Dyddiadur Cloddio Llanishmel 2018

CYFLWYNIAD

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi dychwelyd i’r pentref canoloesol anghyfannedd sy’n erydu yn y twyni tywod yn Llanismael, Glan-y-fferi, Sir Gaerfyrddin. Mae’r gwaith yn cael ei ariannu gan Cadw a’i ymgymryd gan DAT a gwirfoddolwyr.

Mae’r safle yn cynnwys nifer o olion sylweddol o adeiladau cerrig sy’n erydu o’r twyni tywod. Ymchwiliwyd elfennau o’r safle yma yng nghanol y 1990au ac yn fwy diweddar yn 2010-2011. Datgelwyd rhagor o dai ac adeiladau eraill gan erydiad arfordirol ers 2011, a chafodd y rhain eu hymchwilio’n rhannol yn 2017. Yn ystod 2018-19, cynigir rhaglen ymchwilio fwy uchelgeisiol. Bydd y cloddiad yn targedu olion archeolegol sydd mewn perygl mwyaf o’r erydiad hwn.

 

Dydd 1

Yn union fel y llynedd, mae’r tywydd yn brydferth ac mae hyn yn helpu pan fydd yn rhaid treulio’r dydd yn symud y cerrig a’r graean sy’n cuddio Adeilad 7; cerrig a graean a ddefnyddiwyd i ôl-lenwi’r safle ar ddiwedd gwaith y llynedd!


Clirio’r graean ar ôl cael gwared y cerrig mwyaf ar draws Adeiladu 7.


Mae waliau Adeilad 7 yn dechrau ymddangos o dan y graean.

Dydd 2

Diwrnod braf arall ym Mae Caerfyrddin, unwaith eto fel y llynedd. Mae waliau Adeilad 7 wedi ail-ymddangos ac gellir eu gweld yn amlwg eto. Dros y gaeaf bu difrod amlwg i gornel dde-orllewinol yr adeilad.


Glanhau ardal Adeilad 7 ar gyfer y rownd gyntaf o ffotograffau.


Wal gorllewinol Adeilad 7.


Hayley yn ymchwilio llinell nodedig o gerrig a osodwyd ar eu hymylon sy’n rhedeg yn gyfochrog gyda gwyneb allanol y wal ddeheuol.

 

Dydd 3

Parhaodd Hubert, Geraint a Jon i gael gwared o’r ôl-lenwi o ffos y llynedd yn Adeilad 7. Mae’n waith caled a mwdlyd iawn ac mae’r pentwr ysbwriel (a welir yn y cefndir) yn parhau i dyfu.


Hubert, Geraint a Jon yn cael gwared o’r ôl-lenwi o ffos y llynedd yn Adeilad 7.

Ar hyd y tu allan i’r wal gorllewin, bu Paul, Peter, Hannah a Hywel yn cael gwared o haenau o dywod a chlai sydd wedi ymgynnull yn erbyn y wal. Hoffem ddeall yr hyn sy’n digwydd y tu allan i’r adeilad ac os yw’n bosibl, nodi arwyneb claddedig ond efallai ni fydd hyn yn bosibl oherwydd y maint o ddŵr sy’n arllwys drwy’r tywod.


Paul, Peter, Hannah a Hywel yn gweithio ar wal orllewinol Adeilad 7.

Roeddem yn synnu ar y nifer o bobl ar y traeth yn y bore yn cerdded i mewn i’r môr yn ystod y llanw isel a threulio’r dydd yn pigo cocos allan ar y tywod. Yn anffodus, mae’r llun isod yn eu gwneud i edrych fel morgrug ond dywedodd swyddog o Faterion Morol a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru fod yna tua 90 o bobl.

 

Dydd 4

Mae’r gwaith yn cynnuddu’n dda. Rydym bron i lawr i lefel y llawr yn Adeilad 7 ac mae’r gwaith wedi dechrau i glirio cerrig a graean o bob rhan o Adeilad 8 sy’n gorwedd i’r de o Adeilad 7. Nid oes fawr ddim yn goroesi o’r adeilad hwn a chymerodd tipyn o amser i’w leoli o dan y cerrig a graean.

Er ei fod yn edrych fel petai Haley, Marilena, Lyn a Hannah (isod) yn adeiladu cestyll tywod, maent mewn gwirionedd yn clirio’r holl raean o weddillion waliau Adeilad 8. Nid oes unrhyw ffordd arall na mynd i lawr ar eich dwylo a’ch pengliniau a’i rhawio i ffwrdd. Yn y pellter, gallwch weld pobl allan yn pigo cocos eto.


Haley, Marilena, Lyn a Hannah yn clirio’r graean o weddill Adeilad 8.


Cloddiodd Rob a Ruth sampl o’r dyddodion sy’n weladwy ar ymyl y twyni i’r gogledd o Adeilad 5 a ffeindiwyd nifer o ddarnau o grochenwaith canoloesol ac esgyrn anifeiliaid a physgod .


Veronica a Michael yn cael gwared rhagor o dywod yn ofalus o tu allan y wal orllewinol o Adeilad 7.

 

Dydd 5

Wedi clirio Adeilad 8 o garreg a graean fe gafodd yr ardal ei drowelio’n galed. Mewn cyferbyniad ag Adeilad 7 i’r gogledd, nid yw waliau Adeilad 8 wedi goroesi yn dda ac yr ydym yn parhau’n ansicr os yr ydym ni tu fewn neu tu allan beth yr ydym yn tybio oedd un tro yn adeilad.


Arthur, Ian, Ruth, Hannah, Peter a Trevor yn trowelio ardal Adeilad 8.


Y wal sy’n rhedeg o’r gogledd i’r de (a’r wal sy’n goroesi orau) o Adeilad 8. T

Cwblhaodd Rob gloddio sampl o’r gweddillion sy’n weladwy ar ymyl y twyni i’r gogledd o Adeilad 5. Roedd yr haenau unigol i gyd yn cynnwys siarcol a chymerwyd samplau o’r gweddillion ar gyfer dadansoddi a dyddio carbon yn y dyfodol.

 

Dydd 6

Mae’r gwaith yn symud i lawr i’r haenau llawr gwreiddiol ym mhen deheuol Adeilad 7. Fel y darganfuwyd y llynedd, mae’r llawr clai a lludw wedi’i guro yn cynnwys bach iawn o ddarganfyddiadau heblaw am gregyn cocos a misgl wedi’i malu – mae’n rhyfeddol o lân.


Brian, Hubert, John, Jon a Hywel yn gweithio yn Adeilad 7.

Gellir gweld y llawr clai a llwch tywyll tu fewn i Adeilad 7 i’r dde o’r raddfa 2m; fe gafwyd gwared o’r hyn i’r chwith o’r raddfa yn 2017.

Ar ei diwrnod cyntaf ar gloddiad archeolegol, fe wnaeth Bryony gadarnhau bod yna ddrws ar ochr orllewinol Adeilad 7, trwy ddarganfod ardal o balmant ar y tu allan i hyn yr ydym nawr yn sylweddoli sydd yn ddrws wedi ei flocio. Mae’r slab mawr o dywodfaen coch a welir isod yn enfawr ac mae’n rhedeg o dan y blociau cerrig.

 

Dydd 7

Mae’r gwaith heddiw yn canolbwyntio ar Adeilad 8 ac Adeilad 4.


Joan, Paul ac Ian yn trowelio’r ardal i’r dwyrain o’r wal gogledd-de yn Adeilad 8.

Rydym yn dal i fod yn anwybodus os ydym tu allan neu tu mewn i’r adeilad ond mae syniad bod gennym dystiolaeth o bwll mawr sy’n dechrau ymddangos yn llawn lludw, cerrig, cregyn gleision a chregyn cocos, esgyrn anifail ac un darn o grochenwaith.

Mae’r llun isod yn dangos yr un ardal ar ôl iddyn nhw gwblhau eu trowelio gofalus.

Dim ond olion o wal ddwyreiniol Adeilad 4 sydd wedi goroesi yn ymylon y twyni ac mae’n annhebygol y bydd hyn yn dioddef stormydd gaeaf arall. Mae Hubert, Linda, Rob a Nik yn glanhau’r ardal cyfagos ac mae nifer o nodweddion sy’n torri trwy’r clai coch yn cael eu datgelu gyda phob un ohonynt yn cynnwys crochenwaith canoloesol.


Gweddillion wal dwyreiniol Adeilad 4.


Nik yn cloddio draen llinellol bosibl i’r de o Adeilad 4.

 

Dydd 8

Yn ôl yn Adeilad 7, rydym yn parhau i ymchwilio y strwythur carreg cynharach sy’n gorwedd o dan wal ddeheuol llawer mwy trawiadol Adeilad 7. Byddai’r strwythur hwn wedi cael ei guddio’n llwyr gan haen drwch o glai pan adeiladwyd Adeilad 7 felly mae’n ymddangos bod y ddau yn gwbl anghysylltiedig.


Rob yn datgelu y strwythur cerrig cynharach o dan wal ddeheuol Adeilad 7.


Y ddau strwythur wedi’u gwahanu gan haen drwchus o glai.


Jude yn tynnu llun wal gorllewinol Adeilad 7 – nodwch y garreg gornel sylweddol yng nghornel gogledd-orllewinol yr adeilad.


Dychwelyd adref ar ddiwedd diwrnod gwyntog.

 

Dydd 9 a 10

Rydym dal i fod yn ansicr beth mae’r strwythur carreg o dan wal ddeheuol Adeilad 7 yn ei gynrychioli. Nid oes gennym unrhyw syniad o’i ddyddiad ond rydym yn gwybod ei fod wedi ei adeiladu peth amser cyn y wal uwchben iddo, gan ei fod wedi’i wahanu gan haen drwchus o glai silt. Ymddengys fod ein ymchwiliadau yn dangos ei fod yn nifer o linellau o gyrsiau sengl o garreg sydd wedi’u gosod i mewn i glai. Yr hyn y mae’n profi yw fod gan y safle hanes hirach nag yr oeddem yn meddwl ar ôl hynny ac mae ein gwaith yn Adeilad 8 hefyd yn datgelu nodweddion o dan lefel llawr yr adeilad – yn nodi unwaith eto fod dyniolaeth yn defnyddio’r safle cyn y cyfnod canoloesol.


Y strwythur carreg cynharach sy’n rhedeg o dan wal ddeheuol Adeilad 7.


Manylyn o’r strwythur carreg o dan wal ddeheuol Adeilad 7.


Geraint (yn yr het Smurf) a Jude yn cloddio nodweddion yn Adeilad 8.

Beth bynnag, os nad ydym yn ofalus, byddwn yn parhau i gloddio heb adael digon o amser i gofnodi popeth yr ydym wedi’i ddatgelu. Felly mae’r cloddio yn arafu a’r cofnodi’n dechrau’n ddifrifol.


Christiane a Fiona yn darlunio wal gorllewinol Adeilad 7.


Veronica a Michael yn darlunio gwyneb wal gogleddol Adeilad 7.

 

Dydd 11 a 12

Mae’r cofnodi yn dod i ben ac mae ein hamser ar y safle bron wedi dibennu.


Mae Joan a Jon yn cwblhau’r darlunio wyneb wal gorllewinol Adeilad 7.


Rob a Jude yn darlunio adrannau trwy nodweddion yn ardal Adeilad 8.

Fe ddanfonodd Peter Francis yn garedig, lluniau awyr o’r safle a gymerwyd gyda drôn ar ddiwedd y wythnos gyntaf. Maent yn dangos sefyllfa’r olion sydd yn goroesi ar ymyl y twyni a dangosant pa mor dda y mae waliau Adeilad 7 wedi cadw.


Golygfa o Adeilad 7 o’r awyr


Golygfa o’r awyr o gloddiadau Adeilad 7 (chwith) ac Adeilad 8 (de).


Yn anffodus, mae rhaid i’r ôl-lenwi ddechrau gan gychwyn gyda Adeilad 8.


Ac ar y diwrnod canlynol cwblhau ôl-lenwi Adeilad 7 – ni fyddech byth yn gwybod ein bod ni wedi bod yma!

Mae’r safle nawr wedi’i orchuddio a gawn gweld beth bydd stormydd y gaeaf yn gwneud iddo. Byddwn yn parhau i gadw llygaid ar erydiad y twyni a gobeithio dychwelyd i gofnodi unrhyw adeiladau pellach wrth iddynt gael eu datgelu. Bydd amser yn cael ei roi nawr i gasglu’r holl wybodaeth a gofnodir, gan chwilio am debygrwydd mewn mannau eraill, archwilio’r crochenwaith a’r darganfyddiadau a gyda’g unrhyw lwc cael rhywfaint o ddilyniant dyddio ar gyfer yr adeiladau.

Mae diolchiadau mawr oddiwrth Jim, Hubert a Fran, yn mynd i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed trwy gydol y pythefnos. Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau a gobeithio eich gweld ar gloddiad arall cyn fo hir.

Diolch (heb fod mewn unrhyw drefn) i Jude, Rob, Arthur, Jon, Marilena, Nigel, Paul, Rob, Bryony, Sue, Hywel, Gaynor, Peter, Ruth, Brian, Christiane, Amanda, Linda, Caralinda, Allan, Ian, Hannah, Joan, Fiona, Lyn, Veronica, Michael, Hayley, Veronica H, Nik, Vanessa, John, Kim, Geraint, Trevor a Juliet.

 

Heneb - Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru