 |
Newyddion Haf 2004
HANES DAU GASTELL – ABERTEIFI A CHAERFYRDDIN

Y Porthdy sy’n dyddio o’r 15fed ganrif
yng Nghastell Caerfyrddin |
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar hyn o bryd
yn gwneud gwaith archaeolegol mewn dau o’r cestyll pwysicaf
yn ne orllewin Cymru. Y ddau gastell yw calon y ddwy dref sirol
Aberteifi a Chaerfyrddin.
Y gobaith yw y bydd prosiect cadwraeth mawr yn
dechrau cyn hir yng Nghastell Aberteifi, ac i hyrwyddo’r gwaith
hwn, bydd y castell yn ymddangos cyn hir ar y gyfres newydd o Restoration
ar BBC2. Adeiladwyd y castell carreg cyntaf yn y blynyddoedd o 1100
ymlaen gan Rhys ap Gruffudd (Yr Arglwydd Rhys). Penderfynodd ddathlu
cwblhau’r gwaith drwy gynnal gwyl cerdd a chân, a gydnabyddir
fel yr Eisteddfod gyntaf erioed. Yn 2003, gofynnodd Cyngor Sir Ceredigion
i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wneud gwaith cloddio y tu cefn i fythynnod
Green Villa, sef gerllaw’r fynedfa bresennol i’r castell.
Yn ystod yr ymchwiliad daethpwyd o hyd i weddillion sylweddol o
waith maen a oedd yn ôl pob tebyg yn rhan o’r fynedfa
ganoloesol i’r castell.
Yn y cyfamser, yng Nghastell Caerfyrddin, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi bod yn cynorthwyo gyda phrosiect gwella tymor-hir i
ddod â’r castell unwaith yn rhagor yn rhan ganolog o
fywyd y gymuned. Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n rhedeg y prosiect
gyda chymorth Cadw a Chronfa Treftadaeth y Loteri. Yn ystod haf
2003 gwnaed gwaith cloddio y tu allan i’r porthdy mawreddog
dau-dr oedd yn brif fynedfa i’r castell o’r dref. Yn
ystod y gwaith cloddio daethpwyd o hyd i dystiolaeth bod pont wedi
bod yno’n wreiddiol oedd yn croesi ffos amddiffynnol lydan
oedd yn gwahanu’r porth a Sgwâr Nott. Gallem ddangos
bod y bont hon wedi cael ei disodli’n ddiweddarach gan sarn
garreg. Yn y pen draw, llanwodd y ffos â sbwriel ac adeiladwyd
drosti yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Gwnaed gwaith cloddio hefyd ar ran o’r ffos
hon. Er na lwyddwyd i gyrraedd y gwaelod, gellid dangos ei bod yn
4 metr o leiaf o ddyfnder. Cafwyd hyd i nifer o ddarganfyddiadau
o bwys o’r bymthegfed ganrif o’r deunydd llanw yn y
ffos, gan gynnwys casgliad o esgidiau lledr a dysglau pren.
Cyswllt y prosiectau:
Castell Aberteifi - Ken Murphy - k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk
Castell Caerfyrddin - Ken Murphy - k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk |
DARGANFYDDIADAU DIWEDDAR

Llun o’r awyr o’r ffosydd crwn o’r Oes Efydd

Seiliau’r colomendy canoloesol a gloddiwyd yn Newton |
MAES CLADDU O’R OES EFYDD
A FFERM CYNHANES YN LLANDYSUL
Yn ystod haf 2003, wrth gloddio dau safle yn ystod
adeiladu parc busnes newydd yn Llandysul, darganfyddwyd gweddillion
pwysig o’r cyfnod cynhanes. Ar un safle roedd tair ffos gron
y credir mai olion carneddau claddu ydynt o’r Oes Efydd. Gweithiwr
adeiladu llygatgraff oedd y cyntaf i sylwi arnynt tra’r oedd
yn codi’r pridd uchaf gyda pheiriant. Yr ail safle oedd safle
aneddiad â phalisâd neu ffens pren o’i amgylch.
Prin oedd y gweddillion a ddarganfuwyd ac yn eu plith yr oedd tyllau
pyst heb fawr ddyfnder, pydewau a ffosydd. Serch hynny, daethpwyd
o hyd i grochenwaith 5,000 o flynyddoedd oed sy’n dyddio o’r
cyfnod Neolithig cynnar yn rhai o’r pydewau. Mae cyfres o
ddyddiadau radiocarbon yn dynodi dilyniant hir o feddiannu sy’n
ymestyn o’r cyfnod Neolithig i Oes yr Haearn. Ariannwyd y
gwaith cloddio gan Awdurdod Datblygu Cymru.
DARGANFYDDIADAU ARCHAEOLEGOL YN WATERSTON, SIR BENFRO
Yn ystod dechrau 2003, bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn
cloddio yn yr ardal o gwmpas aneddiad canoloesol a diwedddarach
Newton, yn Waterston ger Aberdaugleddau. Cyflawnwyd y prosiect cyn
adeiladu dau danc anferth i storio Nwy Hylif Naturiol gan Petroplus
Cyf. Ymhlith y darganfyddiadau oedd t crwn o’r Oes Efydd,
dau odyn sychu llafur yn dyddio o 720-960 O.C. a th mawr a cholomendy
yn dyddio o ddechrau’r 1500au.
LLWYBR PREN CANOLOESOL GER TAL-Y-BONT
Fis Mawrth eleni, gwnaeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ddarganfyddiad
rhyfeddol iawn, sef llwybr pren sy’n croesi corsdir Cors Fochno
(Cors Y Borth). Mae’r llwybr bellach wedi’i ddyddio
drwy ddulliau radiocarbon i’r 10fed ganrif neu ddechrau’r
unfed ganrif ar ddeg O.C., ac ymddengys fod y llwybr yn arwain at
eglwys hynafol Llangynfelyn. Mae cynlluniau ar droed i wneud gwaith
cloddio mawr yr haf hwn gyda chymorth ariannol gan Cadw a chymorth
llafur gan fyfyrwyr Prifysgol Birmingham. Ceir manylion am hynt
y gwaith cloddio ar ein gwefan ac yn rhifynnau’r llythyr newyddion
hwn.
Am rhagor o wybodaeth gweler y Dyddiadur
Cloddio
|
PENTIR PUMLUMON: PROSIECT CYMUNEDOL

Llun arlunydd o’r Cyfrifdy fel y byddai
wedi edrych ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Deuai gweithwyr
plwm i’r Cyfrifdy i gasglu eu tâl wythnosol.
(Arlunydd: Richard Jones o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed).

Llun o hen Gyfrifdy Lisburne, Pont-rhyd-y-groes,
Ceredigion yn 2003. |
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi bod yn rhan
o brosiect i helpu pobl i ddeall yn well a mwynhau canolbarth a
gogledd Ceredigion. Aeth fforwm busnes twristiaeth Pentir Pumlumon
ati i ddyfeisio prosiect oedd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol
a chymunedau i gynhyrchu paneli gwybodaeth treftadaeth ar gyfer
naw cymuned. Ariannwyd y prosiect gan Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor
Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
Defnyddiwyd methodoleg gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
y maent wedi
bod yn ei datblygu dros y blynyddoedd diwethaf hyn o “archwiliadau”
cymuned neu dreftadaeth. Lluniwyd adroddiad-gwaith dwyieithog ar
gyfer pob un o’r naw cymuned, ar sail y wybodaeth sydd yn
y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol (CHA). Roedd yr adroddiadau’n
cynnwys crynodeb cronolegol o’r ardal a rhestr a map o’r
safleoedd a gynhwysir yn y CHA, a disgrifiad o bob un ohonynt. Dosbarthwyd
yr adroddiadau hyn cyn cynnal noson gymunedol lle anogwyd pobl,
ar ôl i staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
roi cyflwyniad byr, i roi rhagor o wybodaeth
am hanes ac archaeoleg eu cymuned. Gofynnodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
hefyd am eu
barn ynghylch beth oedd yn bwysig i ymwelwyr a’r genhedlaeth
nesaf wybod am eu hardal.
Bwydwyd y wybodaeth hon yn ôl i’r CHA,
a defnyddiwyd hi fel sail ar gyfer y paneli gwybodaeth, o ran y
testun a’r lluniau. Lansiwyd y paneli yn swyddogol yn Llanafan
lle arddangoswyd hwy gyda’i gilydd am benwythnos cyn mynd
ati i’w gosod yn eu lle.
Jenny Hall, Mawrth, 2004
Cyswllt y Prosiect: Ken Murphy - k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk |
ANEDDIADAU GWLEDIG ANGHYFANNEDD

Safle AGA ar ucheldir Ceredigion |
Eleni daw’r astudiaeth
8-mlynedd o safleoedd aneddiadau gwledig anghyfannedd yn ne orllewin
Cymru i ben. Cafodd y prosiect “Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd”
(AGA) gymorth grant gan Cadw, ac roedd yn rhan o astudiaeth Cymru
gyfan. Nod y prosiect oedd ceisio deall yn well y nifer fawr o gytiau
a chartrefi anghyfannedd a welir yng nghefn gwlad. Ymwelwyd â
thros 1,000 o safleoedd a’u hasesu, a nodwyd y manylion yn
y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol.
Ymwelwyd â rhai hen ffermydd a bythynnod,
ond roedd y prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar dri math
penodol o safle; cytiau hir, tai hir a llwyfanau. Credir bod pob
un o’r rhain yn cynrychioli gweddillion cartrefi a feddiannwyd
yn ystod y cyfnod canoloesol ac ôl-ganoloesol. Serch hynny,
ychydig iawn ohonynt sydd wedi’u cloddio, a hyd yn oed heddiw
prin iawn yw’r wybodaeth am safleoedd unigol.
Mae safleoedd AGA yn cynnwys cartrefi a ddefnyddiwyd
at nifer o wahanol ddibenion. Yn ddiamau, defnyddiwyd llawer o’r
safleoedd ar yr ucheldir fel hafotai neu dai haf gan fugeiliaid
a’u teuluoedd yn y canol oesoedd. Mae safleoedd eraill y gellir
eu clustnodi fel cartrefi mwy diweddar teuluoedd bugeiliaid oedd
yn byw ar y mynydd-dir gydol y flwyddyn, hyd yn oed yn y llefydd
mwyaf anghysbell ac anodd. Ar yr ucheldir, mae’r aneddiadau
anghyfannedd fel arfer yn goroesi yn eithaf da fel murddunod, ac
maent i’w gweld yn amlwg yn y tirwedd. Mae safleoedd AGA felly
yn elfen bwysig iawn o adnoddau archaeolegol yr ucheldir.
Yn yr ardaloedd iseldir amaethyddol, mae’r
prosiect wedi clustnodi dwsinau lawer o fythynnod oedd yn gartref
i deuluoedd gweision fferm yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Mewn sawl achos, nid oes unrhyw olion gweladwy
o gwbl o’r tai hyn. Mae hyd yn oed rhai o’r ffermydd
a’r plastai mawr wedi diflannu dros y canrifoedd. Serch hynny,
mae’r safleoedd hyn weithiau yn goroesi fel nodweddion archaeolegol
o dan ddaear, gan gadw tystiolaeth bwysig o fywyd cartref a bywyd
economaidd y cenedlaethau a fu.
Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn gyfrifol
am gynnydd sylweddol yn nifer y safleoedd AGA a ddiogelir yn awr
fel Henebion Rhestredig, gan gydnabod pwysigrwydd cadw’r enghreifftiau
gorau o bob un math o safle i’r oesoedd a ddêl i’w
gwerthfawrogi a dysgu oddi wrthynt. Fodd bynnag, mae angen gwneud
gwaith yn y dyfodol, yn enwedig gwaith cloddio, er mwyn gwella ein
gwybodaeth o’r safleoedd pwysig hyn.
Mae Cadw bellach wedi cyhoeddi canllaw i’r prosiect Aneddiadau
Gwledig Anghyfannedd, dan y teitl “Gofalu am Ffermydd Coll”.
Mae adroddiad mwy manwl sy’n ymdrin â’r prosiect
AGA yn gyffredinol i’w gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2004, a
gellir cael rhagor o fanylion am hyn yn uniongyrchol oddi wrth Cadw.
Paul Sambrook, Mawrth 2004
Cyswllt y Prosiect: Gwilym Hughes
|
1,000fed FFERM TIR GOFAL

Adeilad fferm traddodiadol a adnewyddir fel rhan o gynllun
Tir Gofal
|
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed bellach wedi rhoi cyngor archaeolegol
i 1,000 o ffermydd ledled de orllewin Cymru fel rhan o gynllun
amaeth-amgylchedd Tir Gofal. Cyngor Cefn Gwlad Cymru sy’n
rhedeg y cynllun, a’r nod yw annog arferion amaethyddol
sy’n hyrwyddo diogelu’r amgylchedd ‘hanesyddol’
a ‘naturiol’. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn rhoi cyngor
ar reoli’r amgylchedd hanesyddol i bob fferm sy’n
ymuno â’r cynllun, drwy ddefnyddio gwybodaeth o’r
Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol a mapiau hanesyddol.
Hefyd, mae archaeolegydd o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
wedi ymweld â thros 200
o’r ffermydd mor belled, i glustnodi ardaloedd eraill lle
gellid yn effeithiol ddiogelu neu wella’r archaeoleg.
Mae Tir Gofal yn rhoi’r cyfle i ymweld ag ardaloedd helaeth
o gefn gwlad sydd heb gael archwiliad o’r blaen, gan roi
gwybodaeth o’r newydd am safleoedd oedd yn hysbys i ni gynt
a chlustnodi cannoedd o safleoedd newydd am y tro cyntaf. Mewn
un achos, gwelwyd bod ardal o goetir a addurnwyd â choed
enghreifftiol wedi’i chynllunio i gynrychioli safleoedd
milwyr mewn brwydr yn ystod ymgyrch yn yr India! Elfen bwysig
iawn o’r gwaith yw fod ffermwyr a thirberchnogion yn rhannu
eu gwybodaeth â ni am dirwedd y fferm a’i hanes. Yn
ogystal â safleoedd archaeolegol penodol, rydym hefyd yn
edrych ar nodweddion tirweddau helaeth megis patrymau caeau a
mathau o gloddiau caeau, sef nodweddion sy’n rhoi i ardal
ei nodweddion unigryw ei hun. Rydym hefyd yn rhoi cyngor ar brosiectau
adnewyddu adeiladau traddodiadol neu nodweddion eraill.
Yn y tymor hir, bydd Tir Gofal yn gymorth i ddiogelu safleoedd
archaeolegol unigol a nodweddion y dirwedd, a bydd hefyd yn fodd
i wella’n gwybodaeth ni yn sylweddol o dirweddau hanesyddol
Cymru.
Cyswllt y Prosiect: Alice Pyper - a.pyper@dyfedarchaeology.org.uk |
Diwrnod Cenedlaethol Archaeoleg

Cynhelir y diwrnod blynyddol hwn eleni ddydd Sadwrn,
Gorffennaf 17eg, a bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, fel yn y blynyddoedd cynt,
yn trefnu cyfres o weithgareddau ar y cyd ag Amgueddfa Caerfyrddin, Abergwili,
Caerfyrddin. Gellir gweld y manylion yn llawn ar wefan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
cyn y dyddiad,
a gellir cael y manylion hefyd oddi wrth Gavin Evans yn Amgueddfa Caerfyrddin
(01267 231691). Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gynnal gweithgareddau
yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn Nhyddewi.
Ymhlith y gweithgareddau hyn fydd teithiau tywys o gwmpas archaeoleg Penmaen
Dewi.
Cyswllt: Marion Page – m.page@dyfedarchaeology.org.uk
Y CHA
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
sy’n gyfrifol am y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r
CAH bellach yn cynnwys dros 37,500 o gofnodion ac mae’n ffynhonnell
werthfawr o wybodaeth am dirweddau’r rhanbarth yn y gorffennol.
Rydym yn croesawu ymholiadau gan unrhyw un sy’n dymuno gwybod rhagor
am archaeoleg yr ardal.
Cyswllt: Marion Manwaring - m.page@dyfedarchaeology.org.uk
CADWCH MEWN CYSYLLTIAD
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn awyddus i feithrin cysylltiadau ag aelodau o’r
cyhoedd a grwpiau cymunedol. Efallai bod gennych ddiddordeb yn ein gwaith,
fel archaeolegydd amatur neu fel hanesydd neu fel rhywun sydd â
diddordeb yng ngorffennol eich cymuned. Efallai eich bod yn gweithio i
gorff a all fod â diddordeb mewn meithrin cysylltiadau â Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
.
Cyswllt: Marion Page – m.page@dyfedarchaeology.org.uk
|