English


Chwilota’r Tywi! – cyflwyniad i’r prosiect

Mae Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin, gorllewin Cymru, yn cael ei goleddu fel tirwedd hanesyddol bwysig, ac mae’n enwog am ei olygfeydd o safon sydd wedi eu ffurfio gan iâ, dwr a dyn. Mae ganddo gyfoeth o drysorau yn cynnwys ceyrydd a chestyll, parcdiroedd a gerddi, a threfi a phentrefi llawn cymeriad.

Roedd y prosiect Tywi Afon yr Oesoedd yn canolbwyntio ar yr ardal rhwng Llangadog a Dryslwyn. Anelai at gryfhau cysylltiadau’r gymuned â’r dirwedd drwy ennill gwell dealltwriaeth a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i edrych ar ôl eu tirwedd. Gellir dod o hyd i fwy am y prosiect ar www.tywiafonyroesoedd.org.uk

Mae’r wefan hon yn dathlu’r hyn a gyflawnwyd gan un thema yn y prosiect, Chwilota’r Tywi! ymchwiliad gan y gymuned i ddechreuadau a hanes y dyffryn. Roedd rhaglen o weithgareddau dan arweiniad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn mynd ag ysgolion, grwpiau diddordeb lleol ac aelodau o’r cyhoedd ar daith o ddarganfyddiadau mewn archaeoleg a daeareg.

 

 

Cydnabyddiaethau

Ni fyddai Chwilota’r Tywi! wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth a brwdfrydedd llawer o bobl. Rydym yn ddiolchgar i bawb a adawodd i ni fynd ar eu tir fel y gallai’r ymchwiliadau a’r arolygon gael eu gwneud. Roedd llawer o gyrff yn cefnogi’r prosiect mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Geoparc Fforest Fawr a chwaraeodd ran helaeth yn y digwyddiadau a gynhaliwyd yn y Garn Goch. Cyfrannodd llawer o unigolion eu hamser a’u harbenigedd, ac eto heb ymrwymiad a brwdfrydedd y gwirfoddolwyr a gymerai ran ac a weithiodd mor galed ni fyddai Chwilota’r Tywi! wedi cyflawni gymaint. Bydded i’w harchwilio barhau!

Arianwyr

Mae Chwilota’r Tywi! yn rhan o brosiect Tywi Afon yr Oesoedd. Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol; a Chynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007- 2013 a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Gaerfyrddin, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Menter Bro Dinefwr.