Cartref > Prosiectau >

ASESIAD O SAFLEOEDD EGLWYSIG CANOLOESOL CYNNAR

Stepaside


Mae'r Cyfnod Canoloesol Cynnar o'r pwys mwyaf i'n dealltwriaeth o ddatblygiad Cymru fel cenedl ac o ddatblygiad Cristnogaeth ledled Prydain Fawr a thu hwnt. Yn ogystal, mae'n gyfnod sydd wedi cael effaith aruthrol ar y dirwedd - yn ffisegol drwy gyfrwng cerrig coffa, ffynhonnau a chapeli, ac yn gymdeithasol drwy sefydlu'r patrymau anheddu a'r ffiniau gweinyddol modern. Er hynny, mae'n gyfnod na ddeallir llawer arno yn hanes Cymru, am amrywiaeth o resymau. Yn eu plith mae agweddau'r ymchwilwyr at y tueddiadau gwleidyddol/cymdeithasol, prinder tystiolaeth ddogfennol fanwl a thystiolaeth archaeolegol ddibynadwy, a datblygiad mythau yn sgil hynny. Yn bwysicach na dim, mae'n gyfnod na fu, tan yn ddiweddar, yn destun cymaint o astudio ag y mae'n ei haeddu. Canlyniad hynny yw bod anghydbwysedd yn y cofnod archaeolegol ac yn y Gofrestr o Henebion. Mae'r prosiect presennol yn rhan o brosiect Cymru-gyfan sy'n debyg i'r un a wnaed ar eglwysi hanesyddol Cymru, ac un o'i amcanion yw cywiro peth ar yr anghydbwysedd hwnnw.

 

Ebrill 2001-Mawrth 2002

Yr oedd blwyddyn gyntaf y project yn cynnwys asesiad pen desg ar gyfer y tair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac fe aseswyd cyfanswm o 1451 o safleoedd eglwysig hysbys. Ffrwyth yr asesu oedd rhestr o 323 o safleoedd a allai darddu o'r Oesoedd Canol cynnar - 154 ohonynt yn Sir Benfro, 108 yn Sir Gaerfyrddin a 61 yng Ngheredigion. Mae'r safleoedd yn perthyn i ddau brif gategori:-

  • Safleoedd eglwysi/capeli, h.y. safleoedd mynwentydd 'datblygedig'

  • Safleoedd mynwentydd agored h.y. 'an-natblygedig', heb fod adeilad wedi'i godi arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys amryw o grugiau crwn o'r Oes Efydd a safleoedd lle ailddefnyddiwyd caeadleoedd o'r Oes Haearn.

Prin, yn y tair sir, yw'r safleoedd eglwysig y gellid eu dyddio'n bendant i'r Oesoedd Canol cynnar. Er enghraifft, mae'n debyg bod claddu mewn cistfeini hir wedi parhau ymhell ar l y Goresgyniad Normanaidd, fel y gwelwyd yn y fynwent a gloddiwyd yn Eglwyswrw (Sir Benfro). Ond mewn amryw o'r safleoedd ceir un neu ragor o nodweddion a all fod yn bwysig o ran dangos eu bod yn dyddio o'r Oesoedd Canol cynnar. Dyma rai o'r meini prawf:

  • Eglwysi, a ddogfennwyd, o'r cyfnod cyn y Goresgyniad.

  • Clas neu dystiolaeth o eglwys gydgyfranedig.

  • Tystiolaeth archaeolegol uniongyrchol neu anuniongyrchol.

  • Henebion Cristnogol Cynnar, in situ.

  • Arteffactau sy'n dyddio'n bendant o'r Oesoedd Canol cynnar.

  • Presenoldeb bedd sant neu gapel y bedd.

  • Lleoli eglwysi o fewn caerau Rhufeinig etc.

Ymagweddir yn fwy pwyllog at ddangosyddion fel morffoleg mynwentydd, cysegriadau Brythonig, ac elfennau megis eglwys, llan a merthyr mewn enwau lleoedd, ac nid ydynt yn feini prawf ynddynt eu hunain.

Er hynny, rhaid pwysleisio ar y cychwyn mai dim ond 30 safle sy'n tarddu'n bendant o'r cyfnod cyn y Goresgyniad, a dim ond pump sydd wedi'u dyddio'n gwbl bendant gan C14. Mae gweddill y 25 safle yn hysbys ar sail cyfeiriadau dogfennol atynt, ac yn achos rhai yn unig ohonynt y gellir nodi eu hunion leoliad yn eithaf terfynol. Er hynny, dangosodd yr asesu fod llawer o ddangosyddion traddodiadol fel petaent yn gymwys. Bydd mynwentydd crwn, henebion Cristnogol cynnar in situ a chysegriadau brodorol yn cyd-fynd yn aml thystiolaeth arall o'u tarddiad yn yr Oesoedd Canol cynnar. Mae nifer fawr o safleoedd newydd yn awgrymu y bu ailddefnyddio ar gaeadleoedd o'r Oes Haearn a chaeadleoedd mawr allanol y mynwentydd. Mae rhai o'r caeadleoedd allanol hynny fel petaent yn cynnwys beddrodau siambr Neolithig a meini hir o'r Oes Efydd, ond mewn nifer fach yn unig o safleoedd y gwelir hynny.

 

Ebrill 2002 – Mawrth 2003 Sir Benfro

Roedd Blwyddyn 2 o brosiect Safleoedd Eglwysig o’r Canoloesoedd Cynnar yn cynnwys gwaith ymchwil ar fapiau, dadansoddi lluniau o’r awyr ac ymweliadau maes dethol â’r 154 safle yn Sir Benfro lle wnaeth y potensial i ganfod olion eglwysig o’r canoloesoedd cynnar ymddangos yn astudiaeth pen-fwrdd Blwyddyn 1. Mae nifer fawr o’r safleoedd hyn yn cynnig tystiolaeth megis olion gwrthgloddiau neu ôlion cnydau a welir o’r awyr yn unig. Serch hynny, ar hyn o bryd nid ydym yn gwybod cyd-destun na dyddiad llawer o’r nodweddion hyn.

Gellir diffinio rhai safleoedd eglwysig o’r canoloesoedd cynnar yn Sir Benfro trwy astudio dogfennau craidd, canoloesol. Mae’r eglwysi clas sydd wedi goroesi fel rhan ddeiliaid, wedi’u rhannu rhwng yr eglwys a lleygwyr pwerus neu ‘cydgyfranwyr’, a gydnabyddir yn ngogledd Cymru, yn cael ei adlewyrchu hefyd yn Sir Benfro lle mae llawer iawn mwy o eglwysi yn cael eu cadw mewn amrywiaeth o wahanol ddulliau o nawddogaeth i mewn i’r cyfnod modern. Disgrifir nifer o adeiladau eglwysig fel ‘clas tir’ mewn ffynonellau o’r 15fed ac 16eg ganrif, lle roedd atgofion o noddfa hefyd yn cael eu cofnodi. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r ffynonellau yn ategu at dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli o ran olion cynnar, neu gellir eu defnyddio ar y cyd gyda thystiolaeth arall mwy amgylchiadol. Mewn achosion eraill, mae wedi arwain at ddiffinio safleoedd newydd. O ran nifer o gyfeiriadau at eglwysi cynnar o’r 12fed ganrif, eglwysi Cymreig a rhai Eingl-Normanaidd, mae’n glir eu bod yn son am safleoedd eglwysig sydd eisoes mewn bodolaeth, ac mewn rhai achosion, yn caniatáu creu patrwm o ddibyniaeth eglwysig cyn y Goncwest; mae un ffynhonnell yn gyfeiriad posibl at fam-eglwys (mynachaidd efallai), sydd fel arall yn anhysbys, yn Nhrefgarn ym mhlwyf St Dogwell, Sir Benfro a oedd yn ddiweddarach yn gartref dros dro i gymuned Abaty Hendy Gwyn. Cofnodwyd nifer o eglwysi sy’n dyddio o ddiwedd yr 11eg ganrif gan Gerallt Gymro, ynghyd â rhai eraill, gan gyfeirio at safleoedd sydd wedi goroesi, eu gadael yn segur neu eu hail-leoli, gan gynnwys capel yn Upton – a all gael ei gynrychioli gan gae crwn yn ‘Churchfield’. Mae ffynonellau eraill o’r 12fed ganrif yn awgrymu bod sefydliadau eglwysig yn cael eu symud oddi wrth safleoedd y gellir eu adnabod heddiw weithiau.

Mynwent Eglwyswen, Sir Benfro: llun o’r ôl-cnwd wedi’i dynnu o’r awyr, yn y cae allanol.

Mae’n ymddangos bod nifer o safleoedd eglwysig, tybiedig o’r canoloesoedd cynnar yn cynnwys cae mawr a oedd fel arfer – ond nid bob tro – yn grwn, ac yn gonsentrig o amgylch cae mewnol llai o faint. Mae llawer o’r caeau dwbl hyn, llawer ohonynt â mynwentydd ynddynt sydd wedi goroesi, i’w cael yn Sir Benfro. Fel arfer maent yn cael eu cynrychioli gan ôl-cnydau ond weithiau gan wrthgloddiau sy’n sefyll neu ym mhatrwm cloddiau’r caeau. Mewn nifer o achosion, mae’r cae mewnol wedi goroesi fel mynwent swyddogol yr eglwys. Mae nifer fechan iawn o enghreifftiau lle bydd ffin y cae allanol yn ffurfio ffin y fynwent ddiweddarach. Mae morffoleg nifer o’r safleoedd hyn yn awgrymu efallai bod ganddynt wreiddiau fel caeau domestig o’r oes haearn o fath a elwir ‘antena consentrig’, math o safle sy’n cael ei gydnabod fwy fwy yn ne-orllewin Cymru. O ran safleoedd eraill, mae ail-ddefnydd fel hyn wedi cynnig model ar gyfer llannau eglwysig de novo. Roedd gan y cae neu’r llan allanol amrywiaeth o swyddogaethau – fel mynwent, fel lle ar gyfer capel ychwanegol – mae safleoedd capeli-y-bedd (neu gapel bedd sylfaenydd yr eglwys) wedi’u darganfod mewn rhai ohonynt – fel tir ar gyfer plotiai amaethyddol, fel ardal noddfa, neu i ddiffinio terfynau perchnogaeth yr eglwys.


Ludlow N 2003 Early Medieval Ecclesiastical Sites Project: Pembrokeshire 2002-2003, Adroddiad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Rhif 2003/39.


Ebrill 2003 – Mawrth 2004 – Sir Gaerfyrddin a Cheredigion

Roedd trydydd blwyddyn y prosiect Safleoedd Eglwysig Canoloesol Cynnar yn cynnwys gwaith ymchwil ar fapiau, dadansoddi lluniau o’r awyr ac ymweliadau maes dethol â’r 169 o safleoedd (115 yn Sir Gaerfyrddin a 54 yng Ngheredigion) y bernid y byddai’n bosibl darganfod olion eglwysig o’r cyfnod Canoloesol cynnar yn sgîl astudiaeth pen desg Blwyddyn 1.

Mae’r dystiolaeth archaeolegol o weithgareddau eglwysig yn y cyfnod canoloesol cynnar yn fwy prin yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion nag ydyw yn Sir Benfro i raddau helaeth. Er enghraifft, ni cheir bron dim enghraifft o gladdu mewn beddau cerrig neu ‘gistiau’, sef pethau cyffredin iawn yn Sir Benfro. Fodd bynnag, roedd claddu cist, er mai arfer a gysylltir gan amlaf â’r cyfnod canoloesol cynnar ydyw, yn arfer cyffredin drwy gydol yr Oesoedd Canol yn ogystal.
Gwelwyd llawer o’r themâu eraill y sylwyd arnynt yn Sir Benfro yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn ogystal. Sylwyd ar ragor o glostiroedd dwbl, llawer â mynwentydd ynddynt sydd wedi goroesi, a gynrychiolwyd yn bennaf gan olion cnydau ond weithiau gan wrthgloddiau sy’n sefyll neu gan batrwm cloddiau’r caeau. Yn yr un modd â Sir Benfro, roedd rhai safleoedd yn cynnwys tystiolaeth o nodweddion olion cnydau neu wrthgloddiau cysylltiedig – ond heb ddyddiad, ond nid oedd cymaint ohonynt. Yn sgîl darganfod caer Rufeinig Llandeilo yn 2003 roedd yn bosibl ystyried tarddiadau eglwysi Llandeilo a Llandyfeisant yn unol â chefndir o fri cyson sydd ynghlwm â’r safle, sy’n debyg i’r berthynas rhwng eglwysi Caerfyrddin yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar a safle’r dref Rufeinig.

Gellid dadlau y bu’r gwaith o ddadansoddi dogfennau cyfoes, ynghyd â dogfennau o’r cyfnod canoloesol diweddarach, yn fwy effeithiol yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac roedd yn bosibl adnabod nifer sylweddol uwch o safleoedd canoloesol cynnar. Gallai rhai o’r rhain, e.e. Llandeilo Rwnws, Llanegwad, Sir Gaerfyrddin, fod yn gysylltiedig â thystiolaeth olion cnydau. Gellid hefyd awgrymu patrwm dibyniaeth eglwysig cyn y Goncwest, a’i ddatblygiad dros amser, ym mhlwyfi Llandeilo Fawr a Chynwyl Gaeo, lle nodwyd bod sefydliadau eglwysig wedi’u symud ym mhlwyf Llannewydd, ac efallai o fewn plwyf Cydweli.

Llun o’r awyr o fynwent Llan-gain, Sir Gaerfyrddin, yn dangos gwrthgloddiau olion cnydau a strwythurau posibl

Ebrill 2004 – Mawrth 2005 – cyhoeddi

Dyma uchafbwynt y prosiect. Cafodd papur, a amlinellai’r canlyniadau, ei ddarllen gan swyddogion prosiect y pedair Ymddiriedolaeth yn y gynhadledd ‘Archaeoleg yr eglwysi Celtaidd yn yr Oesoedd Canol Cynnar’ a gynhaliwyd ym Mangor rhwng 9 a 12 Medi 2004. Cynhaliwyd y gynhadledd hon gan y Gymdeithas Archaeoleg Canoloesol a’r Gymdeithas Archaeoleg Eglwysig. Mae'r canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn Medieval Archaeology. Teitl y papur a gyflwynwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed oedd ‘Identifying the Early Medieval Church in southwest Wales’ ac amlinellai’r dulliau a ddefnyddiwyd yn ystod y prosiect. Roedd y papur yn cynnwys crynodeb o’r canfyddiadau ynghyd ag adolygiad o’r darganfyddiadau newydd sylweddol.

Safleoedd eglwysig gyda digon o dystiolaeth o’r oesoedd canol cynnar yn ne orllewin Cymru

 

Mynwentydd o’r Oesoedd Canol Cynnar yn Sir Benfro 2005

Dyddiadur Cloddio 2005 Mynwentydd cynnar y Canol Oesoedd ar arfordiroedd Sir Benfro

 

Cyswllt prosiect: Ken Murphy

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]