Cartref > Prosiectau >

Porthdy Castell Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin 2003

Yn ystod haf 2003, ymgymerwyd â gwaith cloddio y tu allan i’r porthdy yng Nghastell Caerfyrddin ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r porthdy yn strwythur cymhleth a dyma’r brif fynedfa i’r castell o’r dref. Mae’n wynebu Sgwâr yr Hen Farchnad (Nott Square), sef safle’r farchnad yn yr oesoedd canol. Yn ôl pob tebyg, adeiladwyd y porthdy ym 1409 yn lle, a hefyd efallai’n cynnwys rhannau o strwythur cynharach a ddinistriwyd yn ystod gwrthryfel Glyndwr ym 1405-06. Strwythur â dau dwr oedd y porthdy yn wreiddiol, ddwywaith maint yr adeilad sydd wedi goroesi. Roedd siambrau yn y cefn, llety domestig oedd, mwy na thebyg, lleoliad Siambr y Cwnstabl, a gofnodir mewn cofnodion cyfoes. Mae’r darn cefn hwn wedi mynd, ond gellir gweld y drysau a oedd yn mynd i mewn i’r ystafelloedd ym mur dwyreiniol y porthdy presennol. Tynnwyd y darn cefn oddi yno rhywbryd cyn 1789 pan adeiladwyd y Carchar Sirol gan John Nash. Mae’r fynedfa bresennol a’r gwaith maen oddi amgylch, sydd wedi’u gosod yn y mur dwyreiniol presennol, hefyd yn perthyn i gyfnod y carchar.

Mae tystiolaeth strwythurol yn awgrymu bod bloc o doiledau ac ystafelloedd eraill yn y tyred yn yr ongl rhwng wyneb deheuol y porthdy a’r llenfur sydd wrth ymyl. Collwyd llawer o’r dystiolaeth yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol pan dynnwyd rhannau isaf y wyneb deheuol oddi yno, er mwyn creu mynedfa o’r eiddo cyfagos i gyfeiriad y de. Llanwyd y ‘ceunant’ a ffurfiwyd gyda rwbel cerrig. Gwnaed newidiadau eraill i’r porthdy yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Roedd lloriau isaf y ddau dwr wedi’u llanw gyda rwbel mortar, o bosib yn ystod y Rhyfel Cartref fel mesur yn erbyn ergydion magnelau trymion.

O ganlyniad i waith tirlunio o flaen y porthdy yn 2002-03, darganfuwyd tri hen seler sy’n gorwedd rhwng y castell a Sgwâr yr Hen Farchnad. Mae’r seleri – sydd â foltiau o friciau ar y muriau cerrig – yn dyddio i’r cyfnod ôl-ganoloesol, mwy na thebyg o ddiwedd y 18fed, neu ganol y 19eg ganrif. Torrwyd y seleri i mewn i ffos amddiffynnol ddofn a oedd cyn hynny yn ffurfio blaen y castell ond oedd wedi cael ei llanw erbyn y 18fed ganrif. Yn wal mwyaf deheuol y seler, mae rhan o’r sarn cerrig a oedd yn ffurfio cyswllt rhwng y porthdy a’r dref wedi goroesi.

Darganfuwyd mwy am strwythur y castell wrth gloddio, gan gynnwys dau brif elfen –
1) cyfres o 2 dwr cerrig o leiaf, wedi’i atgyfnerthu’n amddiffynol gan bont godi
2) adeiladu mur, i gysylltu’r tyrrau gan greu mur cerrig parhaol, ac o bosib adeiladu tyrrau ym mhen Sgwâr yr Hen Farchnad (fel a ddangosir gan John Speed ar ei fap o 1610)

Efallai codwyd y tyrrau cyn y porthdy, ond nid yw’r naill strwythur yn cysylltu’n uniongyrchol gyda’r llall ac, yn ôl pob tebyg, roedd yn bosib cael mynediad dros bont godi symudol. O ganlyniad i werthusiad cynharach tu fewn i gyntedd y porthdy, yn 2001, pryd daethpwyd o hyd i ffosydd gwasanaeth modern yn bennaf, daethom i’r casgliad bod pwll pont codi gwrthbwys yma. Gwnaed cryn newidiadau i strwythur y bont yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Cyn i’r seleri gael eu hadeiladu, mae’n ymddangos fod y ffos amdiffynnol wedi’i ail gloddio – o bosib yn ystod y Rhyfel Cartref. Ni aed i waelod y ffos yn 2003, ond torrwyd ffos brawf i 4 metr o ddyfnder heb gyrraedd y gwaelod. Gwnaed nifer o ddarganfyddiadau pwysig mewn haenau o bridd gwlyb yn yr hen ffos, gan gynnwys casgliad o esgidiau lledr, gweler llun o un ohonynt yma, a dysglau pren sy’n cael eu diogelu a’u dadansoddi ar hyn o bryd.

Cyswllt y project: Ken Murphy

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]