|
184 MORFA MELYN
CYFEIRNOD GRID: SN 426206
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 132.20
Cefndir Hanesyddol
Gorlifdir llanw Afon Tywi a'i hisafon afon Gwili yn yr ardal yn union
islaw tref Caerfyrddin. Mae cwrs presennol yr afon yn gyfres o ddolenni
yr ymddengys eu bod wedi aros yn weddol gyson ers y cyfnod Canoloesol
o leiaf, pan leolid ochr ogledd-orllewinol yr afon o fewn Bwrdeistref
Caerfyrddin a phan berthynai'r ochr dde-ddwyreiniol i Arglwyddiaeth Cydweli
(Rees 1932); sefydlasid y ddwy ar ddechrau'r 12fed ganrif. Cyfeirir at
sawl ardal o forfa heli mewn adroddiadau cyfoes, pan ymddengys fod yr
ardal wedi'i defnyddio fel tir pori tymhorol yn unig, yn ôl pob tebyg
wedi'i dal o'r goron fel tir comin, fel yr oedd 'Sylly' yn y pen gogleddol
(James 1980, 44). Mae llyfr rhent y dref ym 1675 yn crybwyll 14 o erwau
ym 'Morfa Uchaf', a 'chlawdd wedi'i atodi ato' (ibid.), amddiffynfa rhag
llifogydd efallai; fodd bynnag roedd ardal o'r enw 'Yr Ynys' yn dadlau
ag Arglwyddiaeth Cydweli oherwydd newidiadau bach yng nghwrs yr afon (James
1980, 42). Roedd y tir wedi'i amgáu i raddau cyfyngedig erbyn 1842 (map
degwm Sant Pedr Caerfyrddin) pan ymddengys fod systemau draenio ffurfiol
wedi'u cyflwyno, ond ceid llifogydd yn aml yn yr ardal hon ac mae hynny'n
dal i ddigwydd. Cloddiwyd sawl pwll clai ar y gorlifdir yn ystod y 19eg
ganrif ac awgrymwyd i'r clai a ddefnyddiwyd ar ragfuriau tref Rufeinig
Caerfyrddin ddod o'r gorlifdir (James 1992, 22). Ffurfia rheilffordd y
LNWR, a agorwyd ym 1871 ond sydd wedi'i disodli bellach gan y ffordd osgoi
newydd, ymyl ogledd-orllewinol yr ardal hon, ac mae'r hen A40 - sy'n dilyn
llinell y Ffordd Rufeinig i Lanymddyfri, a ffordd dyrpeg ddiweddarach
- yn mynd trwyddi ar arglawdd. Mae rhywfaint o ddatblygiad hirgul wedi
digwydd ar hyd y ffordd yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, fel arfer
ar lwyfannau argloddiedig o amgylch fferm a llaethdy; cynhwysodd y datblygiad
hwn ddepo bysiau a gaeodd ym 1998
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Darnau byrion o ddyffryn Tywi, a chwm Gwili isaf, sy'n gorwedd ar
lefel y môr neu'n agos ati. Ceir llifogydd yn yr ardal hon ar adeg llanwau
eithriadol o fawr a cheir llifogydd rheolaidd yn ystod misoedd y gaeaf
pan fydd yn bwrw glaw'n drwm. Mae cylchoedd dyddodi ac erydu afon hefyd
yn eithaf gweithredol yn yr ardal hon. O ganlyniad nid oes unrhyw anheddiad
yn yr ardal dirwedd hanesyddol hon, ac, ar wahân i'r ardal gerllaw Abergwili
lle y mae'r caeau wedi'u hamgáu gan wrychoedd, ffensys gwifrau a/neu ffosydd
sy'n nodi ffiniau amhendant y clostiroedd. Porfa a geir dros yr ardal
gyfan. Ar wahân i goed bach achlysurol mewn rhai gwrychoedd a choetir
prysglog ar lannau'r afonydd, tirwedd ddi-goed ydyw yn y bôn. Ym 1999,
agorodd ffordd osgoi ddwyreiniol Caerfyrddin, sy'n croesi'r ardal hon.
Caledwyd darnau o lannau'r afon fel rhan o'r gwaith peirianyddol a oedd
yn gysylltiedig â'r ffordd osgoi.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig. Soniwyd am y
ffordd Rufeinig ac mae dwy felin ddðr wedi'u lleoli'n betrus o fewn yr
ardal. Sefydlwyd maes tanio yn un o'r dolenni yn yr 20fed ganrif.
Nid oes unrhyw beth arbennig am yr un o'r adeiladau, sy'n
dyddio'n bennaf o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.
Mae'r ardal yn wahanol i'r tir sy'n codi i'r gogledd-orllewin
ac i'r de-ddwyrain, ond mae'r ffin â'r gorlifdir i'r gorllewin yn llai
pendant.
|