Tywi i uchderau o dros 120m ar gopaon y bryniau
llyfngrwn i'r de-orllewin o Gwmffrwd. Nodweddir yr ardal gan ffermydd
gwasgaredig wedi'u lleoli mewn caeau afreolaidd a rheolaidd gweddol fawr
o borfa wedi'i gwella. Ceir ychydig o dir mwy garw a brwynog, yn arbennig
ar lefelau uwch. Diffinnir y caeau gan gloddiau pridd â gwrychoedd ar
eu pennau. At ei gilydd mae'r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da, er ei bod
yn amlwg bod y rhai ar lefelau uwch wedi'u hesgeuluso rywfaint. Ceir coed
gwrychoedd nodweddiadol yn tyfu mewn rhai gwrychoedd. Ceir clystyrau o
goetir collddail wedi'u canoli ar lethrau serth dyffrynnoedd, a rhai planhigfeydd
coniffer llai o faint ar dir uwch. Mae ardal o gyn barcdir o amgylch Plasty
Iscoed. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig yn bennaf.
At ei gilydd mae'r ffermdai yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a'r 19eg
ganrif. Maent wedi'u hadeiladu o gerrig, wedi'u rendro ac mae ganddynt
doeau llechi, dau lawr a thri bae. Mae'r mwyafrif wedi'u hadeiladu yn
y traddodiad brodorol. Mae adeiladau fferm o gerrig yn gysylltiedig â'r
ffermydd hyn. Ar y ffermydd mwy o faint mae'r adeiladau fferm hyn yn sylweddol
ac ambell waith maent wedi'u cynllunio'n ffurfiol, ond, mae'r mwyafrif
ohonynt yn cynnwys un neu ddwy res wedi'u lleoli'n anffurfiol yn y buarth.
Ceir adeiladau fferm modern mawr ar y mwyafrif o ddaliadau. Wedi'u harosod
ar y patrwm hynafol hwn o ffermydd gwasgaredig mae patrymau anheddu diweddarach.
Pentrefan bach llinellol yw Croesyceilog ac iddo graidd o dai a bythynnod
o gerrig yn dyddio o'r 19ef ganrif gydag anheddau modern o friciau wedi'u
gwasgaru yn eu plith. Pentref sy'n perthyn i'r 20fed yw Cwmffrwd yn y
bôn - pentref o dai unigol, ystadau tai bach a modurdai, er ei fod yn
cynnwys rhai elfennau hþn yn perthyn i'r 19eg ganrif, sy'n ymestyn ar
hyd yr A484 a ffordd B. Yn yr un modd mae i Gapel Dewi hen graidd, ond
pentrefan sy'n perthyn i'r 20fed ganrif ydyw yn y bôn. Mae nifer o briffyrdd
a ffyrdd hanesyddol eraill yn ogystal â'r A484 - sy'n dilyn llwybr ffordd
Rufeinig dybiedig - yn ymestyn allan o Gaerfyrddin ar draws yr ardal hon.
Mae pob un o'r ffyrdd hyn wedi denu datblygiadau llinellol yn ystod yr
20fed ganrif. Ymhlith elfennau eraill y dirwedd sy'n perthyn i'r 20fed
ganrif mae llinellau trydan y Grid Cenedlaethol a gorsaf pwmpio dðr.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd o ardal dirwedd mor fawr yn
cynnwys amrediad o safleoedd o bob cyfnod. Mae'r nodweddion yn ymwneud
yn bennaf â defnydd tir amaethyddol ond mae'r ffordd Rufeinig a'r fila
bosibl yn Abercyfor, y mwynglawdd plwm Ôl-Ganoloesol yng Nghystanog, yn
haeddu sylw.
Ceir rhai adeiladau nodweddiadol. Mae Plasty Iscoed, a
ailadeiladwyd â wyneb o friciau rhwng 1790 a 1804, ynghyd â'i adeiladau
allan yn rhestredig Gradd II, ond mae'n lled-adfeiliedig; mae'n meddu
ar olygfeydd godidog ar draws yr aber ac mae rhai manylion mewnol i'w
gweld o hyd. Mae Plasty Bryntowy, Llangynnwr, a adeiladwyd yn y 1830au,
yn rhestredig Gradd II. Nid yw'r tirnod o eglwys ganoloesol yn Llangynnwr,
sydd heb dðr, yn rhestredig, ac nid yw hen blasty Iscoed sy'n dyddio'n
bennaf o'r 18fed ganrif a Thþ Abercyfor yn rhestredig ychwaith.
Rhoddir ffiniau pendant i'r ardal hon gan orlifdir llanw
Afon Tywi i'r gorllewin, tref Caerfyrddin i'r gogledd-orllewin, a gwastadedd
Afon Tywi i'r gogledd. Yn yr ardal i'r de mae llawer o elfennau'r dirwedd
hanesyddol yn debyg i rai'r ardal hon, ac yn y fan hon ceir ardal drawsnewidiol,
yn hytrach na ffin bendant. Mae'r ardal sy'n ffurfio'r ffin ddeheuol i
ran ogleddol yr ardal hon yn nodweddiadol wahanol, ond eto ceir ardal
drawsnewidiol yn hytrach na ffin ag ymyl bendant. I'r dwyrain, ni ddiffiniwyd
unrhyw ardaloedd tirwedd hanesyddol eto.
|