Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

245 COEDWIG CAEO

CYFEIRNOD GRID: SN 697409
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 618.70

Cefndir Hanesyddol
Ardal o goedwig o goed coniffer wedi'u plannu sydd ar ochr orllewinol Mynydd Malláen. Bu unwaith yn rhan o Gwmwd Caeo yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284 a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid i raddau helaeth trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Ardal o ucheldir nad yw wedi'i rhannu'n gaeau ydyw, ac eithrio yn nyffryn afon Annell lle y ceir cyfres o gaeau bach unionlin nas gwyddys eu dyddiad ar yr ymylon a dyfrbont a gludai ddwr i'r cloddfeydd aur Rhufeinig yn Ardal 243 (Burnham 1993). Awgryma gwaith maes diweddar a gyflawnwyd gan Archaeoleg Dyfed Archaeological Trust, fodd bynnag, y gwneid defnydd dwys o'r tir a bod dwysedd y boblogaeth yn uchel yno yn y cyfnod Ôl-ganoloesol; mae'r nifer o anheddau/ffermydd a adawyd yn segur a pheth tir wedi'i rannu'n gaeau yn dyst i hyn. At hyn, ceir tystiolaeth ar ffurf nodweddion defodol (carneddau tomen) fod yma breswylwyr yn yr Oes Efydd. Nid oes anheddiad diweddar yn yr ardal; gorchuddir yr ardal gyfan yn awr gan blanhigfa o goed coniffer o'r 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal fawr goedwigaeth o'r 20fed ganrif, sydd rhwng 200m a 400m o uchder. Cyn ei orchuddio â choedwig, gweundir agored ydoedd, yn arbennig ar y lefelau isaf ac, yn nyffryn afon Annell uchaf, yn enwedig, sefydlwyd y blanhigfa dros ben caeau ac anheddau a fuasai yno gynt. Yma, mae cloddiau terfynau caeau wedi goroesi o dan y coed, ac mae yna hefyd beth coetir o goed collddail yn gymysg â phlanhigfeydd. Prif elfennau'r dirwedd hon, fodd bynnag, yw'r blanhigfa a ffyrdd a thramwyfeydd cysylltiedig.

Dengys archeoleg a gofnodwyd ddwy garnedd o'r Oes Efydd, dyfrbont Rufeinig, adeiladau/ffermydd hirsgwar a chorlannau Ôl-ganoloesol.

Nid oes unrhyw adeiladau'n dal i sefyll.

Mae i'r ardal hon derfynau wedi'u diffinio'n ffisegol i'r gogledd-orllewin lle y mae'n cyffinio â thir lled agored ac i'r de-orllewin lle y mae'n cyffinio â chaeau a ffermydd ardal Caeo. I'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain mae tir coedwigaeth yn cyffinio â darn mawr o weundir agored. Ar yr ochrau eraill nid yw'r ardaloedd cymeriad wedi'u diffinio eto.