Cartref > Prosiectau >

 

Mynydd y Betws

Mae pobl wedi defnyddio'r rhostir a elwir yn Fynydd y Betws am filoedd ar filoedd o flynyddoedd. Y dystiolaeth fwyaf amlwg o ddefnydd yw'r fferm wynt a adeiladwyd yn ddiweddar: mae tystiolaeth o ddefnydd sy'n mynd ymhellach yn ôl yn anos ei chanfod.

Fe gloddiodd glowyr o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, o leiaf, siafftau a cheuffyrdd er mwyn cyrraedd yr haenau glo bas ar y rhostir. Mae llinellau pantiau yn marcio arwynebedd yr hen weithfeydd glo hyn. Byddai rhai o'r glowyr wedi byw yn y bythynnod a thyddynnod, sydd bellach yn wag, a welir ar hyd y rhostir.

Yn y gorffennol pell iawn, o tua 3000BC tan 1500BC, cyfnod y mae archaeolegwyr yn ei alw yr Oes Efydd, byddai pobl yn defnyddio'r rhostir i gladdu'r meirw ac i berfformio seremonïau. Wedi'u gwasgaru ar hyd y rhostir, ceir nifer o dwmpathau isel, crwn, a elwir yn feddrodau crwn. Byddai pobl yr Oes Efydd wedi cloddio bedd, gosod gweddillion llosg corff aelod pwysig o'r gymuned neu aelod o'r teulu ynddo ac yna'i orchuddio â thwmpath o gerrig neu bridd. Y twmpathau hyn a welir ar y rhostir. Tra'r oedd y fferm wynt yn cael ei hadeiladu, darganfuwyd llinell o gerrig bychain yn rhedeg am gannoedd o fetrau ar hyd y rhostir. Mae rhesi neu aliniadau o gerrig yn anesboniadwy, ond mewn mannau eraill ym Mhrydain maent fel arfer i'w canfod mewn cysylltiad â henebion eraill o'r Oes Efydd, megis beddrodau crwn.

Yn ystod y broses o adeiladu'r fferm wynt, fe gloddiodd archaeolegwyr yn lleoliadau'r tyrbinau gwynt ac ar hyd cwrs llwybrau newydd. Fodd bynnag, gan mai'r bwriad oedd i'r fferm wynt osgoi safleoedd archaeolegol hysbys, ychydig iawn a ganfuwyd.

Yn 2017, cloddiwyd yr hyn y tybiwyd eu bod yn ddau feddrod neu garneddau a rhan o res o gerrig o’r Oes Efydd, a ariannwyd gan Gyngor Sir Gâr fel rhan o Gytundeb Adran 106 Fferm Wynt Mynydd y Betws.

Ym mis Gorffennaf 2017, cloddiwyd dwy garnedd a rhan o res o gerrig ar Fynydd y Betws, Sir Gaerfyrddin. Roedd un o’r carneddau’n edrych yn debyg i gofeb angladdol o’r Oes Efydd. Nid oedd unrhyw dystiolaeth o gladdu yno, ond tarfwyd ar ganol y garnedd yn ddiweddar. Nid oedd unrhyw arteffactau i ddyddio’r garnedd yn bresennol, na deunydd wedi’i garbonadu oedd yn addas i’w ddyddio trwy brofion radiocarbon. Roedd yr ail ganfyddiad yn bentwr bach, syml o gerrig. Roedd chwe arteffact fflint a thri darn o wydr Rhufeinig wedi cael eu darganfod gerllaw, a dychwelodd y profion radiocarbon ar y siarcol yn y pridd ganlyniadau sy’n ei ddyddio rhwng dechrau’r bumed ganrif AD a chanol y chweched ganrif AD. Canfuwyd pedair ffos fach ar draws y rhes gerrig 717 metr o hyd. Gwelwyd bod y cerrig bach yn y rhes wedi cael eu gosod ar ben y tir, neu, yn fwy tebygol, wedi cael eu gosod mewn toriad bach yn y pridd ar y pryd. Er nad oedd tystiolaeth ar gyfer dyddio, mae’n fwy tebygol mai dyddiad cynhanesyddol sydd gan y rhes gerrig.

 


Pentwr 871 cyn cloddio (Llun gan Sandy Gerrard)


Pentwr 871 yn ystod y cloddiad


Pentwr 110471 cyn cloddio (Llun gan Sandy Gerrard)


Pentwr 110471 yn ystod y cloddiad


Aliniad cerrig (Llun gan Sandy Gerrard)


Rhes gerrig yn ystod y cloddiad (Llun gan Sandy Gerrard)

 

Adroddiad Cloddiad Mynydd y Betws 2017

Canllaw i archaeoleg Mynydd y Betws

Dyddiadur Cloddio Mynydd Y Betws 2017

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]