Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

253 DYFFRYN COTHI

CYFEIRNOD GRID: SN 644382
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1329.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal dirwedd fawr, sef gwastadedd gorlifdir afon Cothi uchaf gan fwyaf. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo, Maenor Llansawel yn benodol, yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284 a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid i raddau helaeth trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Ymddengys fod yn yr ardal dystiolaeth dda o'i hanes Canoloesol cynnar a'i harwyddocâd. Mae ffordd yr A482 yn dilyn llinell y ffordd Rufeinig a gysylltai'r caerau yn Llanymddyfri (Alabum) a Llanio (Bremia), ffordd a fu'n ddiweddarach yn ffordd bwysig i borthmyn ac, o ddiwedd y 18fed ganrif, yn lôn bost. Mae yma safle mynwent Ganoloesol gynnar ac ECM o'r 6ed ganrif ym Maesllanwrthwl. Mae ECM arall ger Crug-y-bar yn gofeb i Paulinus, athro Dewi Sant yn ôl y sôn, a sefydlodd gymuned a oedd, erbyn y 9fed ganrif, wedi ehangu i gynnwys 'adeiladau niferus' (Sambrook a Page 1995, 4). Er nad oedd y gymuned hon o angenrheidrwydd yn dod o fewn Caeo, efallai mai'r ardal hon oedd ei 'patria'. Ymddengys mai cwmwd Caeo oedd treftadaeth graidd Tywysogion Deheubarth; caniataodd Harri I i Gruffydd ap Rhys, mab Rhys ap Tewdwr, brenin Deheubarth a laddwyd gan y Normaniaid yn 1093, gadw'r cwmwd (Ab Ithel 1860), ac mae lle â llys yn ei enw yn bod o fewn yr ardal. At hyn, mae'n debyg mai yn yr hanner gogleddol yr oedd 'Tir Telych' - cymharer yr enwau lleoedd Bryn-Telych a Chefn-Telych - a grybwyllir yn ymylnodau y Book of St Chad ac a oedd, o bosibl, yn ddaliad o bwys a thystiolaeth enw lle ynghlwm wrtho o ddefnydd tir a pherchnogaeth (Jones 1994, 88). Ymddengys fod y pwys a roddid ar y cloddfeydd aur Rhufeinig yn Ardal 243 wedi parhau yn y cyfnod Ôl-Rufeinig (Sambrook a Page 1995, 4). Ni phylodd bri eglwysig yr ardal yn y cyfnod ar ôl y Goresgyniad; rhoddwyd tir yn 'Trallwng Elgan', ynghyd â chapel, i Abaty Tal-y-llychau ar gyfer maenor, ond ni phenderfynwyd ar ei union leoliad hyd yma. Efallai mai safle'r adeiladau diweddarach, Plasty Rhydodyn (Jack 1981, 125; Rees 1932), neu Blasty Glanyrannell, (Richards 1974, 114), lle y ceid capel arall, Capel Teilo, y gellir ei olrhain i'r cyfnod cyn y Goresgyniad, oedd ei safle (Rees 1932). Daeth Rhydodyn i feddiant y teulu Williams yn yr 16eg ganrif (Jones 1987, 61) ac erbyn y 18fed ganrif roedd yr ystad yn cynnwys rhan ddeheuol yr ardal gymeriad hon. Bu effaith yr ystad ar y dirwedd yn fawr; plannwyd coed ar raddfa helaeth, yn arbennig coed derw a llwyfenni yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif, yn cynnwys coedlan o goed derw yn arwain at y plasty (Lewis, 1833). Safai Glanyrannell, a oedd wedi'i sefydlu erbyn 1609 (Jones 1987, 79), ar ran fawr o barth gogleddol yr ardal yng nghyfnod y teulu Price Jones. Fe'i hailgodwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif; safasai ty cynharach ym Meli-ficar ac ailddefnyddiwyd ei ddrws ffrynt. Mae safle'r ty yn awr yn westy. Nododd Samuel Lewis, ym 1833, fod yr ardal ar y cyfan 'wedi'i rhannu'n gaeau ac mewn cyflwr amaethyddol da' (ibid.). Fodd bynnag, mae'n amlwg mai rhwng 1838 ac 1887 (Arolwg Ordnans 1:2500 Argraffiad Cyntaf) y crëwyd y mwyafrif o'r clostiroedd. Ar fapiau degwm 1838 o blwyfi Llansawel and Thal-y-llychau gwelir caeau llawer mwy o faint na'r caeau presennol a thebycach i flociau o dir agored. Nid oes amheuaeth nad o dan reolaeth yr ystad y'u rhannwyd eto'n unedau llai, sef y caeau presennol. Ceir sôn am Grug-y-bar mewn ewyllys ddyddiedig 1271 (Sambrook a Page 1995, 3) ond nid oes tystiolaeth o anheddiad cynnar. Mae'n enghraifft dda o anheddiad gwledig newydd o'r 19eg ganrif lle y codwyd swyddfa bost y drws nesaf i gapel (y gellir ei olrhain yn wreiddiol i 1688), a lle y datblygodd pentref wedyn o'u hamgylch. Mae datblygiad yn yr 20fed ganrif yn cynnwys ystad o dai cyngor.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad hon yn ymestyn ar draws llawr dyffryn afon Cothi a'i hisafonydd - afon Marlais, afon Twrch ac afon Annela - a gwaelod ochr y dyffryn, rhwng Rhydodyn a Phumsaint. Gorlifdir hyd at 1km o led yw lloriau'r dyffryn ac mae rhwng 90m a 120m o uchder; mae ochrau'r dyffryn sydd o fewn yr ardal hon yn codi hyd tua 150m o uchder. Mae'n ardal gymhleth ond, yn ei hanfod, tirwedd o ffermydd a chaeau gwasgaredig yw'r dirwedd. Tuedda'r caeau i fod yn gymharol fawr a rheolaidd eu siâp ar lawr y dyffryn ac yn llai ac yn fwy afreolaidd ar ochrau'r dyffryn. Gwrthgloddiau ac arnynt wrychoedd sy'n amgáu'r ddau fath o gaeau. Torri gwrychoedd yw'r gwaith cynnal a chadw a wneir ar fwyafrif y gwrychoedd, ond mae bylchau llydan yn llawer ohonynt ac maent yn dechrau syrthio. Yn uwch i fyny megis ar Allt Ynysau nid yw'r gwrychoedd yn ddim mwy na llinellau anniben o lwyni. Ffensys gwifren yw'r prif rwystr i dda byw rhag crwydro. Tir pori wedi'i wella yw'r tir amaeth bron yn gyfan gwbl, ar wahân i beth tir garw ar orlifdir Marlais. Ac eithrio dwy blanhigfa fach o goed coniffer ar yr ucheldir, cyfyngir coetir i glystyrau bach o goed collddail a phrysgwydd; lleolir y rhain gan fwyaf ar ochrau mwyaf serth y dyffryn. Y math amlycaf o anheddu yw ffermydd gwasgaredig. Mae yna amryw fathau o ffermdai, ond adeiladau yn y dull brodorol, sef adeiladau deulawr o gerrig â thri bae ac sy'n dyddio o'r 19fed ganrif yw'r rhai mwyaf cyffredin. Mae mathau eraill yn cynnwys tai sylweddol math fila ar gynllun tai bonedd Sioraidd sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Tuedda tai allan y ffermydd i fod yn gymharol sylweddol eu maint, yn aml wedi'u trefnu'n ddwy res ac, yn achlysurol, yn lled ffurfiol o gwmpas iard. Yr unig anheddiad sy'n gasgliad o anheddau yw Crug-y-bar, a chlwstwr llac o anheddau yw hwnnw yn cynnwys capel o'r 19eg ganrif, rhes fer o dai deulawr o'r 19eg ganrif, ysgol, tai eraill o'r 19eg ganrif, a thai ar raddfa fach o'r 20fed ganrif. Cyfyngir datblygiad preswyl a masnachol arall ar hyd a lled yr ardal i ychydig o adeiladau gwasgaredig o'r 19eg a'r 20fed ganrif ac eithrio Glanyrannell a Rhydodyn. Ty o'r 20fed ganrif yw Glanyrannell, sydd yn awr yn westy. Saif mewn parcdir eang ar lawr dyffryn afon Annell. Mae Rhydodyn yn llawer mwy sylweddol. Mae'r ty, sy'n dyddio o 1635, ac y mae iddo ychwanegiadau diweddarach, o'r 19eg ganrif gan fwyaf, erbyn hyn yn adfail. Mae'r casgliad cain o adeiladau carreg cysylltiedig, yr addaswyd rhai at ddibenion eraill, wedi goroesi. Erys gerddi â wal o'u cwmpas, mewn cyflwr dilewyrch, a phont gain. Mae'r parcdir erbyn hyn wedi mynd â'i ben iddo a thir pori, y mae peth ohono'n gaeau, a choed yma ac acw ar lawr dyffryn afon Cothi, a choetir ar ochrau serth y dyffryn yw'r hyn a fu'n barcdir gynt. Mae yma gyfoeth o archeoleg a gofnodwyd a haen ar ben haen o hanes. Cofnodwyd dau faen hir o'r Oes Efydd (ac un arall posibl), carnedd domen bosibl, gwrthrychau o'r Oes Haearn ac o'r cyfnod Rhufeinig a ddarganfuwyd, a'r ffordd Rufeinig ac amlosgfa Rufeinig. Ymhlith safleoedd Canoloesol mae enw lle yn cynnwys y gair llys, mwnt posibl a thomen sbwriel, dwy ffynnon ?sanctaidd, dau safle capel, mynwent ac ECM.

Mae yna lawer o adeiladau nodedig, yn bennaf cysylltiedig ag ystadau Rhydodyn a Glanyrannell. Cynllun sgwâr â simnai fawr ganolog sydd i ran gynharaf Rhydodyn, ty rhestredig Gradd II*, a adeiladwyd c. 1635. Mae'r llaethdy, fferm y plas, y cerbyty, y colomendy, y deial haul a'r ty, 'Ty^ Peggi', yn adeiladau rhestredig Gradd II yn annibynnol ar ei gilydd. Mae'r bont o'r 18fed ganrif yn adeilad rhestredig Gradd II* a rhestrwyd y parc cyfan o dan rif cyf. PGW (Dy) (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle, 1999). Mae Fferm Glanyrannell sy'n dyddio o'r 18fed ganrif, y rhes o adeiladau sy'n cynnwys yr ysgubor, y beudy a'r oerdy i gyd yn adeiladau rhestredig Gradd II yn annibynnol ar ei gilydd.

Mae capel Crug-y-bar, dyddiedig 1785, a'r rheiliau yn rhestredig Gradd II, ac felly hefyd bedair rhes o dai yn y pentref, dyddiedig 1867. Mae Beili-ficer, melin Felin-newydd sy'n dyddio o tua 1810, a'r garreg filltir ym Maesllanwrthwl, hefyd yn rhestredig Gradd II. Mae yna sawl annedd fawr arall, pontydd, tolldai, melin, ystad o dau cyngor, swyddfa bost, ysgol a safle ysgol, a'r hyn a fu gynt yn efail y gof nad ydynt yn adeiladau rhestredig.

Nid yw hon yn ardal hawdd ei diffinio. Er mai dim ond yr ardaloedd cymeriad i'r gogledd-ddwyrain a ddiffiniwyd ac a ddisgrifiwyd, llain o newid graddol sydd yna rhwng yr ardal hon a'r ardaloedd cyffiniol ar bob ochr yn hytrach na ffin ymyl galed.