Cartref >

Newyddion 2005

 

Llwybr Coed Ganol Oesol yn LLANGYNFELYN ger TALYBONT

Yn ystod Mehefin 2004 cychwynnodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar gloddio rhan o lwybr coed ganol oesol a oedd yn croesi Cors Fochno yng Ngheredigion. Roedd yn bosib gweld y llwybr ar yr wyneb yn debyg i fancin isel yn croesi’r tir porfa. Bygythiad llym i barhad yr elfennau o goed nodweddiadol yma oedd draenio’r tir a gwelliannau amaethyddol eraill. Penderfynwyd felly ar waith o gloddio achubol wedi’i ariannu gan Cadw . Roedd y cloddio hefyd yn gyfle o hyfforddiant i fyfyrwyr o Athrofa Archeoleg a Hynafiaeth Prifysgol Birmingham

Roedd y coedydd yn ffurfio ffordd gerdded tua 1.5m o led ac roedd cyfres o begiau neu bolion ,wedi’u bwrw i’r mawn ,yn cefnogi’r holl strwythur .Wedi hyn, fe orchuddiwyd y llwybr gan haenau o raean a oedd, i bob pwrpas ,yn ffurfio heol ar draws y gors. Darganfuwyd dau o ddyddiadau radiocarbon allan o ddau o’r coedydd yn dyddio i’r 10 fed- 11eg ganrif AD ac mae dyddiadau dendroconolegol yn awgrymu y cwympwyd y coedydd yma rhwng AD1080 a AD1120.

Ger terfynfa y de ,o’r sarn weladwy, fe welwyd fod y llwybr yn gorwedd dros ardal eang o ysbwriel diwydiannol a llosgfeydd. Yn ôl yr hyn a awgrymwyd gan yr archwiliad cychwynnol o samplau o’r gwastraff fe gredir fod canran uchel o wastraff plwm yno, a oedd felly yn awgrymu fod mwyn blwm wedi’u mwyndoddi yn yr ardal gyfagos .Yn ddiweddar, fe dderbyniwyd dau ddyddiad radiocarbon o 60 BC –AD90 ac AD20?220 am olosg o’r olion diwydiannol yma sy’n awgrymu dyddiad hwyr o’r Oes Haearn neu’r Oes Rhufeinig .

Sut y mae’r gweithgarwch diwydiannol yma yn cysylltu gyda’r llwybr? Awgryma’r dyddiadau fod bwlch hir o amser rhwng y ddau. Fodd bynnag, mae yn bosib bod y dyddiadau radiocarbon o’r golosg allan o hen goedydd neu goed wedi’u hail ddefnyddio. Posibilrwydd arall yw, bod gwaith diwydiannol wedi parhau yn bell ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid a bod y llwybr yn dyddio at ddefnydd diweddarach , hyd yn oed yn cysylltu gyda gweithgaredd chwarelyddol ar ‘ynys’ Langynfelyn i’r Gogledd.

Denodd y cloddio diddordeb lleol anferth nes y bu rhaid i un o Staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed , Richard Jones ymgymryd â’r swydd o Swyddog Cyswllt gyda’r Cyhoedd.

Trefnodd Richard ymweliadau gan yr holl ysgolion lleol ac fe sicrhaodd llawer iawn o sylw i’r cloddio yn y wasg ,yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg, mewn papurau lleol , ar orsafoedd radio ac ar newyddion y teledu. Cafwyd diwrnod agored llwyddiannus iawn gyda thorf dda o bobl o’r ardal leol wledig yn ymweld . Cafodd ddisgyblion hyn o’r ysgolion cyfun lleol a rhai o Glwb Archeoleg Aberystwyth I’r Ifanc gyfle i fod yn rhan o gyffro y darganfyddiad .I gyd daro gyda’r cloddio cafwyd hefyd ‘Dyddiadur cloddio’ dwyieithog gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac mae’n bosib gweld hwn ar y wefan

www.dyfedarchaeology.org.uk/wdigdiary.htm

Yn ystod paratoi y dyddiadur cloddio sylwyd fod yr ymweliadau i wefan yr Ymddiriedolaeth wedi cynyddu wyth gwaith .

Bydd tymor arall o gloddio ar y safle ym mis Mehefin 2005 i ganiatáu ymchwiliadau trylwyr o’r gwaith diwydiannol a gysylltir gyda phen deheuol y llwybr. Unwaith eto, ein bwriad yw i sicrhau y bydd cydweithio rhwng y gymuned leol yn galon i’r prosiect gyda’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan .

Cyswllt Prosiect : Ken Murphy - k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk

 

 

Crugiau Crwn FAN FOEL o’r Oes Efydd

Yn ddiweddar bu Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn gweithio gyda Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Cadw ar brosiect i gofnodi a diogelu olion twmpath claddu o’r Oes Efydd yn Fan Foel ar y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin (SN 8215 2234). Cofnodwyd cyflwr yr henebyn ym mis Mehefin 2002 fel rhan o brosiect, a ariannwyd gan Cadw, ar safleoedd claddu a safleoedd defodol o’r cyfnod Cyn Hanes . Sylwyd bod y grug (Barrow) yn dioddef o erydu dychrynllyd gan y gwynt a’r glaw a gan ymwelwyr yn symud cerrig i ffurfio cysgodfeydd o gerrig i’r cerddwyr . Felly, fe benderfynwyd ar gofnodi a chloddio rhan o’r crugiau ym Mis Mehefin 2004

Roedd y twmpath claddu isel yn gorchuddio cist garreg ar ffurf bocs, ac fe’i amgylchynwyd gan gylch o gerrig o gwmpas 11m mewn diamedr. Roedd y gist tua 1m o hyd ac yn 0.5m o led ac yn cynnwys pentwr o esgyrn wedi’u hamlosgi. , wrn pridd wedi’i dorri ( mwy na thebyg yn llestr bwyd)a nifer o offer allan o fflint. Awgrymwyd gan archwiliad rhagbrofol ei fod yn cynnwys esgyrn plentyn ac esgyrn o leiaf un mochyn . Darganfuwyd allan o’r cerrig o gwmpas fod yna ail ôl o amlosgi, ynghyd â thameidiau allan o wrn a choler iddo.

Erbyn hyn mae’r elfennau sydd wedi goroesi o’r heneb wedi eu hamddiffyn o dan fatio ‘terram’ ac wedi eu hôl - lenwi gyda cherrig a thywarch . Mae adroddiad interim ar y cloddiad wedi ymddangos yn y ‘Carmarthenshire Antiquary’.


Cyswllt Prosiect: Gwilym Hughes


 

Newyddion Diweddaraf

Purfa Olew Esso

Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wrthi yn gwneud cloddiad pwysig ar safle yr hen Burfa Olew yn Aberdaugleddau. Bydd hwn yn fuan yn safle i derfynfa Nwy Hylifol Naturiol. Nodwyd dau safle archeolegol ; cymhlyg o waith metel cynnar o’r Canol Oesoedd a hen olion sianel afon yn dyddio o’r Oes Efydd. Mae’r cloddiad yn mynd yn ei flaen .


Safleoedd claddu cynnar y canol oesoedd ar arfordir Sir Benfro

Mae prosiect enfawr ar waith yn archwilio safleoedd tair o fynwentydd cynnar canol oesol sydd dan fygythiad gan erydu ar y glannau yn Ne Sir Benfro. Mae’r gwaith cychwynnol wedi’i ddechrau ar un safle ;Bae Longoar ger LlanIsmel. Mae cloddiad ar raddfa lai ar fin gychwyn yn y safleoedd yn Sain Ffréd a West Angle ym mis Gorffennaf . Bwriedir gosod y newyddion diweddaraf o’r gwaith yma ar ein gwefan.

Caer Rhufeinig Llandeilo

Rydym newydd glywed y bydd yr Ymddiriedolaeth yn trefnu archwiliad rhagbaratoawl o’r Gaer Rhufeinig ,sydd newydd ei ddarganfod ,yn hwyr ym mis Mehefin a dechrau Gorffennaf.

Fe wneir y gwaith i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gydag ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ac arian gan Swyddfa Gymreig Cronfa Ewrop . Fe fydd y prosiect hefyd yn rhan o’r ‘Gloddfa Fawr Rufeinig’ gan Time Team ,Sianel 4 ,gyda darllediad byw o safle’r cloddio yn ystod penwythnos 2il ,3ydd o Orffennaf . Medrwch ddilyn datblygiad y cloddio drwy ein ‘Dyddiadur Cloddio’ ar ein gwefan .

Cyswllt: Gwilym Hughes


 

 

Beth ydw i wedi darganfod ?

Mae staff Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn parhau i gofnodi nifer o arteffactau diddorol sydd wedi cyrraedd ein swyddfa fel rhan o’r cynllun gwirfoddol a noddwyd gan y llywodraeth i ddarganfyddwyr o greiriau archeolegol . O ddiddordeb arbennig oedd yr ‘Ampulla’ plwm pererin o’r canol oesoedd ,yn dangos sgolop o Sant Iago de Compostela o Sbaen , a ddarganfuwyd yn Sir Gaerfyrddin yn 2003. Yn wreiddiol, roedd wedi’i lanw a dwr sanctaidd o safle pererindod , fe gysylltwyd yr ‘ampullae’ â’r wisg drwy glustiau ar bob ochr iddo. Darganfyddiad diddorol arall, o gyfnod yr Oesoedd Canol ,oedd sêl matrics a ddefnyddiwyd i greu argraffiad o ‘lofnod’ yn y gwêr a ddefnyddiwyd i selio gohebiaeth. Mae’r enghraifft yma yn dyddio o ganol hwyr y 13eg Ganrif. Mae’n darlunio ffigwr fenywaidd yn dal llyfr agored ac mae’r llythrennau o gwmpas yr ymyl yn darllen ‘Sêl Climence Arglwyddes Bois’. Gwyddwn am faenor a elwid Bois yn Auxerre yn Ffrainc.

Yn ogystal â’r gwrthrychau personol yma cofnodwyd darnau o arian o sawl cyfnod. Yn eu plith mae Denarius ,arian yr Ymerawdwr Trajan (98-117AD),i fyny at rôt o Oes Elisabeth, a hyd yn oed darn yn darlunio y Brenin Sacsonaidd Aethelred (978-1016AD) a ddarganfuwyd ger Talacharn .Un ffactor sy’n creu pryder ,yw’r ffaith bod darnau arian o’r ugeinfed ganrif yn diraddio yn gynt na rhai o gyfnodau cynharach ac felly yn fwy anodd i’w hadnabod!

Mae Cynllun Symudol Hynafiaethau yn cyflenwi Prydain gyfan ac mae’n bosib gweld yr holl ddarganfyddiadau a gofnodir cyn 1600 ar y wefan , www.finds.org.uk.

Dylai unrhyw un sy’n darganfod unrhyw beth yn lleol ac sy’n tybio y bydd o ddiddordeb archeolegol gysylltu â Marion Page (m.page@dyfedarchaeology.org.uk).

Cyswllt Prosiect: Marion Page
m.page@dyfedarchaeology.org.uk


 

 


Archeoleg Parc Cenedlaethol Sir Benfro

Ers Ebrill 2004 mae Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn derbyn cyllid gan Barc Arfordirol Cenedlaethol Sir Benfro i gyflogi archeolegydd i ofalu am archeoleg y Parc . Yr archeolegydd yw Polly Groom a dyma hi i sôn am ei gwaith .

Rydw i’n arbennig o lwcus fel archeolegydd y Parc Cenedlaethol i gael swydd wrth fy modd . Mae’r golygfeydd yn arbennig , y bobl yn gyfeillgar ac mae’r tywydd yn sicr yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed ! Ond gorau oll, i fi, yw archeoleg y Parc – mae mor wych !
Mae gan y Parc Cenedlaethol yma bopeth . Mae’r gorffennol o’ch cwmpas ymhobman – o fan olion am fywyd cynnar iawn i gestyll Canol Oesol ;o gaerau’r Oes Haearn i feysydd awyrennau yr Ail Ryfel Byd .Mae’r holl dirlun wedi’i ffurfio gan weithredoedd dyn yn y gorffennol , ac mae hyn yn rhoi gwefr imi.

Mae nifer o gildraethau a thraethau bach y Parc yn enghraifft dda o hyn – yn aml fe gewch dystiolaeth o ddiwydiant calch y 19eg Ganrif ar ffurf odynau calch ac olion certi ger traethau a amgylchynir gan caer bentir yr Oes Haearn ar y pentiroedd yn dyddio nôl rhyw 2,500 o flynyddoedd , Mae rhai o’r caerau yma – megis yr un yn St Davids Head – yn cynnwys tystiolaeth o ail ddefnydd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ac weithiau hefyd yn ystod cyfnod cynnar y Canol Oesoedd . Mae cyfoeth o archeoleg yn aros i’w archwilio !

Fodd bynnag, nid yw amgylchedd hanesyddol y Parc i gyd ynglyn a safleoedd unigol a henebion penodol . Mae ffiniau caeau, adeiladau ffermydd, llwybrau, lonydd , gatiau - mae’r holl bethau yma, er efallai yn fach ac yn ddibwys, yn rhan o’r hyn a elwir yn ‘dirlun hanesyddol’ .Yn unigol nid yw’r pethau bach yma ,efallai ,yn bwysig ond gyda’i gilydd maent yn rhan o gymeriad unigryw o’n Parc Cenedlaethol arbennig ni .

Mae Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed , Awdurdod y Parc Cenedlaethol ynghyd ag asiantaethau eraill ac unigolion yn cyd weithio i amddiffyn y ‘tirlun hanesyddol’ yma ac i wella ein dealltwriaeth ohono .

Gobeithio y byddwch yn mwynhau archeoleg y Parc yma cymaint â fi!

Cyswllt: Polly Groom
p.groom@dyfedarchaeology.org.uk

 

Wythnos Genedlaethol Archeoleg

Yn dilyn llwyddiant Diwrnod Cenedlaethol Archeoleg mae Cyngor Archeoleg Prydain wedi penderfynu ei ymestyn eleni i wythnos. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau gyda gweithgareddau, arddangosfeydd, yn Amgueddfa Ceredigion (ar Ddydd Sadwrn 23ain o Orffennaf), Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili (ar Sadwrn 16eg o Orffennaf ) ac yn ein cloddiad ym mae Sain Ffréd, Sir Benfro. Bydd mwy o fanylion ar ein gwefan..

Cyswllt:
Marion Page – m.page@dyfedarchaeology.org.uk

 

Yr ‘ HER ‘Ar-Lein

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed sy’n dal y cofnodion ynglyn â safleoedd a henebion lleol yng Nghaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro (Historic Environment Record HER). Erbyn hyn mae’r HER yn dal dros 39,000 o gofnodion ac mae yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth ynglyn â thirlun y gorffennol yn yr ardal . Rydym yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sydd am ddarganfod mwy am archeoleg yr ardal. Ar hyn o bryd mae system gyfrifiadurol yn seiliedig ar y we yn cael ei ddatblygu i wella mynediad at yr wybodaeth HER .Fe wneir hyn mewn cydweithrediad gyda’r tair Ymddiriedolaeth Gymreig arall a Archdigital Rhydychen (OAD).

Mae’r ymddiriedolaethau yn profi y cynnyrch terfynol ar yr union adeg yma. Bydd y system newydd yn galluogi mynediad i’r cyhoedd i ddata craidd , drwy’r rhyngrwyd , ac fe obeithir y bydd hyn yn bosib erbyn yr Hydref 2005. Bydd y cofnodion ar gael drwy wefan pob ymddiriedolaeth unigol yn ogystal â gwefan portwll a ddatblygir i gynnig mynediad i wybodaeth gan yr holl fudiadau treftadaeth. Drwy osod yr HER ar lein fe fydd pawb yn gallu chwilio drwy’r cofnodion ei hunain o’u cyfrifiadur ei hunain yn ogystal â chaniatáu staff i fewn fwydo mwy o ddata. Bydd hefyd modd i’r cyhoedd gynnig gwybodaeth a sylwadau i’r HER

Cyswllt:
Marion Page - m.page@dyfedarchaeology.org.uk


 

Cadwch mewn cysylltiad

Mae Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn awyddus i feithrin cysylltiadau gydag aelodau o’r cyhoedd a grwpiau cymunedol. Efallai fod gennych ddiddordeb yn ein gwaith fel archeolegydd amatur neu hanesydd neu fel rhywun sy’n ymddiddori yng ngorffennol eich cymuned. Efallai eich bod yn gweithio i fudiad a fydd yn awyddus i feithrin cysylltiadau gyda Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed .

Os hoffech dderbyn gwybodaeth am ein gwaith, derbyn cylchlythyron cyfredol drwy’r post neu drwy ein gwefan, cysylltwch â ni drwy gysylltu â’r cyfeiriadau isod ac fe fyddwn yn anfon rhifyn diweddar o’n cylchlythyr atoch

Cyswllt:
Marion Page - m.page@dyfedarchaeology.org.uk

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]