Cartref >

Newyddion 2003

DARGANFYDDIAD GAER RHUFEINIG LLANDEILO

Yn ystod arolwg archaeolegol o’u stad ym Mharc Dinefwr, Llandeilo a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwnaethpwyd darganfyddiad cyffrous o gaer filwrol Rufeinig gan Stratascan, tîm arolygu geoffisegol a ddefnyddiwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i gynorthwyo yn yr arolwg. Cefnogwyd y gwaith yma gan Gronfa’r Loteri Cenedlaethol.

Mae arolygon geoffisegol yn dangos darlun o nodweddion o’r golwg dan wyneb y ddaear sy’n debyg i lun radar. Yr hyn sy’n fwy cyffrous fyth am y darganfyddiad yn Llandeilo yw ei fod yn ymddangos bod dwy gaer ar yr un safle, yn ogystal ag anheddiad sifil a nodweddion perthnasol eraill, sy’n cynnwys Ffordd Rufeinig ac hefyd o bosib baddondy Rhufeinig. Tybir i’r gaer wreiddiol ddyddio o oddeutu 74OC, cyfnod goresgyniad Cymru gan y Rhufeiniaid.

Mae gan y safle arwynebedd posibl o 3.9 hectar, a byddai hynny’n golygu ei bod yn un o geyrydd mwyaf yr ymgyrch Rhufeinig yng Nhymru ac efallai wedi cartrefu mintai o lengfilwyr. Mae’n debyg yr adeiladwyd ail gaer, llai o faint, ar yr un safle wedi’r goresgyniad a thyfodd anheddiad bychan y tu allan i’w phyrth. Gwelir cysgod y gaer cyntaf ar waelod y llun a gynhyrchwyd gan yr arolwg geoffisegol (ar y chwith). Gwelir olion y anheddiad fechan y tu allan i’r porth yn y cornel uchaf ar ochr dde’r llun.

Mae archeolegwyr yn gobeithio cael cyfle i gloddio rhywfaint o’r gaer yn y dyfodol agos i geisio dechrau dyddio a deall y nodweddion sydd mor amlwg yn y llun a ddangosir yma.

Cysylltydd prosiect: Gwilym Hughes

 

YR CAH RHANBARTHOL – ADNODD CYHOEDDUS

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed sydd â’r Cofnod Rhanbarthol o Safleoedd a Henebion (CHA) ar gyfer siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Y CAH yw’r allwedd i wybodaeth am dreftadaeth archaeolegol y tair sir ac mae’n ymwneud â phob cyfnod o ddatblygiad dynol, o olion hysbys y trigfannau cynharaf i adeiladweithiau amddiffynnol o gyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Ar gronfa ddata’r CAH mae dros 36,000 o gofnodion, ffigur sy’n codi bob dydd. Yn ogystal â’r gronfa ddata, mae gennym system wybodaeth helaeth ar bapur, a llu o fapiau hanesyddol, lluniau a dynnwyd ar lawr gwlad, awyrluniau, cylchgronau ac adroddiadau.

Mae’r CAH yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i bawb sy’n ymddiddori yn nhirweddau’r de-orllewin ’slawer dydd ac yn y bobl fu’n byw yno. Bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn croesawu ymholiadau oddi wrth unrhyw un a hoffai wybod rhagor am archaeoleg y tair sir. Cysylltwch â’r CAH dros y ffôn, drwy lythyr neu drwy e-bost ac esboniwch yr hyn yr hoffech gael gwybodaeth amdano.

 

CARN

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ’n bartner gyda thair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn y gwaith o ddatblygu cronfa ddata CARN. Yn CARN, cyfunir cofnodion pob un o brif gyrff treftadaeth Cymru am safleoedd, a hynny ar ffurf mynegai sydd ar gael ar-lein i’r cyhoedd. Gallwch ei weld ar y rhyngrwyd yn: www.rcahmw.org.uk/data

 

HENEBION SYMUDOL

Yn sgîl y Ddeddf Drysor (1996) mae’n orfodol adrodd darganfod rhai gwrthrychau arbennig. Cychwynnwyd cynllun prawf gwirfoddol mewn deuddeng ardal er mwyn cofnodi gwrthrychau nad oedd yn rhaid eu hysbysu yn ôl y Ddeddf Drysor. Bu’r cynllun prawf yn llwyddiannus dros ben ac felly o fis Ebrill 2003 tan fis Mawrth 2006 fe fydd Cronfa Treftadaeth y Loteri’n ariannu’r cynllun dros Gymru a Lloegr gyfan.

Bob blwyddyn caiff miloedd o greiriau eu darganfod gan ddefnyddwyr datgelyddion metel, gan gerddwyr, gan arddwyr a gan ffermwyr. Mae’r cynllun yn caniatáu i bawb gofnodi eu darganfyddiadau i’w hychwanegu i’r wybodaeth sydd eisoes ar gael am ein gorffennol.

Cydlynir y cynllun cofnodi yng Nghymru gan Mark Lodwick, sydd â’i swyddfa yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Cefnogir Mark gan bedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru a’r rhwydwaith o ganolfannau hysbysu lleol.

Ceir manylion pellach am y cynllun a’r Ddeddf Drysor ar wefan yr Ymddiriedolaeth ac hefyd ar:
http://www.finds.org.uk

 

 

CYNLLUNIO AR GYFER Y GORFFENNOL

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, gan ei bod yn ymddiriedolaeth archaeolegol, yn cyflawni rhan bwysig yn y broses gynllunio dan arweiniad ein Archeolegydd Cynllunio, Lucy Rowley-Williams. Dyma ei syniadau am natur ei gwaith.

Yn fy ngwaith fel Archaeolegydd Cynllunio, nid fy mwriad yw creu anawsterau diangen ym mywydau pobl. Fi sy’n gyfrifol am geisio diogelu safleoedd hanesyddol ac archeolegol y gellid cael eu heffeithio gan ddatblygu. Fy mhrif rôl yw cynghori’r cyhoedd, datblygwyr preifat ac awdurdodau lleol i’w cynorthwyo i ddilyn arweiniad cynllunio ynglyn ag archeoleg a’r amgylchedd hanesyddol.

Mae’r dystiolaeth yr ydym yn ceisio ei diogelu’n ymestyn o safleoedd sydd ganddynt gysylltiad ag aneddiadau neu gladdedigaethau cynhanesyddol i adeiladau diwydiannol diweddar. Nid ydym yn ceisio diogelu tirwedd mewn asbig, ond yn hytrach ceisio caniatáu i drefi a phentrefi ddatblygu heb achosi niwed i safleoedd archeolegol y gellir ei osgoi.

Gallwn wneud hyn drwy archwilio’n ofalus y rhestri wythnosol o’r holl Rydym yn gwirio gwybodaeth sydd yn y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol yn erbyn yr ardaloedd hynny a effeithir arnynt gan geisiadau gan ofyn am fwy o fanylion os tybiwn y gallai datblygu ddylanwadu ar safleoedd archaeolegol y gwyddys amdanynt. Ar gyfartaledd, mae angen ymchwilio.n bellach i dua 4% o geisiadau cynllunio lle mae materion archaeolegol posibl yn codi.

Os nad ydym yn sicr pa mor bwysig yw’r archeoleg, neu pa mor drawiadol fydd dylanwad y datblygu, efallai y byddwn yn gofyn am fwy o wybodaeth ar ffurf ‘gwerthusiad ymlaen-llaw. Rhaid cwblhau’r gwaith hwn cyn caniateir cynllunio, gan y gall y dyfarniad olygu gwrthod caniatâd cynllunio. Er hynny, prin yw achosion o’r fath.

Yn y rhan fwyaf o achosion lle gwneir sylwadaeth ar gynllunio archaeolegol, rydym yn argymell fod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ychwanegu amod sy’n mynnu ar waith archaeolegol. Mae hyn yn golygu bod rhaid trefnu rhaglen o waith archeolegol cyn dechrau ar unrhyw waith arall. Pan benderfyna ymgeisydd ddechrau gwaith ar safle, bydd y gwaith archaeolegol hefyd yn dechrau. Fe all hyn fod yn “orchwyl gwylio” syml, lle mae archeolegydd yn monitro’r gwaith wrth iddo ddatblygu, neu’n anaml fe all olygu cloddfa ar raddfa ehangach. Fel hyn gellir darganfod gwybodaeth werthfawr am y gorffennol.

 

 

HAFOD

Hafod Thomas Johnes

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi ymgymryd â nifer o brosiectau yn yr Hafod, ger Cwmystwyth, Ceredigion ar ran Partneriaeth Ymddiriedolaeth yr Hafod/ Menter Coedwigaeth. Mae’r Hafod yn dirwedd naturiolaidd pictiwrèsg a sefydlwyd gan Thomas Johnes ym mlynyddoedd olaf y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Adeiladodd Johnes blasty yn y dull neo-Gothig a gosododd lwybrau hir oedd yn cysylltu nodweddion naturiol fel rhaeadrau a chataractau â hafdai, ogofdai a phontydd.

Yn dilyn ei farwolaeth, diystyriwyd elfennau pictiwrèsg yr Hafod ac fe’u collwyd wrth i berchnogion diweddarach ganolbwyntio ar agweddau masnachol y stad. Yn y 1950au prynwyd yr Hafod gan y Comisiwn Coedwigaeth, dymchwelwyd y plasty a sefydlwyd planhigfeydd coniffer.

Ers blynyddoedd cynnar y 1990au, mae Ymddiriedolaeth yr Hafod, mewn partneriaeth â Menter Coedwigaeth, wedi bod yn adfer rhai o adeiladau pictiwrèsg Johnes ac hefyd llawer o’r hen lwybrau. Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi bod ynghlwm wrth y rhan fwyaf o’r prosiectau adfer hyn. Mae nawr yn arfer safonol gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed i wneud arolwg topograffig llawn cyn adfer hen lwybr, gan gofnodi elfennau’r tirwedd fel llwybrau, waliau, cerrig brig, toriadau llethr, nentydd, coed collddail a bonion coed. Nid yw’n anarferol darganfod llwybrau ‘colledig’ neu anhysbys yn ystod yr arolygon hyn.

Mae elfennau topograffig eraill a ddarganfyddir yn ystod arolwg, fel mannau gwylio, yn gymorth i ddadansoddi gweledigaeth Johnes o’r tirwedd. Yn ogystal ag arolwg topograffig, mae strwythurau unigol fel y Bont Alpaidd a’r Arcêd Othig, wedi cael eu cofnodi’n fanwl. Cloddwyd rhannau o’r llwybrau a strwythurau eraill megis y Baddon Oer a’r Gilfach Wladaidd.

 

MWYNGLODDIAU’R GORLLEWIN PROSIECT 2002-3

Gwaith Wemyss, ger Pontrhydygroes

Mae diwydiant hynafol, hanesyddol mwyngloddio’n un o’r diwydiannau pwysig, colledig de-orllewin Cymru a oedd yn bennaf ym maes mwyn canol Ceredigion, ond a oedd hefyd yn estyn i lawr i ogledd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Yn 2002-3, rhoddwyd grant i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gan Cadw ar gyfer asesu cyflwr a phwysigrwydd archaeolegol 30 o hen fwyngloddfeydd de-orllewin Cymru.

Mae archaeolegwyr wedi profi y cloddwyd am gopr yng Ngheredigion yn ystod yr Oes Efydd, dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n hysbys bod y Rhufeiniaid yn cloddio am aur yn Nolaucothi, Sir Gaerfyrddin, ond mae’n bosib eu bod hefyd wedi manteisio ar fwynau plwm, arian a chopr yr ardal. Yn bendant, cloddiwyd am blwm yn ystod yr Oesoedd Canol. Er enghraifft, roedd Abaty Ystrad Fflur yn berchen ar fwyngloddiau a thoddfeydd yn ardal Cwmystwyth yn gynnar yn yr 16eg ganrif. Yn ystod Oes Elisabeth I, dechreuodd cwmnïau preifat ddatblygu mwyngloddiau ar raddfa ddiwydiannol. Er hynny, yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif y bu i’r diwydiant ffynnu a gwneud yr argraff fwyaf ar dirwedd yr ardal. Erbyn ail hanner y 19eg ganrif, roedd maes mwyn Ceredigion yn frith o fwyngloddiau mawr a bach, a daeth llawer o bentrefi diwydiannol i fodolaeth. Roedd yr effaith ar y tirwedd, ar gyfanheddu, ar ddiwylliant ac ar economi’r ardal yn anferth.

Pan blymiodd pris mwynau metel ar ddiwedd y 19eg ganrif, wrth i fwynau rhatach o’r Byd Newydd gael eu mewnforio, drylliwyd y diwydiant hynafol hwn a dim ond ychydig o fwyngloddiau a frwydrodd ymlaen i mewn i’r 20fed ganrif. Erbyn y 1930au roedd yr holl gynhyrchu wedi dod i ben. Chwalwyd y gymuned ddiwydiannol ac aeth llawer o mwyngloddwyr i chwilio am waith yng nglofeydd De Cymru. Caewyd safleoedd y cloddfeydd ac adfeiliodd y rheini. Effeithiwyd ar lawer ohonynt ers hynny gan gynlluniau adennill tir, a lefelwyd eu hadeiladau a’u tomenni mewn ymgais i gael gwared ar ‘ddoluriau llygad’ o’r fath. Er hynny, mae gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gofnodion am dros 220 o safleoedd mwyngloddio yng Ngheredigion yn unig ac mae llawer wedi gorwedd heb eu cyffwrdd ers iddynt gau. Nid tiroedd anial diwydiannol mo’r rhain. Erbyn hyn cydnabyddir y safleoedd hyn fel safleoedd treftadaeth pwysig, o bwysigrwydd archaeolegol dwfn. Mae llawer ohonynt bellach yn llochesau i fywyd gwyllt.

Nawr, yn yr 21ain ganrif, mae gwerthfawrogiad llawer mwy o werth themâu a safleoedd treftadaeth a safleoedd fel elfennau mewn strategaethau economaidd, twristaidd ac addysgol. Byddai diogelu’n treftadaeth mwyngloddio’n amlwg o fudd i strategaethau o’r fath. Gobaith Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yw y bydd diogelu safleoedd allweddol gan Statws Henebion Cofrestredig yn y dyfodol yn ffurfio rhan o strategaeth reoli i ddiogelu ein hetifeddiaeth mwyngloddio, ac yn cysylltu safleoedd a thirweddau cloddio ac anheddau gorau’r rhanbarth âi gilydd.

 

PROSIECTAU ERAILL SYDD AR WAITH

Dyma restr o brosiectau eraill mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn ymgymryd â hwy yn ystod 2003-4:

Ariannir gan Cadw:
Prosiect Anheddau Gwledig Anghyfanedd; Nodweddu Tirweddau Hanesyddol ardaloedd a ddiffiniwyd gan y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol; Safleoedd Eglwysig Canoloesol Cynnar; Asesiad o Safleoedd Lithig Cynhanesyddol; Asesiad o Safleoedd Angladdol a Defodol Cynhanesyddol.

Prosiectau eraill:
Asesiadau Fferm Tir Gofal; Cloddio Castell Caerfyrddin; Arolwg Topograffig yr Hafod, Cwmystwyth; Cloddfa Newton House, Aberdaugleddau (datblygiad Petroplus); Arolwg Topograffig Parc Dinefwr, Llandeilo.

Diwrnod Archaeoleg Cenedlaethol:
Mae’r digwyddiad blynyddol hwn ar Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 19eg eleni ac fe fydd staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cynnal cyfres o weithgareddau perthnasol ar y cyd ag Amgueddfa Caerfyrddin, Abergwili, Caerfyrddin drwy’r dydd. Bydd manylion ar wefan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed o flaen llaw a byddant hefyd ar gael oddi wrth Gavin Evans yn Amgueddfa Caerfyrddin (01267) 231691.

CADW MEWN CYSYLLTIAD
Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn awyddus i feithrin cysylltiadau â’r cyhoedd a grwpiau cymunedol.
Efallai fod gennych chi, fel archaeolegydd, hanesydd amatur neu un sy’n ymddiddori yng ngorffennol eich cymuned, ddiddordeb yn ein gwaith. Efallai eich bod chi’n gweithio i gorff a hoffai ystyried meithrin cysylltiadau â Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed .

Os hoffech chi gael gwybod yn gyson am ein gwaith drwy gael y newyddion diweddaraf drwy’r post neu o’n gwefan, cysylltwch â’r cyfeiriad isod ac fe gewch y rhifynnau o’n newyddlen wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

 



 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]