|
182 YSTRAD TYWI: CAERFYRDDIN - LLANDEILO
CYFEIRNOD GRID: SN 530209
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1752.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal hir iawn, ond cul sy'n ymestyn o Gaerfyrddin yn y gorllewin i Landeilo
yn y dwyrain, a leolir yng ngorlifdir llifwaddodol ffrwythlon Afon Tywi
ac sy'n cynnwys darnau byr o ddwy o'i hisafonydd, Afon Cellyn ac Afon
Dulas. Y dyffryn oedd y coridor i'r prif lwybr hanesyddol i Orllewin Cymru.
Dilynai'r ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri'r rhyngwyneb rhwng
y llifwaddod a daeareg solet ochr ogleddol Afon Tywi, ac fe'i dilynir
fwy neu lai gan ffordd fodern yr A40(T). Mae'r ffordd Rufeinig yn ffurfio
ochr ogleddol yr ardal hon rhwng Felin-wen a Nantgaredig. Yma mae'n croesi
dyddodion llifwaddodol, sy'n awgrymu bod cwrs Afon Tywi wedi bod yn weddol
sefydlog ers cyfnod cynnar, efallai cyn belled yn ôl â'r Oes Efydd gan
fod tri chrug crwn wedi'u lleoli gerllaw Felin-wen. Yn ystod y cyfnod
Canoloesol, fodd bynnag, defnyddid un o'r ystumllynnoedd, gerllaw Abergwili,
fel pwll pysgod gan Esgobion Tyddewi. Yn ystod y cyfnod hwn yr afon oedd
un o brif ffiniau Sir Gaerfyrddin, a gwahanai Gantref Mawr ar y lan ogleddol
oddi wrth Gantref Bychan (Iscennen yn benodol) a Chydweli ar y lan ddeheuol
(Rees, 1932). Felly o ran deiliadaeth mae hanes brith wedi bod i'r ardal
gymeriad, a phrofodd gyfnod cythryblus o ryfela tan ddiwedd y 13eg ganrif.
Parhaodd Cantref Mawr i fod yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284,
roedd Cydweli wedi bod mewn dwylo Eingl-Normanaidd ers tua 1110 ond parhaodd
Iscennen i fod yn annibynnol mewn enw, yn wahanol i weddill Cantref Bychan,
tan 1284 (Rees 1953, xv). Mae tair pont yn croesi Afon Tywi rhwng Caerfyrddin
a Llandeilo, pob un yn dyddio o'r cyfnod Canoloesol, a rhedai fferi yn
Nglantowylan. Mae Afon Tywi yn gorlifo ei glannau o leiaf unwaith y flwyddyn,
tra soniwyd am natur goediog y dyffryn gan ysgrifenwyr cyfoes yr ymddengys
eu bod yn cynnwys y gorlifdir. Ysgrifennodd Leland, yn y 1530au, fod ardal
Dryslwyn er enghraifft yn 'lle anodd iawn a llawn rhwystrau i fynd trwyddo'
(Smith 1906). Fodd bynnag mae'r system cefnen a rhych, a nodwyd trwy'r
ardal drwyddo draw, yn tystio yr arferid amaethu'r pridd ffrwythlon iawn
hwn gynt a hynny ers diwedd y cyfnod Canoloesol o leiaf. Ychydig iawn
o anheddu a fu erioed ar y gorlifdir ei hun ond mae'n digwydd ar 'ynysoedd'
uchel o fewn y llifwaddod, ac mae'n bosibl bod yr 'ynys' uchel yng Nglantywilan
wedi bod yn safle pentrefan. Fodd bynnag nodweddir y patrwm anheddu yn
bennaf gan ffermydd anghysbell ac o'r rhain mae'n bosibl bod Beili-glas,
Pentre Davis a Ro-fawr yn dyddio o gyfnod cynnar. Roedd y dirwedd wedi'i
hamgáu â'r patrwm presennol o gaeau rheolaidd erbyn i'r arolygon degwm
gael eu cynnal yn ail chwarter y 19fed ganrif, proses yr ymgymerwyd â
hi o bosibl yn ystod y 18fed ganrif. Ni cheir creiddiau unrhyw ystadau
pwysig o fewn yr ardal hon. Defnyddiai mathau diweddarach o drafnidiaeth
y dyffryn hefyd. Dilynai ffordd dyrpeg, a sefydlwyd ym 1763-71 (Lewis,
1971, 43) fwy neu lai linell y Ffordd Rufeinig a chroesir yr ardal gyfan
gan brif linell reilffordd Gorllewin Cymru y cyn LNWR a agorwyd, fel 'Llinell
Dyffryn Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1855 (Gabb,
1977, 76). Torrai camlas, Camlas Gelli Aur, trwy ran o hanner dwyreiniol
y gorlifdir yn yr 17eg ganrif, ac fe'i defnyddid i gludo glo o Afon Tywi
i Blasty Gelli Aur yn Ardal 193 (Sambrook 1995, 75). Fodd bynnag nid oes
unrhyw wir hanes diwydiannol ac ardal amaethyddol fu'r ardal hon erioed;
yn y cyfamser cynrychiolir gweithgareddau hamdden gan gae rasio o'r 18fed
ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif a leolir yn un o ystumiau'r afon yng
Nglantowylan.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Disgrifiwyd gorlifdir llifwaddodol Afon Tywi yn Arolwg Defnydd Tir
Prydain 1946 fel 'y tir llaethyddiaeth gorau ei ansawdd yn y wlad' (Cadw/ICOMOS,
1998, 27. Ar gyfartaledd mae'r ardal yn gilomedr o led ac mae'n codi llai
nag 20 m dros yr 20 km rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Mae rhannau o'r
afon mewn cylch erydu a dyddodi; mae rhai o ystumiau Afon Tywi yn weithredol,
ac mae'r ystumllynnoedd yn arbennig o niferus i'r dwyrain o Abergwili
lle y mae Pwll yr Esgob erbyn hyn yn warchodfa natur, ac i'r gorllewin
o Barc Dinefwr, Llandeilo, ond mae'r rhain yn hen ac mae'r rhan fwyaf
o'r gorlifdir yn sefydlog ac mae wedi'i amgáu ers amser hir. Mae'r caeau
yn fach i ganolig eu maint ac maent yn dueddol o fod yn rheolaidd eu siâp,
er y ceir llawer o batrymau gwahanol o gaeau bach afreolaidd i gaeau mawr
rheolaidd. Gwrychoedd heb gloddiau a gwrthgloddiau â gwrychoedd ar eu
pennau sy'n ffurfio ffiniau'r caeau. Mae'r cyntaf wedi'u plannu ar lawr
y dyffryn i hwyluso draenio llifddwr yn ôl pob tebyg. Mae cyflwr y ffiniau
hyn yn amrywio. Mewn rhai lleoliadau, megis rhwng Abergwili a Felin-wen,
maent yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac maent mewn cyflwr da, ond mewn
mannau eraill maent wedi torri i lawr yn gyfan gwbl ac mae'r gwrychoedd
naill ai'n ddiffaith neu maent wedi diflannu. Mae ffosydd hefyd yn ffurfio
rhai ffiniau. Defnyddir ffensys gwifrau yn ogystal â'r holl ffiniau hanesyddol.
Erbyn hyn porfa wedi'i gwella a geir dros bron y cyfan o lawr y dyffryn.
I bob pwrpas nid oes unrhyw goetir bellach, ond mae coed nodweddiadol,
mewn gwrychoedd, ar eu pennau eu hunain neu mewn clystyrau bach ar hyd
y dyffryn i gyd, ond yn arbennig y rhai sy'n agos at greiddiau ystadau
Dinefwr a Gelli Aur, yn rhoi golwg 'parcdir' i'r ardal. Ar wahân i 'ynysoedd'
o dir ychydig yn uwch, mae Afon Tywi yn gorlifo'r ardal hon i gyd o leiaf
unwaith bob gaeaf. Ar yr 'ynysoedd' hyn y lleolir nifer o ffermydd. O'r
prif ffyrdd mae'r A40(T) yn rhedeg ar dir uwch i'r gogledd, ac mae'r B4300
yn rhedeg heibio i'r ardal i'r de. Mae hen linell y rheilffordd a adeiladwyd
ar arglawdd isel i osgoi llifogydd yn un o nodweddion arbennig y gorlifdir.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gymharol brin. Mae mannau
darganfod yn cynnwys darganfyddiadau o'r Oes Efydd a chelc arian bath
Rhufeinig. Mae tri chrug crwn o'r Oes Efydd gerllaw Felin-wen, un sy'n
gofrestredig, ac o leiaf un maen hir o'r Oes Efydd. Ceir tystiolaeth o'r
Ffordd Rufeinig a llinell reilffordd y LNWR mewn caeau, a phrin y gellir
gweld llinell camlas Gelli Aur. Mae safleoedd melin dðr, a dau gapel diflanedig,
o'r cyfnod Canoloesol.
Ychydig iawn o adeiladau arbennig sydd. O'r tair pont dros
Afon Tywi mae Pont Llandeilo Rwnws, a adeiladwyd o gerrig ym 1786, yn
rhestredig Gradd II; ceir nifer o bontydd llai pwysig. Mae adeiladau gorsafoedd
Gelli Aur a Dryslwyn wedi goroesi o fewn yr ardal hon ac erbyn hyn anheddau
preifat ydynt, ynghyd ag un o borthordai Gelli Aur. Ychydig o ffermydd
a bythynnod sydd ond mae Glantowylan, Beili-glas, Pentre Davis, Ro-fawr
a fferm plasty Abercothi, a sefydlwyd erbyn 1857 (Jones 1987, 1), yn sylweddol.
At ei gilydd strwythurau yn y dull Sioraidd 'bonheddig' a adeiladwyd o
gerrig yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yw'r rhain a ffermydd eraill.
Mae gan ffermydd resi sylweddol o dai allan a adeiladwyd
o gerrig, rhai ohonynt wedi'u trefnu'n lled-ffurfiol o amgylch iard. Mae
gan y mwyafrif o ffermydd adeiladau amaethyddol modern. Mae'r rhan hon
o Ystrad Tywi yn nodweddiadol iawn ac iddi ffiniau a nodir gan lawr ochrau'r
dyffryn. Yn y mwyafrif o leoliadau mae'r ffin hon yn bendant iawn, ond
yn ymyl Nantgaredig ar ochr ddeheuol y dyffryn gerllaw Llandeilo ceir
ardal drawsnewidiol, yn hytrach na ffin bendant.
|