Cartref > Prosiectau >

Y Diwydiant Gwlân

Yn bennaf, roedd y diwydiant gwlân yn ne-orllewin Cymru yn ystod y cyfnod canoloesol ac ôl-ganoloesol yn cynnwys tyddynnod gwasgaredig yn cynhyrchu brethyn garw at anghenion y teulu, a châi'r hyn oedd dros ben ei werthu mewn marchnadoedd lleol. Fodd bynnag, gwnaeth arloesedd technegol o ran gwyddiau ac ychwanegu pwer dwr at y broses pannu chwyldroi dulliau a thrawsnewidiodd y diwylliant o'r fferm i'r ffatri. I ddechrau, ystyr ‘ffatri' oedd adeilad unigol lle y câi peiriannau cribo, nyddu neu bannu eu pweru gan bwer dwr ond, erbyn chwarter olaf y 19eg ganrif, roedd y ffatrïoedd yng ngogledd sir Gâr a Cheredigion yn debyg o ran maint a chynhyrchiant i'r rhai yng ngogledd a chanolbarth Lloegr

Er ei fod yn ddiwydiant pwysig ar un adeg, nid oes llawer o sôn amdano yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol ac ychydig iawn o safleoedd sydd wedi'u hamddiffyn yn gyfreithiol naill ai fel adeiladau rhestredig neu fel henebion rhestredig. Amcanion y prosiect hwn oedd adnabod pob safle yn ne-orllewin Cymru sy'n gysylltiedig â'r diwydiant gwlân a'u cofnodi ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, ymweld â detholiad o safleoedd er mwyn asesu eu cyflwr ac argymell yr enghreifftiau gorau sy'n goroesi er mwyn eu hamddiffyn yn gyfreithiol.


Melin Wlân Aberarth


Y Ffatri Wlân Ffrwd-wen gynt yng Nghastellnewydd Emlyn

 

Adroddiad Dros-dro PDF Diwydiant Gwlân yn Nhyfed 2016

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]