Cartref > Prosiectau >

Beddrod siambr Treginnis Isaf 2011

Cynhaliwyd arolwg geoffisegol a thopograffig o feddrod siambr Treginnis Isaf, sy’n cynnwys dwy garreg unionsyth, un garreg ystlys syrthiedig ac un capfaen wedi’i ddadleoli, sydd wedi’i leoli ar bentir yn edrych dros Swnt Dewi, Sir Benfro. Fe wnaeth yr arolwg ganfod siambr bosibl arall neu gyntedd i’r beddrod. Hefyd, cofnodwyd gwrthgloddiau cyfagos a rhan o loc cynhanesyddol mawr posibl.


Beddrod siambr Treginnis Isaf

 

Adroddiad arolwg Beddrod siambr Treginnis Isaf (mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd)

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]