|
Dyddiadur
Cloddiad Wernfawr
Fel rhan o Chwilota’r Tywi! ry’n ni
wedi dechrau ein archwiliad yn Wernfawr, fferm anghyfannedd ger
Penybanc tu allan i Landeilo.
|
|
Daeth y safle i’n
sylw yn y lle cyntaf pan amlygodd gloddiadau cyn adeiladu’r
biben nwy ym 2007, cwpwl o ffyrnau sychu yd. Mae’r adeiladau
yma, oedd unwaith yn gyffredin ger ffermdai, braidd i’w gweld
nawr.
Darganfuodd cloddiad bach llynedd dystiolaeth o
dân erchyll ag arweiniodd at gefnu ar y ffermdy. Mae cloddiad
gan wirfoddolwyr yn digwydd ar hyn o bryd i ddarganfod gwreiddiau
a datblygiad y fferm. Beth fedrwn ni ddarganfod am fywyd ar fferm
wledig? |
|
|
Dydd 1- Dydd Mawrth 13 Ebrill
2010
Mae Catriona, Brian a Celia yn dechrau’r
dasg lafurus o dynnu’r gwair a phridd sy’ wedi gorchuddio
gweddillion y fferm yn Wernfawr, ond mae’r heulwen ogoneddus
yn cadw pawb yn gwenu. |
|
|
Dydd 2 - Dydd Mercher 14
Ebrill 2010
Mae profiad garddio Gwilyn yn dod yn handi wrth
i ni geisio clirio mynediad i’r waliau sy’n sefyll.
Er, gan fod y portaloos heb gyrraedd, ry’n ni’n dechrau
difaru tynnu siwd gymaint o berthi cyfleus. |
|
|
Dydd 3 - Dydd Iau 15 Ebrill
2010
Ar ol diwrnod 2 eitha’ oer mae’r haul
yn dychwelyd ar ddiwrnod 3 ac mae cynnydd cyflym ar glirio’r
blynyddoedd o bridd a llystyfiant sy’ wedi codi tu fewn y
fferm oddiar iddi losgi ym 1911. Yn barod, mae llawr slat bendigedig
yn amlygu ar un ochr –wedi ei lanhau yn ofalus gan Tony a
Ken gyda’i blant, ond wedi’i lanhau yn llai ofalus gan
Gwilyn a’i gaib. |
|
|
Dydd 4 - Dydd Gwener 16
Ebrill 2010
Tra ar yr ochr arall i’r ffermdy, mae Brian
yn dechrau dadorchuddio llawr cerrig coblog. |
|
|
Dydd 5 - Dydd Sadwrn 17
Ebrill 2010
Mae Louise, Hazel ac Eleri yn rhoi’r gorau
i’w penwythnos er mwyn dadorchuddio mwy o’r llawr coblog
wrth y pen deheuol o’r ffermdy.
Wrth ganolbwyntio siwd gymaint ar yr archaeoleg,
mae Kieron yn cael ei balu i ffwrdd. |
|
|
Dydd 6 - Dydd Sul 18 Ebrill
2010
Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf mae’r ffermdy
yn dechrau cael siap a datgelwyd nifer o stafelloedd.
Un o’r darganfyddiadau mwya annisgwyl o’r
penwythnos, madfall fach yn cysgodi mysg rhai o’r cerrig rhydd. |
|
|
Dydd 7 - Dydd Mawrth 20
Ebrill 2010
Mae Mike yn brwydro trwy pridd llawn gwreiddiau
er mwyn dadorchuddio mwy o ochor deuluol cyffyrddus y ty gyda’i
llawr slabiau llechi hyfryd. |
|
|
Dydd 8 - Dydd Mercher 21
Ebrill 2010
Mae coridor coblog yn cael ei lanhau yn dda yn
ochor “fusnes” y ffermdy, sy’n gweithio fel mynediad
a draen mewn ardal sy’ fwy na thebyg wedi cael ei defnyddio
fel llaethdy a stalau anifeiliad. |
|
|
Dydd 9 - Dydd Iau 22 Ebrill
2010
Gweithwyr Prydeinig i’r carn, Matt a Tony
yn edmygu techneg palu Simon.
Mae Mike yn ymuno a’r tim am ychydig ddyddiau,
wedi’i gynorthwyo’n fedrus gan Malcolm, er mwyn gwneud
arolwg geoffiseg o’r caeau o gwmpas y ffermdy yn ceisio darganfod
mwy o’r odynau sychu grawn yd neu adeiladau hyn. |
|
|
Dydd 10 - Dydd Gwener 23
Ebrill 2010
Efallai ddim mor gyffrous i’r sawl sy’
ddim yn archaeolegwyr, ond dyma esiampl arbennig o dwll postyn wedi’i
gloddio yn Ffos 2. Byddai hwn wedi creu cornel yr amrediad ysgubor
19fed ganrif a welwyd ar hen fapiau nesag at y ffermdy, wedi’i
adeiladu’n rhyfedd mewn steil hollol wahanol i’r ffermdy. |
|
|
Dydd 11
- Dydd Sadwrn 24 Ebrill 2010
Mae’r stafell ola’ yn y ffermdy i’w
gweld gyda’i llawr coblog. Efallai taw olion ystabl ag ychwanegwyd
o dan y staliau anifeiliaid oedd, neu ai hwn yw diwedd adeilad hyn?
|
|
|
Dydd 12 - Dydd Sul 25 Ebrill
2010
Mae’r criwgwaith (Matt) yn cael ei lusgo
i ffwrdd am y dydd o Wern Fawr er mwyn gwneud ychydig o recordio
argyfyngedig ar adeilad cerrig bach a chlom (mwd) ger Dryslwyn.
Matt yn dechrau recordio rhai o’r walydd.
|
|
|
Dydd 13 - Dydd Mawrth 27
Ebrill 2010
Nol yn Wern Fawr yn yr wythnos ola’ ac mae’r
llawr slab llechi arbennig yn y gegin / parlwr yn cael ei recordio.
Ar y safle mae trafodaethau yn parhau wrth i’r
tim geisio gwneud synnwyr o’r wahanol fathau o adeiladwaith
walydd sy’n creu’r ffermdy. |
|
|
Dydd 14 - Dydd Mercher 28
Ebrill 2010
Mae’r wythnos ola’ yn gweld cyfres
o ymweliadau ysgol i’r safle. Mae Hazel yn esbonio popeth
amdano.
Ac mae Alice yn rhoi taith dan arweiniad iddynt
o’r ffermdy.
|
|
|
Dydd 15 - Dydd Iau 29 Ebrill
2010
Mwy o Indiana Jones ifainc yn darganfod hanes Wern
Fawr, ac yn cysgodi rhag smotyn o law annisgwyl.
Mae Celia yn darganfod tystiolaeth roedd y ffermdy
unwaith yn liw hyfryd o binc
ar y tu fas.
|
|
|
Dydd 16 - Dydd Gwener 30
Ebrill 2010
Mae’r ffermdy wedi’i gynllunio’n
fanwl, pob carreg a thwll postyn wedi’u arlunio, er mwyn cael
record llawn o beth datgelon ni. |
|
|
Dydd 17 - Dydd Sadwrn 1
Mai 2010
Gan ei fod yn wyl y banc mae’r cymylau yn
cyrraedd, er bod Celia, Eleri a Hazel yn dal i wenu. |
|
|
Dydd 18 - Dydd Sul 2 Mai
2010
Ar y diwrnod ola ond un mae pydew mawr yn cael
ei ddadorchuddio yn Ffos 2, amcangyfruwn faint o wirfoddolwyr fedrith
ffitio tu fewn iddo.
Ond maen nhw dal yn llwyddo i gloddio rhan fwya’
o’r pydew erbyn diwedd y dydd. Yn anffodus nid oedd yn cynnwys
y trysor teulu, yn hytrach mae’n debyg fe gafodd ei gloddio
er mwyn echdynnu sial yn unig, o bosib pan adeiladon nhw’r
twlc mochyn gerllaw ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif. |
|
|
Dydd 19 - Dydd Llun 3 Mai
2010
Rhoddir i’r ymwelwyr i’r safle ar y
diwrnod ola daith dan arweiniad wrth i Anthony orffen waghau’r
pydew yn Ffos 2.
Mae’r rhuthr munud ola i gael popeth ‘di
cwpla yn meddwl smo oedran yn rwystr i helpu. Mae Lwsi yn trochi
dwylo yn enw archaeology.
Mae tim o weithwyr caled dal yn llawen tra’n
sefyll am lun o flaen Wern Fawr. |
|
|