249 ALLT-Y-HEBOG
CYFEIRNOD GRID: SN 678436
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 272.70
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fforest fodern o goed coniffer yn nhroedfryniau Mynyddoedd
Cambria. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo, Maenor rhwng Twrch a Chothi
yn benodol, yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol
hyd 1284 ac lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid trwy gydol
y cyfnod Canoloesol. Ardal ucheldir ydyw, ond mae'n debyg y gwneid defnydd
eithaf dwys o'r tir erioed a cheir dau batrwm rhannu'n gaeau sy'n wahanol
iawn i'w gilydd. I'r gorllewin, ar lethr o'r bryn sy'n wynebu'r dwyrain,
sef Troed-y-rhiw, a dyffryn Nant y Garth gwelir patrwm o glostiroedd bach,
unionlin, y mae rhai ohonynt yn hir a chul ac yn awgrymu mai yr hyn a
fu gynt yn gaeau stribed wedi'u llunio'n gaeau ydynt, efallai cae mewnol
maenordy. I'r dwyrain, mae bryniau Allt Bryn-teg ac Allt-yr-hebog wedi'u
rhannu'n gaeau mawr, rheolaidd eu siâp a hynny'n gymharol ddiweddar, gan
mai ar ôl yr arolwg degwm 1840 y'u sefydlwyd (plwyf Cynwyl Gaeo). Mae
yna nifer o anheddau/ffermydd cynnar anghyfannedd, yn cynnwys y ddau annedd
â'r enwau diddorol, Erw-hen ac Erw-newydd. Nid oes anheddiad diweddar
yn yr ardal sydd erbyn hyn wedi'i gorchuddio'n llwyr gan blanhigfa o goed
coniffer o ddiwedd yr 20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Coetir ar lethrau serth dyffryn Cothi Uchaf yw'r ardal gymriad hon.
Mae rhwng tua 180m a 340m o uchder. Coetir o goed collddail hynafol gyda
phlanhigfeydd mawr o goed coniffer rhyngddynt. Ymddengys fod y mwyafrif
o'r planhigfeydd wedi'u sefydlu yn yr hyn a fu gynt yn dir agored, er
bod ardaloedd bach wedi'u rhannu'n gaeau bach. Mae ardal fach o goed gwasgaredig,
clystyrau bach o goed, a thir pori garw ar lethrau creigiog serth yn rhoi
syniad o'r olwg oedd ar lawer o'r dirwedd cyn gorchuddio'r tir â choedwigoedd.
Mae'n bosibl mai ystad Dolaucothi a sefydlodd y dirwedd fel yr oedd cyn
gorchuddio'r tir â choedwigoedd. Prif elfennau'r dirwedd hanesyddol erbyn
hyn yw planhigfeydd a'u llwybrau a'u tramwyfeydd cysylltiedig.
Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i ffermydd a bythynnod anghyfannedd
archaeology, a chasgliad o ddarnau arian Rhufeinig.
Ychydig o adeiladau sydd yna ac nid oes yr un ohonynt yn
nodedig.
Mae'r ardal hon wedi'i diffinio'n dda i'r de a'r gorllewin
gan ffermydd a chaeau ar lawr y dyffryn. Mewn mannau eraill nid yw'r ardaloedd
cymeriad wedi'u diffinio eto.
|