Cartref > Prosiectau >

PLAS LYDSTEP, SIR BENFRO, 2002

Ty-neuadd llawr cyntaf o'r Oesoedd Canol hwyr yw Plas Lydstep ac fe'i codwyd o feini yn 'nhraddodiad Sir Benfro'. Mae iddo is-grofft fowtiog ac fe saif ynghanol pentref glan-môr poblogaidd Lydstep. Bellach, mae'n ddi-do ac yn rhannol adfeiliedig, ond bu'n destun rhaglen tymor-hir o waith cywiro (drwy Gyngor Sir Penfro a SPARC/PLANED) a gychwynnodd ym 1996 ac a ragflaenwyd gan arolwg llawn gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed . Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed hefyd a gliriodd y malurion o'r llawr uchaf (cyntaf). Mae'n debyg y bu gan Blas Lydstep rôl awdurdodaethol, sef fel llys Maenor Maenorbyr a Phenalun, yn ogystal â swyddogaeth ddomestig. Yn ystod yr Oesoedd Canol, mae'n debyg mai un siambr fawr oedd y llawr cyntaf, ac o leiaf un bwa agored yn ei rhannu. Un o'r newidiadau a wnaed wedi'r Oesoedd Canol oedd rhannu'r llawr cyntaf yn dair ystafell. Yn ddiweddarach, bu pobl yn byw mewn dwy o'r ystafelloedd ar y llawr cyntaf, a hynny hyd at ddechrau'r 20fed ganrif. Yr oedd ffwrn fara yn yr ystafell adfeiliedig ac, o bosibl, lwybr o lechi llawr yn cysylltu'r naill le o'r llall. Yr un pryd, mae'n ymddangos bod pridd wedi'i gludo yno a'i roi dros fowtiau'r llawr gwaelod, a hynny, efallai, er mwyn creu gardd. Ni chafwyd hyd i unrhyw ddyddodion canoloesol na darnau o'r llawr wrth ei glirio. Y tebyg, felly, yw bod i'r llawr cyntaf canoloesol lawr pren a oedd wedi'i hongian dros bigau'r fowtiau. Cafwyd hyd i ben bwyell garreg Neolithig yn y pridd a gludwyd yno yn y 19eg ganrif. Efallai nad dyma leoliad gwreiddiol pen y fwyell, ond hwyrach iddo gael ei gludo yno yn y pridd a'i fod felly'n ddyddodiad damweiniol. Mae dadansoddiad Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru ohono'n dangos ei fod yn ben bwyell Grwp VII a'i fod yn hanu o Ogledd Cymru.

Cyswllt y project: Ken Murphy

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]