Cartref > Prosiectau >

Hafod Tirweddau Pictwresg

Hafod

 

 

 

 


Mae Hafod, sef un o’r tirweddau naturiolaidd, pictwrésg pwysicaf yn Ewrop, yn rhan uchaf ac angysbell dyffryn yr afon Ystwyth ryw 15 kilometr i mewn i’r tir o Aberystwyth.

Yma yn ystod y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif y cododd Thomas Johnes blasty ac yr aeth ati i wella’r ystad. Edmygwyd y gwaith arloesol a wnaeth mewn plannu coedwigoedd ar yr ucheldir ac amaethyddiaeth a hwsmonaeth arbrofol, ond am ei waith tirlunio pitwrésg y cofir Johnes orau bellach.

Fe sefydlodd nifer o lwybrau hir, sy’n cysylltu nodweddion naturiol fel rhaeadrau, cataractau a mannau gwylio gyda phontydd, hafdai, grotos a baddon oer a gadawodd i’r cerddwr weld y tirwedd mewn cyfres o ‘luniau’, a dyna sut y cafwyd y term ‘pictwrésg’. Wedi i Johnes farw, esgeuluswyd elfennau pictwrésg y tirwedd ac yn y man anghofiwyd y rhan fwyaf ohonynt. Bu’r Comisiwn Coedwigaeth yn gwneud gwaith plannu helaeth.

O ganlyniad i ddiddordeb o’r newydd yng ngwaith pictwrésg Johnes yn ystod y blynyddoedd diweddar, ffurfiwyd Ymddiriedolaeth yr Hafod, ac mae’r sefydliad hwn mewn partneriaeth â Menter Coedwigaeth, perchnogion Ystad Hafod, yn ymgymryd â rhaglen adfer. Fel rhan o’r rhaglen hon, bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cofnodi adeiladau, creu data-bas GIS, arolygu a chloddio.

 

RHODFA’R FONEDDIGES DROS GEFN CREIGIAU – AROLWG 2002

Tua diwedd y 18fed ganrif yr adeiladodd Thomas Johnes Rodfa’r Foneddiges, sef y gyntaf o’i rodfeydd hyfryd yn yr Hafod. Er y gellir dal i weld y rhan fwyaf o’r olion ohoni gan fod rhai darnau wedi’u hadfer ac wedi’u hagor i’r cyhoedd, mae ansicrwydd ynghylch union leoliad y llwybr wrth iddo groesi cefnen greigiog Cefn Creigiau. Yr unig ddisgrifiad cyfoes o’r rhodfa yno yw un George Cumberland, a ysgrifennodd ym 1796: ‘Entering the brushwood, a rural path-way now carries you speedily to a very delightful promontory, rather clear of wood; whence, with a gentle precipice below, you command the crescent formed farm-yard, crouching under the hill, below the river, the bridge, and all around the variegated vale’. Tan 1996, cyfyngai planhigfa goedwigaeth ar yr olygfa o’r gefnen, ond pan gwympwyd y coed daeth y golygfeydd panoramig braf a welwyd gan Cumberland a’i gyfoeswyr i’r golwg unwaith eto gan ddatgelu nodweddion topograffig a gawsai eu cuddio dan y rhesi clòs o goed. Comisiynwyd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gan y Fenter Coedwigaeth ac Ymddiriedolaeth yr Hafod i wneud arolwg topograffig manwl i’w helpu i geisio canfod hen lwybr Rhodfa’r Foneddiges ac i lunio cynllun llawn cydymdeimlad i reoli’r tir. Wrth wneud yr arolwg, fe welwyd mai prin iawn yw’r dystiolaeth ynghylch llwybr y rhodfa. Hwnt ac yma, gall mân derasau o bridd ddangos mai yno ar arferai fod. Nodwyd sawl man y gallai Cumberland fod wedi’i alw’n ‘delightful promontory’.

 

PONT DOLOGAU A PHONT NANT PEIRAN – COFNODI 2001


Yr oedd Thomas Johnes wedi codi’r ddwy bont hyn erbyn 1795. Un bwa sydd i’r naill a’r llall ac mae’r ddwy wedi’u codi o gerrig. Adeiladwaith arbennig o gain yw Pont Dologau. Mae ei bwa, sy’n 8m o led, yn rhychwantu ceunant cul ymhell uwchlaw Afon Ystwyth. Tynnwyd parapedau’r ddwy bont tua diwedd y r 20fed ganrif i hwyluso taith lorïau mawr y goedwig drostynt, ond mae’r ddwy wedi’u cau i draffig trwm ers rhai blynyddoedd bellach. Yn 2001 codwyd parapedau pren arnynt i sicrhau bod modd i bobl gerdded drostynt yn ddiogel. Tynnwyd ffotograffau o’r pontydd cyn codi’r parapedau, yn ystod y gwaith ac ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Ariannwyd y project gan y Fenter Coedwigaeth.

 

RHODFA’R BONHEDDWR – AROLWG 2001


Hon oedd y brif rodfa’r ar ochr ddeheuol Afon Ystwyth. Rhedai am 5.7 km gan gychwyn a gorffen wrth Blasty’r Hafod. Yr oedd Thomas Johnes wedi adeiladu’r rhodfa erbyn diwedd y 1780au, a daeth hi’n hoff destun i artistiaid a llenorion. Er y rhoddwyd y gorau i rannau o’r rhodfa yn gynnar yn y 19eg ganrif, mae’n debyg, daliwyd i ddefnyddio rhywfaint ar rannau eraill ohoni, megis yr un sy’n arwain at Raeadr yr Ogof – ogof artiffisial y gellir dal i weld rhaeadr ynddi. Cuddiwyd rhagor ar y rhodfa a’i nodweddion cysylltiedig, megis llwyfannau gwylio a phontydd, gan y coed conwydd a chollddail a dyfwyd dros rannau helaeth o ochrau deheuol y cwm yn ystod yr 20fed ganrif. Comisiynodd y Fenter Coedwigaeth ac Ymddiriedolaeth yr Hafod arolwg topograffig manwl gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn 2001. Bu i’r arolwg nid yn unig gofnodi elfennau hysbys y dirwedd hyfryd hon ond llwyddodd hefyd i ddod o hyd i lawer o nodweddion coll. Bydd yr arolwg a’r disgrifiadau ysgrifenedig a’r ffotograffau cysylltiedig yn cyfoethogi rhaglen adfer a chadwraeth y Fenter Coedwigaeth ac Ymddiriedolaeth yr Hafod – rhaglen sy’n mynd yn ei blaen ar hyn o bryd.

 

PENCREIGIAU A MIDDLE HILL – AROLWG 2002


Ariannwyd yr arolwg topograffig manwl hwn o ddwy gefnen a orchuddir â choed ac o’r ddôl rhyngddynt gan y Fenter Coedwigaeth ac Ymddiriedolaeth yr Hafod, ac fe’i gwnaed yn ystod gwanwyn 2002. Llesteiriwyd yr arolwg gan dyfiant trwchus y rhododendron a chan ddarnau tir lle câi’r coed conwydd eu chwythu gan y gwynt. Mae sawl elfen bwysig o’r dirwedd hyfryd i’w gweld ar hyd y cefnennau, gan gynnwys: Gardd Marianne, a sefydlwyd tua diwedd y 18fed ganrif ar gyfer merch Thomas a Jane Johnes; hafdy a llwyfan gwylio; a monolith y dywedir mai wrth hwnnw y gwyliodd Mrs Johnes a’i merch y plasty’n llosgi i’r llawr tua dechrau’r 19eg ganrif. Yn ogystal â’r safleoedd hysbys hynny, cafwyd hyd i sawl elfen newydd yn y dirwedd wrth wneud yr arolwg, megis llwybrau a llwyfannau gwylio a aethai’n angof. Bydd yr arolwg a’r disgrifiadau ysgrifenedig a’r ffotograffau cysylltiedig yn cyfoethogi rhaglen adfer a chadwraeth y Fenter Coedwigaeth ac Ymddiriedolaeth yr Hafod – rhaglen sy’n mynd yn ei blaen ar hyn o bryd.

 

Yr Arcêd Gothig 2003

Wrth ymyl ceunant cul yr Afon Ystwyth, mae strwythur bychan o’r 19eg ganrif sy’n cael ei adnabod fel yr Arcêd Gothig. Mae’r ‘New Walk’ lle ceir golygfeydd hardd sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, ac a osodwyd gan Thomas Johnes, yn mynd heibio i flaen y strwythur, a cheir golygfeydd hardd o’r Afon Ystwyth ohono. Dim ond dwy golofn o waith maen sydd wedi goroesi; Partneriaeth Ymddiriedolaeth Hafod/Menter Coedwigaeth sydd i gadw’r rhain. Cofnodwyd y rhain yn fanwl. Roedd un golofn yn pwyso drosodd mewn ffordd beryglus a bu’n rhaid ei dynnu oddi yno a’i ailadeiladu. Yn wreiddiol strwythur gyda thair bwa oedd yr Arcêd Gothig sef gweddillion a ddarganfuwyd o dan y ddaear wrth wneud y gwaith cofnodi, fel a ddangosir ar ddarlun gan John Piper o 1939, yr unig ddarlun o’r safle. Roedd digon o dystiolaeth wedi goroesi i ddynodi mai hafdy oedd y strwythur ac nid dim ond rhywbeth i dynnu sylw rhywun.

Murphy K 2003 Hafod: The Gothic Arcade – Archaeological Recording and Investigation, Dyfed Archaeological Trust report No. 2003/7

 

Hafod – Arolwg Seleri a Gardd Mariamne, 2007

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed wedi cael cysylltiad hir â’r Hafod ac rydym bob amser yn awyddus i ddychwelyd i’r rhan anhygoel hon o Gymru, hyd yn oed, fel yn 2007, os am ddiwrnod yn y gwanwyn a diwrnod yn yr hydref yn unig.

Yn y gwanwyn gofynnwyd inni wneud arolwg o seleri’r plasty. Erbyn hyn yr unig ffordd o fynd at y rhain yw trwy dwll cul yn rhwbel y plasty a chwalwyd. Roedd iechyd a diogelwch yn ystyriaeth bwysig, ac roedd angen inni gael cymorth cyson gan beiriannydd lleoedd cyfyngedig. Er gwaetha’r anawsterau roedd modd inni ddod o hyd i gynllun llawr y seleri.

Nid oedd Ymddiriedolaeth yr Hafod wedi penderfynu eto sut oedd adfer a chadw a chynnal yr ardd greigiog fechan a sefydlwyd gan Mariamne, merch Thomas a Jane Johnes, ar ddiwedd y 18fed ganrif . Er mwyn llywio’r gwaith adfer posibl, comisiynwyd ni yn yr hydref i archwilio cwrs nifer o lwybrau gardd. Yn wahanol i deithiau cerdded eraill ar yr ystâd, gwelwyd bod llwybrau’r ardd wedi’u gwneud o gwarts a falwyd, a byddai hyn wedi cyfrannu at ddisgleirdeb yr ardd fynydd hon.

Adroddiad 2007 Gardd Mariamne, Hafod (mewn ffurf PDF - yn agored mewn ffenestr newydd. Saesneg yn unig.)

 

Cyswllt prosiect: Ken Murphy

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]