Cartref > Prosiectau >

Adroddiad Asesiad Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd Hanesyddol


Ffoto gan Alan Hale

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud ag effeithiau uniongyrchol newid hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol. Nid yw ymatebion ymaddasol i newid yn yr hinsawdd, mesurau lliniaru i leihau bygythiad newid hinsawdd a chyfleoedd a gynigir gan y newid yn yr hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol yn cael eu hystyried.

Bydd effeithiau newid hinsawdd ar yr amgylchedd hanesyddol yn amrywio'n aruthrol gan ddibynnu ar y math o ased neu leoliad hanesyddol. Yn ddiau fe fydd rhai o'r digwyddiadau tywydd eithriadol a ragwelir yn effeithio'n sylweddol ar rai dosbarthiadau asedau'r amgylchedd hanesyddol, ond y tueddiadau disgwyliedig hirdymor, fel hafau sychach a phoethach, tymor tyfu hwy a lefelau'r môr yn codi, a allai gael yr effeithiau mwyaf.

O'r holl asedau hanesyddol a asesir yn yr adroddiad hwn, mae'n debygol mai tirweddau hanesyddol y bydd newid hinsawdd yn effeithio arnynt fwyaf, gyda phob un o'r pedwar senario newid hinsawdd a nodwyd - tymereddau cymedrig cynhesach, hafau sychach a phoethach, gaeafau gwlypach a chynhesach/hafau gwlypach, tywydd eithafol yn amlach - yn cael effaith niweidiol gyffredinol. Mae cyfres o effeithiau posibl wedi'u nodi ac aseswyd fod iddynt arwyddocâd cymedrol: yn gronnus, mae arwyddocâd mawr i'r rhain.

Asesir bod risg sylweddol i asedau hanesyddol (gan gynnwys adeiladau hanesyddol, aneddiadau hanesyddol, safleoedd archaeolegol a thirweddau archaeolegol) sy'n gorwedd islaw'r gyfuchlin un metr yn sgil lefelau'r môr yn codi ynghyd ag ymchwyddiadau stormydd aml. Mae rhannau o lawer o ardaloedd trefol Cymru yn gorwedd yn y parth hwn, ac felly mae cryn botensial difrodi a cholli, nid o ran elfennau hanesyddol unigol yn unig, ond y cymeriad hanesyddol cyffredinol yn ogystal.

Fe allai maint ac amlder llifogydd effeithio'n ddifrifol ar asedau hanesyddol. Effeithir yn sylweddol ar adeiladau hanesyddol (rhai rhestredig ac anrhestredig) a'u ffitiadau, nid gan effaith sydyn llifogydd yn unig, ond yn y tymor hwy gan ddifrod yn cael ei achosi gan blâu ffwngaidd a phryfed, a chan beryglu cyfanrwydd adeileddol. Gall difrod ddigwydd i gelfi stryd hanesyddol, wynebau strydoedd ac elfennau hanesyddol eraill aneddiadau. Bydd safleoedd ac adeileddau archaeolegol, fel pontydd hanesyddol, yn cael eu difrodi a'u dinistrio wrth i afonydd newid eu cyrsiau.

Bydd yr effaith fwyaf niweidiol ar adeiladau hanesyddol yn cael ei hachosi gan lifogydd yn digwydd yn amlach, fel yr amlinellwyd uchod. Hefyd, nodwyd cyfres o effeithiau negyddol cymedrol ar adeiladau hanesyddol yn cael eu hachosi gan newid hinsawdd, yn cynnwys difrod yn cael ei achosi gan blâu ac afiechydon, pridd clai yn sychu a chrebachu, effeithiau rhewi-dadmer ar garreg wlyb, yr angen i wneud gwaith cynnal a chadw'n amlach oherwydd tywydd mwy llaith, a difrod yn cael ei achosi gan wyntoedd cryfion a stormydd yn digwydd yn amlach. Gall plâu ac afiechydon fod yn broblem arbennig i'r tai hanesyddol hynny sydd wedi cadw eu haddurn, eu gosodiadau a'u ffitiadau gwreiddiol.

Bydd yr hafau poethach a sychach a ragwelir yn achosi dysychiad mewn rhai ardaloedd o fawnydd ucheldir, gan eu gwneud yn fwy tueddol o erydu, erydu a fydd yn cael ei waethygu gan y glawiad uwch a ragwelir yn y gaeaf, a stormydd amlach. Yn ogystal, yn y tymor hir, fe allai priddoedd mawnog ac organig gael eu trawsnewid yn briddoedd mwynol, gan olygu y bydd canlyniadau i'r dirwedd hanesyddol. Bydd colli gorgorsydd yn amlygu safleoedd archaeolegol a dyddodion sydd wedi'u selio a'u gwarchod am filoedd o flynyddoedd, gan eu gwneud yn agored i erydu.

Bydd lefelau'r môr yn codi, law yn llaw â stormydd amlach a ffyrnicach, yn effeithio ar ystod eang o safleoedd archaeolegol sydd i'w cael ar y blaendraeth, er bydd arwyddocâd yr effaith yn amrywio'n fawr yn ôl yr amodau lleol. Mae perygl hefyd i adeiladau, safleoedd archaeolegol a thirweddau ar hyd ymyl yr arfordir, naill ai mewn lleoliadau isel neu ar glogwyni agored.

Mae effeithiau newid hinsawdd ar barciau a gerddi hanesyddol yn anodd eu hasesu gan y byddant yn amrywio'n aruthrol yn ôl y math o barc neu ardd, a bydd effeithiau cadarnhaol yn ogystal ag effeithiau negyddol. Bydd yr effaith negyddol fwyaf yn digwydd mewn parciau a gerddi na reolir lle na fydd unrhyw blannu newydd yn cael ei wneud yn lle coed a phlanhigion eraill a gollir i blâu, afiechydon a difrod stormydd, a bydd cyflymder diraddio ac erydu nodweddion gardd 'caled' yn cynyddu dan stormydd amlach. Bydd y colledion hyn yn cael eu hunioni i raddau helaeth mewn parciau a gerddi a reolir, ac mewn parciau a gerddi sy'n enwog am eu planhigion egsotig, gall amodau poethach a sychach fod yn gyfle i wella'u cymeriad.

Mae rhai o'r safleoedd archaeolegol sydd wedi'u cadw orau yng Nghymru i'w cael mewn amgylcheddau ucheldir, ac felly maent yn sensitif i newid oherwydd eu natur. Bydd stormydd amlach a mwy grymus yn arwain at y safleoedd hyn yn erydu, ond gallai'r prif fygythiad ddod yn sgil y cyfle a gynigir gan dymereddau cymedrig cynhesach a thymor tyfu hwy i wthio ffiniau tir amaethu yn ôl i gyrion y parth hwn.

Mae natur ymaddasol a dynamig cynefinoedd twyni tywod yn ei gwneud yn broblematig rhagweld o gwbl sut byddant yn ymateb i newid hinsawdd. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae'n debygol y bydd cynnydd yn lefelau'r môr a chynnydd yn amlder stormydd grymus a gwyntoedd cryfion yn arwain at newidiadau i systemau twyni, gan effeithio ar y safleoedd archaeolegol niferus a phwysig ynddynt ac o danynt. Fodd bynnag, mae systemau twyni'n cael eu rheoli'n ofalus yn gyffredinol, ac felly mae'n bosibl y gellir lliniaru newid.

Mae coetiroedd hynafol yn debyg i asedau hanesyddol eraill i'r graddau eu bod yn cynnwys tystiolaeth gymhleth o'u defnydd gan ddyn yn y gorffennol. Ystyrir mai newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf y mae coetir hynafol yn ei wynebu erbyn hyn. Mae'r bygythiadau hyn yn cynnwys plâu ac afiechydon yn mudo, straen ar goed yn cael ei achosi gan hafau poethach a sychach a stormydd amlach a mwy grymus. Mae coetiroedd yn ecosystemau cymhleth ac amrywiol, fodd bynnag, ac maent felly'n fwy tebygol o ymateb mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, ac er eu bod yn sensitif i newid hinsawdd, caiff y newid hwn ei liniaru i ryw raddau gan y rheolaeth ofalus dros rai ardaloedd coetir hynafol. Felly, er mai newid hinsawdd ar goetir fydd yn cael yr effaith fwyaf ar y coetir ei hun, fe allai colli coed ar raddfa fawr ac erydiad pridd yn sgil hynny, newid defnydd tir ac ailblannu, gael effaith ar asedau hanesyddol unigol sydd o fewn coetir.

Ni fydd tymor tyfu hwy yn sgil tymereddau cymedrig uwch yn effeithio'n uniongyrchol ar safleoedd archaeolegol ar dir amaethu, ond y cyfleoedd a gynigir gan y newidiadau hyn, fel cynyddu maint y tir sy'n cael ei drin, cyflwyno cnydau newydd a newidiadau eraill i arferion amaethu, a allai gael effaith sylweddol.

 

Adroddiad PDF (Saesneg yn unig - yn agored mewn ffenestr newydd)

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]